Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ddata Cyfrifiad 2021 ar grwpiau ethnig unigolion a chartrefi yng Nghymru ddydd Mawrth 29 Tachwedd 2022. Ar yr un diwrnod, gwnaethom gyhoeddi ein crynodeb Grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd yng Nghymru (Cyfrifiad 2021).

Mae'r bwletin ystadegol hwn yn cynnwys data cryno ar grwpiau ethnig yn ôl canlyniadau economaidd-gymdeithasol ar gyfer unigolion a chartrefi a oedd yn breswylwyr arferol yng Nghymru ar ddiwrnod y cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021. Mae'n dweud wrthym i ba raddau yr oedd canlyniadau o'r fath yn amrywio ar gyfer grwpiau ethnig gwahanol ledled Cymru. Mae'r bwletin hefyd yn cynnwys dadansoddiad o grwpiau ethnig yn ôl oedran a rhyw er mwyn rhoi cyd-destun. Gellir gweld yr holl ddata yn y bwletin hwn drwy adnodd llunio tablau hyblyg Cyfrifiad 2021 (SYG).

Bydd oedran unigolion ym mhob grŵp ethnig yn dylanwadu ar nifer o’r canlyniadau hyn. Byddant hefyd yn gorgyffwrdd, er enghraifft gallai pobl ag iechyd gwael neu’r rheini sy'n gofalu am eraill ei chael hi'n fwy anodd gweithio neu gael addysg. Bydd incwm pobl a ble maent yn byw hefyd yn cael effaith fawr ar y ffordd y maent yn byw, yn ogystal ag unrhyw wahaniaethau diwylliannol.

Ers 1991, mae'r Cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr wedi cynnwys cwestiwn am hunaniaeth ethnig. Cafodd y categorïau o grwpiau ethnig, gan gynnwys y categorïau 'eraill' lle y gellir ychwanegu ymateb, eu trefnu o fewn pum categori o grwpiau ethnig lefel uchel. Ceir rhestr lawn o'r 19 o gategorïau o grwpiau ethnig a ddadansoddir yn y bwletin hwn yn yr adran ar ansawdd a methodoleg.

Ym mis Mehefin 2022 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol sy'n cynnwys canllawiau ar iaith Gwrth-hiliol. Mae'r bwletin hwn yn defnyddio'r categorïau grwpiau ethnig a gasglwyd fel rhan o'r cyfrifiad. Nid yw'r categorïau hyn o reidrwydd yn cyd-fynd â'r canllawiau hyn.

Prif bwyntiau

  • Roedd proffil oedran pobl yng Nghymru yn amrywio'n sylweddol ar draws y grwpiau ethnig, gyda chyfrannau uwch o bobl hŷn yn y grŵp ethnig lefel uchel “Gwyn” a chyfrannau uwch o bobl iau yn y grŵp “Grwpiau cymysg ac amlethnig”.
  • Pobl yn y grŵp ethnig lefel uchel “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd” oedd fwyaf tebygol o nodi bod ganddynt “iechyd da” neu “iechyd da iawn” (88.7%) a'r rheini yn y grŵp “Gwyn” oedd leiaf tebygol o nodi hynny (78.1%).
  • Pobl yn y grŵp ethnig lefel uchel “Gwyn” oedd fwyaf tebygol o nodi eu bod yn anabl (22.2%), a'r rheini yn y grŵp “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig”, oedd leiaf tebygol o nodi hynny (9.7%).
  • Pobl yn y grŵp ethnig lefel uchel “Gwyn” oedd fwyaf tebygol o nodi eu bod yn darparu gofal di-dâl (10.8%), a'r rheini yn y grŵp “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig” oedd leiaf tebygol o nodi hynny (6.1%).
  • Pobl yn y grŵp ethnig lefel uchel “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd” oedd leiaf tebygol o fod yn berchen ar eu cartref eu hunain a fwyaf tebygol o fyw mewn tai rhent cymdeithasol (40.5%).
  • Preswylwyr arferol mewn cartrefi yn y grŵp ethnig lefel uchel “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd” oedd fwyaf tebygol (21.1%) o fod â chyfradd defnydd negyddol, gan olygu bod ganddynt llai o ystafelloedd gwely na'r hyn sydd ei angen. 
  • Pobl yn y grŵp ethnig lefel uchel “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig” oedd fwyaf tebygol o feddu ar gymwysterau ar Lefel 4 neu uwch (er enghraifft Tystysgrif Genedlaethol Uwch, Diploma Cenedlaethol Uwch, gradd Baglor a chymwysterau ôl-raddedig) (43.9%), a'r rheini yn y grŵp “Gwyn” oedd leiaf tebygol o feddu arnynt (9.3%).
  • Roedd cyflogaeth, gan gynnwys hunangyflogaeth, ar ei huchaf ymhlith pobl rhwng 16 a 64 oed yn y grŵp ethnig lefel uchel “Gwyn” (69.5%), roedd hunangyflogaeth ar ei huchaf yn y grŵp “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig” (10.2%), roedd diweithdra ar ei uchaf yn y grŵp “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd” (9.9%), ac roedd anweithgarwch economaidd ar ei uchaf yn y grŵp lefel uchel “Grŵp ethnig arall” (46.4%).
  • Pobl rhwng 16 a 64 oed yn y grŵp ethnig lefel uchel “Gwyn” oedd fwyaf tebygol o nodi bod ganddynt statws economaidd-gymdeithasol “Rheoli” (29.9% o bobl yn y grŵp hwn).

Oedran a rhyw

Y boblogaeth a gofnodwyd ar Ddiwrnod y Cyfrifiad yng Nghymru, sef 21 Mawrth 2021, oedd 3,107,494. O blith y boblogaeth hon, nododd 2.9 miliwn (93.8%) eu bod yn perthyn i'r grŵp ethnig lefel uchel “Gwyn”.

O blith y boblogaeth “Gwyn” yng Nghymru, nododd 2.8 miliwn (90.6% o boblogaeth gyfan Cymru) eu bod yn perthyn i'r grŵp “Gwyn: Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig".

O blith y grwpiau ethnig lefel uchel eraill ym mhoblogaeth Cymru, nododd 89,000 eu bod yn perthyn i'r grŵp "Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig"; nododd 49,000 eu bod yn perthyn i “Grwpiau Cymysg neu Amlethnig”; nododd 28,000 eu bod yn perthyn i'r grŵp “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd”; a nododd 26,000 eu bod yn perthyn i “Grŵp ethnig arall”.

Am ddadansoddiadau manylach o'r boblogaeth yng Nghymru yn ôl grŵp ethnig, darllenwch eich crynodeb Grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd yng Nghymru (Cyfrifiad 2021).

Grwpiau ethnig yn ôl oedran a rhyw

Roedd dosbarthiad cymharol gyfartal o rywiau ar draws y pum grŵp ethnig lefel uchel. Benywod oedd y mwyafrif yn y grwpiau ethnig lefel uchel “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig” (50.8%), “Grwpiau Cymysg neu Amlethnig” (50.5%), a “Gwyn” (51.1%), ond nhw oedd y lleiafrif yn y grwpiau ethnig lefel uchel “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd” (49%) a “Grŵp ethnig arall” (45.8%).

Roedd y dosbarthiadau oedran ar gyfer y grwpiau ethnig lefel uchel “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig”, “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd” a “Grŵp ethnig arall” yn debyg, gyda phoblogaethau uwch yn y grwpiau oedran iau, er bod nifer sylweddol uwch yn y grwpiau oedran rhwng 35 a 49 oed.

O fewn y categori “Grwpiau Cymysg neu Amlethnig”, roedd 40.5% o'r benywod a 42.2% o'r gwrywod rhwng 15 ac iau, er bod y cyfrannau hyn yn sylweddol is yn y grŵp oedran 16 i 24 oed, sef 16.5% a 17.9%, yn y drefn honno. Yn y categori ethnig hwn, dim ond 4.3% o'r benywod a 4.2% o'r gwrywod oedd yn 65 oed a throsodd.

Mae cyfran y bobl yn y grŵp ethnig lefel uchel “Gwyn” yng Nghymru yn cynyddu gydag oedran, o'r grŵp oedran 16 i 24 oed i fyny. Mae'r grŵp oedran hwn (16 i 24 oed) yn cynnwys 9.7% o fenywod a 10.7% o wrywod, o gymharu â 23.6% o fenywod a 21.1% o wrywod yn y grŵp oedran 65 a throsodd.

Ffigur 1: Cyfrannau grwpiau ethnig lefel uchel yn ôl grŵp oedran a rhyw, Cymru, 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Mae'r siart far hon yn dangos cyfran y preswylwyr arferol ym mhob grŵp ethnig lefel uchel ym mhob un o'r chwe grŵp oedran. Roedd cyfran y gwrywod a'r benywod yn is ar gyfer oedrannau hŷn yn y grŵp ethnig lefel uchel “Grwpiau Cymysg neu Amlethnig”, ond yn uwch ar gyfer oedrannau hŷn yn y grŵp ethnig lefel uchel “Gwyn”.

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

Oedrannau canolrifol grwpiau ethnig

Roedd oedrannau canolrifol yn amrywio'n sylweddol ar draws grwpiau ethnig. O fewn y “Grwpiau Cymysg neu Amlethnig” lefel uchel, roedd yr oedrannau canolrifol ar gyfer benywod yn amrywio o 16 oed ar gyfer “Gwyn a Du Affricanaidd” i 24 oed ar gyfer “Cymysg Arall”, ac roedd yr oedrannau canolrifol ar gyfer gwrywod yn amrywio o 15 oed ar gyfer “Gwyn a Du Affricanaidd” i 22 oed ar gyfer “Cymysg Arall”.

Yr oedran canolrifol ar gyfer y bobl a nododd eu bod yn “Arabaidd” oedd 25 ar gyfer benywod a 26 ar gyfer gwrywod.

O fewn y grŵp lefel uchel “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd”, yr oedran canolrifol ar gyfer y bobl a nododd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Caribïaidd” oedd 47 oed ar gyfer benywod a gwrywod, ond dim ond 22 oed ar gyfer y bobl a nododd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Du Arall”.

Roedd dosbarthiad cymharol gyfartal o oedrannau canolrifol yn y grŵp ethnig lefel uchel “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig”, yn amrywio o 27 oed ar gyfer benywod a 26 oed ar gyfer gwrywod a nododd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Bangladeshaidd” i 36 oed ar gyfer benywod a 31 oed ar gyfer gwrywod a nododd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Asiaidd Arall”.

Ymhlith y grwpiau ethnig “Gwyn” yr oedd yr oedrannau canolrifol yn amrywio fwyaf, o 25 oed ar gyfer benywod a 24 oed ar gyfer gwrywod a nododd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig”, i 56 oed ar gyfer benywod a 55 oed ar gyfer gwrywod a nododd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Gwyddelig”.

Ffigur 2: Oedrannau canolrifol grwpiau ethnig yn ôl rhyw, Cymru, 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Mae'r siart far hon yn dangos oedrannau canolrifol preswylwyr arferol ar draws y grwpiau ethnig yng Nghymru. Roedd yr oedrannau canolrifol yn amrywio'n sylweddol rhwng grwpiau gwahanol. Gwelwyd yr oedrannau canolrifol isaf ymhlith y benywod (56 oed) a'r gwrywod (55 oed) a nododd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Gwyn: Gwyddelig”. Ymhlith y bobl a nododd eu bod yn perthyn i'r grwpiau “Cymysg neu Amlethnig: Gwyn a Du Affricanaidd” (16 oed ar gyfer benywod a 15 oed ar gyfer gwrywod) a “Cymysg neu Amlethnig: Gwyn ac Asiaidd” (18 ar gyfer benywod a 17 oed ar gyfer gwrywod) y gwelwyd yr oedrannau canolrifol isaf. 

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

Iechyd cyffredinol

Gofynnwyd i breswylwyr arferol sgorio eu statws iechyd eu hunain o restr o bum opsiwn: “Iechyd da iawn”, “Iechyd da”, “Iechyd gweddol”, “Iechyd gwael” ac “Iechyd gwael iawn”.

Pobl yn y grŵp ethnig lefel uchel “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd” oedd fwyaf tebygol o nodi bod ganddynt “iechyd da” neu “iechyd da iawn” (88.7%) a'r rheini yn y grŵp lefel uchel “Gwyn” oedd leiaf tebygol o nodi hynny (78.3%).

Pobl yn y grŵp ethnig lefel uchel “Gwyn” oedd fwyaf tebygol o nodi bod ganddynt iechyd “gwael” neu “gwael iawn” (7.2%), a'r rheini yn y grŵp “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig” oedd leiaf tebygol o nodi hynny (3.2%).

O blith yr holl grwpiau ethnig unigol, y rheini a nododd eu bod yn perthyn i'r grwpiau “Affricanaidd” a “Cymysg neu Amlethnig: Gwyn ac Asiaidd” oedd fwyaf tebygol o nodi bod ganddynt “iechyd da iawn” (65.1% o bobl yn y ddau grŵp).

Y bobl a ddywedodd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Gwyn: Gwyddelig” oedd leiaf tebygol o nodi bod ganddynt iechyd “da iawn” (40.3%).  Y rheini a ddywedodd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig” a nododd y lefelau iechyd gwaethaf, gyda 10.3% ohonynt yn nodi bod ganddynt “iechyd gwael” a 4.6% yn nodi bod ganddynt “iechyd gwael iawn”.

O fewn y grŵp lefel uchel “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd”, nododd 7.6% o'r bobl a ddywedodd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Caribïaidd” fod ganddynt “iechyd gwael” neu “iechyd gwael iawn”, o gymharu â dim ond 2.3% o'r bobl a ddywedodd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Affricanaidd”.

Mae proffiliau oedran gwahanol y grwpiau ethnig yn debygol o effeithio ar y patrymau a welir o ran iechyd cyffredinol. Ni ddefnyddiwyd cyfraddau wedi'u safoni yn ôl oedran yn y dadansoddiad o iechyd ac anabledd yn y bwletin hwn. Hynny yw, rydym yn cyflwyno canran y bobl mewn grŵp ethnig sydd â statws iechyd neu anabledd penodol, heb ei haddasu ar gyfer strwythur oedran y grŵp hwnnw.

Ffigur 3: Grwpiau ethnig yn ôl statws iechyd, Cymru, 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Mae'r siart far hon yn dangos cyfran y preswylwyr arferol ym mhob grŵp iechyd sy'n perthyn i bob un o'r pum categori sy'n cynrychioli lefel yr iechyd a hunangofnodwyd ganddynt. Y bobl a ddywedodd eu bod yn perthyn i'r grwpiau “Cymysg neu Amlethnig: Gwyn ac Asiaidd”, “Cymysg neu Amlethnig: Gwyn a Du Affricanaidd” a “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd: Affricanaidd” oedd fwyaf tebygol o nodi bod ganddynt “iechyd da iawn” (ond dylid nodi bod y grwpiau hyn ymhlith y proffiliau oedran ieuengaf). Y bobl a ddywedodd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Gwyn: Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig” oedd fwyaf tebygol o nodi bod ganddynt “iechyd gwael iawn”.

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

Anabledd

Gofynnwyd i breswylwyr arferol nodi a oedd ganddynt gyflwr neu salwch corfforol neu feddyliol hirdymor (a oedd wedi para neu yr oedd disgwyl iddo bara 12 mis neu fwy), ac i ba raddau yr oedd y cyflwr neu'r salwch hwn yn effeithio ar ei weithgareddau o ddydd i ddydd. Mae'r ymatebwyr a nododd fod ganddynt gyflwr corfforol neu iechyd meddwl hirdymor a oedd yn cyfyngu 'ychydig' neu 'llawer' ar eu gweithgareddau o ddydd i ddydd wedi'u diffinio'n anabl.

Nod y dull a ddefnyddiwyd yn y Cyfrifiad yw casglu data sy'n cyd-fynd â'r diffiniad o anabledd yn y Ddeddf Cydraddoldeb (2010) (Gov.UK). Mae hwn yn seiliedig ar y model meddygol o anabledd sy'n diffinio pobl yn anabl ar sail eu nam. Yn 2002, mabwysiadodd Llywodraeth Cymru y model cymdeithasol o anabledd (Anabledd Cymru). Mae'r model hwn yn nodi ffordd wahanol o ystyried anabledd - yn hytrach na diffinio pobl yn anabl ar sail eu nam (fel yn achos y model meddygol o anabledd), mae pobl â namau yn anabl ar sail rhwystrau corfforol, ymddygiadol a sefydliadol a grëir gan gymdeithas.

Mae'r data a gynhwysir yn yr adran hon yn defnyddio diffiniad Deddf Cydraddoldeb (2010) o anabledd ac felly'n adlewyrchu'r model meddygol o anabledd. Fodd bynnag, lle bo'n bosibl, rydym wedi defnyddio iaith drwy'r bwletin hwn sy'n cyd-fynd â'r model cymdeithasol o anabledd.

Nododd 21.6% o breswylwyr arferol yng Nghymru eu bod yn anabl. Pobl yn y grŵp ethnig lefel uchel “Gwyn” oedd â'r gyfran pobl anabl uchaf (22.2%), yn cynnwys 10.6% yr oedd eu cyflwr yn effeithio 'llawer' ar eu gweithgareddau o ddydd i ddydd a 11.6% yr oedd eu cyflwr yn effeithio 'ychydig' ar eu gweithgareddau o ddydd i ddydd.

Y grŵp ethnig lefel uchel “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig” oedd â'r gyfran pobl anabl isaf (9.7%), yn cynnwys 4.1 % yr oedd eu cyflwr yn effeithio 'llawer' ar eu gweithgareddau o ddydd i ddydd a 5.6% yr oedd eu cyflwr yn effeithio 'ychydig' ar eu gweithgareddau o ddydd i ddydd.

Roedd y cyfrannau o pobl anabl yn amrywio'n sylweddol rhwng grwpiau ethnig unigol. O fewn y grŵp ethnig lefel uchel “Gwyn”, ymhlith y grŵp nodwyd yn “Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig” (29.7%) roedd y gyfran pobl anabl ar ei huchaf ac ymhlith y grŵp nodwyd yn “Arall Gwyn” (11.1%) roedd ar ei hisaf.

O fewn y grŵp ethnig lefel uchel “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd”, ymhlith y grŵp nodwyd yn “Caribïaidd” (22.0%) roedd y gyfran o pobl anabl ar ei huchaf ac ymhlith y grŵp nodwyd yn “Affricanaidd” (7.9%) roedd ar ei hisaf.

O fewn y grŵp ethnig lefel uchel “Grwpiau Cymysg neu Amlethnig, ymhlith y grŵp nodwyd yn “Cymysg: Gwyn a Du Caribïaidd” (20.2%) roedd y gyfran pobl anabl ar ei huchaf ac ymhlith y grŵp nodwyd yn “Cymysg: Gwyn ac Asiaidd” (12.6%) roedd ar ei hisaf.

O fewn y grŵp ethnig lefel uchel “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig”, ymhlith y grŵp nodwyd yn “Pacistanaidd” (13.1%) roedd y gyfran o pobl anabl ar ei huchaf ac ymhlith y rheini a ddywedodd eu bod yn “Tsieineaidd” (6.8%) roedd ar ei hisaf.

Ffigur 4: Pobl anabl yn ôl grwp ethnig, Cymru, 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Mae'r siart far hon yn dangos cyfran y preswylwyr arferol ym mhob grŵp ethnig a nododd eu bod yn anabl. Ymhlith y bobl a ddywedodd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Gwyn: Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig” roedd y gyfran a pobl anabl ar ei huchaf ac ymhlith y rheini a ddywedodd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Asiaidd, Asiaidd Cymreig, neu Asiaidd Prydeinig: Tsieineaidd” roedd ar ei hisaf.

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

Darparu gofal di-dâl

Gofynnodd y cyfrifiad i breswylwyr arferol 5 oed a throsodd yng Nghymru, “Ydych chi’n gofalu am unrhyw un, neu’n cynnig unrhyw help neu gefnogaeth i unrhyw un, oherwydd cyflwr neu salwch corfforol neu feddyliol hir dymor, neu broblemau sy’n gysylltiedig â henaint?”.  Gofynnwyd iddynt beidio â chyfrif unrhyw beth roeddent yn derbyn cyflog am ei wneud.  Gall canfyddiadau o'r cwestiwn effeithio ar y ffigurau ar gyfer gofal di-dâl. Efallai na fydd pawb sy'n darparu gofal di-dâl yn ystyried eu bod yn ofalwr di-dâl. Gall proffiliau oedran gwahanol o fewn y grwpiau ethnig hefyd effeithio ar y data.

Pobl yn y grŵp ethnig lefel uchel “Gwyn” a nododd y gyfradd uchaf o ofal di-dâl (roedd 10.8% yn treulio rhai oriau yn darparu gofal di-dâl).    O blith y grŵp hwn, roedd 4.8% o bobl yn treulio 19 awr neu lai yr wythnos yn darparu gofal, 2.2% yn treulio rhwng 20 a 49 awr yr wythnos yn darparu gofal, a 3.7% yn treulio 50 awr neu fwy yr wythnos yn darparu gofal.

Pobl yn y grŵp ethnig lefel uchel “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig” oedd leiaf tebygol o fod yn darparu gofal di-dâl (6.1%).

Roedd lefelau darparu gofal di-dâl yn amrywio'n sylweddol rhwng y grwpiau ethnig “Gwyn” gwahanol.  Y bobl a ddywedodd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig” oedd yn treulio'r amser mwyaf yn darparu gofal di-dâl, gyda 5.1% yn treulio 50 awr neu fwy yr wythnos a 4.6% yn treulio rhwng 20 a 49 awr yr wythnos yn darparu gofal.  Mae hyn yn cymharu ag 1.8% a 1.4% o bobl a ddywedodd eu bod yn perthyn i grŵp “Gwyn Arall”, yn y drefn honno.

O fewn y grŵp lefel uchel “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd”, nododd 2.5% o'r bobl a ddywedodd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Caribïaidd” eu bod yn treulio 50 awr neu fwy yr wythnos yn darparu gofal, o gymharu ag 1.4% o bobl a ddywedodd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Affricanaidd”.

O fewn y grŵp lefel uchel “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig”, roedd 2.4% o'r bobl a ddywedodd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Pacistanaidd” yn darparu 50 awr neu fwy yr wythnos o ofal di-dâl, o gymharu ag 1.2% o bobl a ddywedodd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Tsieineaidd”.

Ffigur 5: Grwpiau ethnig yn ôl lefelau darparu gofal di-dâl, Cymru, 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Mae'r siart far hon yn dangos cyfran y preswylwyr arferol ym mhob grŵp ethnig sy'n darparu gofal di-dâl, wedi'i rhannu'n dri chategori gwahanol sy'n cynrychioli nifer yr oriau o ofal di-dâl y maent yn eu darparu bob wythnos. Pobl sy'n ystyried eu bod yn perthyn i'r grŵp “Gwyn: Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig” sydd fwyaf tebygol o ddarparu gofal di-dâl a'r rheini sy'n ystyried eu bod yn perthyn i'r grŵp “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Tsieineaidd” sydd fwyaf tebygol o wneud hynny.

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

Deiliadaeth tai

Gofynnwyd i breswylwyr arferol nodi a oeddent yn berchen ar eu cartref (yn gyfan gwbl neu â morgais) neu a oeddent yn byw mewn cartref rhent. Os oeddent yn byw mewn cartref rhent, gofynnwyd iddynt pa fath o landlord oedd ganddynt (landlord preifat, cyngor, landlord cymdeithasol cofrestredig neu arall).

Pobl yn y grŵp ethnig lefel uchel “Gwyn” oedd fwyaf tebygol o fod yn berchen ar eu cartref yn gyfan gwbl (33.2%), a phobl yn y grŵp ethnig lefel uchel “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd” oedd leiaf tebygol o fod yn berchen arno'n gyfan gwbl (7.6%). Pobl yn y grŵp “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig” oedd fwyaf tebygol o fod yn berchen ar eu cartref â morgais (41.0%).

Pobl yn y grŵp ethnig lefel uchel “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd” oedd fwyaf tebygol o fod yn byw mewn tai rhent cymdeithasol, wedi'u rhentu gan yr Awdurdod Lleol neu landlord cymdeithasol cofrestredig (40.5%). Pobl yn y grŵp “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig” oedd leiaf tebygol o fod yn gwneud hynny (9.8%).

Pobl yn y “Grŵp ethnig arall” lefel uchel oedd fwyaf tebygol o fod yn rhentu'n breifat, naill ai gan landlord preifat, asiantaeth osod neu landlord arall (44.9%), a'r rheini yn y grŵp “Gwyn” oedd leiaf tebygol o fod yn gwneud hynny (16.1%).

Rhentu preifat hefyd oedd y math mwyaf cyffredin o ddeiliadaeth tai ar gyfer pobl yn y grŵp ethnig lefel uchel “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd”(42.3%).

Roedd cryn amrywio mewn deiliadaeth tai rhwng grwpiau ethnig gwahanol yn y grŵp “Gwyn” lefel uchel. Y bobl a nododd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig” (68.9%) a “Gwyddelig” (68.8%) oedd fwyaf tebygol o fod yn berchen ar eu cartref, naill ai'n gyfan gwblneu â morgais neu fenthyciad, neu drwy gynllun rhanberchnogaeth. Ar y llaw arall, y grwpiau ethnig “Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig” (23.1%) a “Roma” (18.7%) oedd leiaf tebygol o fod yn berchen ar eu cartref.

Gwelwyd llai o amrywio yn y categorïau lefel uchel sy'n weddill. Yn y grŵp lefel uchel “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig”, y bobl a nododd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Pacistanaidd” oedd fwyaf tebygol o fod yn berchen ar eu cartref eu hunain (67.2%), a'r bobl a nododd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Asiaidd Arall” oedd leiaf tebygol o fod yn berchen arno (50.8%).

Yn y grŵp ethnig lefel uchel “Grwpiau Cymysg neu Amlethnig”, y bobl a nododd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Gwyn ac Asiaidd” oedd fwyaf tebygol o fod yn berchen ar eu cartref (61.4%), a'r bobl a nododd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Gwyn a Du Affricanaidd” oedd leiaf tebygol o fod yn berchen arno (37.7%)

Yn y grŵp ethnig lefel uchel “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd”, y bobl a nododd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Caribïaidd” oedd fwyaf tebygol o fod yn berchen ar eu cartref (50.1%), a'r bobl a nododd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Affricanaidd” oedd leiaf tebygol o fod yn berchen arno (17.3%).

Ymhlith y bobl a nododd eu bod yn perthyn i'r grwpiau “Gwyn: Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig” (56.1%) a “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd: Affricanaidd” (54.5%) roedd canrannau'r bobl a oedd yn byw mewn cartrefi rhent cymdeithasol ar eu huchaf, ac ymhlith y bobl a nododd eu bod yn perthyn i'r grwpiau “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Indiaidd” (3.3%), “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Tsieineaidd” (8.8%), ac “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Pacistanaidd” (9.5%) roedd ar eu hisaf.

Ymhlith y bobl a nododd eu bod yn perthyn i'r grwpiau “Gwyn: Roma” (64.1%), “Arabaidd” (49.2%) a “Gwyn Arall” (45.2%) roedd rhentu preifat (neu fyw heb dalu rhent) fwyaf cyffredin ac ymhlith y rheini a nododd eu bod yn perthyn i'r grwpiau “Gwyn: Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig” (15.2%), “Gwyn: Gwyddelig” (19.9%) a “Gwyn: Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig” (20.7%) roedd leiaf cyffredin.

Ffigur 6: Grwpiau ethnig yn ôl deiliadaeth tai, Cymru, 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Mae'r siart far hon yn dangos cyfran y preswylwyr arferol mewn cartrefi ym mhob grŵp ethnig a oedd yn berchen ar eu cartref, yn byw mewn llety rhent cymdeithasol, neu'n byw mewn llety rhent preifat. Ymhlith y bobl a nododd eu bod yn perthyn i'r grwpiau  “Gwyn: Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig” “Gwyn: Gwyddelig” ac “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Pacistanaidd” roedd perchentyaeth ar ei huchaf, ac ymhlith y bobl a nododd eu bod yn perthyn i'r grwpiau “Gwyn: Roma” a “Du Arall” roedd ar ei hisaf.

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

[Nodyn 1] Mae'r categori “Rhentu Preifat” yn cynnwys nifer bach o bobl sy'n byw heb dalu rhent.

Sgôr gyfanheddu (ystafelloedd gwely)

Mae'r sgôr gyfanheddu yn rhoi mesur o b'un a yw cartref wedi'i orlenwi neu ei danfeddiannu. Mae sgôr gyfanheddu negatif 1 neu lai yn nodi bod gan gartref lai o ystafelloedd gwely na'r gofyniad safonol (h.y. mae'n orlawn), mae positif 1 yn nodi bod ganddo fwy o ystafelloedd gwely na'r hyn sydd ei angen (mae wedi'i danfeddiannu), ac mae 0 yn nodi ei fod yn bodloni'r safon ofynnol. Ceir rhagor o wybodaeth am y diffiniad ar gyfer defnydd o ystafelloedd gwely yng ngeirfa bwletin tai SYG.

Pobl yn y grŵp ethnig lefel uchel “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd” oedd fwyaf tebygol o fod yn byw mewn cartrefi gorlawn â chyfradd defnydd o -1 neu lai (21.1%), wedyn “Grŵp ethnig arall” (17.4%), “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig” (15.0%), “Grwpiau Cymysg neu Amlethnig” (8.3%) a “Gwyn” (4.0%).

Y grŵp ethnig lefel uchel â'r gyfran fwyaf o bobl a oedd yn byw mewn cartrefi â mwy o ystafelloedd gwely na'r hyn sydd ei angen (cyfradd defnydd o +1 neu fwy) oedd “Gwyn” (71.5%), wedyn “Grwpiau Cymysg neu Amlethnig” (54.9%), “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig” (50.4%), “Grŵp ethnig arall” (40.7%) and “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd” (36.1%).

Roedd y cyfraddau defnydd yn amrywio'n sylweddol rhwng grwpiau ethnig “Gwyn” gwahanol. Preswylwyr arferol mewn cartrefi a nododd eu bod yn perthyn i'r grwpiau “Gwyddelig” (78.2%) a “Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig” (72.0%) oedd fwyaf tebygol o fod â chyfradd defnydd positif, a phobl yn y grwpiau ethnig “Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig” (24.6%) a “Roma” (23.1%) oedd fwyaf tebygol o fod yn byw mewn cartrefi gorlawn.

Yn y grŵp ethnig lefel uchel “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig”, y bobl a nododd eu bod yn perthyn i'r grwpiau “Bangladeshaidd” (25.5%) neu “Pacistanaidd” (21.2%) oedd fwyaf tebygol o fod yn byw mewn cartrefi gorlawn, a'r bobl yn y grwpiau ethnig “Tsieineaidd” (8.2%) ac “Indiaidd” (8.1%) oedd leiaf tebygol o fod yn gwneud hynny.

Yn y grŵp ethnig lefel uchel “Grwpiau Cymysg neu Amlethnig”, y bobl a nododd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Gwyn a Du Affricanaidd” oedd fwyaf tebygol o fod yn byw mewn cartrefi gorlawn (10.9%), a'r rheini a nododd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Gwyn ac Asiaidd” oedd leiaf tebygol o fod yn gwneud hynny (7.2%).

Yn y grŵp ethnig lefel uchel “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd”, y bobl a nododd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Affricanaidd” oedd fwyaf tebygol o fod yn byw mewn cartrefi gorlawn, a'r bobl a nododd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Caribïaidd” oedd leiaf tebygol o fod yn gwneud hynny (6.1%).

Ffigur 7: Grwpiau ethnig yn ôl sgôr gyfanheddu (ystafelloedd gwely), Cymru, 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Mae'r siart far hon yn dangos cyfran y preswylwyr arferol ym mhob grŵp ethnig a oedd yn perthyn i un o dri chategori a oedd yn disgrifio eu sgôr gyfanheddu; cartref gorlawn, nifer digonol o ystafelloedd gwely, cartref wedi'i danfeddiannu. Y grwpiau ethnig a oedd fwyaf tebygol o nodi sgôr gyfanheddu bositif (mwy o ystafelloedd na'r hyn sydd ei angen) oedd “Gwyn: Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig”, “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Tsieineaidd”, “Cymysg neu Amlethnig: Gwyn ac Asiaidd”, “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Indiaidd”, a “Du, Dy Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd: Caribïaidd”. Y grwpiau ethnig a oedd fwyaf tebygol o fod yn byw mewn cartrefi gorlawn oedd “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Bangladeshaidd”, “Gwyn: Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig”, “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd: Affricanaidd”, “Gwyn: Roma” ac “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Pacistanaidd”.

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

Lefel addysg

Gofynnwyd i breswylwyr arferol 16 oed a throsodd yng Nghymru gofnodi unrhyw gymwysterau yr oeddent erioed wedi'u hennill yng Nghymru neu rywle arall, hyd yn oed os nad oeddent yn eu defnyddio nawr.  Gellir defnyddio hyn i gyfrifo'r lefel uchaf o gymhwyster gan ddefnyddio'r categorïau canlynol.

  • Dim cymwysterau: Dim cymwysterau ffurfiol
  • Lefel 1: rhwng 1 a 4 cymhwyster TGAU (gradd A* i C neu radd 4 ac uwch) ac unrhyw gymwysterau TGAU eraill ar raddau eraill, Bagloriaeth Cymru - Sylfaen, neu gymwysterau cyfatebol.
  • Lefel 2: 5 cymhwyster TGAU neu fwy (gradd A* i C neu radd 4 ac uwch), Bagloriaeth Cymru - Canolradd, neu gymwysterau cyfatebol.
  • Prentisiaethau
  • Lefel 3: 2 gymhwyster Safon Uwch neu fwy, Bagloriaeth Cymru - Uwch, neu gymwysterau cyfatebol.
  • Lefel 4 neu uwch: Tystysgrif Genedlaethol Uwch, Diploma Cenedlaethol Uwch, gradd Baglor, neu gymwysterau ôl-raddedig.
  • Cymwysterau eraill, ar lefel anhysbys

O blith y 2.6 miliwn o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd yng Nghymru, nododd 31.5% fod eu cymhwyster uchaf ar lefel 4 neu uwch. Nododd 19.9% nad oedd ganddynt unrhyw gymwysterau. Nododd 17.2% fod eu cymhwyster uchaf ar lefel 3. Roedd gan 14.4% gymhwyster uchaf ar lefel 2 ac roedd gan 8.7% gymhwyster uchaf ar lefel 1. Prentisiaethau oedd y cymhwyster uchaf a nodwyd gan 5.6% o'r preswylwyr arferol 16 oed a throsodd. Roedd y 2.7% sy'n weddill yn meddu ar gymwysterau eraill.

Pobl yn y grŵp ethnig lefel uchel “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig” oedd fwyaf tebygol o nodi cymhwyster ar Lefel 4 neu uwch (43.9%) a'r rheini yn y grŵp ethnig lefel uchel “Gwyn” oedd leiaf tebygol o wneud hynny (31.0%).

Pobl yn y “Grŵp ethnig arall” lefel uchel oedd fwyaf tebygol o beidio â meddu ar unrhyw gymwysterau (24.7%), a'r rheini yn y grwpiau lefel uchel “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd” (14.5%) a “Grwpiau Cymysg neu Amlethnig” (15.2%) oedd leiaf tebygol o beidio â gwneud hynny.

Y bobl a nododd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Gwyn: Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig” oedd fwyaf tebygol o beidio â meddu ar unrhyw gymwysterau o blith yr holl grwpiau ethnig (58.8%), wedyn “Gwyn: Roma” (31.8%) ac “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Bangladeshaidd” (30.9%). Y rheini a nododd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Indiaidd” oedd leiaf tebygol o beidio â meddu ar unrhyw gymwysterau (9.3%), wedyn “Grwpiau Cymysg neu Amlethnig: Gwyn ac Asiaidd” (11.0%) a “Grwpiau Cymysg neu Amlethnig eraill” (14.9%).

Y bobl a nododd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Indiaidd” oedd fwyaf tebygol o lawer feddu ar gymwysterau ar lefel 4 neu uwch (61.9%). Ymhlith y grwpiau ethnig eraill â lefelau uchel o gymwysterau ar lefel 4 neu uwch roedd “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd: Affricanaidd” (46.4%), “Arabaidd” (46.3%), “Gwyn: Gwyddelig” (44.7%), “Asiaidd Arall” (44.3%) ac “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Tsieineaidd” (42.9%).

Y grwpiau ethnig a oedd leiaf tebygol o feddu ar gymwysterau ar lefel 4 neu uwch oedd “Gwyn: Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig” (11.5%), “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Bangladeshaidd” (25.0%), “Gwyn: Roma” (26.3%) a “Grwpiau Cymysg neu Amlethnig: Gwyn a Du Caribïaidd” (26.7%).

Ffigur 8: Grwpiau ethnig yn ôl lefel y cymhwyster uchaf, ar gyfer preswylwyr arferol 16 oed a throsodd, Cymru, 2021 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Mae'r siart far hon yn dangos cyfran y preswylwyr arferol 16 oed a throsodd yng Nghymru ym mhob grŵp ethnig a oedd yn perthyn i un o bedwar categori a oedd yn cynrychioli eu lefel uchaf o gymhwyster. Y bobl a nododd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig” oedd fwyaf tebygol o beidio â meddu ar unrhyw gymwysterau, a'r lleiaf tebygol o feddu ar gymwysterau ar lefel 4 neu uwch. Y bobl a nododd eu bod yn perthyn i'r grwpiau “Indiaidd”, “Arabaidd” neu “Affricanaidd” oedd fwyaf tebygol o feddu ar gymwysterau ar lefel 4 neu uwch.

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

[Nodyn 1] Er mwyn gwneud y siart yn haws i'w darllen, cyfunwyd Lefelau 1, 2 a 3 yn un categori o'r enw "Lefel 1 i 3", ac mae "Prentisiaethau" wedi'u cynnwys yn y categori "Arall".

Statws gweithgarwch economaidd

Gofynnwyd cwestiynau i breswylwyr arferol 16 oed a throsodd am eu statws gweithgarwch economaidd. Roedd y cwestiynau'n gofyn a oedd unigolyn yn gweithio neu'n chwilio am waith yn ystod yr wythnos cyn Cyfrifiad 2021.

Ar gyfer y dadansoddiad hwn, gwnaethom edrych ar ddata'r Cyfrifiad yn ymwneud â pha un a oedd pobl rhwng 16 a 64 oed yn weithiwr cyflogedig, yn hunangyflogedig, yn ddi-waith, neu’n economaidd anweithgar. Mae’r rhesymau ar gyfer bod yn economaidd anweithgar yn cynnwys: bod yn fyfyriwr, wedi ymddeol, yn sâl am gyfnod hir neu'n gofalu am y cartref neu'r teulu.    

Gall bod yn sâl am gyfnod hir, gofalu am eraill, ble mae rhywun yn byw, a'i oedran effeithio ar nifer y bobl sy'n weithwyr cyflogedig mewn grŵp ethnig.

Cynhaliwyd Cyfrifiad 2021 yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). O ganlyniad i’r pandemig, roedd Llywodraeth y DU wedi cyflwyno mesurau ffyrlo i sicrhau bod y rheini na allent weithio barhau i aros mewn cyflogaeth. Wrth gwblhau ffurflen Cyfrifiad 2021, cynghorwyd pobl ar ffyrlo i ddweud eu bod i ffwrdd o’r gwaith dros dro, yn ogystal â’r rhai a oedd wedi’u gosod dan gwarantin, neu’n hunanynysu oherwydd y pandemig. Gallai nifer y bobl a oedd yn economaidd anweithgar fod yn uwch na’r disgwyl gan ei bod yn bosibl bod rhai pobl ar ffyrlo wedi nodi eu bod yn economaidd anweithgar, yn hytrach na bod i ffwrdd o’r gwaith dros dro. Ceir rhai gwahaniaethau rhwng data Cyfrifiad 2021 ar gyflogaeth a data o'r rheini o ystadegau rheolaidd y farchnad lafur, sy'n seiliedig ar yr Arolwg o'r Llafurlu. Esbonnir y gwahaniaethau hyn yn erthygl Comparing Census 2021 and Labour Force Survey estimates of the labour market, England and Wales, a luniwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Yn y cyfrifiad, y grŵp ethnig lefel uchel “Gwyn” oedd â'r gyfran uchaf o breswylwyr arferol rhwng 16 a 64 oed a nododd eu bod yn weithwyr cyflogedig (59.8%), wedyn “Grwpiau Cymysg neu Amlethnig” (49.6%), “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd” (48.3%), “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig” (48.2%) a “Grŵp ethnig arall” (37.3%).

Ymhlith y bobl yn y grŵp ethnig lefel uchel “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig” (10.2%) mae statws hunangyflogedig ar ei uchaf ac ymhlith y bobl yn y grŵp ethnig “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd” (7.5%) mae ar ei isaf.

Y bobl yn y grŵp ethnig lefel uchel “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd” oedd fwyaf tebygol o fod yn ddi-waith (9.9%), a'r rheini yn y grŵp lefel uchel “Gwyn” oedd leiaf tebygol o fod felly (3.9%).

Y bobl yn y “Grŵp ethnig arall” lefel uchel oedd fwyaf tebygol o fod yn economaidd anweithgar (46.5) a'r bobl yn y grŵp ethnig lefel uchel “Gwyn” oedd leiaf tebygol o fod felly (26.6%).

Roedd statws gweithiwr cyflogedig yn amrywio'n sylweddol rhwng grwpiau ethnig unigol. Y grwpiau ethnig â'r ganran uchaf o weithwyr cyflogedig oedd “Gwyn Arall” (64.7%), “Gwyn: Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig” (59.6%), “Gwyn: Gwyddelig” (59.5%), “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Indiaidd” (56.5%) ac “Asiaidd Arall” (53.4%). Y grwpiau ethnig â'r ganran isaf o weithwyr cyflogedig oedd “Gwyn: Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig” (22.4%) ac “Arabaidd” (28.5%).

Roedd statws hunangyflogedig yn amrywio llai rhwng grwpiau ethnig. Y grwpiau ethnig â'r ganran uchaf o unigolion hunangyflogedig oedd “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Pacistanaidd” (13.2%), “Gwyn: Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig” (11.5%) ac “Unrhyw grŵp ethnig arall” (11.4%). Y grwpiau â'r ganran isaf o unigolion hunangyflogedig oedd “Arabaidd” (6.0%), “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd: Affricanaidd” (7.1%) a “Grwpiau Cymysg neu Amlethnig: Gwyn a Du Affricanaidd (7.2%).

Y bobl a nododd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd: Affricanaidd” oedd fwyaf tebygol o fod yn ddi-waith (11.0%). Y grwpiau ethnig a oedd leiaf tebygol o fod yn ddi-waith oedd “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Tsieineaidd” (3.4%), “Gwyn: Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig” (3.9%), “Gwyn: Gwyddelig” (4.1%) a “Gwyn: Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig” (4.4%).

Y grwpiau ethnig a oedd fwyaf tebygol o fod yn economaidd anweithgar oedd “Gwyn: Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig” (61.7%) ac “Arabaidd” (57.9%). Y grwpiau a oedd leiaf tebygol oedd “Gwyn Arall” (20.7%), “Gwyn: Gwyddelig” (25.5%), “Gwyn: Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig” (26.8%), “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Indiaidd” (27.8%) a “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd: Caribïaidd” (29.2%).

Ffigur 9: Grwpiau ethnig yn ôl statws economaidd, ar gyfer preswylwyr arferol rhwng 16 a 64 oed, Cymru, 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 9: Mae'r siart far hon yn dangos cyfrannau'r preswylwyr arferol (rhwng 16 a 64 oed) a oedd yn perthyn i bob un o'r pedwar categori statws economaidd. Y bobl a nododd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Gwyn Arall” oedd fwyaf tebygol o fod yn weithiwr cyflogedig.  Y bobl a nododd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd: Affricanaidd” oedd fwyaf tebygol o fod yn ddi-waith. Y bobl a ddywedodd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Gwyn: Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig” oedd fwyaf tebygol o fod yn economaidd anweithgar.

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

Rhesymau dros anweithgarwch economaidd

Nododd traean (32.5%) o'r preswylwyr arferol rhwng 16 a 64 oed a ddywedodd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Arabaidd” eu bod yn economaidd anweithgar am eu bod yn fyfyriwr, sef y gyfran uchaf o blith yr holl grwpiau ethnig. Y grwpiau â'r cyfrannau uchaf wedyn oedd “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Tsieineaidd” (29.7%) a “Grwpiau Cymysg neu Amlethnig: Gwyn ac Asiaidd” (21.3%). Y grwpiau ethnig â'r poblogaethau cymharol lleiaf o fyfyrwyr economaidd anweithgar oedd “Gwyn: Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig” (6.8%), “Gwyn: Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig” (7.4%), “Gwyn: Gwyddelig” (7.4%) a “Gwyn: Roma” (7.7%).

Nododd 17.7% o'r bobl a ddywedodd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Gwyn: Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig” eu bod yn economaidd anweithgar am eu bod yn gofalu am y cartref neu'r teulu. Y grwpiau â'r canrannau uchaf wedyn oedd “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Bangladeshaidd” (17.3%), “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Pacistanaidd” (14.2%), “Arabaidd” (13.5%) a “Gwyn: Roma” (12.1%). Pobl o ethnigrwydd “Gwyn: Gwyddelig” oedd leiaf tebygol o fod yn anweithgar am y rheswm hwnnw (3.9%).

Nododd 18.1% o'r bobl a ddywedodd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Gwyn: Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig” eu bod yn economaidd anweithgar am eu bod yn sâl neu'n anabl am gyfnod hir. Roedd y ffigur hwn ddwywaith yn uwch na'r ffigur ar gyfer y grŵp ethnig uchaf nesaf, sef “Grwpiau Cymysg neu Amlethnig: Gwyn a Du Caribïaidd” (9.1%). Y grwpiau ethnig a oedd leiaf tebygol o nodi'r rheswm hwn oedd “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Tsieineaidd” (1.1%) ac “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Indiaidd” (1.6%).

Ymddeoliad (cyn 65 oed) oedd y rheswm a rhoddwyd dros anweithgarwch economaidd gan 8.9% o'r bobl a ddywedodd eu bod yn perthyn i'r grwpiau “Gwyn Arall”, wedyn “Gwyn: Roma” (7.7%), “Gwyn: Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig” (7.4%), “Gwyn: Gwyddelig” (5.0%) a “Gwyn: Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig” (4.2%). Y grwpiau ethnig a oedd leiaf tebygol o roi'r rheswm hwn oedd “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaiadd neu Affricanaidd: Affricanaidd” (0.3%), “Asiaidd, Asiaidd Cymreg neu Asiaidd Prydeinig: Bangladeshaidd” (0.7%) a “Grwpiau Cymysg neu Amlethnig: Gwyn a Du Affricanaidd” (0.8%).

Ffigur 10: Grwpiau ethnig yn ôl y rheswm dros anweithgarwch economaidd, ar gyfer preswylwyr arferol rhwng 16 a 64 oed, Cymru, 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 10: Mae'r siart far hon yn dangos cyfrannau'r preswylwyr arferol rhwng 16 a 64 oed, yn ôl grŵp ethnig, a oedd yn perthyn i'r pum categori a oedd yn dynodi eu rhesymau dros anweithgarwch economaidd. Bod yn fyfyriwr oedd y rheswm mwyaf cyffredin a roddwyd gan bobl a oedd yn perthyn i'r grŵp “Arabaidd” neu “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Tsieineaidd”. “Gofalu am y cartref neu'r teulu” oedd y rheswm mwyaf cyffredin a roddwyd gan bobl a oedd yn perthyn i'r grwpiau “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Bangladeshaidd”, “Arabaidd” a “Gwyn: Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig”. “Yn anabl neu'n sâl am gyfnod hir” oedd y rheswm mwyaf cyffredin a roddwyd gan bobl a oedd yn perthyn i'r grŵp “Gwyn: Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig”. “Wedi ymddeol” oedd y rheswm mwyaf cyffredin a roddwyd gan bobl a oedd yn perthyn i'r grwpiau “Gwyn Arall”, “Gwyn: Roma” a “Gwyn: Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig”.

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

Statws economaidd-gymdeithasol

Mae'r Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS-SEC) yn nodi sefyllfa economaidd-gymdeithasol unigolyn, yn seiliedig ar ymatebion i gwestiynau am statws gweithgarwch economaidd, galwedigaeth a hanes cyflogaeth yng Nghyfrifiad 2021. Mae'n ddosbarthiad safonol gan y SYG.

Mae'r NS-SEC yn cynnwys 9 categori gwahanol, sydd wedi'u crynhoi'n bum categori “lefel uchel” at ddiben y bwletin hwn. Dangosir y ffordd y mae'r categorïau hyn wedi'u crynhoi yn Nhabl 1 yn yr adran ar ansawdd a methodoleg.

Preswylwyr arferol (rhwng 16 a 64 oed) yn y grŵp ethnig lefel uchel “Gwyn” oedd fwyaf tebygol o fod â statws economaidd-gymdeithasol “Rheoli” (29.9%), wedyn “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig” (26.6%), “Grwpiau Cymysg neu Amlethnig” (25.8%), “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd” (23.1%) a “Grŵp ethnig arall” (20.7%).

Pobl yn y grŵp ethnig lefel uchel “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd” oedd fwyaf tebygol o blith yr holl grwpiau o fod yn fyfyrwyr (24.8%) wedyn “Grŵp ethnig arall” (23.7%), “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig” (20.2%), a “Gwyn” (6.8%).

Roedd statws economaidd-gymdeithasol yn amrywio'n sylweddol ar draws y grwpiau ethnig. O fewn y grŵp ethnig lefel uchel “Asiaidd, Asiaidd Cymreig ac Asiaidd Prydeinig”, nododd 42.1% o'r preswylwyr arferol a ddywedodd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Indiaidd” fod ganddynt statws economaidd-gymdeithasol “Rheoli”, o gymharu â dim ond 13.7% o'r preswylwyr arferol Bangladeshaidd.

O fewn y grŵp lefel uchel “Gwyn”, nododd 40.5% o'r bobl a ddywedodd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Gwyddelig” fod ganddynt statws “Rheoli”, sef ffigur uwch na'r grwpiau “Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig” (30.0%), “Gwyn Arall” (26.8%), “Roma” (13.9%) a “Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig” (8.3%).

Roedd y cyfrannau mwyaf o bobl a nododd eu bod yn gwneud gwaith ailadroddus neu led-ailadroddus yn perthyn i'r grwpiau ethnig “Gwyn: Roma” (35.9%), “Grwpiau Cymysg neu Amlethnig: Gwyn a Du Caribïaidd” (33.4%) a “Gwyn Arall” (32.7%). Yn y grwpiau ethnig “Arabaidd” (10.8%) ac “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Indiaidd” (12.0%) y gwelwyd y cyfrannau lleiaf.

Y grwpiau ethnig â'r cyfrannau mwyaf o fyfyrwyr oedd “Arabaidd” (32.5%), “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Tsieineaidd” (29.5%) a “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd: Affricanaidd” (29.0%). Y grwpiau ethnig â'r cyfrannau lleiaf o fyfyrwyr oedd “Gwyn: Gwyddelig” (6.5%), “Gwyn: Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig” (6.7%), “Gwyn: Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig” (7.5%), a “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd: Caribïaidd” (9.6%).

Ffigur 11: Grwpiau ethnig yn ôl statws economaidd-gymdeithasol, ar gyfer preswylwyr arferol rhwng 16 a 64 oed, Cymru, 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 11: Mae'r siart far hon yn dangos cyfrannau'r preswylwyr arferol (rhwng 16 a 64 oed) ym mhob grŵp ethnig a oedd yn perthyn i bob un o'r pum categori economaidd-gymdeithasol. Y bobl a ddywedodd eu bod yn perthyn i'r grŵp “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Indiaidd” neu “Gwyn: Gwyddelig” oedd fwyaf tebygol o nodi statws economaidd-gymdeithasol “Rheoli”. Y bobl a ddywedodd eu bod yn perthyn i'r grwpiau “Gwyn: Roma”, “Grwpiau Cymysg neu Amlethnig: Gwyn a Du Caribïaidd” a “Gwyn Arall” oedd fwyaf tebygol o fod â statws economaidd-gymdeithasol gwaith ailadroddus neu led-ailadroddus. Y bobl a ddywedodd eu bod yn perthyn i'r grwpiau “Arabaidd”, “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig: Tsieineaidd” neu “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd: Affricanaidd” oedd fwyaf tebygol o nodi eu bod yn fyfyrwyr.

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

I gael gwybodaeth lawn am ansawdd a methodoleg, gan gynnwys geirfa, gweler adroddiad gwybodaeth am ansawdd a methodoleg y SYG. A gallwch ddarllen mwy am yr ystyriaethau ansawdd penodol ar gyfer Grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd (SYG).

Preswylwyr arferol

“Preswylydd arferol” yw unrhyw un a oedd ar ddiwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021, yn y DU ac wedi aros neu'n bwriadu aros yn y DU am 12 mis neu fwy, neu oedd â chyfeiriad parhaol yn y DU ac a oedd y tu allan i'r DU ac yn bwriadu bod y tu allan i'r DU am lai na 12 mis.

Preswylwyr arferol mewn cartrefi

“Preswylwyr arferol mewn cartrefi” yw preswylwyr arferol sy’n byw mewn cartref yn y DU. Caiff cartref ei ddiffinio fel naill ai un person sy’n byw ar ei ben ei hun, neu grŵp o bobl (nad oes rhaid iddynt fod yn perthyn i’w gilydd) sy’n byw yn yr un cyfeiriad, ac sy’n rhannu cyfleusterau coginio ac ystafell fyw neu lolfa neu le bwyta. Rhaid i gartref gynnwys o leiaf un person y mae ei breswylfa arferol yn y cyfeiriad hwnnw. Ni chaiff grŵp o breswylwyr byrdymor sy’n byw gyda’i gilydd eu cyfrif yn gartref, nac ychwaith grŵp o bobl mewn cyfeiriad sy’n cynnwys ymwelwyr yn unig.

Categorïau grwpiau ethnig

Mae'r 19 o gategorïau o grwpiau ethnig a ddadansoddir yn y bwletin hwn wedi'u rhestru isod.

1. “Gwyn”

Cymreig, Seisnig, Albanaidd, Gwyddelig Gogledd Iwerddon neu Brydeinig

Gwyddelig

Sipsi neu Deithiwr Gwyddelig

Roma

Unrhyw gefndir Gwyn arall

2. “Grwpiau Cymysg neu Amlethnig”

Gwyn a Du Caribïaidd

Gwyn a Du Affricanaidd

Gwyn ac Asiaidd

Unrhyw gefndir Cymysg neu Amlethnig arall

3. “Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig”

Indiaidd

Pacistanaidd

Bangladeshaidd

Tsieinëeg

Unrhyw gefndir Asiaidd arall

4. “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd”

Caribïaidd

Cefndir Affricanaidd

Unrhyw gefndir Du, Du Prydeinig neu Garibïaidd arall

5. “Grŵp ethnig arall”

Arabaidd

Unrhyw grŵp ethnig arall

Categorïau economaidd-gymdeithasol

Mae'r pum categori economaidd-gymdeithasol a ddadansoddir yn y bwletin hwn wedi'u crynhoi o naw categori gwreiddiol y Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol, fel y dangosir yn Nhabl 1. Ceir rhagor o wybodaeth am gategorïau'r NS-SEC yn The National Statistics Socio-economic Classification (NS-SEC) SYG.

Tabl 1: Categorïau'r Dosbarthiad Economaidd-gymdeithasol Ystadegau Gwladol wedi'u crynhoi'n bum categori lefel uchel
Categorïau lefel uchelCategorïau'r NS-SEC

 

Rheoli

 

L1, L2 a L3: Galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol uwch


L4, L5 a L6: Galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol is

 

Galwedigaethau canolradd, cyflogwyr bach a galwedigaethau goruchwylio

 

L7: Galwedigaethau canolradd
L8 a L9: Cyflogwyr bach a gweithwyr ar eu liwt eu hunain
L10 a L11: Galwedigaethau goruchwylio a thechnegol is

 

Galwedigaethau gwaith ailadroddus neu led-ailadroddus

L12: Galwedigaethau gwaith lled-ailadroddus
L13: Galwedigaethau gwaith ailadroddus

 

Yn anweithgar neu'n ddi-waith am gyfnod hir

 

L14.1 a L14.2: Erioed wedi gweithio ac yn ddi-waith am gyfnod hir

 

Myfyrwyr

L15: Myfyrwyr amser llawn

Darperir rhagor o wybodaeth am ein prosesau sicrhau ansawdd yn y ddogfen: Maximising the quality of Census 2021 population estimates methodology (SYG).

Gall newid yn y boblogaeth mewn rhai ardaloedd adlewyrchu sut yr effeithiodd pandemig y coronafeirws (COVID-19) ar ddewis pobl o ran eu preswylfa arferol ar Ddiwrnod y Cyfrifiad. Gallai'r newidiadau hyn fod wedi bod dros dro i rai pobl ac wedi para am gyfnodau hirach i eraill.

Lle y gall pandemig COVID-19 fod wedi effeithio ar ymatebion pobl i gwestiynau penodol, mae cyngor wedi'i gynnwys ym mhob un o'r adrannau uchod.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a Gwasanaeth Cofrestru 2007, gan ddangos eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Golyga statws Ystadegau Gwladol fod yr ystadegau swyddogol yn bodloni’r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau’n cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu a yw'r ystadegau hyn yn dal i gyrraedd y safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny gyda'r Awdurdod yn brydlon. Gellir dileu statws Ystadegau Gwladol ar unrhyw adeg pan nad yw'r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir adennill y statws pan fo’r safonau'n cael eu hadfer.

Cadarnhawyd dynodiad yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol i'r SYG ym mis Mehefin 2022 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru. Diben y rhain yw sicrhau Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran 10(1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ("dangosyddion cenedlaethol") y mae rhaid eu defnyddio ar gyfer mesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn hefyd ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Dr John Poole
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 27/2023

Image
Ystadegau Gwladol