Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Unedau Tystiolaeth yn gweithio i wella tystiolaeth am anghydraddoldeb ar gyfer unigolion â nodweddion gwarchodedig a nodweddion cysylltiedig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ebrill 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Er mwyn deall anghydraddoldeb yng Nghymru, mae ein strategaeth yn  pwysleisio'r angen am dystiolaeth i wella o ran:

  • argaeledd
  • ansawdd
  • manylder 
  • hygyrchedd

Mae gwella tystiolaeth yn galluogi'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau i ddatblygu polisïau mwy cytbwys. Gall hyn helpu i wella ymchwil ac ystadegau a gyhoeddir ar draws Llywodraeth Cymru. Y nod terfynol yw lleihau'r anghydraddoldeb sy'n wynebu pobl â nodweddion gwarchodedig. 

Yr hyn rydym yn ei wneud

Rydym yn ychwanegu at ystadegau ac ymchwil sy'n bodoli eisoes drwy fynd i'r afael â heriau hirsefydlog gyda thystiolaeth yn y maes hwn. 

Rydym yn: 

  • rhoi arweiniad i ddadansoddwyr sy'n gweithio ar ymchwil polisi ac ystadegau i helpu i gymhwyso ystyriaethau cydraddoldeb.
  • rhoi cefnogaeth i sicrhau bod cynlluniau cydraddoldeb trawsbynciol yn cael eu llywio mwy gan dystiolaeth, fel y: 
    • Cynllun Cydraddoldeb Strategol.
    • Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol
    • Cynllun Gweithredu LHDTC+
    • Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau

Cytunir ar ein cynllun tystiolaeth o bryd i'w gilydd i adlewyrchu'r blaenoriaethau cydraddoldeb presennol. Mae ein cynllun hefyd yn ymateb i flaenoriaethau strategol sy'n codi.

Diweddariad ar gynnydd

Gweler ein rhestr gyhoeddedig o flaenoriaethau a'n diweddariadau ar gynnydd i randdeiliaid.