Neidio i'r prif gynnwy

Manylion:

Statws:

Cydymffurfio – rhaid i'r derbynnydd gydymffurfio ag ef.

Categori:

Polisi.

Teitl:

Adrodd ar ddata canlyniadau a gweithgareddau Gwasanaeth Un Pwynt Cyswllt Aros yn Iach y Polisi 3A.

Dyddiad dod i ben neu adolygu:

Dim dyddiad dod i ben.

I’w weithredu gan:

Holl fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd y GIG.

Erbyn:

Ar unwaith.

Anfonwyd gan:

Lesley Law
Pennaeth Gofal a Gynlluniwyd
Cyflenwi a Pherfformiad y GIG
Y Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar
Llywodraeth Cymru

Enwau cyswllt yn Llywodraeth Cymru:

Lesley Law, Lesley.Law@llyw.cymru

Dogfennau amgaeedig:

Adrodd ar ddata canlyniadau a gweithgareddau Gwasanaeth Un Pwynt Cyswllt Aros yn Iach y Polisi 3A

Prif Weithredwyr Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd y GIG
Prif Swyddogion Gweithredu Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd y GIG
Prif Weithredwyr Iechyd a Gofal Digidol Cymru y GIG
Arweinwyr Gweithredol Polisi 3A y GIG
Arweinwyr Clinigol Polisi 3A y GIG

26 Medi 2025

Annwyl gyfeillion,

Cyhoeddir y cylchlythyr iechyd Cymru hwn i roi gwybod am gyhoeddi Hysbysiad Newid Safonau Data ar gyfer canlyniadau a gweithgareddau Gwasanaeth Un Pwynt Cyswllt Aros yn Iach y Polisi 3A, yn unol â cham 2 proses gofnodi ac adrodd ar ddata a chynllun cyflawni'r Polisi 3A. Mae'r cylchlythyr yn darparu gwybodaeth bellach am y gofyniad ar fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd y GIG i sicrhau bod yr holl ddiweddariadau system yn cael eu cwblhau yn unol â gofynion a disgwyliadau'r hysbysiad newid safonau data fel yr amlinellir isod.

Dyddiadau dechrau a gorffen y camau

Cam 1: ffurflen gyfanredol ar gyfer canlyniadau a gweithgareddau'r gwasanaeth un pwynt cyswllt

(Rhwng 1 Medi 2024 a 31 Mawrth 2026)

Fel rhan o gam 1, datblygwyd ffurflen gyfanredol ar gyfer canlyniadau a gweithgareddau'r gwasanaeth un pwynt cyswllt er mwyn:

  • cynnig ateb dros dro i gofnodi ac adrodd ar ganlyniadau a gweithgareddau'r gwasanaeth un pwynt cyswllt er mwyn galluogi Tîm Polisi Gofal a Gynlluniwyd Llywodraeth Cymru i fonitro cynnydd ac effaith wrth weithredu a chyflwyno'r model ledled Cymru
  • darparu data i fyrddau iechyd i gefnogi'r gwaith o ddatblygu eu hachosion busnes i ymgorffori'r model fel busnes arferol o fis Ebrill 2026 ymlaen

Bydd y ffurflen gyfanredol hon yn cael ei thynnu'n ôl ar ôl i'r data gael eu cyflwyno ym mis Mawrth 2026.

Cam 2: hysbysiad newid safonau data ar gyfer canlyniadau a gweithgareddau'r gwasanaeth un pwynt cyswllt

O 1 Ebrill 2026 ymlaen (dim dyddiad gorffen)

Bydd cam 2 yn cynnig ateb cynaliadwy i ddarparu data i gefnogi'r gwaith o gyflawni'n weithredol a monitro gwerth ac effaith y gwasanaeth un pwynt cyswllt.

Er mwyn sicrhau bod byrddau iechyd yn dechrau adrodd yn unol â'r hysbysiad newid safonau data erbyn mis Ebrill 2026, disgwylir y camau isod:

Pob bwrdd ac ymddiriedolaeth iechyd i wneud y canlynol:

  • diweddaru prosesau a systemau lleol i gydymffurfio â'r fanyleb wybodaeth a amlinellir yn yr hysbysiadau newid safonau data
  • cydweithio â Thîm Caffael Data Iechyd a Gofal Digidol Cymru i gytuno a sefydlu prosesau ar gyfer cyflwyno data wrth baratoi ar gyfer casglu

Iechyd a Gofal Digidol Cymru i wneud y canlynol:

  • sicrhau bod yr holl systemau cenedlaethol wedi'u diweddaru i gydymffurfio â'r safon a nodir yn y fanyleb wybodaeth o fewn yr hysbysiad newid safonau data hwn
  • sicrhau bod y Tîm Caffael Data yn cydgysylltu â phob bwrdd iechyd yn unigol i drafod manylion y prosesau ar gyfer cyflwyno data a chynnig unrhyw gymorth angenrheidiol

Mae asesiad o'r effaith ar ddiogelu data wedi'i gymeradwyo ar gyfer cam 2 i alluogi llif a rheolaeth ddiogel ac effeithlon o wybodaeth sy'n datgelu pwy yw cleifion, yn unol â gofynion llywodraethiant.

Mae gan bob aelod o dimau gweithredol y byrddau a'r ymddiriedolaethau iechyd gyfrifoldeb am gyflwyno adroddiadau cywir ac amserol, yn unol â phob hysbysiad newid safonau data. Bydd cyfarwyddiadau a chanllawiau pellach yn cael eu cyhoeddi i gefnogi byrddau iechyd i gydymffurfio â'r gofynion a nodir yn yr hysbysiad newid safonau data. Bydd hyn yn cynnwys dyddiadau a phrosesau cyflwyno.

Diolch ichi ymlaen llaw am eich cymorth.

Yn gywir,

Lesley Law
Pennaeth Gofal a Gynlluniwyd
Cyflenwi a Pherfformiad
Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Llywodraeth Cymru

Copi at:

  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a Phrif Weithredwr GIG Cymru, Llywodraeth Cymru
  • Nick Wood, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru, Llywodraeth Cymru
  • Jeremy Griffiths, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Llywodraeth Cymru
  • Andrew Sallows, Cyfarwyddwr Rhaglen Gofal a Gynlluniwyd
  • Philip Barry, Cyfarwyddwr Gwelliant Gweithredol, Perfformiad a Gwella'r GIG
  • Marilize du Preez, Arweinydd Proffesiynol ar gyfer y Polisi 3A
  • Liz Davies, Arweinydd Polisi Gofal a Gynlluniwyd, Perfformiad a Gwella'r GIG
  • Helen Roberts, Perfformiad GIG Cymru, Llywodraeth Cymru
  • Alex Percival, Pennaeth Rhaglenni Gofal a Gynlluniwyd, Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Cylchlythyr iechyd Cymru mewn cysylltiad â'r hysbysiad newid safonau data ar gyfer gwasanaeth un pwynt cyswllt aros yn iach y Polisi 3A (DSCN 2025/17)

Yr Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Health, Social Care and Early Years Group

Prif Swyddogion Gweithredol GIG Cymru
Prif Weithredwr Iechyd a Gofal Digidol Cymru GIG Cymru
Arweinwyr Gweithredol y Polisi 3A
Arweinwyr Clinigol y Polisi 3A

26 Medi 2025

Annwyl gyfaill

Ar hyn o bryd, mae byrddau iechyd yn cyflwyno data'n fisol am Wasanaeth Un Pwynt Cyswllt Aros yn Iach y Polisi 3A drwy ffurflen gyfanredol. Fel y cytunwyd gydag arweinwyr polisi 3A y byrddau iechyd, mesur dros dro yw hwn tra bod yr hysbysiad newid safonau data, a gydgynhyrchwyd â'r GIG, yn mynd drwy'r broses lywodraethiant berthnasol.

Ynghlwm, mae cylchlythyr iechyd Cymru sy'n rhoi gwybod i fyrddau iechyd y bydd yr hysbysiad newid safonau data hwn yn cael ei weithredu o fis Ebrill 2026 ymlaen, pan fydd y ffurflen gyfanredol yn cael ei thynnu'n ôl. Byddwn yn gofyn i bob bwrdd iechyd sicrhau bod y diweddariadau angenrheidiol yn cael eu gwneud i'w systemau gweinyddu cleifion a rheoli gwybodaeth i gydymffurfio'n llawn â'r hysbysiad newid safonau data a'r amserlenni a nodwyd.

Yn gywir

Lesley Law
Pennaeth Polisi Gofal a Gynlluniwyd
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar
Llywodraeth Cymru

Copi at:

  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a Phrif Weithredwr GIG Cymru, Llywodraeth Cymru
  • Nick Wood, Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru, Llywodraeth Cymru
  • Jeremy Griffiths, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Llywodraeth Cymru
  • Andrew Sallows, Cyfarwyddwr Rhaglen Gofal a Gynlluniwyd
  • Philip Barry, Cyfarwyddwr Gwelliant Gweithredol, Perfformiad a Gwella'r GIG
  • Marilize du Preez, Arweinydd Proffesiynol ar gyfer y Polisi 3A
  • Liz Davies, Arweinydd Polisi Gofal a Gynlluniwyd, Perfformiad a Gwella'r GIG
  • Helen Roberts, Perfformiad GIG Cymru, Llywodraeth Cymru
  • Alex Percival, Pennaeth Rhaglenni Gofal a Gynlluniwyd, Iechyd a Gofal Digidol Cymru