Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar ffactorau sy'n gysylltiedig â phobl yn teimlo'n ddiogel yn eu hardal leol ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Teimlo’n ddiogel mewn ardal leol (Arolwg Cenedlaethol Cymru)
Mae’r Arolwg Cenedlaethol yn gofyn i bobl am eu profiad o ddiogelwch ar sail pedwar ffactor unigol:
- teimlo’n ddiogel gartre
- wrth gerdded
- wrth deithio mewn car
- wrth deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus
Mae’r adroddiad hwn yn seiliedig ar gyfweliadau’r Arolwg Cenedlaethol a gynhaliwyd yn 2021-22. Mae’n diweddaru’r dadansoddiad blaenorol a oedd yn seiliedig ar ganlyniadau 2018-19.
