Tlodi incwm cymharol
Pobl sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol yw’r rhai sy’n byw mewn aelwyd lle mae cyfanswm incwm yr aelwyd o bob ffynhonnell yn llai na 60% o incwm cyfartalog aelwydydd y Deyrnas Unedig (fel sy’n cael ei roi gan y canolrif).
Ar gyfer rhanbarthau a gwledydd y Deyrnas Unedig, mae’r data diweddaraf a gyhoeddwyd ar gyfer y cyfnod o dair blynedd rhwng y blynyddoedd ariannol 2021 i 2022 a 2023 i 2024.
Rhwng 2021 to 2022 a 2023 i 2024, roedd 22% o holl bobl Cymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl talu costau tai). Mae plant yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol ar 31% yn y cyfnod tair blynedd ddiweddaraf nag oedolion o oedran gweithio (21%) a phensiynwyr (16%).
Mae canran y bobl sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol wedi bod yn gymharol sefydlog yng Nghymru ers dros 18 mlynedd, gyda phlant yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol na’r boblogaeth yn gyffredinol. Er bod cyfraddau’r bobl sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol yng Nghymru wedi cynyddu i blant ac wedi gostwng i bensiynwyr yn y cyfnod diweddaraf, nid oedd yr un o’r newidiadau hyn yn arwyddocaol yn ystadegol.
Ffigur 1.7: canran o bob grŵp oedran yng Nghymru sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai), cyfartaleddau tair blynedd ariannol [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 1.7: siart linell yn dangos pobl yng Nghymru sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl talu costau tai) o 1997 ymlaen. Mae canran y bobl sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol wedi bod yn gymharol sefydlog yng Nghymru ers dros 18 mlynedd, gyda phlant yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol na’r boblogaeth yn gyffredinol.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o set ddata Cartrefi Islaw’r Incwm Cyfartalog, yr Adran Gwaith a Phensiynau, yn seiliedig ar yr Arolwg o Adnoddau Teulu
[Nodyn 1] Nid yw’r amcangyfrifon ar gyfer cyfnodau sy’n cwmpasu 2020 i 2021 yn cynnwys y data a gasglwyd yn ystod 2020 i 2021 yn y cyfrifiadau. Ar gyfer y tri chyfnod hynny, mae amcangyfrifon a gyfrifwyd yn flaenorol fel cyfartaleddau treigl tair blynedd yn seiliedig ar gyfartaleddau treigl dwy flynedd sy’n hepgor data arolwg 2020i 2021. Mae amcangyfrifon 2020 i 2021 yn annibynadwy gan eu bod yn seiliedig ar ddata a gasglwyd yn ystod blwyddyn gyntaf pandemig y coronafeirws (COVID-19), pan effeithiodd rheolau’r cyfyngiadau symud yn ddifrifol ar brosesau casglu data.
Ystyrir bod rhywun mewn tlodi parhaus os yw ef neu hi mewn tlodi incwm cymharol mewn o leiaf tair o bob pedair blynedd yn olynol. Mae data o arolwg Understanding Society yn dangos bod tebygolrwydd o 12% y byddai unigolyn yng Nghymru mewn tlodi parhaus rhwng 2019 a 2023 (ar ôl talu costau tai). Roedd plentyn yng Nghymru ychydig yn fwy tebygol o fod mewn tlodi parhaus, sef 16%.
Amddifadedd materol
Mae amddifadedd materol yn fesur o safonau byw, a diffinnir bod unigolyn yn byw mewn amddifadedd materol os nad yw’n gallu cael gafael ar nifer penodol o nwyddau a gwasanaethau.
Daw'r data ar amddifadedd materol o Arolwg Cenedlaethol Cymru.. Roedd parhau â chyfyngiadau pandemig COVID-19 i fewn i flwyddyn ariannol 2021 i 2022 wedi effeithio ar fesur amddifadedd materol. Roedd y cyfyngiadau a oedd ar waith yn effeithio ar fynediad pobl at rai cyfleoedd neu wasanaethau cymdeithasol, waeth beth fo’r amddifadedd neu’r cyfyngiadau ariannol.
Mae materion gwaith maes ar gyfer Arolwg Cenedlaethol Cymru yn 2024 i 2025 wedi arwain at feintiau sampl llai nag yn y blynyddoedd blaenorol a rhai gwahaniaethau yng nghyfansoddiad y sampl. Gall hyn gael effaith ar yr amcangyfrifon o amddifadedd materol ar gyfer eleni. Gweler adroddiad ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru am ragor o wybodaeth.
Yn y blynyddoedd cyn y pandemig, gostyngodd canran yr oedolion o oedran gweithio mewn amddifadedd materol o 19% yn 2017 i 2018 i 16% yn 2019 i 2020. Roedd gostyngiad hefyd mewn amddifadedd materol ymysg pensiynwyr (o 7% i 4% yn y cyfnod).
Yn fwy diweddar, rhwng 2021 i 2022 a 2024 i 2025, cododd lefelau amddifadedd materol rhwng 2021 i 2022 a 2022 i 2023 ar gyfer oedolion o oedran gweithio i 19% cyn disgyn yn ôl i 14% yn 2024 i 2025. Mae lefelau amddifadedd materol ar gyfer pensiynwyr wedi aros o gwmpas 4% i 5% ers 2018 i 2019.
Mae data cynharach o 2022 i 2023 yn dangos fod 25% o’r bobl a oedd â phlant yn eu haelwyd mewn amddifadedd materol, o’i gymharu ag 11% o bobl mewn aelwydydd heb blant. Fodd bynnag, roedd gan gyfran is o rieni blant a oedd yn profi amddifadedd materol eu hunain (9%). Roedd hyn yn gynnydd o’r adeg y’i mesurwyd diwethaf yn 2019 i 2020, pan oedd gan 6% o rieni blant a oedd yn profi amddifadedd materol.
Ffigur 1.8: canran y bobl mewn amddifadedd materol yng Nghymru, y blynyddoedd ariannol a ddaeth i ben 2016-17 i 2024-25 [Nodyn 1] [Nodyn 2] [Nodyn 3] [Nodyn 4]
Disgrifiad o ffigur 1.8: graff llinell yn dangos bod cyfran yr oedolion o oedran gweithio a phensiynwyr a oedd mewn amddifadedd materol wedi gostwng cyn y pandemig tra bod y duedd ar gyfer plant yn gymharol sefydlog. Mae’r gyfran ar gyfer pob un o’r grwpiau hyn wedi codi eto yn 2022 i 2023 cyn disgyn i o gwmpas lefelau 2021 i 2022 yn 2024 i 2025 (lle mae data ar gael).
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru
[Nodyn 1] Ni chasglwyd data amddifadedd materol ar gyfer blwyddyn arolwg 2020 i 2021.
[Nodyn 2] Ar gyfer 2021 i 2022 a 2022 i 2023, nid oes modd cymharu ystadegau amddifadedd materol yn gwbl deg â’r cyfnod cyn y pandemig. Fe wnaeth yr Arolwg Cenedlaethol newid o arolwg wyneb yn wyneb i arolwg dros y ffôn, a gallai hyn fod wedi dylanwadu ar sut y gwnaeth yr ymatebwyr ateb y cwestiynau amddifadedd materol
[Nodyn 3] Mae materion gwaith maes ar gyfer Arolwg Cenedlaethol Cymru yn 2024 i 2025 wedi arwain at feintiau sampl llai nag yn y blynyddoedd blaenorol a rhai gwahaniaethau yng nghyfansoddiad y sampl. Gall hyn gael effaith ar yr amcangyfrifon o amddifadedd materol ar gyfer eleni
[Nodyn 4] Nid yw canran y plant mewn amddifadedd materol ar gael ar gyfer blwyddyn yr arolwg 2024 i 2025.
Incwm a wariwyd ar gostau tai
Mae’r dangosydd cenedlaethol ar ganran yr aelwydydd sy’n gwario 30% neu fwy o’u hincwm ar gostau tai yn seiliedig ar ddata o Arolwg Adnoddau Teulu yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Ar gyfer y cyfnod diweddaraf (blynyddoedd ariannol 2021 i 2022 i 2023 i 2024), roedd 15% o aelwydydd yn gwario 30% neu fwy o’u hincwm ar gostau tai, ond mae hyn yn amrywio o ran deiliadaeth.
Mae 3% o aelwydydd sy’n berchen ar eu cartref eu hunain yn llwyr a 8% o’r rhai sy’n berchen ar gartref gyda morgais yn gwario 30% neu fwy o’u hincwm ar gostau tai. Mae'r canrannau'n uwch ar gyfer deiliadaethau eraill, gyda 37% o'r rhai mewn tai rhent preifat a 36% o'r rhai mewn tai rhent cymdeithasol yn gwario 30% neu fwy o'u hincwm ar gostau tai.
Er ei bod yn ymddangos bod canran yr aelwydydd sy'n gwario 30% neu fwy o'u hincwm ar gostau tai wedi gostwng yn ddiweddar (roedd y ffigurau ar gyfer y cyfnod 2011 i 2012 i 2013 i 2014 oddeutu 19%), mae'n bwysig nodi bod y ffigurau hyn yn seiliedig ar ganlyniadau'r Arolwg o Adnoddau Teulu (FRS) sydd â sampl fach ar gyfer Cymru, ac mae'n annhebygol bod y newidiadau o un flwyddyn i'r llall yn ystadegol arwyddocaol. Felly, rydym yn eich cynghori i fod yn ofalus wrth edrych ar y newidiadau dros amser. Fodd bynnag, sylwch elfen incwm y dangosydd yn ystod y cyfnodau diweddaraf yn cynnwys cynnydd yng nghefnogaeth y wladwriaeth (er enghraifft taliadau’r cymorth tanwydd, taliadau’r cynllun cymorth Costau Byw) yn ogystal â thaliadau llog uwch ar gynilion o ganlyniad i’r cyfraddau llog uwch. Ar ben hynny, efallai nad yw'r cynnydd a welwyd yng nghyfraddau llog morgeisi yn dilyn y cynnydd yng nghyfradd sylfaenol Banc Lloegr o hydref 2022 ymlaen wedi effeithio ar lawer o aelwydydd ar forgeisi cyfradd sefydlog yn ystod y cyfnod, os nad yw eu morgeisi cyfradd sefydlog wedi dod i ben eto.
Sylwch nad yw'r dangosydd hwn yn cynnwys costau ynni aelwydydd, sydd wedi bod yn codi yn ystod y blynyddoedd diwethaf, na chostau sydd ddim yn gysylltiedig â thai y mae aelwydydd yn eu hwynebu (e.e. bwyd) a fydd wedi cael effaith ehangach ar aelwydydd.
Tlodi tanwydd
Mae costau ynni aelwydydd wedi bod yn gyfnewidiol ers dechrau 2022 pan gododd prisiau ynni'n sydyn, gan gyrraedd uchafbwynt yn niwedd 2022. Maent wedi gostwng ers hynny ond maent yn dal yn llawer uwch na'r prisiau cyn 2022.
Yn y flwyddyn ariannol 2024i 2025, amcangyfrifwyd bod bil ynni cartref cyfartalog (ar sail defnydd safonol o ynni) yn £1,850, sydd 37% yn uwch nag yn 2021 i 2022. Mae cynnydd o'r fath mewn prisiau wedi effeithio ar nifer yr aelwydydd yr amcangyfrifir eu bod mewn tlodi tanwydd, gan eu bod yn debygol o fod yn gynnydd mwy na’r newidiadau i incwm.
Ystyrir bod aelwyd mewn tlodi tanwydd os nad ydynt yn gallu cadw eu cartref yn gynnes am gost resymol. Yng Nghymru, caiff hyn ei fesur fel unrhyw aelwyd a fyddai'n gorfod gwario mwy na 10% o'i hincwm ar gynnal trefn wresogi foddhaol. Mae unrhyw aelwyd sy'n gorfod gwario mwy nag 20% yn cael ei diffinio fel un sydd mewn tlodi tanwydd difrifol.
Mae'r amcangyfrifon diweddaraf sydd wedi'u modelu ar gyfer mis Hydref 2024 yn dangos yr amcangyfrifwyd bod 340,000 o aelwydydd yng Nghymru (1 o bob 4 aelwyd) mewn tlodi tanwydd. Mae hyn i fyny o tua 1 o bob 7 aelwyd ym mis Hydref 2021. Amcangyfrifir bod 63,000 o aelwydydd yng Nghymru (1 o bob 20 aelwyd) yn byw mewn tlodi tanwydd difrifol yn 2024.