Neidio i'r prif gynnwy

Cerrig milltir cenedlaethol

Mae’r cerrig milltir yn dargedau cenhedlaeth sy’n disgrifio cyflymder a graddfa’r newid sydd ei angen mewn meysydd allweddol o dan y 7 nod llesiant. Ym mis Rhagfyr 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y cam cyntaf o gerrig milltir cenedlaethol Cymru, gyda’r ail gam yn cael ei osod ym mis Tachwedd 2022. Mae cyfanswm o 17 o gerrig milltir cenedlaethol, sy’n cynnwys 16 o ddangosyddion cenedlaethol. 

Nod y bennod hon yw asesu cynnydd y cerrig milltir cenedlaethol. Asesir y newid ers 2015, gan mai dyma oedd blwyddyn sefydlu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, er nad oedd y cerrig milltir eu hunain wedi’u gosod tan yn ddiweddarach. Os nad oedd data ar gael ar gyfer 2015, defnyddiwyd y flwyddyn agosaf bosibl.

Mae’r asesiad yn y bennod hon yn ein helpu i ddeall a chyfleu cynnydd tuag at y nodau a’r cerrig milltir, ond ni ddylid ei ddefnyddio o reidrwydd i werthuso effaith Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol gan y bydd nifer o ffactorau eraill yn dylanwadu ar gyfeiriad rhai dangosyddion. Mae hefyd yn bwysig ystyried dangosyddion a cherrig milltir yng nghyd-destun tueddiadau tymor hirach cyn 2015, sy’n cael eu cyflwyno ym mhenodau canlynol yr adroddiad hwn. 

Rydym yn nodi bod pob mesur naill ai wedi gwella, wedi dirywio, heb newid neu heb ei asesu. Lle bo’n bosibl, rydym wedi defnyddio mesurau fel arwyddocâd ystadegol i wneud yr asesiad hwn. Yn ein hasesiad, nid ydym wedi ystyried a yw’r cerrig milltir ar y trywydd iawn i gael eu cyflawni, dim ond asesu cyfeiriad y newid. 

Cynnydd tuag at y cerrig milltir

Mae sawl rhan i rai o’r 17 o gerrig milltir, felly fe wnaethom ni asesu cyfanswm o 20 cynnydd i gyd. Aseswyd bod deg o’r rhain wedi gwella ers 2015 (neu’r flwyddyn agosaf bosibl), sy’n awgrymu bod Cymru’n mynd i’r cyfeiriad iawn tuag at y garreg filltir. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, er y gallai’r duedd fod yn symud i’r cyfeiriad cywir, bydd angen i ni symud yn gyflymach i gyrraedd y targed erbyn 2050. Roedd pedair carreg filltir yn dangos dirywiad ac nid oedd chwech arall yn dangos fawr ddim newid, os o gwbl. 

Ar gyfer un garreg filltir (perfformiad ynni cartrefi) nid oes modd asesu cynnydd oherwydd mai dim ond gwerth blwyddyn o ddata sydd ar gael. 

Yn y rhan fwyaf o achosion, roedd y cerrig milltir yn parhau i ddilyn tuedd tymor hirach a sefydlwyd cyn 2015. Mae tueddiadau tymor hirach, a dadansoddiad manylach o’r cerrig milltir, wedi’u cynnwys yn y penodau perthnasol drwy gydol adroddiad Llesiant Cymru.

Mae adrannau canlynol y bennod hon yn nodi’r asesiad cynnydd ar gyfer pob carreg filltir.

Cynyddu disgwyliad oes iach oedolion a lleihau'r bwlch rhwng disgwyliad oes iach yn yr ardaloedd o amddifadedd lleiaf a mwyaf o leiaf 15% erbyn 2050

Wedi dirywio: disgwyliad oes iach oedolion rhwng 2015 i 2017 a 2021 i 2023

Wedi dirywio: y bwlch mewn disgwyliad oes iach menywod rhwng yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig rhwng 2015 i 2017 a 2020 i 2022. Mae'r bwlch mewn disgwyliad oes iach dynion wedi aros yn sefydlog.

Ffigur 1: bwlch mewn disgwyliad oes iach rhwng yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf a lleiaf, dynion a menywod, rhwng 2015 i 2017 a 2020 i 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 1: siart linell yn dangos bod disgwyliad oes iach adeg geni wedi gostwng i fenywod o 62.0 o flynyddoedd yn 2015 i 2017 i 59.6 o flynyddoedd yn 2021 i 2023 a dynion o 61.2 o flynyddoedd yn 2015 i 2017 i 60.3 o flynyddoedd yn 2021 i 2023. Mae'n ymddangos bod y bwlch mewn disgwyliad oes iach rhwng yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf a lleiaf hefyd wedi dirywio i fenywod (o 17.6 i 20.2 o flynyddoedd). Mae'r bwlch yn nisgwyliad oes iach dynion wedi aros yn gymharol sefydlog (o 17.0 i 16.4 o flynyddoedd) rhwng 2015 i 2017 a 2020 i 2022. 

Ffynhonnell: Offeryn adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd, Iechyd Cyhoeddus Cymru

[Nodyn 1] Nid yw echelin y yn cychwyn ar sero

Cynyddu’r ganran o oedolion sydd â 2 neu fwy o ymddygiadau iach i fwy na 97% erbyn 2050

Wedi gwella: rhwng blynyddoedd ariannol 2020 i 2021 a 2024 i 2025

Ffigur 2: canran yr oedolion sydd â 2 neu fwy o ymddygiadau ffordd iach o fyw, rhwng blynyddoedd ariannol 2016 i 2017 a 2024 i 2025 [Nodyn 1], [Nodyn 2], [Nodyn 3], [Nodyn 4]

Image

Disgrifiad o ffigur 2: siart linell yn dangos bod canran yr oedolion â 2 ymddygiad iach neu fwy wedi dirywio o 2016 i 2017 i 2019 i 2020. Mae'n ymddangos bod y duedd ers 2020 i 2021 wedi gwella i tua’r un lefelau a welwyd yn 2016 i 2017 ond nid oes modd cymharu'n uniongyrchol, oherwydd newid yn y dull adrodd.

Ffynhonnell:  Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

[Nodyn 1] Nid oes modd cymharu canlyniadau 2020 i 2021 â blynyddoedd blaenorol oherwydd newidiadau yn yr arolwg

[Nodyn 2] Mae’r canlyniadau o 2020 i 2021 ar gyfer Ionawr i Fawrth yn unig ac nid ar gyfer data blynyddol

[Nodyn 3] Ni chynhaliwyd yr Arolwg Cenedlaethol yn 2023 i 2024 felly nid oes data ar gyfer y flwyddyn honno

[Nodyn 4] Nid yw echelin y yn cychwyn ar sero

Cynyddu canran y plant sydd â 2 ymddygiad iach neu fwy i 94% erbyn 2035 ac i dros 99% erbyn 2050

Wedi gwella: rhwng blynyddoedd academaidd 2017 i 2018 a 2023 i 2024

Ffigur 3: canran y bobl ifanc 11-16 oed gyda 2 neu ragor o ymddygiadau iach, 2017 i 2018 (blwyddyn academaidd) i 2023 i 2024 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 3: siart linell yn dangos bod canran y bobl ifanc 11-16 oed â 2 ymddygiad iach neu fwy wedi gwella o 88.5% yn 2017 i 90.7% yn bwyddyn academaidd 2023 i 2024.

Ffynhonnell: Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion

[Nodyn 1] Nid yw echelin y yn cychwyn ar sero

Bydd gan 75% o'r oedolion o oedran gweithio yng Nghymru gymhwyster lefel 3 neu uwch erbyn 2050

Wedi gwella: rhwng 2015 a 2024 

Ffigur 4: canran yr oedolion o oedran gweithio (18 i 64 oed) sydd â chymhwyster Lefel 3 neu uwch, 2015 i 2024

Image

Disgrifiad o ffigur 4: siart linell yn dangos bod 68.6% o oedolion o oedran gweithio yng Nghymru, yn ôl yr amcangyfrifon, wedi cymhwyso i lefel 3 neu uwch yn 2024. Mae’r ffigur hwn yn debygol o fod yn uwch nag y byddai wedi bod fel arall, yn dilyn y newidiadau i’r cwestiynau yn yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth i adlewyrchu’r fframwaith cymwysterau presennol yn 2022. Yn 2015 amcangyfrifwyd bod 56.6% o oedolion o oedran gweithio wedi cymhwyso i lefel 3 neu uwch yn unol â’r fframwaith cymwysterau a oedd ar waith bryd hynny. 

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol

[Nodyn 1] Ni ellir cymharu amcangyfrifon ar gyfer 2022 ymlaen â blynyddoedd blaenorol yn dilyn newidiadau i’r cwestiynau ar gymwysterau Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.

Canran yr oedolion o oedran gweithio sydd heb unrhyw gymwysterau fydd 5% neu lai ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn 2050

Wedi gwella: rhwng 2015 a 2024

Ffigur 5: cyfran y boblogaeth oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau yn ôl awdurdod lleol, 2024

Image

Disgrifiad o ffigur 5: siart far yn dangos bod 6 awdurdod lleol ar hyn o bryd lle mae canran yr oedolion o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau yn is na 5%: Ceredigion, Powys, Wrecsam, Sir Fynwy, Gwynedd a Bro Morgannwg. Nid oedd un yn 2015.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Gwella incwm gwario gros aelwydydd (GDHI) y pen yng Nghymru erbyn 2035 ac ymrwymo i osod targed twf ymestynnol ar gyfer 2050

Dim newid: rhwng 2015 a 2023

Ffigur 6: GDHI y pen yng Nghymru, £ a mynegai (y DU = 100), 2015 i 2023

Image

Disgrifiad o ffigur 6: dwy siart linell yn dangos GDHI y pen a mynegai GDHI, o'i gymharu â'r DU. Mae GDHI y pen yng Nghymru wedi cynyddu mewn gwerth arian parod dros y cyfnod 2015 i 2023, o £15,600 yn 2015 i £20,100 yn 2023; cynnydd o 29.2%. Nid yw hyn yn ystyried chwyddiant dros y cyfnod. Fodd bynnag, mae GDHI y pen o’i gymharu â’r Deyrnas Unedig (fel y dangosir gan y mynegai), sydd yn ystyried chwyddiant drwy edrych ar y newid cymharol, hefyd wedi gostwng ychydig dros y cyfnod 2015 i 2023 o 82.0% i 81.1%.

Ffynhonnell: GDHI Rhanbarthol, Cyfrifon Rhanbarthol, SYG

Dim ond ei chyfran deg o adnoddau’r ddaear y bydd Cymru yn ei defnyddio erbyn 2050

Wedi gwella: rhwng 2014 a 2018

Ffigur 7: ôl troed byd-eang (gha) y pen, 2014 i 2018

Image

Disgrifiad o ffigur 7: siart linell yn dangos bod ôl troed byd-eang y pen wedi gostwng 11% rhwng 2014 a 2018. Roedd yr ôl troed byd-eang y pen yn 3.9 gha y pen yn 2018, o'i gymharu â 4.4 gha y pen yn 2014. 

Ffynhonnell: Deall Ôl Troed Amgylcheddol Byd-eang ac Effeithiau Defnydd Cymru, JNCC

Dileu’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ac sy’n gysylltiedig ag anabledd ac ethnigrwydd erbyn 2050

Y bwlch cyflog rhwng y rhywiau: Wedi gwella rhwng 2015 a 2024

Bwlch cyflog anabledd: Dim newid rhwng 2015 a 2024 

Bwlch cyflog ethnigrwydd: Dim newid rhwng 2015 a 2024 

Ffigur 8: y gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru (canolrif enillion yr awr ar gyfer gweithwyr llawnamser, heb gynnwys goramser), mis Ebrill 2015 i fis Ebrill 2024

Image

Disgrifiad o ffigur 8: siart linell y dangos ers mis Ebrill 2015, bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar sail llawnamser canolrifol fesul awr (ac eithrio goramser) wedi lleihau, o 7.4% i 1.9% ym mis Ebrill 2024.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion.

Ffigur 9: gwahaniaethau cyflog ethnigrwydd ac anabledd yng Nghymru (canolrif enillion fesul awr, pob gweithiwr), y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Rhagfyr 2015 i fis Rhagfyr 2024

Image

Disgrifiad o ffigur 9: siart linell yn dangos bod y bylchau cyflog ethnigrwydd ac anabledd wedi bod yn anwadal dros y cyfnod ers 2015. Gostyngodd y bwlch cyflog ethnigrwydd o 12.0% yn 2015 i 1.4% yn 2019, ond yna cynyddodd i 16.4% yn 2022, ers hynny mae wedi gostwng i 3.6% yn 2024. Cynyddodd y bwlch cyflog anabledd o 12.2% yn 2015 i uchafbwynt o 15.1% yn 2019 ond mae wedi gostwng i 7.8% yn 2024. Nid yw'r newid rhwng 2015 a 2024 yn arwyddocaol yn ystadegol ar gyfer ethnigrwydd nac anabledd. 

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth.

Lleihau’r bwlch tlodi rhwng pobl yng Nghymru sydd â rhai nodweddion allweddol a gwarchodedig (sy’n golygu eu bod fwyaf tebygol o fod mewn tlodi) a’r rhai heb y nodweddion hynny erbyn 2035. Ymrwymo i osod targed ymestynnol ar gyfer 2050

Nid yw’r nodweddion sydd wedi’u cynnwys yng nghwmpas y garreg filltir hon wedi cael eu cytuno eto. Yn y cyfamser, mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar wahaniaethau rhwng grwpiau oedran eang. 

Dim newid: rhwng grwpiau oedran eang rhwng y cyfnod o dair blynedd hyd at fis Mawrth 2015 a’r cyfnod o dair blynedd hyd at fis Mawrth 2023

Ffigur 10: canran o bob grŵp oedran yng Nghymru sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai), cyfartaleddau 3 blynedd ariannol

Image

Disgrifiad o ffigur 10: siart linell yn dangos mai plant yw’r grŵp oedran sydd fwyaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol yn gyson. Roedd 31% o blant mewn tlodi incwm cymharol yn y cyfnod o dair blynedd hyd at fis Mawrth 2024, yr un fath ag yn y cyfnod o dair blynedd hyd at fis Mawrth 2014. 9.0 pwynt canran oedd y bwlch rhwng canran y plant mewn tlodi a chanran y boblogaeth gyfan mewn tlodi yn y cyfnod o 3 blynedd tan fis Mawrth 2024, o’i gymharu â 8.3 yn y cyfnod hyd at fis Mawrth 2014 er nad yw’r rhain yn newidiadau arwyddocaol yn ystadegol 

Ffynhonnell: Tlodi Incwm Cymharol: Ebrill 2023 i Mawrth 2024

Dileu’r bwlch rhwng y gyfradd cyflogaeth yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig erbyn 2050, gan ganolbwyntio ar waith teg a chynyddu cyfranogiad yn y farchnad lafur ymysg grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol

Wedi gwella: rhwng y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2015 a’r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2025

Ffigur 11: cyfradd cyflogaeth pobl rhwng 16 a 64 oed, y Deyrnas Unedig a Chymru, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2015 i fis Mawrth 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 11: siart linell yn dangos bod y bwlch mewn cyfraddau cyflogaeth rhwng Cymru a’r Deyrnas Unedig wedi amrywio ers y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2015, ond mae’r bwlch wedi lleihau’n gyffredinol. 

Mae’r bwlch mewn cyfraddau cyflogaeth rhwng Cymru a’r Deyrnas Unedig wedi lleihau rhwng y blynyddoedd a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2015 a mis Mawrth 2025, gyda’r bwlch yn gostwng o 3.3 i 2.0 pwynt canran dros y cyfnod hwn. 

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth.

Bydd o leiaf 90% o bobl ifanc 16-24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2050

Wedi gwella: rhwng 2015 a 2023

Ffigur 12: cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a’r farchnad lafur, yn ôl grŵp oedran, Cymru, 2015 i 2023

Image

Disgrifiad o ffigur 12: siart linell yn dangos bod cyfran y bobl ifanc 16 i 24 oed sydd mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant wedi amrywio rhwng 2015 a 2023, ond mae wedi gwella ar y cyfan.

Mae’r amcangyfrifon dros dro yn dangos bod 86.4% o bobl ifanc 16 i 24 oed mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yn 2023, i fyny o 83.9% yn 2015. Mae cyfran y bobl ifanc mewn addysg, cyflogaeth a hyfforddiant hefyd wedi cynyddu ar gyfer y grŵp oedran 16 i 18 (yn cynyddu ychydig o 89.8% i 89.9%) a'r grŵp oedran 19 i 24 (yn cynyddu o 81.4% i 84.8%).

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, y Brifysgol Agored a CCAUC.

[Nodyn 1]: mae’r ffigurau ar gyfer 2023 yn rhai dros dro.

Cynyddu canran y bobl sy’n gwirfoddoli 10% erbyn 2050, gan ddangos statws Cymru fel cenedl sy'n gwirfoddoli

Wedi gwella: rhwng y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2017 a’r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2025

Ffigur 13: canran y bobl sy’n gwirfoddoli, blwyddyn ariannol rhwng 2016 i 2017 a 2024 i 2025

Image

Disgrifiad o ffigur 13: siart linell yn dangos bod canran y bobl sy’n dweud eu bod wedi gwirfoddoli wedi cynyddu yn gyffredinol, o 28% yn 2016 i 2017 i 32% yn 2024 - 2025, er gwaethaf gostyngiad bach yn 2019 i 2020. Cyrhaeddwyd y garreg filltir genedlaethol.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru.

Gwella llesiant meddyliol cymedrig oedolion a phlant a dileu’r bwlch mewn llesiant meddyliol cymedrig oedolion a phlant rhwng yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf a lleiaf yng Nghymru erbyn 2050

Dim newid: i oedolion rhwng blwyddyn ariannol 2016 i 2017 a 2018 i 2019 na rhwng 2021 i 2022 a 2024 i 2025

Wedi dirywio: i blant rhwng 2017 a 2023

Ffigur 14: Sgôr Gyfartalog Graddfa Llesiant Meddyliol Warwick-Caeredin ar gyfer oedolion, yn ôl amddifadedd, blwyddyn ariannol 2016 i 2017 a 2024 i 2025 [Nodyn 1], [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o ffigur 14: siart linell yn dangos nad oedd sgôr gyfartalog Graddfa Llesiant Meddyliol Warwick-Caeredin (WEMWBS) ar gyfer oedolion yn dangos unrhyw newid sylweddol rhwng blwyddyn ariannol 2016 i 17 a 2019 i 2020 nac ers 2020 i 2021. Mae’n ymddangos bod y bwlch yn sgôr gyfartalog WEMWBS rhwng y rheini o’r ardaloedd o amddifadedd mwyaf a lleiaf wedi ehangu ers 2020 i 2021.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

[Nodyn 1] Nid oes modd cymharu canlyniadau 2020 i 2021 â blynyddoedd blaenorol oherwydd newidiadau yn yr arolwg

[Nodyn 2] Nid yw echelin y yn cychwyn ar sero

Ffigur 15: Sgôr Gyfartalog Graddfa Fer Llesiant Meddyliol Warwick-Caeredin ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed, yn ôl cyfoeth, 2017 i 2018 (blwyddyn academaidd) hyd at 2023 i 2024 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 15: siart linell yn dangos bod sgôr gyfartalog Graddfa Fer Llesiant Meddyliol Warwick-Caeredin (SWEMWBS) ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed wedi gostwng o 24.0 yn blwyddyn ariannol 2017 i 2018 i 23.5 yn 2023 i 2024. Mae'r bwlch yn sgôr gyfartalog SWEMWBS rhwng y rhai o olud teuluol isel ac uchel wedi ehangu o 1.7 yn 2017 i 2018 i 2.0 yn 2023 i 2024. 

Ffynhonnell: Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion

[Nodyn 1] Nid yw echelin y yn cychwyn ar sero

Bydd perfformiad ynni pob cartref yng Nghymru yn ddigonol a chost-effeithiol erbyn 2050

Newid heb ei asesu 

Yn ôl Arolwg Cyflwr Tai Cymru blwyddyn ariannol 2017 i 2018, ystyriwyd bod perfformiad ynni 47% o anheddau preswyl yn ddigonol (sgôr SAP o 65 neu uwch). Nid oes data mwy diweddar ar gael. 

Miliwn o siaradwyr erbyn 2050

Wedi dirywio: rhwng 2011 a 2021

Ffigur 16: nifer y bobl tair oed a hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg, 2011 i 2021

Image

Disgrifiad o ffigur 16: siart golofn yn dangos bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng o 562,000 yn 2011 i 538,000 yn 2021. Dros yr hirdymor, mae nifer y siaradwyr Cymraeg wedi bod yn gostwng, i lawr o bron i filiwn o bobl yn 1911 i 538,000 yn y cyfrifiad diweddaraf. 

Ffynhonnell: Cyfrifiad poblogaeth

Bydd Cymru yn cyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net erbyn 2050

Wedi gwella: rhwng 2015 a 2023

Ffigur 17: allyriadau nwyon tŷ gwydr, 2015 i 2023 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 17: siart linell yn dangos yn 2023, bod yr allyriadau a ryddhawyd i’r atmosffer yn uniongyrchol o Gymru a elwir yn allyriadau tiriogaethol yn dod i gyfanswm o 34.1 miliwn o dunelli o garbon deuocsid cyfatebol. Roedd yn 46.2 yn 2015. Bu gostyngiad o 26% rhwng 2015 a 2023.

Ffynhonnell: Rhestr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol

[Nodyn 1]: mae’r ffigurau a gyhoeddwyd yn flaenorol wedi cael eu diwygio a’u marcio â (r)

Gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth drwy wella statws rhywogaethau ac ecosystemau erbyn 2030 a’u hadferiad clir erbyn 2050

Dim newid: rhwng 2011 a 2016

Ffynhonnell: Statws Amrywiaeth Fiolegol yng Nghymru (ERAMMP)

Dros gyfnod hirdymor (1970 i 2016), roedd y newid mewn mynegai dosbarthiad ar gyfer rhywogaethau blaenoriaeth adran 7 yng Nghymru wedi gostwng i 87% o’i werth sylfaenol yn 1970. Dros y cyfnod byr (2011 i 2016), cynyddodd gwerth y dangosydd o 85 i 87 ac aseswyd ei fod yn sefydlog.