Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad a methodoleg yr arolwg

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn arolwg hapsampl, graddfa fawr a gynhelir dros y ffôn, sy'n cynnwys oedolion 16 oed a hŷn ledled Cymru. Defnyddir canlyniadau'r arolwg i lywio a monitro polisïau Llywodraeth Cymru, ac fe'u defnyddir hefyd gan sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus megis cynghorau leol a GIG Cymru, sefydliadau gwirfoddol, y byd academaidd, y cyfryngau a'r cyhoedd. 

Dewisir cyfeiriadau ar hap, ac anfonir gwahoddiadau drwy'r post yn gofyn i bobl ddarparu rhif ffôn ar gyfer y cyfeiriad. Gellir darparu rhif ffôn trwy borth ar-lein neu linell ymholiadau dros y ffôn. Pan nad oes rhif ffôn yn cael ei ddarparu, cynhelir teleparu gyda chronfeydd data o rifau ffôn sydd ar gael i weld a ellir dod o hyd i un ar gyfer y cyfeiriad.

Yna, mae’r cyfwelydd yn galw'r rhif ffôn ar gyfer y cyfeiriad, yn darganfod faint o oedolion sy'n byw yno, ac yn dewis un ar hap (y person sydd â'r pen-blwydd nesaf) i gymryd rhan yn yr arolwg. Mae'r person a ddewisir yn cael ei gyf-weld dros y ffôn. Ar ôl cwblhau'r adran ffôn, gofynnir iddynt gwblhau adran ar-lein ac anfonir manylion atynt. 

Os nad oes rhif ar gyfer y cyfeiriad, mae'r cyfwelydd yn ymweld â'r cyfeiriad i ddewis ymatebydd a naill ai'n cynnal cyfweliad wyneb yn wyneb yn y cartref gyda nhw neu (os yw'n well ganddo gyfweliad ffôn) yn casglu rhif ffôn ar ei gyfer. 

Mae'r arolwg yn para tua 40 i 45 munud ar gyfartaledd ac yn ymdrin ag ystod o bynciau. Cynigir taleb £15 i'r ymatebwyr i ddiolch iddynt am gymryd rhan.

 Yn 2024-25 roedd maint y sampl a gyflawnwyd bob mis yn rhyw 500 o bobl ar gyfartaledd, a'r gyfradd ymateb oedd 18.7% o'r rhai a oedd yn gymwys i gymryd rhan. 

Crynodeb o ansawdd

Perthnasedd

I ba raddau y mae'r cynnyrch ystadegol yn bodloni anghenion defnyddwyr o ran cwmpas a chynnwys.

Yr hyn y mae'n ei fesur

Mae'r arolwg yn ymdrin ag ystod eang o bynciau megis addysg, ymarfer corff, iechyd, defnydd o'r rhyngrwyd, cydlyniant cymunedol, llesiant, cyflogaeth a chyllid. Diweddarwyd y pynciau ar gyfer dechrau 2024-25 er mwyn diwallu'r anghenion diweddaraf am wybodaeth. 

Mae amrywiol gwestiynau demograffig hefyd wedi'u cynnwys, er mwyn medru croesddadansoddi'r canlyniadau yn fanwl.

Mae cynnwys a deunyddiau'r arolwg ar gael ar dudalennau gwe yr Arolwg Cenedlaethol

Modd

Cyfweliad ffôn o ryw 30 munud ynghyd ag adran ar-lein 15 munud, neu gyfweliad wyneb yn wyneb 30 munud ynghyd ag adran hunangwblhau 10 munud.

Amlder

Mae canlyniadau 2024-25, a gyhoeddwyd fis Awst 2025, yn seiliedig ar gyfweliadau a gynhaliwyd rhwng Mawrth 2024 a Mawrth 2025.

Maint y sampl

Sampl a gyflawnwyd o ryw 500 o ymatebwyr y mis ar gyfartaledd. Gweler yr adroddiad technegol 2024-25 i gael manylion y sampl a ddyrannwyd a'r sampl a gyflawnwyd.  

Y cyfnodau sydd ar gael

Mae'r Arolwg Cenedlaethol wedi cael ei gynnal yn y rhan fwyaf o flynyddoedd ers 2012-13, gyda rhai toriadau yn y gwaith o gasglu data er mwyn newid contractwr yr arolwg.  

Ffrâm y sampl 

Cafodd cyfeiriadau eu hapsamplu o Ffeil Cyfeiriadau Cod Post y Post Brenhinol ar gyfer defnyddwyr bach (ac eithrio llety sefydliadol). Lluniwyd y sampl cyfeiriadau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol i sicrhau nad yw ymatebwyr wedi cael eu dewis yn ddiweddar ar gyfer ystod o arolygon graddfa fawr eraill y llywodraeth, gan gynnwys blynyddoedd blaenorol yr Arolwg Cenedlaethol. Dim ond pobl 16+ oed oedd yn gymwys i gymryd rhan. Ni chaniatawyd cyfweliadau gan ddirprwy.

Cynllun y sampl

Mae'r sampl o gyfeiriadau wedi'i haenu yn ôl awdurdod lleol. Mae maint y sampl ym mhob awdurdod lleol yn weddol gymesur â maint poblogaeth yr awdurdod lleol, ond mae wedi'i gynllunio i sicrhau y cyflawnir isafswm maint sampl o 250 yn yr awdurdodau lleiaf a 600 ym Mhowys. 

Mewn achosion lle canfuwyd bod mwy nag un aelwyd mewn cyfeiriad, gwnaeth yr aelwyd naill ai hunanddewis drwy ymateb i'r llythyr neu (os ymwelodd cyfwelydd) dewiswyd un aelwyd gan ddefnyddio gweithdrefn dewis ar hap. 

Ym mhob aelwyd, cafodd yr ymatebydd ei ddewis ar hap wedyn o'r holl oedolion (16 oed neu hŷn) yn yr aelwyd sy'n cyfrif y cyfeiriad sampl fel prif breswylfa, waeth pa mor hir y maent wedi byw yno. Cynhaliwyd dewis ar hap o fewn yr aelwyd gan ddefnyddio'r dull ‘pen-blwydd nesaf’ . Hynny yw, gofynnwyd i'r person y siaradodd y cyfwelydd af ef gyntaf pa oedolyn yn yr aelwyd sydd â'r pen-blwydd nesaf; wedyn dewiswyd y person hwnnw i gymryd rhan. Mae'r dull ‘pen-blwydd nesaf’ yn ddull hirsefydlog o gael hapsampl derbyniol mewn arolygon ffôn, gan sicrhau bod yr wybodaeth y mae'n rhaid ei chael adeg y cyswllt cyntaf yn cynnwys cyn lleied â phosibl o wybodaeth am yr aelwyd a allai fod yn sensitif.

Pwysoli

Cafodd y canlyniadau eu pwysoli er mwyn i debygolrwyddau dewisiadau anghyfartal a gwahaniaethau o ran diffyg ymateb gael eu cymryd i ystyriaeth, h.y. i sicrhau bod dosbarthiad oedran a rhyw y sampl sy'n ymateb yn cyfateb i rai pob awdurdod lleol. Yn ogystal, cynlluniwyd y pwysoli i wneud iawn am gyflawniad anwastad cyfweliadau yn ôl chwarter.

Priodoli

Dim priodoli.

Allanolynnau

Dim hidlo allanolynnau.

Y prif ddiben

Prif ddiben yr arolwg yw darparu gwybodaeth am farn ac ymddygiadau pobl ledled Cymru, gan ymdrin ag ystod eang o bynciau sy'n ymwneud â hwy a'u hardal leol.

Bydd y canlyniadau yn helpu sefydliadau sector cyhoeddus i:

  • wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth gadarn
  • monitro newidiadau dros gyfnod o amser
  • nodi meysydd o arferion da y gellid eu rhoi ar waith yn ehangach
  • nodi meysydd neu grwpiau a fyddai'n elwa o gael cymorth dwys yn lleol, fel bod modd targedu camau gweithredu mor effeithiol â phosibl

Pwy sy’n ei ddefnyddio a sut

Mae'r arolwg yn cael ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, ac mae'n cael ei ddefnyddio ganddynt at ddibenion gwneud polisïau. Yn ogystal â'r sefydliadau hyn, mae gan yr arolwg ystod eang o ddefnyddwyr eraill gan gynnwys: awdurdodau lleol ledled Cymru, GIG Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru; adrannau Llywodraeth y DU a sefydliadau llywodraeth leol; sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus; academyddion; y cyfryngau; aelodau o'r cyhoedd; a'r sector gwirfoddol, yn enwedig sefydliadau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru. 

Mae'r data diweddaraf yn cael eu hadneuo bob hydref yn Archif Data'r DU, i sicrhau bod y canlyniadau ar gael yn eang at ddibenion ymchwil. Mae'r canlyniadau yn cael eu cysylltu hefyd â setiau data eraill drwy amgylcheddau ymchwil diogel, er enghraifft y banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ymatebwyr yn gallu ddewis a ydynt eisiau i'w hatebion gael eu cysylltu â ffynonellau eraill ai peidio os dymunant.

Cryfderau a chyfyngiadau

Cryfderau yr Arolwg Cenedlaethol 2024-25 
  • Sampl a ddewiswyd ar hap.
  • Mae'r arolwg yn cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau, sy'n golygu bod modd croesddadansoddi rhwng pynciau. Cafodd ystod o gwestiynau demograffig eu cynnwys hefyd, er mwyn croesddadansoddi'n fanwl yn ôl oedran, rhyw, statws cyflogaeth, ac ati.
  • Lle bo modd, dewiswyd cwestiynau sydd wedi'u defnyddio ym mlynyddoedd blaenorol yr Arolwg Cenedlaethol ac mewn arolygon mawr eraill. Golyga hyn eu bod eisoes wedi'u profi, ac y gellir cymharu rhai canlyniadau dros gyfnod o amser a chyda gwledydd eraill.
  • Lle bo angen, cafodd cwestiynau o ffynonellau eraill eu haddasu (eu byrhau fel arfer) i sicrhau eu bod yn gweithio'n dda dros y ffôn neu ar-lein.
  • Datblygwyd cwestiynau gan arbenigwyr yr arolwg, ac fe gynhaliodd contractwr yr arolwg adolygiad gan gymheiriaid a'u profi'n wybyddol gydag aelodau o'r cyhoedd cyn i'r gwaith maes ddechrau.
  • Cynhaliwyd yr adran o'r arolwg a arweinir gan gyfwelydd (a lle bo angen yr adran hunangwblhau) dros y ffôn ar gyfer y rhan fwyaf o'r ymatebwyr, gan ganiatáu i bobl nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd neu sydd â lefelau is o lythrennedd gymryd rhan. Mae'n ymddangos bod y modd ffôn mor hygyrch â'r modd wyneb yn wyneb i bobl ag amhariad ar eu clyw, o gofio na wnaeth cyfran yr ymatebwyr a ddywedodd bod ganddynt amhariad ar eu clyw ostwng pan newidiodd y modd sylfaenol yn 2020 o wyneb yn wyneb i'r ffôn.
  • Ar gyfer cyfran o gyfeiriadau (ychydig yn llai na hanner) na ddarparodd rif ffôn, ymwelodd cyfwelydd â'r cyfeiriad i greu cysylltiad ac i gynnig cyfweliad wyneb yn wyneb yn y cartref, neu gyfweliad ffôn os dyna fyddai orau gan yr unigolyn. Pan gynhaliwyd y cyfweliad wyneb yn wyneb, cynhaliwyd yr adran ddilynol fel adran hunangwblhau ar gyfrifiadur llechen y cyfwelydd. Mae'r cymysgedd hwn o ddulliau yn caniatáu rhywfaint o ddewis i ymatebwyr ynghylch sut maent yn cymryd rhan ac yn golygu bod cyfradd ymateb uwch yn cael ei chyflawni na phe bai dull cwblhau dros y ffôn ac ar-lein yn unig wedi'i gynnig. Mae hefyd yn lleihau costau'r arolwg o'i gymharu â dull wyneb yn wyneb llawn.
  • Mae cael cyfwelydd yn gweinyddu'r arolwg yn helpu i sicrhau bod yr holl gwestiynau perthnasol yn cael eu hateb. Mae'n caniatáu hefyd i'r sawl sy'n cyf-weld ddarllen y cyflwyniadau i’r cwestiynau yn uchel, a helpu'r ymatebwyr i ddeall yr hyn sy'n cael ei ofyn (ond heb wyro oddi wrth eiriad y cwestiwn), er mwyn i'r ymatebwyr allu rhoi atebion cywir.
  • Ar gyfer ymatebwyr a gymerodd ran dros y ffôn, cynigiwyd yr ail o ddwy adran yr arolwg ar-lein (ond os oedd angen gallai'r cyfweliad barhau dros y ffôn, e.e. os nad oedd yr ymatebydd yn defnyddio'r rhyngrwyd).
  • Mae adran hunangwblhau yr arolwg yn gweithio'n dda ar gyfer pynciau mwy sensitif neu rai lle y gallai cyfranogiad cyfwelydd effeithio ar ymatebion.  Mae'n gweithio'n dda hefyd ar gyfer cyflwyno rhestrau hirach o wybodaeth, a phan fo angen cymharedd ag arolygon ar-lein eraill.
  • Mae'r arolwg yn cael ei bwysoli i'w addasu ar gyfer diffyg ymateb, sy'n helpu i sicrhau bod y canlyniadau mor gynrychioladol â phosibl.
  • Cyhoeddwyd y canlyniadau yn gymharol gyflym ar ôl diwedd y gwaith maes, o fewn tua phum mis. Mae nifer mawr o dablau canlyniadau ar gael mewn dangosydd rhyngweithiol. Gweler Arolwg Cenedlaethol Cymru am gyhoeddiadau.
  • Gellir defnyddio cofnodion cysylltiedig (hynny yw, gellir dadansoddi ymatebion i'r arolwg yng nghyd-destun data'r arolwg neu ddata gweinyddol eraill am yr ymatebwyr o dan sylw).
Cyfyngiadau'r arolwg 
  • Mae maint y sampl a gyflawnwyd ar gyfer 2024-25 (6,000 o ymatebwyr) yn llai na'r hyn a gynlluniwyd yn wreiddiol, ac felly ar gyfer eleni ni fydd modd cynhyrchu dadansoddiadau yn ôl awdurdod lleol ac ar gyfer is-grwpiau llai.
  • Ni wnaeth cyfran sylweddol o'r unigolion a samplwyd gymryd rhan, fel sy'n wir yn gyffredinol gydag arolygon cymdeithasol o'r math hwn. Roedd y gyfradd ymateb ar gyfer 2024-25 yn is nag yn y blynyddoedd blaenorol: Gwnaeth 18.7% o'r rhai a oedd yn gymwys i gymryd rhan hynny, ac felly ni wnaeth ychydig dros 80% o'r rhai cymwys gymryd rhan. Mae'n bosibl y gallai hyn effeithio ar gywirdeb yr amcangyfrifon a gynhyrchir, er ei bod yn werth nodi nad yw lefel y newid mewn amcangyfrifon o'i gymharu â 2022-23 yn uwch nag a ddisgwylid fel arfer rhwng blynyddoedd yr arolwg. I gael trafodaeth fwy cyffredinol am sut i ddehongli cyfraddau ymateb i arolygon cymdeithasol, a'u perthynas â thuedd diffyg ymateb, gweler datganiad sefyllfa ar gyfraddau ymateb y rhwydwaith Survey Futures.
  • Gwahaniaethau yng nghyfansoddiad y sampl a gyflawnwyd o'i gymharu â'r boblogaeth gyffredinol a blynyddoedd blaenorol yr arolwg. O'i chymharu â sampl 2022-23 heb ei phwysoli a gyflawnwyd, mae gan sampl 2024-25 rai gwahaniaethau megis mwy o siaradwyr Cymraeg, llai o bobl 25-54 oed, mwy o bobl 75+ oed, mwy o bobl â chymwysterau lefel uwch, llai o bobl heb unrhyw gymwysterau, llai o bobl sy'n gweithio, a mwy o bobl mewn ardaloedd gwledig.  O ran math o aelwyd, roedd mwy o aelwydydd un person yn y sampl ar gyfer 2024-25 a llai o gyplau (â phlant neu heb blant). Roedd llai o bobl yn yr ardaloedd â’r lefelau incwm a chyflogaeth isaf, a mwy mewn ardaloedd lle y mae gan bobl lefelau uwch o gymwysterau a sgiliau. Roedd lledaeniad llai cyfartal o gyfweliadau ar draws y flwyddyn hefyd (er enghraifft, llai yn gymesur ym mis Chwefror a Mawrth) o'i gymharu â'r blynyddoedd blaenorol. Mae pwysoliadau wedi'u cynhyrchu i ddod â'r sampl yn agosach at y boblogaeth ehangach o ran oedran, rhyw, a maint yr awdurdod lleol, yn ogystal ag i wneud iawn am amrywiad o'r targed yn nifer y cyfweliadau ym mhob bwrdd iechyd ym mhob chwarter. Mae'r pwysoliad yn lleihau – ond ni fydd yn dileu – effeithiau gwahaniaethau yn y sampl a gyflawnwyd o'i chymharu â'r blynyddoedd blaenorol ac â’r boblogaeth.
  • Gallai gwahaniaethau rhwng canlyniadau 2024-25 a'r blynyddoedd blaenorol fod yn newidiadau gwirioneddol neu gellid eu priodoli i newidiadau yn y ffordd y cynhaliwyd yr arolwg o'i gymharu â'r blynyddoedd blaenorol; neu'r ddau. Mae gwaith ar y gweill i ymchwilio i unrhyw wahaniaethau mewn canlyniadau a bydd adroddiadau pellach am bynciau penodol yn cael eu cyhoeddi maes o law. Tra bo'r gwaith hwn yn parhau, rydym yn argymell gofal wrth wneud cymariaethau rhwng canlyniadau 2024-25 a'r rhai'r blynyddoedd blaenorol. Lle bo hynny'n bosibl, dylid ystyried cymariaethau (yn enwedig newidiadau ymddangosiadol dros amser) yng nghyd-destun canlyniadau o ffynonellau data eraill.
  • Mae effeithiau modd posibl (ymatebwyr yn ateb yn wahanol dros y ffôn o'i gymharu â sut y byddent yn ateb wyneb yn wyneb) a allai fod wedi arwain at wahaniaethau yng nghanlyniadau 2024-25 o'i gymharu â chanlyniadau a gafwyd o dan ddyluniadau arolygon blaenorol. Mae adroddiad technegol 2024-25, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2025, yn rhoi mwy o fanylion am y problemau a gafwyd.  

Mae'n briodol defnyddio'r ystadegau a gyhoeddwyd o arolwg 2024-25. Ar lefel genedlaethol, mae amcangyfrifon yn parhau i ddarparu arwydd rhesymol o amcangyfrifon i Gymru, yn enwedig pan gânt eu defnyddio ochr yn ochr â ffynonellau amgen. Er hynny, gan adlewyrchu'r materion a drafodwyd uchod, mae datganiad cyntaf 2024-25 a'r holl allbynnau eraill a seilir ar ddata 2024-25 yn cael eu cyhoeddi fel ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad gydag ataliad dros dro yn achos ystadegau swyddogol achrededig. O 2026-27 bydd yr arolwg yn newid i ddyluniad ar-lein yn gyntaf, a bwriedir gofyn bod ystadegau swyddogol achrededig yn cael ei hadfer ar gyfer 2026-27 ymlaen.

Cyfyngiadau llai sy'n gyffredin i holl blynyddoedd yr arolwg
  • Nid yw'r arolwg yn cynnwys pobl sy'n byw mewn sefydliadau cymunedol (er enghraifft cartrefi gofal, cartrefi troseddwyr ifanc, hostelau a neuaddau myfyrwyr).
  • Er inni gymryd gofal i sicrhau bod y cwestiynau mor hygyrch â phosibl, bydd rhai enghreifftiau o hyd lle nad yw'r ymatebwyr yn ymateb yn gywir, er enghraifft am nad ydynt wedi deall y cwestiwn yn iawn neu nad ydynt yn gallu neu ddim am roi ateb cywir am ryw reswm. Eto, bydd hyn yn effeithio ar gywirdeb yr amcangyfrifon sy'n cael eu cynhyrchu.
  • Mae cyfran o'r ymatebwyr (tua 6%) a gwblhaodd yr adran gyntaf dros y ffôn wedi dewis peidio â chwblhau'r ail adran ar-lein. 

Mae nifer o'r cryfderau a'r cyfyngiadau a grybwyllir yn yr adran hon yn ymwneud â chywirdeb y canlyniadau. Edrychir yn fanylach ar gywirdeb yn yr adran nesaf.

Cywirdeb

Pa mor agos at y canlyniad a amcangyfrifir yw'r gwir werth (anhysbys).

Y prif fygythiad o ran cywirdeb yw ffynonellau cyfeiliornadau, gan gynnwys cyfeiliornadau samplu a chyfeiliornadau nad ydynt yn gyfeiliornadau samplu. 

Cyfeiliornad samplu

Mae cyfeiliornad samplu yn codi am fod yr amcangyfrifon wedi'u seilio ar hapsampl o'r boblogaeth yn hytrach na'r boblogaeth gyfan. Mae'r canlyniadau a geir drwy unrhyw hapsampl unigol yn debyg o amrywio rhywfaint o'u cymharu â'r canlyniadau a geid pe bai'r holl boblogaeth yn rhan o'r arolwg (megis cyfrifiad), a gelwir yr amrywiad hwn yn gyfeiliornad samplu. Yn gyffredinol, po leiaf yw maint y sampl, y mwyaf yw'r cyfeiliornad samplu posibl. 

Ar gyfer hapsampl, gellir amcangyfrif cyfeiliornadau samplu yn ystadegol ar sail y data sy'n cael eu casglu, gan ddefnyddio'r cyfeiliornad safonol ar gyfer pob newidyn. Mae dyluniad yr arolwg yn effeithio ar gyfeiliornadau safonol, a gellir eu defnyddio i gyfrifo cyfyngau hyder er mwyn rhoi syniad mwy greddfol o faint y cyfeiliornad samplu ar gyfer newidyn penodol. Trafodir y materion hyn yn yr is-adrannau canlynol. 

Effaith dyluniad yr arolwg ar gyfeiliornadau safonol

Cafodd yr arolwg ei haenu ar lefel awdurdod lleol, ac roedd gan bobl sy'n byw mewn gwahanol awdurdodau lleol wahanol debygolrwyddau o gael eu dewis. Defnyddiwyd pwysoli i gywiro ar gyfer y gwahanol debygolrwyddau hyn yn y dewis, i sicrhau bod y canlyniadau'n adlewyrchu nodweddion poblogaeth (oedran a rhyw) pob awdurdod lleol, ac i gywiro ar gyfer cyflawni anwastad dros amser. 

Un o effeithiau'r dyluniad cymhleth hwn a defnyddio pwysoli yn yr arolwg yw bod y cyfeiliornadau safonol ar gyfer amcangyfrifon yr arolwg yn uwch yn gyffredinol na'r cyfeiliornadau safonol a fyddai'n deillio o hapsampl syml o'r un maint [troednodyn 1]

Mae'r gymhareb rhwng cyfeiliornad safonol sampl gymhleth a chyfeiliornad safonol hapsampl syml o'r un maint yn cael ei alw'n ffactor dylunio (design factor), neu “deft”. Os yw cyfeiliornad safonol amcangyfrif mewn arolwg cymhleth yn cael ei gyfrifo fel pe bai wedi dod o arolwg hapsampl syml, mae lluosi'r cyfeiliornad safonol â'r “deft” yn rhoi gwir gyfeiliornad safonol yr amcangyfrif sy'n cymryd y dyluniad cymhleth i ystyriaeth.

Y gymhareb rhwng amrywiant samplu y sampl gymhleth ac amrywiant samplu hapsampl syml o'r un maint yw'r effaith ddylunio (design effect) neu “deff” - (sy'n cyfateb i'r “deft” wedi'i sgwario). Drwy rannu gwir faint sampl arolwg cymhleth gyda'r deff, ceir y "maint sampl effeithiol". Dyma faint yr hapsampl syml a fyddai wedi rhoi'r un lefel o gywirdeb ag a roddodd dyluniad yr arolwg cymhleth.

Mae pob croesddadansoddiad a gynhyrchir gan dîm yr Arolwg Cenedlaethol, er enghraifft mewn bwletinau ac yn y tablau a'r siartiau sydd ar gael yn ein dangosydd canlyniadau, yn ystyried yr effaith ddylunio ar gyfer pob newidyn.

Cyfyngau hyder (‘ffin cyfeiliornad’)

Oherwydd bod yr Arolwg Cenedlaethol wedi'i seilio ar hapsampl, gellir defnyddio cyfeiliornadau safonol i gyfrifo cyfyngau hyder, a elwir weithiau'n 'ffin cyfeilornad', ar gyfer pob amcangyfrif yn yr arolwg. Mae'r lwfansau ansicrwydd ar gyfer pob amcangyfrif yn cynnig ystod lle mae'r 'gwir' werth ar gyfer y boblogaeth yn debyg o syrthio (hynny yw, y ffigur y byddem yn ei gael pe bai'r arolwg yn cwmpasu'r boblogaeth gyfan). 

Y cyfwng hyder mwyaf cyffredin a ddefnyddir yw cyfwng o 95%. Pe baem yn cynnal yr arolwg dro ar ôl tro gyda 100 o wahanol samplau o bobl ac yn cynhyrchu, ar gyfer pob sampl, amcangyfrif o'r un nodwedd boblogaeth benodol (e.e. boddhad â bywyd) gyda chyfyngau hyder o 95% o'i gwmpas, byddai'r union amcangyfrifon a'r union gyfyngau hyder i gyd yn amrywio ychydig ar gyfer y gwahanol samplau. Ond byddem yn disgwyl i'r cyfyngau hyder ar gyfer tua 95 o'r 100 sampl gynnwys y ffigur poblogaeth gwirioneddol.

Po fwyaf yw'r cyfwng hyder, y lleiaf manwl gywir yw'r amcangyfrif. 

Cyfrifwyd cyfyngau hyder o 95% ar gyfer ystod o newidynnau'r Arolwg Cenedlaethol ac maent wedi'u cynnwys yn yr adroddiad technegol ar gyfer 2024-25. Addaswyd y cyfyngau hyn i ystyried dyluniad yr arolwg, ac maent yn fwy nag y byddent pe bai'r arolwg wedi'i seilio ar hapsampl syml o'r un maint. Maent yn hafal i'r amcangyfrif o'r pwynt gan adio neu dynnu tua 1.96* cyfeiliornad safonol yr amcangyfrif [troednodyn 2]. Mae cyfyngau hyder wedi'u cynnwys hefyd yn yr holl siartiau a thablau canlyniadau sydd ar gael yn ein Dangosydd canlyniadau.

Gellir defnyddio cyfyngau hyder hefyd i helpu i ddweud a oes gwahaniaeth gwirioneddol rhwng dau grŵp (gwahaniaeth am resymau heblaw cyfeiliornad samplu, h.y. nodweddion penodol y bobl a ddigwyddodd gymryd rhan yn yr arolwg). Fel canllaw dehongli bras: wrth gymharu dau grŵp, os yw'r cyfyngau hyder ar gyfer yr amcangyfrifon yn gorgyffwrdd, gellir tybio nad oes gwahaniaeth ystadegol arwyddocaol rhwng yr amcangyfrifon. Nid yw'r dull hwn mor fanwl â phrawf ystadegol ffurfiol, ond mae'n syml, yn cael ei ddefnyddio'n eang ac yn weddol gadarn.

Sylwer: o'i gymharu â phrawf ffurfiol, mae gwirio i weld a yw dau gyfwng hyder yn gorgyffwrdd yn fwy tebygol o arwain at “ganlyniadau negyddol anghywir”: sef dod i gasgliad anghywir nad oes gwahaniaeth go iawn, pan fo gwahaniaeth mewn gwirionedd. Mae hefyd yn llai tebygol na phrawf ffurfiol o arwain at “ganlyniadau positif anghywir”: sef dod i gasgliad anghywir bod gwahaniaeth, pan nad oes gwahaniaeth mewn gwirionedd. Er hynny, mae cynnal sawl cymhariaeth yn cynyddu'r siawns o ddod o hyd i ganlyniadau positif anghywir. Felly, pan fydd llawer o gymariaethau yn cael eu gwneud, er enghraifft wrth gynhyrchu nifer mawr o dablau o ganlyniadau sy'n cynnwys cyfyngau hyder, mae natur geidwadol y prawf yn fantais gan fod hyn yn lleihau'r siawns o ddarganfod canlyniadau positif anghywir, ond heb gael gwared yn llwyr ar y siawns honno. 

Cyfeiliornadau nad ydynt yn gyfeiliornadau samplu 

Ystyr “cyfeiliornad nad yw'n gyfeiliornad samplu” yw'r holl wahaniaethau rhwng amcangyfrifon yr arolwg a gwir werthoedd y boblogaeth ac eithrio'r rhai sy'n codi oherwydd cyfeiliornad samplu. Yn wahanol i gyfeiliornad samplu, mae cyfeiliornad nad yw’n gyfeiliornad samplu yn bresennol mewn cyfrifiadau yn ogystal ag mewn arolygon sampl. Dyma rai o'r mathau o gyfeiliornad nad yw'n gyfeiliornad samplu: cyfeiliornad diffyg ymateb, cyfeiliornad mesur a chyfeiliornad prosesu.

Nid oes modd cael gwared yn llwyr ar gyfeiliornadau nad ydynt yn gyfeiliornadau  samplu, ac nid oes modd rhoi amcangyfrifon ystadegol o faint cyfeiliornadau o'r fath. Gwnaed ymdrechion sylweddol i leihau'r cyfeiliornadau hyn yn yr Arolwg Cenedlaethol. Trafodir rhai o'r camau allweddol a gymerwyd yn yr is-adrannau canlynol. 

Cyfeiliornad mesur: datblygu cwestiynau 

Er mwyn lleihau cyfeiliornadau mesur, defnyddir cwestiynau cyson neu sefydlog yn yr arolwg lle bynnag y bo modd. Mae cwestiynau newydd yn cael eu datblygu gan arbenigwyr arolygon ac mae llawer wedi bod yn destun adolygiad gan gymheiriaid allanol, gydag is-set hefyd yn cael ei phrofi'n wybyddol gydag aelodau o'r cyhoedd.  Mae adroddiadau ar adolygu a phrofi'r cwestiynau ar gael ar dudalennau gwe yr Arolwg Cenedlaethol.

Diffyg ymateb

Mae diffyg ymateb (h.y. unigolion sy'n cael eu dewis ond nad ydynt yn cymryd rhan yn yr arolwg) yn elfen allweddol o gyfeiliornadau nad ydynt yn gyfeiliornadau samplu. Mae'r cyfraddau ymateb yn cael eu monitro'n fanwl. 

Y gyfradd ymateb yw'r gyfran o gyfeiriadau cymwys a arweiniodd at gyfweliad, ac mae'n cael ei diffinio fel      

Image
Cyfweliadau a gwblhawyd (Sampl cyfan – cyfeiriadau anghymyws)

Fel y nodwyd eisoes, caiff canlyniadau'r arolwg eu pwysoli er mwyn cymryd y diffyg ymateb i ystyriaeth dros yr is-grwpiau oedran a rhyw, h.y. er mwyn sicrhau bod dosbarthiad oedran a rhyw y sampl sy'n ymateb yn cyfateb i boblogaeth Cymru. Bwriad y cam hwn yw lleihau'r cyfeiliornadau nad ydynt yn gyfeiliornadau samplu yn sgil gwahanol gyfraddau o ddiffyg ymateb yn ôl oedran a rhyw. Ar gyfer 2024-25, roedd y pwysoliadau yn addasu hefyd ar gyfer cyflawni anwastad dros y flwyddyn.

Atebion coll

Gall atebion fod ar goll am sawl rheswm, gan gynnwys gwrthod ateb neu fethu ag ateb cwestiwn penodol, ac achosion pan nad yw'r cwestiwn yn berthnasol i'r ymatebydd. Lleihawyd lefel y gwerthoedd coll drwy beidio â chyflwyno codau gwrthod a 'Ddim yn Gwybod' yn rhagweithiol i ymatebwyr yn yr adran dan arweiniad cyfwelydd (er bod y rhain ar y cyfan yn cael eu cyflwyno i'r ymatebwyr yn yr adran hunangwblhau, am resymau moesegol). Fel rheol bydd atebion coll yn cael eu hepgor o dablau a dadansoddiadau, ac eithrio pan fyddant o ddiddordeb arbennig (er enghraifft gall lefel uchel o atebion “Ddim yn gwybod” fod o ddiddordeb gwirioneddol). 

Cyfeiliornad mesur: gwiriadau ansawdd cyfweliad

Achos posibl arall o duedd yw cyfwelwyr yn dylanwadu'n systemig ar ymatebion mewn rhyw ffordd. Mae'n debygol y bydd effeithiau fel tuedd dymunoldeb cymdeithasol yn digwydd wrth ymateb (pan fo'r ateb a roddir yn cael ei effeithio gan yr hyn y mae'r ymatebydd yn ei weld yn dderbyniol neu'n ddymunol yn gymdeithasol). Darperir hyfforddiant helaeth i gyfwelwyr i leihau'r effaith hon ac maent yn cael eu goruchwylio'n agos hefyd - mae cyfran o'r cyfweliadau yn cael eu gwirio gan reolwyr cyfwelwyr, sy'n gwrando ar recordiadau o gyfweliadau ffôn neu'n dilysu cyfweliad drwy ffonio'r ymatebwyr neu gwrdd â nhw'n bersonol ar ôl i gyfweliadau wyneb yn wyneb gael eu cynnal. 

Cafodd yr holiadur ei weinyddu drwy ddefnyddio sgript gyfrifiadurol. Mae'r dull hwn yn caniatáu i'r cyfwelydd roi rhywfaint o esboniad ychwanegol pan fydd yn amlwg nad yw'r ymatebydd yn deall y rheswm dros ofyn y cwestiwn. I'w helpu i wneud hyn, caiff y rhai sy'n cyf-weld wybodaeth gefndir am rai o'r cwestiynau yn y cyfarfodydd briffio a gynhelir cyn i'r gwaith maes ddechrau. Mae'r sgript hefyd yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol pan gafwyd bod angen sbardun neu esboniadau pellach. Er hynny mae cyfwelwyr yn cael gwybod ei bod yn hanfodol cyflwyno opsiynau cwestiwn ac ateb yn union fel y'u nodir yn y sgript CATI/CAPI.

Mae rhai o'r atebion yn cael eu hadlewyrchu yng ngeiriad cwestiynau neu wiriadau dilynol (e.e. mae enwau'r plant a gafodd eu henwi yn cael eu crybwyll yn y cwestiynau am ysgolion y plant). Mae hyn yn helpu'r ymatebydd (a'r cyfwelydd) i ddeall ac ateb y cwestiynau yn gywir.

Ceir amrywiol wiriadau rhesymeg ac awgrymiadau i'r cyfwelydd yn y sgript er mwyn sicrhau bod yr atebion sy'n cael eu darparu yn gyson ac yn realistig. Mae rhai o'r gwiriadau hyn yn ‘wiriadau caled’: hynny yw, gwiriadau a ddefnyddir mewn achosion lle nad yw ateb yr ymatebydd yn gyson â gwybodaeth arall a roddodd o'r blaen. Yn yr achosion hyn, rhaid gofyn y cwestiwn eto, a newid yr ymateb, er mwyn parhau â'r cyfweliad. Mae gwiriadau eraill yn ‘wiriadau meddal’, ar gyfer ymatebion sy'n ymddangos yn annhebygol (naill ai oherwydd gwybodaeth arall a ddarparwyd neu oherwydd eu bod y tu allan i'r ystod arferol) ond a allai fod yn gywir. Yn yr achosion hynny, mae'r cyfwelydd yn cael cyfarwyddyd i gadarnhau gyda'r ymatebydd fod yr ymateb yn gywir.

Mae gwiriadau tebyg wedi'u cynnwys yn yr adran hunangwblhau. Gall yr ymatebwyr gysylltu â'u cyfwelydd neu linell ymholiadau'r arolwg os ydynt yn cael unrhyw anhawster.  Mae gwiriadau wedi'u sefydlu i sicrhau bod yr adran ar-lein yn cael ei chwblhau gan yr un person a ddewiswyd i gwblhau'r adran ffôn.

Cyfeiliornad prosesu: dilysu data 

Prif allbynnau'r arolwg yw ffeiliau data SPSS a gyflwynwyd ar ôl gwaith maes diwedd y flwyddyn. Darparwyd dwy brif ffeil ddata gan gontractwr yr arolwg: 

  • Set ddata aelwydydd, sy'n cynnwys manylion am bob aelod o bob aelwyd sy'n cymryd rhan yn yr arolwg: hynny yw, ymatebion i'r grid cyfrifo ac unrhyw wybodaeth a ofynnwyd i'r ymatebydd am aelodau eraill o'r aelwyd;
  • Set ddata ymatebwyr, sy'n cynnwys atebion pob ymatebydd.

Cafodd pob set ddata ei gwirio gan gontractwr yr arolwg. Yna cynhaliodd Llywodraeth Cymru gyfres o wiriadau ar gynnwys a fformat y setiau data a chafodd newidiadau eu gwneud gan y contractwr.

Amseroldeb a phrydlondeb

Amseroldeb yw'r amser rhwng cyhoeddi'r data a'r cyfnod y mae'r data hwnnw'n cyfeirio ato. Prydlondeb yw'r cyfnod o amser rhwng y dyddiadau cyhoeddi arfaethedig a gwirioneddol.

Rhyddhawyd y canlyniadau tua phum mis ar ôl diwedd cyfnod y gwaith maes. Mae'r cyfnod hwn wedi'i gadw mor fyr â phosibl i sicrhau bod y canlyniadau mor amserol ag y bo modd, ond bod eu hansawdd wedi'i sicrhau'n llawn.

Bydd adroddiadau manylach ar bynciau penodol yn dilyn, wedi'u llywio gan anghenion defnyddwyr yr arolwg. 

Hygyrchedd ac eglurder

Hygyrchedd yw pa mor hwylus yw hi i ddefnyddwyr gael gafael ar y data, ac mae hefyd yn golygu fformat(au) y data a ph'un a oes gwybodaeth ategol ar gael. Eglurder yw ansawdd a digonolrwydd y metadata, y darluniau a'r cyngor cysylltiedig.

Cyhoeddiadau 

Mae'r holl adroddiadau ar gael i'w lawrlwytho o dudalennau gwe yr Arolwg Cenedlaethol. Mae tudalennau gwe yr Arolwg Cenedlaethol wedi'u cynllunio i fod yn hawdd eu darllen a'u defnyddio.

Mae siartiau a thablau manwl o'r canlyniadau ar gael drwy ddangosydd canlyniadau rhyngweithiol. Oherwydd bod cannoedd o newidynnau yn yr arolwg, a miloedd lawer o ddadansoddiadau posibl, dim ond is-set a gynhwysir yn y dangosydd canlyniadau. Fodd bynnag, gellir cynhyrchu tablau / siartiau eraill yn gyflym ar gais.

I gael rhagor o wybodaeth am ganlyniadau'r arolwg, neu os hoffech weld dadansoddiad gwahanol o'r canlyniadau, cysylltwch â thîm yr Arolwg Cenedlaethol drwy arolygon@llyw.cymru neu 0300 256 685.

Rheoli datgelu 

Rydym yn cymryd gofal i sicrhau nad oes modd adnabod unigolion o'r canlyniadau a gyhoeddir. Rydym yn dilyn y gofynion o ran cyfrinachedd a mynediad at ddata a nodir yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Gofynion iaith 

Rydym yn cydymffurfio â safonau'r Gymraeg ar gyfer ein holl allbynnau. Mae ein gwefan, ein datganiadau cyntaf, a'r Dangosydd Canlyniadau yn cael eu cyhoeddi yn Gymraeg a Saesneg. 

Rydym yn ceisio ysgrifennu'n ddealladwy, gan ddefnyddio Cymraeg a Saesneg clir. 

Archif Data'r DU

Mae fersiynau dienw o setiau data'r arolwg (a rhywfaint o wybodaeth wedi'i dileu ohonynt er mwyn sicrhau cyfrinachedd), ynghyd â dogfennau ategol, yn cael eu hadneuo yn Archif Data'r DU yn yr hydref ar ôl diwedd cyfnod y gwaith maes. Gall defnyddwyr cofrestredig gael gafael ar y setiau data hyn ar gyfer prosiectau ymchwil penodol. 

O bryd i'w gilydd, mae'n bosibl y bydd angen i ymchwilwyr ddadansoddi data manylach na'r hyn sydd ar gael drwy'r Archif Data. Dylid anfon ceisiadau am ddata o'r fath at dîm yr Arolwg Cenedlaethol (gweler y manylion cyswllt isod). Caiff y ceisiadau eu hystyried fesul achos, ac mae gweithdrefnau ar waith i gadw data yn ddiogel ac yn gyfrinachol. 

Dulliau a diffiniadau 

Rydym yn cyhoeddi Dogfen termau a diffiniadau sy'n esbonio termau allweddol.

Mae dangosydd cwestiynau rhyngweithiol a chopïau o'r holiaduron ar gael ar ein tudalennau gwe

Cymharedd a chysondeb

I ba raddau y gellir cymharu data dros amser a pharthau.

Drwy gydol bwletinau a datganiadau ystadegol yr Arolwg Cenedlaethol, rydym yn tynnu sylw at gymarebau perthnasol a ffynonellau gwybodaeth nad oes modd eu cymharu'n uniongyrchol ond sy'n rhoi cyd-destun defnyddiol. 

Cymharu â gwledydd eraill

Lle bynnag y bo modd, daw cwestiynau'r arolwg o arolygon sy'n cael eu cynnal yn rhywle arall. Mae hyn yn caniatáu rhywfaint o gymharu ar draws gwledydd (er y gallai gwahaniaethau o ran dyluniad a chyd-destun yr arolwg effeithio ar gymharedd).

Cymharu dros amser

Er bod yr arolwg 'ffonio'n gyntaf' yn ymdrin â llawer o'r un pynciau â'r arolwg wyneb yn wyneb a oedd yn cael ei defnyddio cyn Ebrill 2020 – ac mewn rhai achosion yn defnyddio cwestiynau sydd yr un fath neu sydd wedi'u haddasu ychydig – dylid bod yn ofalus wrth wneud cymariaethau dros amser. Gallai'r newid modd effeithio ar y canlyniadau mewn amrywiaeth o ffyrdd. Er enghraifft, gall gwahanol fathau o bobl fod yn fwy tebygol o gymryd rhan yn y gwahanol ddulliau; neu gallai'r dulliau effeithio ar sut y mae pobl yn ateb cwestiynau [troednodyn 3]. Mae cymharedd yn debygol o fod yn fwy problematig ar gyfer cwestiynau llai ffeithiol (e.e. am farn pobl am wasanaethau cyhoeddus, yn hytrach na chwestiynau mwy ffeithiol fel a ydynt wedi defnyddio'r gwasanaethau hyn mewn cyfnod penodol). Er hynny, ar gyfer llawer o bynciau, mae'r canlyniadau yn debyg ar draws y newidiadau mewn modd.

Fel y nodwyd yn gynharach, gallai gwahaniaethau rhwng canlyniadau 2024-25 a blynyddoedd blaenorol fod oherwydd newidiadau gwirioneddol neu oherwydd newidiadau yn y ffordd y cynhaliwyd yr arolwg o'i gymharu â blynyddoedd blaenorol; neu'r ddau. Mae gwaith ar y gweill i ymchwilio i unrhyw wahaniaethau mewn canlyniadau. Tra bo'r gwaith hwn yn parhau, rydym yn argymell gofal wrth wneud cymariaethau rhwng canlyniadau 2024-25 a rhai'r blynyddoedd blaenorol. Lle bo modd, dylid ystyried cymariaethau (yn enwedig newidiadau ymddangosiadol dros amser) yng nghyd-destun canlyniadau o ffynonellau data eraill.

Troednodiadau

[1] Nid yw amcangyfrifon yr arolwg (yr amcangyfrifon eu hunain, nid y cyfeiliornadau safonol a'r cyfyngau hyder ar gyfer yr amcangyfrifon hynny) yn cael eu heffeithio gan ddyluniad yr arolwg.

[2] Mae gwerth 1.96 yn amrywio ychydig yn ôl maint y sampl ar gyfer yr amcangyfrif dan sylw.

[3] Gweler 'Cymysgu dulliau mewn arolwg cymdeithasol: cyfleoedd a chyfyngiadau ar gyfer Arolwg Cenedlaethol Cymru', adran 3.2.3 i gael adolygiad mwy cyflawn.

Manylion cyswllt

Chris McGowan
Ebost: arolygon@llyw.cymru

Y cyfryngau: 0300 025 8099