Sicrhau bod cynnwys wedi'i fewnblannu yn bodloni gofynion cynnyrch LLYW.CYMRU.
Cynnwys
Problemau gyda chynnwys wedi'i fewnblannu
Mae cynnwys wedi'i fewnblannu yn cynnwys unrhyw beth sy'n cael ei we-letya y tu allan i'r wefan y mae'n cael ei gyflwyno arni. Er enghraifft, mae craidd LLYW.CYMRU yn cyflwyno fideos sy'n cael eu gwe-letya ar YouTube.
Gall cynnwys wedi'i fewnblannu ychwanegu nodweddion defnyddiol, fodd bynnag, mae risgiau yn gysylltiedig â'r cynnwys hwn oherwydd sut y caiff ei we-letya, gan gynnwys:
- cydymffurfio â chwcis, er enghraifft gosod cwcis trydydd parti
- hygyrchedd, mae cynnwys wedi'i fewnblannu yn tueddu i fod yn llai hygyrch
- diogelwch, rydym yn dibynnu ar ddiogelwch y gwasanaeth allanol
- chwilio, nid yw cynnwys wedi'i fewnblannu fel arfer yn cael ei ystyried yn rhan o'r wefan
- dyluniad, efallai na fydd cynnwys wedi'i fewnblannu yn dilyn system ddylunio GEL LLYW.CYMRU
Cynhyrchion y tu allan i graidd LLYW.CYMRU
Rhaid i berchennog y cynnyrch ystyried y problemau a sicrhau bod cynnwys wedi'i fewnblannu yn bodloni gofynion cynnyrch LLYW.CYMRU.
Craidd LLYW.CYMRU
Yng nghraidd LLYW.CYMRU, gellir mewnblannu'r canlynol:
- fideos YouTube sy'n cael eu gwe-letya ar sianel sydd wedi'i chymeradwyo gan Lywodraeth Cymru
- mapiau sy'n cael eu gwe-letya ar DataMapCymru
- delweddau data Power BI sy'n cael eu gwe-letya a’u cymeradwyo gan y Gwasanaeth Delweddu Data
Cyn mewnblannu unrhyw beth arall, mae angen cymeradwyaeth gan y Tîm Digidol Corfforaethol, e-bost digidol@llyw.cymru.
