Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud y Dreth Gyngor yn decach ac yn fwy blaengar, ac rydym wedi cyflawni nifer o welliannau dros y degawdau ers creu’r system Dreth Gyngor yn 1993. Rydym wedi ymgynghori ar ddiwygiadau i'r Dreth Gyngor yn y dyfodol, gan gynnwys ailbrisio ac ailgynllunio'r bandiau treth eiddo yn 2028, i’w gwneud yn decach i bobl sydd â llai o gyfoeth. Mae’r cynllun hwn wedi cael ei gymeradwyo gan y Senedd drwy Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024.

Wrth i ni baratoi ar gyfer y newidiadau mawr hynny, rydym wrthi’n gwneud gwelliannau i’r ffordd y mae’r Dreth Gyngor yn cael ei chasglu. Mae’r ymgynghoriad hwn yn cynnig newidiadau i’r fframwaith gorfodi i helpu cynghorau i reoli’r broses o gasglu’r Dreth Gyngor mewn ffordd sy’n meithrin ymgysylltiad cynharach, ac sy’n canolbwyntio ar ymyrryd yn gynharach i atal pobl rhag cael eu dal mewn cylchoedd niweidiol o ddyled gynyddol. Mae hyn yn cynnwys gwneud y camau deddfwriaethol yn y broses yn gliriach, gan fabwysiadu arferion gorau y gwyddom eu bod eisoes yn digwydd, ac adolygu’r symiau sy’n ddyledus gan aelwydydd ar wahanol gamau.

Mae Llywodraeth Cymru yn glir bod dyletswydd ar bawb i dalu Treth Gyngor i helpu i ariannu gwasanaethau lleol fel ysgolion a gofal cymdeithasol. Mae miloedd o bobl yn cael eu cefnogi i reoli biliau’r Dreth Gyngor drwy amrywiaeth o eithriadau, disgowntiau a Chynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Mae'r cynllun hwn yn hanfodol o ran mynd i'r afael â thlodi a chefnogi aelwydydd incwm isel.

Mae'r ymgynghoriad yn ceisio barn ar newidiadau arfaethedig i wella’r broses o weinyddu a gorfodi'r Dreth Gyngor. Dim ond i Gymru y mae’n berthnasol.

Ydych chi’n ei chael yn anodd talu'r dreth gyngor?

Os ydych chi'n cael trafferth talu eich Treth Gyngor, neu os ydych chi eisoes mewn dyled o ran eich Treth Gyngor, cysylltwch â’ch cyngor lleol am gymorth. Maen nhw’n gallu gweld os ydych chi’n gymwys i gael disgownt neu ostyngiad, trafod opsiynau talu, a’ch cyfeirio at wasanaethau cymorth eraill.

I gael cyngor cyfrinachol am ddim, ffoniwch Advicelink Cymru ar 0808 250 5700 neu ewch i wefan Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi i weld pa gymorth ariannol arall y gallech chi fod â hawl iddo.

Mae bob amser yn well gofyn am help cyn i chi fethu rhandal Treth Gyngor.

Cefndir a gwelliannau blaenorol

Beth yw’r Dreth Gyngor?

Mae’r Dreth Gyngor yn rhywbeth y mae’n rhaid i bob un ohonom ei thalu i helpu i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn ein cymuned ein hunain, fel ysgolion a gofal cymdeithasol, oni bai eich bod wedi’ch eithrio. Nid yw'n dâl uniongyrchol am bob gwasanaeth rydych chi’n ei ddefnyddio. Mae'r swm rydych chi’n ei dalu yn dibynnu ar werth eich eiddo, pwy sy'n byw gyda chi, ac os ydych chi'n gymwys i gael unrhyw ddisgownt neu gymorth. Mae hyn yn sicrhau bod pawb yn talu eu cyfran deg.

Beth mae'r Dreth Gyngor yn talu amdano?

Fel trethdalwyr, rydym yn cyfrannu dros £2.8 biliwn y flwyddyn tuag at gost gwasanaethau lleol hanfodol yng Nghymru, sef £11 biliwn. Mae’r cyllid hwn yn helpu i gadw ysgolion ar agor, talu am ofal ar gyfer ein hanwyliaid, a chefnogi cymunedau ffyniannus. Mae'r Dreth Gyngor yn ariannu cannoedd o wasanaethau lleol yn rhannol, gan gynnwys y rhai sy'n cael eu darparu gan gynghorau, gwasanaethau heddlu a gwasanaethau tân. Darganfyddwch beth mae eich Treth Gyngor yn talu amdano.

Sut rydym wedi gwneud y Dreth Gyngor yn decach

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud nifer o welliannau i system y Dreth Gyngor o’r blaen, ac mae rhanddeiliaid allweddol yn cydnabod y rhain yn rheolaidd. Yn 2011 fe wnaeth Llywodraeth Cymru gapio’r ffioedd llys sy’n gysylltiedig â gorchmynion atebolrwydd ar uchafswm o £70, ac yn 2013 gwnaethom gyflwyno Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor wedi’i wladoli ar gyfer aelwydydd incwm isel, sydd wedi cael ei gynnal a’i uwchraddio bob blwyddyn ers hynny i gadw’n wastad â chostau byw.

Yn 2018, mewn partneriaeth â llywodraeth leol, gwnaethom ganolbwyntio ein hymdrechion ar gynorthwyo grwpiau agored i niwed drwy eithrio pobl ifanc sy’n gadael gofal rhag talu’r Dreth Gyngor tan eu bod yn 25 oed a safoni’r eithriad sydd ar gael i bobl sydd â nam meddyliol difrifol. Yn 2019, daeth Llywodraeth Cymru â’r bygythiad o garchar am beidio â thalu’r Dreth Gyngor i ben a chyhoeddi Protocol, gan godi safonau casglu ledled Cymru.

Er mwyn mynd i’r afael ag achosion sylfaenol system dreth annheg sydd ar hyn o bryd yn rhoi baich uwch ar y rheini sydd â llai o gyfoeth, yn 2024 cymeradwyodd y Senedd Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024. Mae’r Ddeddf hon yn paratoi'r ffordd ar gyfer ailbrisio eiddo at ddibenion Treth Gyngor yn 2028 i greu cynllun Treth Gyngor tecach, ac yna i sicrhau bod y system yn olrhain amodau economaidd ac yn cael ei diweddaru bob pum mlynedd. O fis Ebrill 2025 ymlaen, rydym wedi gwneud rhagor o welliannau i Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, gan alluogi cynghorau lleol i ddefnyddio data Credyd Cynhwysol i awtomeiddio ceisiadau am gymorth gyda’r Dreth Gyngor. Gwnaethom lansio Cynllun Peilot Achub Rhag Dyledion arbrofolym Merthyr Tudful, Blaenau Gwent a Chasnewydd i brofi ffyrdd newydd o gefnogi pobl i glirio ôl-ddyledion eu Treth Gyngor mewn partneriaeth ag undebau credyd.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi canolbwyntio’n ddiflino ar ymgyrchoedd ymwybyddiaeth sy’n annog pobl i hawlio’r cymorth y mae ganddynt hawl iddo, ac rydym wedi parhau i gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau cynghori am ddim gyda sicrwydd ansawdd drwy ein Cronfa Gynghori Sengl.

Biliau’r Dreth Gyngor

Ym mis Ebrill bob blwyddyn, mae cynghorau'n anfon bil Treth Gyngor i aelwydydd, a elwir weithiau yn Hysbysiad Galw am Dalu’r Dreth Gyngor. Mae bil y Dreth Gyngor yn nodi:

  • faint y mae’n rhaid i aelwyd ei dalu am y flwyddyn
  • sut y cyfrifwyd y swm hwnnw
  • y dyddiadau pan fydd taliadau’n ddyledus

Mae’r bil fel arfer wedi’i rannu’n 10 neu 12 taliad misol, neu gellir ei dalu mewn un cyfandaliad ar ddechrau’r flwyddyn.

Ffyrdd o dalu

Fel arfer, gall aelwydydd dalu'r Dreth Gyngor ar-lein neu drwy ddebyd uniongyrchol. Gall aelwydydd hefyd ddefnyddio ‘Paypoint’, ‘Payzone’ neu ‘Quickcards’ ar gyfer taliadau arian parod mewn swyddfeydd post, banciau, siopau papur newydd a siopau cyfleustra. Mae bil y Dreth Gyngor yn rhoi manylion am ddulliau talu eraill sydd ar gael.

Os ydych chi’n methu taliad Treth Gyngor

Cyn belled ag y bo modd, rhaid i aelwydydd gynllunio a blaenoriaethu cyllidebau gystal ag y gallant i dalu eu Treth Gyngor oherwydd ei bod yn rhwymedigaeth treth. Mae cymorth gyda chyllidebu ar gael. Ond gall aelwydydd fod ar ei hôl hi â thaliadau’r Dreth Gyngor am lawer o resymau, os ydynt ar incwm isel, efallai eu bod yn ei chael yn anodd rheoli arian a chyllidebu i gwrdd â chostau byw. Gall newid sydyn neu dros dro yn amgylchiadau’r aelwyd, megis dod yn ddi-waith neu salwch hefyd achosi anawsterau o ran talu.

Gall y cyngor gymryd camau i adennill unrhyw ddyledion sy’n ddyledus os bydd aelwyd ar ei hôl hi â thaliadau.

Dylai aelwydydd gysylltu â’u cyngor cyn gynted ag y bo modd os ydynt yn cael trafferth talu eu bil Treth Gyngor, ac yn ddelfrydol cyn methu taliad. Mae cynghorau yn awyddus i helpu ac yn gallu rhoi cyngor a chymorth wedi’u teilwra i amgylchiadau’r cartref. Gallai hyn gynnwys y canlynol:

  • gweld a oes gan yr aelwyd hawl i gael gostyngiad, disgownt neu eithriad rhag y Dreth Gyngor
  • newid y dyddiad talu os byddai hyn yn ei gwneud yn haws cadw ar ben eu taliadau
  • newid i 12 taliad y flwyddyn yn lle 10
  • cynnig cynllun talu amgen, sy’n gallu cynnwys cynllunio dros gyfnod hirach nag un flwyddyn ariannol, yn amodol ar fil treth y flwyddyn nesaf
  • rhoi cyfarwyddyd i’r aelwyd edrych i weld a oes ganddynt hawl i unrhyw fudd-daliadau, cyfeirio at dîm cyngor ariannol mewnol y cyngor, neu at asiantaethau cynghori eraill fel Cyngor ar Bopeth i gael cymorth

Y broses bresennol ar gyfer rhoi hysbysiad atgoffa

Gall cynghorau ddefnyddio amrywiol ddulliau fel negeseuon testun, e-byst neu alwadau ffôn i atgoffa aelwydydd eu bod wedi methu taliad cyn anfon hysbysiad atgoffa ffurfiol. Anfonir hysbysiad atgoffa naill ai drwy lythyr i’r cyfeiriad neu weithiau drwy e-bost os yw’r aelwyd wedi cofrestru ar gyfer e-filio.

Os bydd taliad yn cael ei fethu, bydd y cyngor yn anfon nodyn atgoffa. Ar hyn o bryd, mae’r gyfraith yn datgan bod gan yr aelwyd wedyn 7 diwrnod i dalu’r swm a fethwyd cyn colli’r hawl i dalu mewn rhandaliadau. Os ydynt yn talu o fewn 7 diwrnod, gallant barhau i dalu eu balans blynyddol mewn rhandaliadau.

Os nad ydynt yn talu o fewn 7 diwrnod, mae’r gyfraith ar hyn o bryd yn datgan bod yn rhaid iddynt dalu’r holl Dreth Gyngor sy’n ddyledus am y flwyddyn (y balans blynyddol sy’n weddill) ar ôl 7 diwrnod arall. Os na chaiff y swm llawn hwn ei dalu, gall y cyngor anfon llythyr gwysio a gwneud cais i lys am adennill y Dreth Gyngor sy’n ddyledus ynghyd ag unrhyw ffioedd a chostau llys. Os na chaiff y balans ei dalu cyn dyddiad y llys, gall y cyngor ofyn i’r llys am orchymyn atebolrwydd sy’n galluogi’r cyngor i gymryd camau adfer.

Ar ben hynny, mae’r gyfraith hefyd yn datgan mai dim ond ar gyfer y ddau daliad cyntaf a fethwyd mewn blwyddyn ariannol (1 Ebrill i 31 Mawrth) y mae angen i gynghorau anfon hysbysiadau atgoffa.  Os bydd aelwyd yn colli trydydd taliad, rhaid iddynt dalu’r balans blynyddol sy’n weddill o fewn 1 diwrnod.

Y broses bresennol ar gyfer rhoi hysbysiad terfynol

Nid oes yn rhaid i gynghorau anfon hysbysiad terfynol os ydynt eisoes wedi anfon hysbysiad atgoffa bod taliad wedi’i fethu, a bod hwnnw heb gael ei dalu. Mae hysbysiad terfynol yn gofyn am i’r swm sy’n ddyledus gael ei dalu o fewn 7 diwrnod.

Os na chaiff y swm sy’n ddyledus ei dalu, gall y cyngor anfon llythyr gwysio a gwneud cais i lys am adennill y Dreth Gyngor sy’n ddyledus, ynghyd ag unrhyw ffioedd a chostau llys. Os na chaiff y balans ei dalu cyn dyddiad y llys, gall y cyngor ofyn i’r llys am orchymyn atebolrwydd.

Mae llawer o gynghorau yng Nghymru yn anfon hysbysiadau terfynol ar gyfer y Dreth Gyngor ac rydym o’r farn bod hyn yn ddull gweithredu cadarnhaol, gan ei fod yn helpu i sicrhau cyfathrebu clir rhwng cynghorau ac aelwydydd. Mae’n cyd-fynd â’r hyn y byddai aelwydydd fel arfer yn ei ddisgwyl ar ôl i hysbysiad atgoffa gael ei anfon, gan fod hysbysiadau terfynol yn nodwedd safonol o reoli biliau eraill yr aelwyd. Er mai atebolrwydd treth yw Treth y Cyngor ac nid bil aelwyd (ac mae’r gwahaniaeth hwn yn bwysig), mae hysbysiadau terfynol yn rhoi rhybudd clir a theg cyn cymryd camau pellach. Gall camau cliriach helpu cynghorau i gefnogi aelwydydd i gadw ar ben eu rhwymedigaethau ar yr un pryd â chynnal ymddiriedaeth ac atebolrwydd.

Beth yw gorchymyn atebolrwydd?

Os nad yw trethdalwr yn talu’r Dreth Gyngor sy'n ddyledus ar ôl cael hysbysiad atgoffa neu hysbysiad terfynol, gall y cyngor roi hysbysiad gwysio am y balans blynyddol sy'n weddill. Bydd yr hysbysiad gwysio yn nodi faint o Dreth Gyngor sy’n ddyledus a’r costau ychwanegol (hyd at uchafswm o £70 yng Nghymru) a bydd yn gofyn i’r trethdalwr ddod i’r llys ynadon ar ddyddiad penodol.

Nid oes yn rhaid i drethdalwr fod yn bresennol yn y llys ynadon, ond os na wneir taliad cyn neu ar ddyddiad y gwrandawiad, bydd y cyngor yn gofyn i’r llys gyhoeddi gorchymyn atebolrwydd. Mae’r ddogfen hon yn caniatáu i’r cyngor gymryd camau gorfodi i adennill yr arian sy’n ddyledus.

Ar ôl i orchymyn atebolrwydd gael ei roi i’r cyngor, gall y trethdalwr dalu’r swm yn llawn o hyd neu gytuno ar gynllun ad-dalu gyda’r cyngor. Mae’r gorchymyn atebolrwydd yn galluogi’r cyngor i ddefnyddio gwahanol ddulliau i adennill yr hyn sy’n ddyledus, er enghraifft:

  • anfon asiant gorfodi (beili) i fynd ag eitemau o’r eiddo
  • trefnu i gyflogwr y trethdalwr dynnu canran benodedig o’i gyflog (atafaelu enillion)
  • trefnu i’r Adran Gwaith a Phensiynau dynnu arian o daliadau budd-dal
  • gwarantu’r ddyled yn erbyn yr eiddo (Gorchymyn Arwystlo)
  • gwneud cais bod y trethdalwr yn cael ei ddatgan yn fethdalwr os oes mwy na £5,000 yn ddyledus ganddo

Mae’r broses bresennol yn caniatáu i drethdalwyr, 7 diwrnod ar ôl cael hysbysiad atgoffa, i ofyn am gyngor ac ymgysylltu â’u cyngor os ydynt yn cael trafferth talu. Os nad yw’r trethdalwr yn ymgysylltu â’r cyngor yn ystod y cyfnod hwn, gall fod yn atebol am y balans blynyddol sy’n weddill o fewn 7 diwrnod arall.

Protocol treth Treth Gyngor Cymru

Lansiwyd Protocol y Dreth Gyngor (“y Protocol”) yn 2019 ac mae bob cyngor yng Nghymru wedi ymrwymo i ddilyn y safonau sydd wedi’u nodi ynddo. Roedd hwn yn gam mawr tuag at newid y drefn o ran gorfodi’r Dreth Gyngor gan annog cynghorau, asiantaethau gorfodi ac asiantaethau cynghori i weithio’n agos gyda’i gilydd. Mae’n darparu canllawiau ar gyfer cryfhau’r partneriaethau hyn.

Un o ofynion allweddol y Protocol yw bod cynghorau'n cynnig cefnogaeth effeithiol i aelwydydd o ran rheoli eu Treth Gyngor ac yn rhoi cymorth os ydynt yn mynd i ddyled. Y nod yw atal problemau dyled rhag gwaethygu drwy annog ymgysylltu cynnar a sicrhau bod unrhyw gamau a gymerir yn deg ac yn gyson.

Ym mis Tachwedd 2023, ymrwymodd holl arweinwyr cynghorau Cymru i ddefnyddio dim ond cwmnïau achrededig i gasglu’r Dreth Gyngor, sy’n golygu mai Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i wneud hynny. Mae hyn yn sicrhau bod asiantaethau gorfodi a’u beilïaid yn dilyn y safonau a bennwyd gan y Bwrdd Ymddygiad Gorfodi.

Yr achos dros newid

Mae ôl-ddyledion Treth Gyngor yn broblem ddyled gyffredin i aelwydydd yng Nghymru, yn aml ochr yn ochr â dyledion eraill, sy’n arwain at broblemau ariannol difrifol. Gall bod ar ei hôl hi â’r Dreth Gyngor arwain at wŷs llys, gorchymyn atebolrwydd, neu ymweliadau gan asiantau gorfodi. Mae ymchwil yn dangos bod fframwaith casglu’r Dreth Gyngor yn gallu ei gwneud yn anodd i aelwydydd osgoi dyled oherwydd ei fod yn cynyddu i swm mwy yn gymharol gyflym, gan beri i'r broblem bara yn hwy yn aml. Gall effaith dyled ar unigolion a theuluoedd fod yn negyddol ac yn hirhoedlog.

Mae ymchwil gan amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys Cyngor ar BopethStepChange, y Sefydliad Polisi Iechyd Meddwl ac Arian, yr Ymddiriedolaeth Cyngor Ariannol a’r Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol, ymysg eraill, yn amcangyfrif fel a ganlyn:

  • ar draws Cymru a Lloegr, mae cyfran fwy o'r bobl sy’n ceisio cyngor am ddyledion Treth Gyngor yn fenywod, rhieni sengl, rhentwyr, pobl sy’n byw gyda chyflyrau iechyd meddwl, ac aelwydydd sy’n byw ar gyllideb negyddol,
  • mae llawer o aelwydydd sydd ar ei hôl hi â thaliadau'r Dreth Gyngor hefyd mewn dyled â biliau eraill, megis biliau ynni a chostau tai,
  • gall y rhesymau pam mae pobl yn mynd i ddyled fod yn gymhleth ac yn amlochrog,
  • bod enghreifftiau o arferion rhagorol o fewn cynghorau i adeiladu arnynt, gan gynnwys polisïau a gweithdrefnau lleol clir ar gyfer helpu pobl agored i niwed

Mae galwadau hefyd i gysoni fframwaith casglu’r Dreth Gyngor â nodweddion credyd defnyddwyr, cyllid personol neu gyfleustodau, ac yn benodol i ddileu’r balans blynyddol ar gyfer Treth Gyngor sy’n dod yn ddyledus ar ryw adeg yn ystod y flwyddyn ariannol. Rydym wedi ystyried sut mae systemau treth yn wahanol i gyllid a chyfleustodau.

Mae’r Dreth Gyngor yn dod yn daladwy o ddechrau pob blwyddyn ariannol gyda'r trethdalwyr yn dewis talu fesul rhandal i glirio'r cyfrif erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, er mwyn i'r cynghorau allu fforddio rhedeg gwasanaethau. Rhaid i gynghorau gydbwyso cyllideb (incwm a gwariant) o fewn yr un flwyddyn ariannol ac mae’r nodweddion hyn wedi’u nodi mewn deddfwriaeth sylfaenol, sef Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. Nid yw sefydliadau ariannol a chwmnïau cyfleustodau wedi’u cyfyngu gan y nodweddion hyn neu gyfnodau penodol.

Byddai’r dewisiadau eraill o ran dileu’r rhwymedigaeth flynyddol bod y Dreth Gyngor yn ddyledus ar ryw bwynt yn y broses gasglu yn golygu, o dan y ddeddfwriaeth bresennol, y byddai angen i bob cyngor gyfrifo’r swm sy’n ddyledus yn ddyddiol a phenderfynu pryd i wneud cais am orchymyn atebolrwydd i adennill y swm hyd at y diwrnod hwnnw. Mae hyn yn golygu y byddai adennill gweddill yr arian sy’n ddyledus ar gyfer y flwyddyn yn amwys, neu yn ymarferol ni ellid rhoi camau gorfodi ar waith tan ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol. Gallai hyn arwain at ddim cysondeb na strwythur i’r fframwaith gorfodi o gwbl ac mae’n cyflwyno ansefydlogrwydd i gyllid cynghorau. Fel dewis arall, gwnaethom ystyried a ddylid gorfodi pob un o’r 10 neu 12 rhandaliad yn unigol, ond byddai hyn yn ychwanegu swmp sylweddol o waith gweinyddol ychwanegol at y system ac yn ychwanegu hyd at £70 o gostau llys i’r trethdalwr bob tro, gan waethygu eu sefyllfa o ran ôl-ddyledion. Nid ydym yn ystyried bod yr opsiynau hyn yn welliannau buddiol i’r broses o gasglu’r Dreth Gyngor.

Mae newid proffil rhandaliadau am weddill y flwyddyn pan fydd taliad yn cael ei fethu yn adnodd sydd ar gael i gynghorau eisoes i helpu pobl i fynd yn ôl ar y trywydd iawn cyn symud i gamau gorfodi ac rydym o’r farn bod hyn yn arfer da, sy’n cael ei drafod ymhellach yn yr ymgynghoriad hwn.

Cynigion polisi

Rydym yn cynnig newid y gyfraith i greu proses orfodi decach, fwy tryloyw a mwy effeithiol ar gyfer Treth Gyngor sydd heb ei thalu a darparu canllawiau i helpu cynghorau i gasglu dyledion Treth Gyngor mewn ffordd decach a mwy cynaliadwy. Canolbwyntio ar gamau cliriach, ymyrryd yn gynharach ac annog pobl i ofyn am help cyn iddynt fethu taliadau.

Rydym wedi cydbwyso’r newidiadau arfaethedig i’r fframwaith â’r cymhlethdod gweithredol a lleihau’r risg o osgoi talu trethi. Rydym wedi sicrhau bod y cynigion yn yr ymgynghoriad hwn yn cyd-fynd â nodweddion systemau treth, sy’n wahanol iawn i fframweithiau ar gyfer credyd defnyddwyr neu gyllid personol. Mae'r atebolrwydd am drethi mewn grym ar ddechrau blwyddyn ariannol, ac mae angen eu casglu o fewn cyfnodau penodol i sicrhau bod cynghorau’n gallu cynnal gwasanaethau hanfodol fel ysgolion a gofal cymdeithasol.

Ar ben yr ymgynghoriad hwn, mae gennym ddiddordeb mewn gweithio gyda phartneriaid, gwasanaethau cynghori a chynghorau lleol i brofi syniadau newydd neu ffyrdd newydd o weithio. Yng nghyswllt rhai syniadau, mae’n bwysig ein bod yn profi’r effeithiau’n llawn ar raddfa lai cyn gwneud penderfyniadau, er mwyn sicrhau bod modd dangos canlyniadau buddiol sy’n lleihau’r risg o ganlyniadau anfwriadol i sefydlogrwydd y system dreth leol.

Newid arfaethedig ar gyfer hysbysiadau atgoffa

Gall cynghorau ddefnyddio amrywiol ddulliau fel negeseuon testun, negeseuon e-bost neu alwadau ffôn i atgoffa aelwydydd eu bod wedi methu taliad cyn anfon hysbysiad atgoffa ffurfiol. Rydym am i hyn barhau.

Rydym yn cynnig y dylai cynghorau bob amser anfon nodyn atgoffa pan fydd rhandaliad Treth Gyngor yn cael ei fethu. Mater i’r cyngor fydd amseriad yr hysbysiad atgoffa.

Dylai’r hysbysiad atgoffa roi manylion y swm sy’n ddyledus ar y diwrnod y caiff ei gyhoeddi. Ni fydd yn pennu dyddiad cau ar gyfer talu, gan ganiatáu i gynghorau anfon nifer o hysbysiadau atgoffa sy’n rhoi cyngor ar sut i dalu neu’n annog aelwydydd i gysylltu â’r cyngor am help neu i drefnu cynlluniau talu eraill.

Ar ben hynny, os bydd taliad yn cael ei fethu am y trydydd tro mewn blwyddyn ariannol, dylid trin y taliad yr un fath â’r taliad cyntaf a’r ail daliad a fethwyd, a bydd yr aelwyd bob amser yn cael hysbysiad atgoffa.

Newid arfaethedig ar gyfer hysbysiadau terfynol

Er mwyn sicrhau tegwch, dylai aelwydydd bob amser gael hysbysiad terfynol a chael digon o amser i ymgysylltu cyn y gall y cyngor wneud cais i lys am orchymyn atebolrwydd. Mae anfon hysbysiadau terfynol yn cael ei ystyried yn arfer da sy’n ychwanegu cysondeb a thryloywder at y broses, gan fod pobl yn aml yn disgwyl y math hwn o hysbysiad, o gofio ei fod yn gam safonol ar gyfer rheoli sawl math o filiau’r aelwyd.

Rydym yn cynnig bod yn rhaid i gynghorau roi hysbysiad terfynol, ond dim ond ar ôl anfon o leiaf un hysbysiad atgoffa. Ni ddylid anfon yr hysbysiad terfynol llai na 14 diwrnod ar ôl yr hysbysiad atgoffa diwethaf er mwyn rhoi digon o amser i aelwydydd dalu neu gysylltu â’r cyngor i wneud trefniadau talu eraill.

Rydym yn cynnig na ddylid rhoi hysbysiad terfynol llai na 40 diwrnod ar ôl i’r taliad gael ei fethu. Bydd yn rhoi gwybod i’r aelwyd bod ganddynt 21 diwrnod i dalu’r swm sy’n ddyledus. Os na chaiff ei dalu, bydd y balans blynyddol sydd heb ei dalu yn ddyledus y diwrnod ar ôl i’r cyfnod hwn ddod i ben.

Gall cynghorau wneud cais i lys am orchymyn atebolrwydd un diwrnod ar ôl i’r balans blynyddol heb ei dalu ddod yn ddyledus. Mae’r dull hwn yn atal cyngor rhag gwneud cais am orchmynion atebolrwydd lluosog ar gyfer pob rhandaliad a gollwyd, gan leihau costau i aelwydydd a gwaith gweinyddol i gynghorau.

Mae’r cyfnod hwn yn caniatáu i aelwydydd ofyn am help ac ymgysylltu â’u cyngor, gan gydbwyso diogelu dyledwyr a chasglu’r Dreth Gyngor. Yn ystod y cyfnod hwn, dylai cynghorau ymgysylltu ag aelwydydd i gynnig cynlluniau talu amgen, edrych i weld a ydynt yn gymwys i gael gostyngiad neu ddisgownt, a’u cyfeirio at asiantaethau cynghori. Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn nes ymlaen yn yr ymgynghoriad hwn.

Bydd y mesurau arfaethedig ar gyfer hysbysiadau atgoffa a hysbysiadau terfynol yn rhoi o leiaf 63 diwrnod i aelwydydd o’r dyddiad y bydd taliad yn cael ei fethu i pan fydd y cyngor yn gallu gwneud cais am orchymyn atebolrwydd ar gyfer y balans blynyddol sydd heb ei dalu. Mae hyn yn golygu y gallai aelwyd fethu tri rhandaliad cyn y gall y cyngor gymryd camau i adennill y ddyled os nad yw’r aelwyd wedi ymgysylltu â’r cyngor. Mae’r amserlen yn cyd-fynd yn fras â’r cynllun cyfle i anadlu60 diwrnod.

Canllawiau arferion gorau arfaethedig ar gyfer gweinyddu a chasglu’r Dreth Gyngor

Mae ymgysylltu effeithiol rhwng cynghorau ac aelwydydd yn allweddol i adennill Treth Gyngor heb ei thalu mewn ffordd deg. Rydym yn awyddus i annog pobl i ddod ymlaen ac ymgysylltu â’u cyngor ar yr arwydd cynharaf y byddan nhw’n ei chael hi’n anodd talu. Mae ymyrraeth gynharach, yn enwedig cyn taliad a fethwyd, yn golygu bod mwy o gamau ar gael y gall cynghorau eu cymryd i helpu.

Mae Cynghorau yng Nghymru eisoes yn defnyddio Protocol y Dreth Gyngor fel canllaw i gefnogi aelwydydd sy'n ei chael yn anodd. Mae’r protocol hwn yn cryfhau partneriaethau rhwng cynghorau ac asiantau gorfodi ac yn darparu canllawiau ar gyfer cefnogi aelwydydd sy’n agored i niwed. Gan fod y Protocol yn gytundeb gwleidyddol aml-asiantaeth, nid yw’n briodol iddo fod yn ofyniad statudol.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyflwyno canllawiau ar arferion gorau ochr yn ochr â’r Protocol i sicrhau dull teg a chyson o gasglu’r Dreth Gyngor ledled Cymru. Bydd hyn yn helpu cynghorau i gasglu trethi’n rhesymol, i ystyried ymgysylltu ac i gynnig cynlluniau talu amgen neu gymorth arall i’r rheini sy’n cael trafferth talu. Rydym yn rhagweld y bydd y canllawiau’n cynnwys y canlynol:

  • Cyngor ar ymgysylltu ag aelwydydd pan fydd rhandaliad wedi’i fethu, pryd a sut i gyfeirio at gyngor dyledion ehangach.
  • Camau nesaf clir wedi’u nodi mewn hysbysiadau atgoffa a hysbysiadau terfynol.
  • Pryd i wirio a ydynt yn gymwys ar gyfer Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, disgowntiau a diystyriadau, a pha adnoddau neu ddata i’w defnyddio.
  • Arferion gorau ar gyfer cynnig a chytuno i newid proffil taliadau, neu gynlluniau talu amgen, ac unrhyw gymorth talu arall gan gynnwys newid dyddiadau talu, symud i 12 rhandaliad misol.
  • Egluro y gall cynghorau fod â’r hyder i gynnig cynlluniau talu sy’n ymestyn y tu hwnt i ddiwedd y flwyddyn ariannol fesul achos, a chydnabyddiaeth y byddai caniatáu i rai pobl ad-dalu’r hyn sy’n ddyledus ganddynt mewn meintiau hawdd eu rheoli yn gallu bod yn fwy ffafriol na pharhau i orfodi’r swm cyfan.
  • Tynnu sylw at enghreifftiau o arferion gorau sydd wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol.
  • Gwybodaeth i esbonio newidiadau deddfwriaethol.

Rydym hefyd yn cydnabod bod llwyddiant rhai o’r camau hyn yn dibynnu ar ymgysylltiad ac amgylchiadau’r trethdalwr ei hun.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chynghorau i ddylunio a datblygu’r canllawiau hyn yn fwy manwl, a bydd yn gweithredu o dan adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Gan y bydd y canllawiau’n cael eu cynhyrchu ar y cyd, nid ydym yn rhagweld y bydd hyn yn cynyddu’r baich gweinyddol yn sylweddol ar gynghorau’n gyffredinol nac yn tanseilio’r fframwaith deddfwriaethol. Y syniad yw y byddai symud adnoddau i gamau ataliol yn gynharach yn y broses gasglu yn arwain at arbedion o ran adnoddau a chostau’r mathau drutach o gamau adennill yn ddiweddarach yn y broses. Y nod yw gwreiddio arferion gorau i gefnogi aelwydydd sy’n cael trafferth talu eu Treth Gyngor, a gellir ychwanegu at y rhain dros amser.

Yn dilyn canlyniad yr ymgynghoriad hwn, bydd y broses ddeddfwriaethol yn cynnwys Asesiad Effaith Rheoleiddiol manwl o’r costau a’r manteision.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1

Nodwch a ydych chi’n ymateb fel aelod o’r cyhoedd neu ar ran sefydliad.

Cwestiwn 2

Yn ardal pa gyngor ydych chi’n byw?

Cwestiwn 3a

A oes adeg wedi bod erioed pan gawsoch chi anhawster talu’r Dreth Gyngor neu pan oeddech chi ar ei hôl hi â’ch taliadau Treth Gyngor?

Cwestiwn 3b

Os ydych chi wedi ateb OES i gwestiwn 3a. Gall eich cyngor lleol neu Gyngor ar Bopeth roi gwybodaeth a chyngor i chi os ydych yn ei chael yn anodd talu eich taliadau Treth Gyngor neu os ydych chi ar ei hôl hi â'ch taliadau. A wnaethoch chi ofyn am help neu gyngor?

Cwestiwn 4

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y dylai cynghorau bob amser roi o leiaf un hysbysiad atgoffa i aelwydydd bob tro y bydd rhandaliad Treth Gyngor yn cael ei fethu.

Ydych chi’n cytuno â’r dull hwn o weithredu?

Cwestiwn 5

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y dylai cynghorau bob amser roi hysbysiad terfynol am randaliad sydd wedi’i fethu os nad yw’r aelwyd yn talu ar ôl cael o leiaf un hysbysiad atgoffa. Rydym yn cynnig mai dim ond 40 diwrnod ar ôl i’r rhandaliad gael ei fethu y gellir rhoi’r hysbysiad terfynol, a mwy na 14 diwrnod wedi i’r hysbysiad atgoffa diwethaf gael ei roi.

Ydych chi’n cytuno â’r dull hwn o weithredu?

Cwestiwn 6

Mae bob amser yn well i aelwydydd gadw ar ben eu rhandaliadau Treth Gyngor rheolaidd er mwyn osgoi mynd i ddyled, ac i gysylltu â'u cyngor cyn gynted â phosibl, yn ddelfrydol cyn methu’r rhandaliad. Fodd bynnag, pan fydd rhandaliad yn cael ei fethu, ar hyn o bryd gall aelwydydd ddod yn atebol am y balans blynyddol ar gyfer y Dreth Gyngor os nad ydynt wedi talu o fewn 7 diwrnod, ac mae hyn wedi’i nodi yn y gyfraith.

Er mwyn rhoi mwy o amser i aelwydydd adfer ar ôl colli rhandaliad a mynd yn ôl ar y trywydd iawn, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig na ddylai aelwydydd ddod yn atebol am dalu’r balans blynyddol sy’n weddill ar ôl colli rhandaliad nes bod 62 diwrnod wedi mynd heibio. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod 21 diwrnod wedi mynd heibio ers i hysbysiad terfynol gael ei gyhoeddi.

Ydych chi’n cytuno â’r dull hwn o weithredu?

Cwestiwn 7

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig bod cynghorau yn cael gwneud cais i lys am orchymyn atebolrwydd un diwrnod ar ôl i’r balans blynyddol sy’n weddill ddod yn ddyledus, ac nad yw’r aelwyd wedi gwneud taliad nac wedi cysylltu â’r cyngor i drefnu cynllun talu amgen. I gyd gyda’i gilydd, bydd hyn o leiaf 63 diwrnod ar ôl methu’r rhandaliad cyntaf.

Ydych chi’n cytuno â’r dull hwn o weithredu?

Cwestiwn 8a

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i sicrhau bod aelwydydd sy’n cael trafferth talu eu bil Treth Gyngor yn cael amser rhesymol i gysylltu â’r cyngor a gofyn am help. Rydym yn cynnig bod 63 diwrnod yn gyfnod rhesymol, sy’n rhoi mwy o amser ar gyfer derbyn cyflogau neu fudd-daliadau, cysylltu â’r cyngor a chysylltu ag amrywiaeth o asiantaethau cynghori eraill.

I ba raddau rydych chi’n cytuno â'r cynnig hwn?

Cwestiwn 8b

Esboniwch eich rhesymau dros eich sgôr ar gyfer Cwestiwn 8a.

Cwestiwn 9

Mae pob cyngor yng Nghymru yn cymeradwyo Protocol y Dreth Gyngor sy'n amlinellu arferion gorau a chanllawiau ar gyfer sut i ddelio â chwsmeriaid agored i niwed.

Yn ogystal â Phrotocol Treth Gyngor Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cynhyrchu canllaw arferion gorau ar gyfer cynghorau er mwyn sicrhau dull teg a chyson o gasglu’r Dreth Gyngor ledled Cymru. Mae awgrymiadau ynghylch yr hyn a allai gael ei gynnwys yn y canllaw wedi’u nodi yn yr ymgynghoriad hwn.

Ydych chi’n cytuno â’r cynnig hwn?

Cwestiwn 10

A oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill ar y cynigion?

Cwestiwn 11

Yn eich barn chi, beth fyddai effeithiau tebygol y cynigion ar y Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 

  • Ydych chi’n credu bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
  • Ydych chi’n credu bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Cwestiwn 12

Yn eich barn chi, sut gellid llunio neu newid y cynigion er mwyn gwneud y canlynol:

  • cael effeithiau cadarnhaol neu effeithiau mwy cadarnhaol o ran defnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; neu
  • liniaru unrhyw effeithiau negyddol o ran defnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg

Y camau nesaf

Mae’r ymgynghoriad yn agored am gyfnod o 12‑wythnos tan 23 Gorffennaf 2025. Mae ymatebion i ymgynghoriad yn helpu Llywodraeth Cymru i egluro cynigion polisi a llywio diwygiadau i’r fframwaith cyfreithiol.

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 23 Gorffennaf 2025, drwy unrhyw un o'r ffyrdd a ganlyn:

Polisi’r Dreth Gyngor
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

Yn unol â'r ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i gael gwybod am y data personol a gedwir amdanoch, ac i’w gweld
  • i'w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (mewn amgylchiadau penodol)
  • i’ch data gael eu ‘dileu’ (mewn amgylchiadau penodol)
  • i gludadwyedd data (mewn amgylchiadau penodol)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw  ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) 

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data dros unrhyw ddata personol rydych chi’n eu darparu fel rhan o’ch ymateb i’r ymgynghoriad.

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn, ac a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynglŷn â sut byddant yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb rydych chi’n ei anfon atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n delio â’r materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau pellach. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, efallai y bydd trydydd parti achrededig yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn (ee sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori). Dim ond o dan gontract y gwneir unrhyw waith o’r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn pennu gofynion llym ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

I ddangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae'n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi'r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw na’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod i ni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn eu golygu cyn eu cyhoeddi.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os bydd eich manylion yn cael eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn a gyhoeddir eu cadw am gyfnod amhenodol. Bydd unrhyw ddata sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch fel arall yn cael eu cadw am dair blynedd fan bellaf.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG51763

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.