Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad sy’n cynnwys dau ddarn o waith ymchwil: arolwg o fyrddau cyrff y sector cyhoeddus ac adolygiad o lenyddiaeth berthnasol ar amrywiaeth yn y sector cyhoeddus.

Prif ganfyddiadau’r arolwg

  • Mae diffyg safoni o ran sut y cesglir ac yr adroddir ar ddata ynghylch amrywiaeth yn ei gwneud hi’n anodd adrodd ar wybodaeth am amrywiaeth ar draws Cyrff y Sector Cyhoeddus i gyd.
  • Nid yw’n bosibl pennu cyfradd ymateb gywir ar gyfer yr arolwg. Dylai’r canfyddiadau gael eu hystyried â phwyll gan bod yr wybodaeth wedi cael ei darparu gan sampl o wirfoddolwyr, ac y gall rhai grwpiau fod yn cael eu tangynrychioli neu eu gorgynrychioli yn y data.
  • O’i gymharu â chanlyniadau poblogaeth Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru, mae’r arolwg yn awgrymu bod Pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol wedi eu tangynrychioli ychydig.
  • Roedd pobl anabl wedi eu tangynrychioli yn fwy.
  • Roedd mwy o fenywod na gwrywod ar fyrddau Cyrff y Sector Cyhoeddus.
  • Roedd 9% o’r aelodau hynny o Fyrddau a ymatebodd yn uniaethu fel pobl Hoyw neu Lesbiaidd, Ddeurywiol neu fel pobl â chyfeiriadedd rhywiol lleiafrifol arall (LGB+).
  • Ni ddywedodd unrhyw ymatebwyr (0%) fod y rhywedd y maent yn uniaethu ag ef yn wahanol i’r rhyw a gofrestrwyd ar eu cyfer pan gawsant eu geni.

Prif ganfyddiadau o’r adolygiad o lenyddiaeth

  • Arolygon staff a gwblheir gan y cyflogeion eu hunain yw’r ffyrdd hawsaf o gasglu symiau mawr o ddata ynghylch amrywiaeth yn enwedig gan ddefnyddio adnoddau gweinyddol megis pyrth Adnoddau Dynol hunanwasanaeth a rhaglenni sefydlu i gyflogeion.
  • Dylai canlyniadau’r ymarfer casglu data fod ar gael yn gyhoeddus am resymau atebolrwydd ar ôl ystyried pryderon ynghylch datgelu.
  • Pan fo arweinyddiaeth corff yn y sector cyhoeddus yn amrywiol mae ganddo’n aml fwy o allu i lunio polisi sy’n rhoi cyfrif yn fwy cywir am anghenion amrywiol y cyhoedd a wasanaethir ganddo.
  • Un o’r prif sbardunau ar gyfer anghyfartalwch parhaus yng nghyrff y sector cyhoeddus yw bwlch o ran camu ymlaen sy’n fwy amlwg po uchaf fo’r rheng.
  • Gall cefndir economaidd-gymdeithasol fod yn rhwystr allweddol i gamu ymlaen yn y sector cyhoeddus.
  • Mae diffyg argaeledd data’n rhwystr i weithredu ymyriadau effeithiol.
  • Gall rhannu amcanion amrywiaeth ac atebolrwydd clir ar gyfer uwch arweinwyr wella amrywiaeth a chynrychiolaeth.
  • Mae canfyddiad am degwch yr un mor allweddol ar gyfer gwella amrywiaeth a chynhwysiant ag yw polisïau sy’n strwythuredig ac yn cael eu rhoi ar waith.
  • Mae hyfforddiant ar ragfarn ddiarwybod ac arferion cynhwysol yn bwysig fel nad yw polisïau’n cael eu hystyried yn ymarferion ticio blychau.

Cyswllt

Yr Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.