Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon poblogaeth ac aelwydydd ar gyfer grwpiau ethnig yng Nghymru yn ôl oedran, rhyw, iechyd cyffredinol, anabledd, rhoi gofal di-dâl, deiliadaeth tai, sgôr gyfanheddu, lefel addysg, cyflogaeth, a statws economaidd-gymdeithasol.

Mae'r bwletin ystadegol hwn yn cynnwys data cryno ar grwpiau ethnig yn ôl canlyniadau economaidd-gymdeithasol ar gyfer unigolion a chartrefi a oedd yn breswylwyr arferol yng Nghymru ar ddiwrnod y cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021. Mae'n dweud wrthym i ba raddau yr oedd canlyniadau o'r fath yn amrywio ar gyfer grwpiau ethnig gwahanol ledled Cymru. Mae'r bwletin hefyd yn cynnwys dadansoddiad o grwpiau ethnig yn ôl oedran a rhyw er mwyn rhoi cyd-destun. Gellir gweld yr holl ddata yn y bwletin hwn drwy adnodd llunio tablau hyblyg Cyfrifiad 2021 (SYG).

Cyswllt

Dr John Poole

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.