Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar ffactorau sy'n cyfrannu tuag at synnwyr cryf o gymuned ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Synnwyr o gymuned (Arolwg Cenedlaethol Cymru)
Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn mesur profiadau unigolion o ymdeimlad o gymuned ar sail tri ffactor unigol:
- teimlad o berthyn i’r ardal leol
- a ydynt yn teimlo bod pobl o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu’n dda yn yr ardal
- a yw pobl yn yr ardal leol yn trin ei gilydd â pharch ac urddas
Mae’r adroddiad hwn yn seiliedig ar gyfweliadau’r Arolwg Cenedlaethol a gynhaliwyd yn 2021-22. Mae’n diweddaru’r dadansoddiad blaenorol a oedd yn seiliedig ar ganlyniadau 2018-19.
