Archwilio profiadau menywod Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol o aflonyddwch rhywiol yn y gweithle: crynodeb
Mae’r adroddiad hwn yn archwilio profiadau menywod o leiafrifoedd ethnig mewn perthynas ag aflonyddwch rhywiol, effeithiau gwahaniaethau ar adrodd ac ymatebion y cyflogwr i adrodd.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Nodau'r gwaith ymchwil
Mae'r gwaith ymchwil hwn yn rhoi cipolwg ansoddol ar brofiadau menywod Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru sydd wedi wynebu aflonyddu rhywiol ar sail rhywedd yn y gweithle.
Mae'n archwilio'r ffyrdd y gall gwahaniaethu ar sail rhywedd ac ar sail hil groestorri â'i gilydd ac effeithio ar ymddygiadau o ran rhoi gwybod am aflonyddu rhywiol, ar ymatebion ac ar ganlyniadau. Mae gwahaniaethu ar sail hil yn cwmpasu hil, ethnigrwydd, diwylliant a chrefydd ac, yn y cyd-destun hwn, mae agweddau eraill ar groestoriadedd hefyd yn berthnasol, megis statws dosbarth a sicrwydd swydd.
Nod y gwaith ymchwil hwn yw rhoi cipolwg ansoddol ar brofiad menywod ethnig leiafrifol o aflonyddu rhywiol, y ffactorau sy'n dylanwadu ar eu hymddygiadau o ran rhoi gwybod am achosion o'r fath, a'u profiad o roi gwybod am aflonyddu rhywiol, a beth yw dylanwad rhywedd, hil, ethnigrwydd, diwylliant a chrefydd ar y pethau hyn.
Methodoleg
Dewiswyd dulliau ansoddol ar gyfer yr astudiaeth hon er mwyn annog y cyfranogwyr i ddisgrifio eu profiadau, eu canfyddiadau o'u profiadau o aflonyddu rhywiol yn y gweithle, a'u credoau ynglŷn â'r materion sydd dan sylw. Y dull samplu oedd hunanddewis o alwad am gyfranogwyr a rannwyd drwy rwydweithiau cymorth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Bod yn archwiliol, yn hytrach na chynrychiadol, oedd nod y prosiect, gan ganolbwyntio ar gasglu hanesion personol manwl o aflonyddu. O fewn grŵp demograffig menywod ethnig leiafrifol a all fod wedi wynebu aflonyddu rhywiol yn y gweithle yng Nghymru, pennwyd meini prawf er mwyn casglu sampl berthnasol drwy hunanddewis a fyddai'n ddefnyddiol ar gyfer llywio polisïau ac arferion y presennol a'r dyfodol. Cyfweliadau lled-strwythuredig unigol oedd y dull casglu data. Datblygodd hyn o'r cynnig gwreiddiol a oedd yn cynnwys grwpiau ffocws, er mwyn sicrhau bod y cyfranogwyr yn fodlon rhannu eu profiadau. Roedd pum cyfranogwr yn y sampl derfynol. Cynhaliwyd y cyfweliadau ar-lein gan ddefnyddio Microsoft Teams ac roedd gweithwyr cymorth ar gael i'r cyfranogwyr cyn, yn ystod ac ar ôl eu cyfweliadau.
Y prif ganfyddiadau
Disgrifiodd y cyfranogwyr brofiadau o fathau o aflonyddu y gallai menywod o gefndiroedd ethnig mwyafrifol hefyd eu hwynebu, megis cwestiynau amhriodol, cyffwrdd digroeso, ystumiau rhywiol, rhannu delweddau â chydweithwyr heb gydsyniad, jôcs ac ensyniadau. Fodd bynnag, disgrifiwyd profiadau a oedd yn gysylltiedig ag ethnigrwydd, diwylliant a chrefydd yn benodol hefyd, megis ‘cyffwrdd gwallt’ neu sylwadau ynglŷn â dillad crefyddol, gan gynnwys hijabs.
Disgrifiodd y cyfranogwyr effaith eu profiadau o wahaniaethu ar eu penderfyniadau ynglŷn â rhoi gwybod am aflonyddu rhywiol yn y gweithle. Mewn rhai achosion, byddai'r hiliaeth yn cael ei theimlo'n fwy uniongyrchol yn y gweithle ac roedd strwythurau rheoli ar waith a oedd yn atal y cyfranogwyr rhag rhoi gwybod. Byddai gwahaniaethu hefyd yn cael ei deimlo o ran neb yn gwrando ar bryderon y cyfranogwyr ynglŷn ag anghydraddoldeb a phobl yn eu trin yn wahanol, gan arwain at gau menywod ethnig leiafrifol allan o gynghreiriau yn y gweithle.
Dywedodd y cyfranogwyr ei bod yn anodd dod o hyd i arweiniad neu rywrai y gallent siarad â nhw. Er enghraifft, mewn sefyllfaoedd lle roedd pennaeth sefydliad yn rhan o'r aflonyddu neu'n gyfeillgar â'r aflonyddwr, dylai cydweithwyr niwtral eraill ar lefel uwch neu Ymddiriedolwyr fod ar gael, ond dywedwyd nad felly roedd pethau.
Un rhwystr allweddol a oedd yn atal cyfranogwyr rhag rhoi gwybod oedd ymdeimlad nad oedd yr aflonyddu'n ddigon gwael neu'n deilwng o gymorth, neu nad oedd digon o dystiolaeth i fwrw ymlaen â chŵyn. Ynghlwm wrth y canfyddiad nad yw'r aflonyddu'n ddigon gwael mae'r profiad o ymatebion sy'n bychanu'r aflonyddu. Disgrifiodd rhai o'r cyfranogwyr brofiadau o geisio cael sgyrsiau â chydweithwyr ynglŷn â'r hyn roeddent yn ei wynebu lle y cafodd y profiad ei fychanu neu lle y cafodd y cyfrifoldeb ei drosglwyddo i rywun arall.
Disgrifiodd y cyfranogwyr effaith ansicrwydd swydd, contractau cyfnod penodol a phryderon ynglŷn â chamu ymlaen mewn gyrfa ar greu diwylliant lle na fydd cyflogeion yn teimlo'n hyderus i roi gwybod am achosion. Pe bai'r achos hefyd yn ymwneud â hiliaeth gan gydweithwyr ar lefel uwch, teimlai'r cyfranogwyr nad oedd ganddynt neb i droi atynt.
Yn achos y cyfranogwyr a geisiodd uwchgyfeirio eu cwyn drwy weithdrefnau rhoi gwybod ffurfiol, cafwyd disgrifiadau o beidio â chael gwybod canlyniad sgyrsiau â'r aflonyddwr a gorfod mynd ar drywydd y canlyniad eu hunain. Ar ben hynny, yn achos y rhai a roddodd wybod am achosion, teimlid nad oedd goblygiadau i'r rhai a oedd wedi achosi niwed.
Yn ogystal â sicrhau bod unigolion ar gael i siarad â nhw, mynegwyd pryder ynglŷn â gorfod cael sgyrsiau â goruchwylwyr neu reolwyr am aflonyddu rhywiol yn y gweithle mewn amgylcheddau gwaith cyffredin, a ddisgrifiwyd fel rhai amhriodol neu anghyfforddus.
Ystyriaethau
Mae canfyddiadau'r gwaith ymchwil yn disgrifio amrywiaeth o rwystrau sy'n atal menywod Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol rhag rhoi gwybod am aflonyddu rhywiol yn y gweithle ac ymatebion nad ydynt yn fawr o gymorth neu sy'n bychanu'r aflonyddu pan gaiff achosion o'r fath eu datgelu a phan geisir cymorth. Mae'r canfyddiadau'n cynnwys argymhellion i weithleoedd wella eu hymatebion i gwynion ynghylch aflonyddu rhywiol, megis:
- peidio ag ymateb yn y lle cyntaf mewn ffyrdd sy'n bychanu'r aflonyddu, a gweithredu ar unwaith i gefnogi'r rhai sy'n datgelu achosion o'r fath
- sicrhau bod unigolion diduedd ac arbenigol sy'n gyfrifol am lesiant ar gael i gyflogeion siarad â nhw neu gael cymorth ganddynt os bydd eu strwythur rheoli yn cyfyngu arnynt, os bydd diwylliant gwenwynig yn y gweithle neu os bydd diffyg cynghreiriau yn y gweithle
- cyfathrebu'n glir ag achwynwyr yn dilyn unrhyw fath o sgwrs yn ymwneud â rhoi gwybod am aflonyddu, ni waeth pa mor ffurfiol/anffurfiol ydoedd
- osgoi cyffredinoli polisïau aflonyddu rhywiol, oherwydd gall polisïau cyffredinol golli cyfleoedd i amddiffyn pobl â hunaniaethau a ymyleiddiwyd o bosibl
- ystyried gweithgarwch ar-lein yn eu polisïau aflonyddu rhywiol; ystyrir bod gweithio ar-lein yn fesur amddiffynnol, ond nid yw'n lliniaru aflonyddu'n gyfan gwbl
- sicrhau y darperir mannau priodol ar gyfer sgyrsiau ynglŷn â phryderon, yn hytrach na chynnal y sgyrsiau hynny mewn amgylcheddau gwaith cyffredin, a allai fod yn amhriodol neu'n anghyfforddus
- gallai gwella cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn gyffredinol mewn gweithleoedd wella'r ddealltwriaeth gyffredinol o arferion cynhwysol
Casgliadau
Er gwaethaf newidiadau i'r dirwedd yng Nghymru o ran cynrychiolaeth a chefnogaeth, mae menywod Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn parhau i wynebu gwahaniaethu ac ymddygiad amhriodol sy'n cyfuno rhywedd, hil, crefydd a diwylliant mewn amrywiaeth o weithleoedd.
Ceir angen parhaus i greu polisïau a gweithdrefnau defnyddiol a chynhwysol sy'n amddiffyn unigolion lleiafrifiedig yn seiliedig ar eu hanghenion, er mwyn sicrhau y gwrandewir ar y rhai hynny sy'n rhoi gwybod am aflonyddu, yr ymatebir iddynt ac y cyfathrebir â nhw ag eglurder â pharch, a hyfforddiant ar gynhwysiant a sensitifrwydd diwylliannol.
Mewn gwaith ymchwil yn y dyfodol, byddai mwy o adnoddau'n fodd i gynnwys rhanddeiliaid a phartneriaid cymunedol yn y broses o ymgynghori ar y gwaith ymchwil, ei ddylunio a'i hyrwyddo o fewn eu cymunedau er mwyn gwella'r gyfradd ymateb a chywirdeb yr ymatebion.
Er mwyn sicrhau ymatebion cynrychiadol o bob cwr o Gymru, argymhellir cysylltu â sefydliadau partneriaeth/porthgadw ym mhob rhanbarth er mwyn sicrhau mynediad at ddioddefwyr ac ymatebion ganddynt. Hefyd, gellid cynnal ymchwiliadau mewn rhai sectorau penodol er mwyn creu canfyddiadau manylach.
Byddai'n fuddiol i waith ymchwil yn y dyfodol fod yn gysylltiedig â sefydliadau a allai fforddio cynnig mynediad at grwpiau o fenywod neu unigolion mewn mannau y byddant yn eu mynychu neu'n teimlo'n gyfforddus ynddynt. Mae'r gyfradd ymateb uwch i'r gwaith ymchwil a welir yn adroddiad diweddar TUC (2024) yn awgrymu pwysigrwydd sefydliadau a mannau yr ymddiriedir ynddynt er mwyn agor sgyrsiau ynglŷn ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle ymhlith menywod ethnig leiafrifol.
Manylion cyswllt
Awdur yr adroddiad: Dr Sophia Kier-Byfield
Safbwyntiau’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: UnedTystiolaethCydraddoldeb@llyw.cymru
Rhif ymchwil cymdeithasol: 92/2025
ISBN Digidol: 978-1-80633-409-4

