Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r adroddiad hwn yn archwilio profiadau menywod o leiafrifoedd ethnig mewn perthynas ag aflonyddwch rhywiol, effeithiau gwahaniaethau ar adrodd ac ymatebion y cyflogwr i adrodd.

Cefndir

Comisiynwyd yr ymchwil hon gan Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Hil Llywodraeth Cymru, ar ran Ffrwd Waith Aflonyddu yn y Gweithle y Glasbrint Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) a Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.

Mae'r adroddiad yn rhoi dealltwriaeth ansoddol o brofiadau menywod Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yng Nghymru sydd wedi profi aflonyddu rhywiol ar sail rhywedd yn y gweithle. Mae'r ymchwil yn archwilio'r ffyrdd y gall gwahaniaethu ar sail rhywedd a hil groestorri ac effeithio ar adrodd, ymateb a chanlyniadau. Mae gwahaniaethu ar sail hil yn cwmpasu hil, ethnigrwydd, diwylliant a chrefydd, ac yn y cyd-destun hwn mae agweddau eraill ar groestoriadedd hefyd yn berthnasol, megis statws dosbarth a diogelwch swyddi.

Prif ganfyddiadau

  • Disgrifiodd y cyfranogwyr brofiadau o aflonyddu a oedd yn gysylltiedig yn benodol ag ethnigrwydd, diwylliant a chrefydd.
  • Disgrifiodd y cyfranogwyr brofiadau cydamserol neu flaenorol o wahaniaethu a gafodd ystod o effeithiau ar adrodd. Mewn rhai achosion, roedd yr hiliaeth yn cael ei theimlo'n fwy uniongyrchol yn y gweithle ac roedd strwythurau rheoli a oedd yn atal rhag adrodd. Roedd gwahaniaethu hefyd i'w deimlo o ran peidio â chael llais ynglŷn â phryderon am anghydraddoldeb a chael triniaeth wahanol.
  • Disgrifiodd y cyfranogwyr sut roedd hi'n anodd dod o hyd i arweiniad neu rywun y gallent siarad â nhw.
  • Rhwystr allweddol sy'n atal adrodd oedd teimlo nad oedd yr aflonyddu yn ddigon drwg, ddim yn haeddu cefnogaeth, neu nad oedd digon o dystiolaeth i fwrw ymlaen â chwyn.
  • Disgrifiodd y cyfranogwyr effaith ansicrwydd swyddi, contractau tymor penodol a phryderon am gynnydd ar greu diwylliant lle nad yw cyflogeion yn teimlo'n hyderus i adrodd.
  • Ar gyfer cyfranogwyr a geisiodd uwchgyfeirio cwyn i weithdrefn adrodd mwy ffurfiol, roedd disgrifiadau o beidio â chael gwybod am ganlyniad sgyrsiau gyda'r aflonyddwr a gorfod mynd ar drywydd y canlyniad eu hunain.
  • Mynegwyd pryder ynghylch gorfod cael sgyrsiau gyda goruchwylwyr neu reolwyr am aflonyddu rhywiol yn y gweithle dan amgylcheddau gwaith cyffredin, amgylchiadau amhriodol neu anghyfforddus o bosibl.

Cyswllt

Yr Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn:

0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.