Ystadegau, Dogfennu
Cymorth i Brynu – Cymru (Cynllun Benthyciad Ecwiti a Rennir): Ebrill i Mehefin 2025
Data am y nifer o gartrefi a brynwyd a gwerth y benthyciadau a dderbyniwyd o dan cynllun ar gyfer Ebrill i Mehefin 2025.
Lawrlwytho'r dudalen hon fel PDF , maint ffeil 87 KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Prif bwyntiau
- Ers ei sefydlu ar 2 Ionawr 2014 i 30 Mehefin 2025, cafodd 14,939 o gartrefi eu prynu o dan Gynllun Cymorth i Brynu Cymru.
- Roedd dros dri chwarter o’r rhain yn brynwyr tro cyntaf ac roedd dros hanner yn gartrefi 3 ystafell wely.
- Rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin 2025, cafodd 159 o gartrefi eu prynu gan ddefnyddio benthyciadau rhannu ecwiti Llywodraeth Cymru.
- Rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin 2025, cafodd 3 eiddo lesddaliadol eu prynu, a fflatiau oeddent i gyd.
- Ar 30 Mehefin 2025, roedd 121 o geisiadau am fenthyciadau heb gael eu prosesi yn llawn.
- Yn ystod y chwarter hwn, cyfanswm gwerth y cartrefi a brynwyd oedd £41.9 miliwn a chyfanswm gwerth y benthyciadau ecwiti oedd £8.3 miliwn.
- £263,265 oedd pris prynu cymedrig y cartrefi a brynwyd drwy’r cynllun yn ystod y chwarter hwn, a £52,000 oedd gwerth cymedrig y benthyciad ecwiti.
Note
Casglwyd yr wybodaeth ar ran Llywodraeth Cymru gan Cymorth i Brynu - Cymru Cyf. Caiff gwybodaeth ar lefel llywodraeth leol ei chyhoeddi ar StatsCymru.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Craig McLeod
E-bost: ystadegau.tai@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
