Neidio i'r prif gynnwy

Mae'n cynnig cymhelliant o £5,000 i fyfyrwyr sy'n astudio i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu i addysgu'r Gymraeg fel pwnc.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae'r cynllun cymhelliant hwn yn cynnig grant o £5,000 i fyfyrwyr sy'n dilyn rhaglen addysg gychwynnol athrawon (AGA) ôl-raddedig uwchradd. Rhaid i’r rhaglen fodloni un o’r canlynol:

  • mae’n galluogi’r myfyriwr i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg
  • mae’n galluogi’r myfyriwr i addysgu'r Gymraeg fel pwnc

Mae'r canllawiau hyn yn ymwneud â blwyddyn academaidd 2026 i 2027. Gallwch wneud cais am y grant hwn os ydych ar raglenni AGA sy'n arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC) rhwng 1 Medi 2026 a 31 Awst 2027.

Dylech ddarllen y canllawiau hyn ar y cyd â thelerau ac amodau’r cynllun.

Mae’r Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory yn cefnogi strategaeth Cymraeg 2050: strategaeth y Gymraeg.

Meini prawf cymhwystra ar gyfer Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory

This scheme is aimed at students on secondary postgraduate ITE programmes in Wales. You must be studying to teach through the medium of Welsh or to teach Welsh as a subject. The scheme is availMae’r cynllun hwn yn targedu myfyrwyr sydd ar raglenni AGA ôl-raddedig uwchradd yng Nghymru. Rhaid ichi fod yn astudio i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg neu i addysgu'r Gymraeg fel pwnc. Mae’r cynllun ar gael ar gyfer myfyrwyr amser llawn a rhan-amser.

Efallai na fydd cyllid ar gael i fyfyrwyr sydd wedi’u derbyn ar raglen AGA wedi i’r nifer a ganiateir gael ei gyrraedd. Holwch eich Partneriaeth AGA a yw hyn yn berthnasol i chi.

Rhaglenni cymwys

Er mwyn i raglen AGA fod yn gymwys, mae’n rhaid iddi:

  • fod wedi’i hachredu gan Fwrdd Achredu Addysg Athrawon Cyngor y Gweithlu Addysg
  • arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC) yng Nghymru
  • galluogi'r myfyriwr i addysgu mewn lleoliad uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg neu addysgu Cymraeg fel pwnc

Myfyrwyr cymwys

Er mwyn bod yn gymwys i gael grant cymhelliant, rhaid i'r myfyriwr:

  • fod ar raglen gymwys, a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi, ond cyn 31 Awst fel y nodir yn nhelerau ac amodau’r cynllun
  • bod yn gymwys i gael cymorth o dan Reoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 sydd mewn grym ar hyn o bryd
  • peidio â bod eisoes yn athro cymwysedig wrth ddechrau astudio tuag at SAC
  • peidio â bod wedi'i gyflogi i addysgu mewn ysgol neu sefydliad arall fel athro neu athrawes
  • peidio â bod yn cymryd rhan mewn hyfforddiant a drefnwyd o dan unrhyw gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth, yn cynnwys Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) cyflogedig
  • bodloni’r meini prawf cymhwystra ar gyfer y SAC a’r taliadau sefydlu

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch p’un a ydych yn gymwys, cysylltwch â’ch Partneriaeth AGA.

Cyrsiau nad ydynt yn gymwys ar gyfer y grant hwn

  • Myfyrwyr sy'n ymgymryd ag unrhyw gynllun hyfforddi i athrawon ar sail cyflogaeth (mae hyn yn cynnwys y ‘cynllun TAR Cyflogedig’).
  • Myfyrwyr sy'n ymgymryd â rhaglenni hyfforddi a fydd yn eu galluogi i addysgu yn y Sector Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (TAR AHO).

Sut i wneud cais

Bydd eich partneriaeth AGA yn rhoi gwybod ichi p’un a ydych yn gymwys ar gyfer y cymhelliant hwn.

Gallwch wneud cais rhwng 1 Medi a 15 Tachwedd 2026.

Cysylltwch â’ch Partneriaeth AGA i wirio p’un a ydych yn gymwys, i wneud cais am y cymhelliant, neu os oes gennych gwestiynau. Bydd eich partneriaeth AGA yn rhoi arweiniad ichi ar y broses gais.

Sut y cewch eich talu

O dan y cynllun hwn, mae grant cymhelliant o £5,000 ar gael i bob myfyriwr sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra.

Bydd y taliadau cymhelliant gwerth £5,000 yn cael eu gwneud mewn 2 randaliad:

  • £2,500 ym mis Gorffennaf neu Awst ar ôl cwblhau TAR yn llwyddiannus ac ennill SAC. Os caiff myfyriwr ei asesu gan y bwrdd arholi ailgyflwyno, gwneir taliadau cyn 31 Rhagfyr
  • £2,500 ar ôl cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus yng Nghymru

Cymhwystra am daliadau a sut i’w hawlio

Y rhandaliad SAC

I fod yn gymwys ar gyfer y rhandaliad SAC, rhaid ichi:

  • fod wedi cwblhau rhaglen AGA ôl-raddedig gymwys yng Nghymru sy’n arwain at Statws Athro Cymwysedig (ar ôl dyfarnu’r SAC) yn unol â Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012
  • bod wedi cael Statws Athro Cymwysedig.

Byddwch yn derbyn eich rhandaliad SAC gan eich partneriaeth AGA. Byddant yn pennu'r union ddyddiad talu. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau at y bartneriaeth.

Os methwch ag ennill SAC, ni fydd gennych hawl i’r cymhelliant hwn.

Y rhandaliad sefydlu

I fod yn gymwys ar gyfer y rhandaliad sefydlu, rhaid i athro newydd gymhwyso fodloni’r holl feini prawf canlynol. Rhaid iddo:

  • fod wedi cyflawni’r meini prawf cymhwystra ar gyfer y cynllun hwn
  • bod wedi derbyn y rhandaliad SAC
  • bod wedi cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus mewn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg a gynhelir neu mewn unrhyw ysgol uwchradd a gynhelir os yw’n addysgu Cymraeg fel pwnc, fel sy’n ofynnol o dan Reoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015
  • bod wedi cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus mewn lleoliad cymwys o fewn 3 blynedd ar ôl dyfarnu SAC iddo
  • bod wedi cael tystysgrif sefydlu
  • gwneud cais am y rhandaliad sefydlu o fewn blwyddyn i gwblhau ei gyfnod sefydlu.

Bydd eich partneriaeth AGA yn rhoi gwybodaeth ichi ynghylch sut i wneud cais i Lywodraeth Cymru am y rhandaliad sefydlu. Bydd yn gwneud hyn unwaith y byddwch wedi cwblhau eich rhaglen AGA ac ar ôl dyfarnu SAC ichi. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau ynghylch y rhandaliad sefydlu at CymelldaliadauAGA@llyw.cymru.

Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am brosesu a thalu’r rhandaliad sefydlu. Bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu ar union ddyddiad y taliad.

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod wedi hawlio’r taliad o fewn yr amserlen a neilltuwyd.

Gohirio, tynnu'n ôl ac ailgydio

Os byddwch yn gadael rhaglen AGA ôl-raddedig uwchradd cyn iddi gwblhau a chyn ennill SAC, ni fydd gennych hawl i'r cymhelliant hwn.

Os ydych chi’n fyfyriwr:

  • sy’n ailgydio mewn rhaglen gymwys
  • sy’n dechrau rhaglen gymwys, ac mae’r rhaglen wedi’i gohirio (wedi'i hatal)

bydd y taliadau yn parhau i gael eu gwneud ar yr un gyfradd a oedd yn weithredol y flwyddyn academaidd pan wnaethoch chi ddechrau’r rhaglen yn wreiddiol neu ei gohirio, oni bai bod Gweinidogion Cymru yn cytuno fel arall yn ysgrifenedig.

Ni fydd gan fyfyrwyr sy’n methu ag ennill SAC hawl i gael y rhandaliad SAC.

Adennill grantiau cymhelliant a dalwyd

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau i adennill grantiau a dalwyd, yn gyfan gwbl neu'n rhannol. Yn ôl eu disgresiwn, gallant arfer y pwerau hynny, a byddant yn ystyried pob achos ar sail ei deilyngdod unigol.

Efallai y bydd Gweinidogion Cymru yn arfer y pwerau hyn:

  • os yw’r derbynnydd, ar ôl derbyn unrhyw randaliad grant cymhelliant, yn methu â bodloni unrhyw feini prawf cymhwystra a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru, ac sydd wedi’u nodi yn nhelerau ac amodau’r cynllun neu yn y canllawiau hyn mewn perthynas â rhandaliad dilynol
  • os yw’r derbynnydd, yn ei gais am grant neu mewn cysylltiad â’r cais hwnnw, wedi darparu gwybodaeth ffug neu wybodaeth sy’n gamarweiniol mewn ffordd berthnasol
  • os oes tystiolaeth nad oedd y derbynnydd erioed wedi bwriadu cwblhau'r rhaglen neu nad oedd yn fwriad ganddo, ar ôl ei chwblhau, fynd i addysgu

Diogelu data a rhyddid gwybodaeth

Mae gwybodaeth y mae myfyriwr yn ei chyflwyno fel rhan o'i hawliad o dan Gynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory yn ddarostyngedig i ofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y "Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth"), Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (yr "EIR"), Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (y “GDPR”) a Deddf Diogelu Data 2018 (y "Ddeddf Diogelu Data").

Mae myfyrwyr hefyd yn cydnabod mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu yn ôl ein disgresiwn llwyr:

  • a ddylid datgelu unrhyw wybodaeth yr ydym wedi'i chael o dan neu mewn cysylltiad â'r Cyllid i'r graddau y mae'n ofynnol i ni ddatgelu gwybodaeth o'r fath i berson sy'n gwneud cais am ddatgeliad o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu'r EIR a/neu
  • a yw unrhyw wybodaeth wedi’i heithrio rhag cael ei datgelu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r EIR
  • a ddylid cynnal gwiriadau at ddibenion atal twyll a gwyngalchu arian, ac i wirio pwy ydych. Mae angen y gwiriadau hyn i brosesu data personol amdanoch i asiantaethau atal twyll trydydd parti

Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer yr wybodaeth bersonol y mae'n ei chael. Bydd unrhyw ddata personol a gasglwn yn cael eu rheoli yn unol â'n hysbysiad preifatrwydd a’n tudalen ar y we 'Hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru'.

Grantiau eraill sydd ar gael

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig 3 chynllun cymhelliant sydd ar gael i fyfyrwyr AGA.

Bydd Partneriaethau AGA yn gweithio gyda’u myfyrwyr i helpu i nodi’r unigolion hynny sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra ar gyfer pob cynllun. Efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer mwy nag un cynllun. Nid yw bod yn gymwys o dan un cynllun yn effeithio ar fod yn gymwys ar gyfer cynlluniau cymhelliant AGA eraill. Mae'n bosibl cael arian grant o dan bob un o’r 3 chynllun cymhelliant. Rhaid bodloni'r meini prawf cymhwystra ar gyfer pob cynllun unigol.

Gall eich Partneriaeth AGA eich helpu i ddarganfod p’un a ydych yn gymwys ar gyfer cynllun cymhelliant. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau atyn nhw

Y Fwrsariaeth i Gadw Athrawon Cymraeg mewn Addysg

Mae bwrsariaeth ar gael hefyd i gefnogi cadw athrawon sy'n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yr effaith ar gymorth ariannol arall

Treth

Nid yw grantiau cymhelliant fel arfer yn drethadwy i fyfyrwyr amser llawn.

Efallai y bydd y rhandaliad sefydlu yn drethadwy i’r unigolion hynny sydd mewn cyflogaeth. 

Gallwch ofyn am gyngor ar eich amgylchiadau eich hun gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi.

Cymorth ariannol i fyfyrwyr

Nid yw grant cymhelliant yn cael ei ystyried yn rhan o incwm y cartref at ddibenion darpariaethau cyllid myfyrwyr. Felly, ni ddylid cynnwys grantiau wrth gyfrifo incwm trethadwy heb ei ennill.

Dylech ofyn am gyngor gan eich darparwr cyllid myfyrwyr ar eich amgylchiadau unigol.

Ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr

Ar gyfer myfyrwyr amser llawn, ni fydd y grant yn sbarduno ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr.

Ar gyfer myfyrwyr rhan-amser mewn cyflogaeth, bydd eich rhwymedigaeth yn dibynnu ar a yw eich cyflog gwaith yn ddigon uchel i sbarduno ad-dalu eich benthyciad.

Gall ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr gael eu sbarduno gan y rhandaliad sefydlu. Bydd eich rhwymedigaeth yn dibynnu ar a yw eich cyflog gwaith yn ddigon uchel i sbarduno ad-dalu eich benthyciad.

Yr effaith ar fudd-daliadau

Bydd hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol.

Dylech ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau am gyngor.

Yr effaith ar bensiynau

Nid yw'r grant cymhelliant yn bensiynadwy.

Manylion cyswllt

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â’ch Partneriaeth AGA.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am y taliad sefydlu, cysylltwch â CymelldaliadauAGA@llyw.cymru.