Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn astudiaeth o bobl ar draws Cymru gyfan. Mae’r arolwg yn rhedeg drwy’r flwyddyn.
Cynnwys
Pam ein bod yn cynnal yr arolwg?
Mae'r arolwg hwn yn gyfle i bobl Cymru helpu i lunio'r camau gweithredu a gymerwn. Bydd yr wybodaeth a gesglir yn cael ei defnyddio i helpu i ddatblygu polisïau a phenderfynu sut y caiff gwasanaethau eu darparu. Drwy gymryd rhan, byddwch yn ein helpu i ddeall anghenion pobl yng Nghymru ac i wneud yn siŵr bod arian yn cael ei wario yn y mannau cywir ac yn y ffordd fwyaf effeithiol.
Caiff yr arolwg hwn ei gynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ar ran Llywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Cyngor Celfyddydau Cymru.
Llythyr yr arolwg cenedlaethol
Os yw eich cyfeiriad wedi'i ddewis ar gyfer yr arolwg, byddwn wedi anfon y llythyr a'r daflen ganlynol atoch.
Dogfennau

Llythyr cychwynnol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

Taflen gychwynnol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Efallai y byddwch hefyd yn derbyn cerdyn post gan eich cyfwelydd.
Dogfennau

Cerdyn post , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Dyluniad yr arolwg
Mae rhan gyntaf yr arolwg yn para tua 30 munud dros y ffôn. Yna ceir adran ar-lein sy'n cymryd tua 10 munud. Os nad yw'r person sy'n cymryd rhan yn defnyddio'r rhyngrwyd, gellir gwneud yr adran hon dros y ffôn.
Caiff aelwydydd eu dewis ar hap o restr y Post Brenhinol o’r holl gyfeiriadau yng Nghymru, sydd ar gael i’r cyhoedd. Yna, rydym yn ysgrifennu at yr aelwydydd dethol gyda chyfarwyddiadau ar sut y gallant roi eu rhif ffôn i ni. Os na fyddwn yn clywed nôl gan aelwyd, byddwn weithiau yn cynnal ymweliad byr â’r cartref, gan gadw pellter cymdeithasol, i ofyn am rif ffôn.
Yna, bydd un o’n cyfwelwyr yn ffonio i ddewis un person o’r aelwyd ar hap, sy’n 16 oed a throsodd, i wneud yr arolwg.
Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael taleb anrheg gwerth £15 i ddiolch iddynt.
Rydym yn cadw’r holl atebion yn gyfrinachol ac yn eu defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr arolwg, cysylltwch â chontractwr yr arolwg, y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ar 0800 496 2119 neu drwy nationalsurveyforwales@ons.gov.uk.
Fel arall, gallwch gysylltu â Llywodraeth Cymru ar 0300 025 2021 neu drwy arolygon@llyw.cymru.
I gael gwybod mwy am sut y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.
Gwybodaeth a chymorth am y pynciau sy’n rhan o’r arolwg
Mae'r sefydliadau isod yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth ar bynciau sydd yn yr arolwg.
Cyngor gan Lywodraeth Cymru ar y coronafeirws (COVID-19)
Age Cymru: cymorth a chyngor i bobl hŷn.
Ffôn: 0300 303 4498
Llinell Gyngor a Gwrando'r Gymuned: Llinell Gymorth Iechyd Meddwl ar gyfer Cymru.
Ffôn: 0800 132 737
Anfonwch ‘help’ to 81066
Cyngor ar Bopeth: cyngor ar bob math o faterion.
Ffôn: 0800 702 2020
Helpa fi i stopio: cymorth i roi gorau i smygu.
Ffôn: 0800 085 2219
Byw Heb Ofn: cymorth i ddioddefwyr trais domestig 24 awr y dydd.
Ffôn: 0808 80 10 800
Helpwr Arian: cyngor annibynnol am ddim ar faterion ariannol.
Ffôn: 0800 138 0555
Llinell gymorth Credyd Cynhwysol
Ffôn: 0800 328 1744
Cymru’n Gweithio: gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ynglŷn â chymorth os ydych wedi colli’ch swydd.
Ffôn: 0800 028 4844
GIG 111 Cymru: cyngor a gwybodaeth iechyd, 24 awr y dydd.
Ffôn: 111
Gwirfoddoli Cymru: Cofrestrwch fel gwirfoddolwr.
Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru DAN 24/7: Cymorth gyda phroblemau alcohol a chyffuriau, 24 awr y dydd.
Ffôn: 0808 808 2234 neu anfonwch y gair DAN i 81066
Llinell Gymorth Gamblo Cenedlaethol: gwybodaeth, cymorth a chyngor am ddim ar broblemau gamblo.
Ffôn: 0808 802 0133
Mencap Cymru: llinell gymorth anabledd dysgu Cymru.
Ffôn: 0808 808 1111
Gwybodaeth bellach
A yw'r astudiaeth yn gyfrinachol?
Ydy, bydd unrhyw wybodaeth bersonol a roddwch i ni yn cael ei chadw’n gyfrinachol ac yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data. Ni fydd yn bosib i’ch adnabod chi mewn unrhyw adroddiad a fydd yn seiliedig ar y canlyniadau.
Ni fydd eich manylion yn cael eu defnyddio at ddibenion marchnata.
Beth sy'n digwydd os nad oes gennyf fynediad i'r rhyngrwyd ac na allaf gwblhau'r adran ar-lein?
Os cewch eich dewis i gymryd rhan yn yr adran ar-lein ond nad oes gennych fynediad at y rhyngrwyd, bydd y cyfwelydd yn hapus i ofyn y cwestiynau hyn i chi dros y ffôn yn lle.
Ble gaf i ddefnyddio fy nhaleb?
E-daleb
Gallwch ddefnyddio eich e-daleb gyda’r manwerthwyr canlynol (mae’n bosibl y bydd y rhestr yn newid).
Ar-lein yn unig
Asos, Bloom & Wild, Boohoo, BuyaGift, Cineworld, Crown Carveries, Deliveroo, Eurostar, Flightgiftcard, Google Play, Hotels.com, Inspire Travel, Inspire UK Staycation, iTunes, Jet 2 Holidays by Inspire, lastminute.com, London Theatre Direct, MANGO, Naked Wines, , Not on The High Street, Photobox, Red Letter Days, Royal Carribean by Inspire, Swarovski, Ticketmaster, TripGift, TUI by Inspire, Uber, Uber Eats, Virgin, Virgin Experience, Wingly, Zalando
Ar-lein ac mewn siopau
Adidas, Argos, Arsenal F.C., ASDA, B&Q, Blackwells, Butlins by Inspire, Currys PC World, Decathlon, Ernest Jones, H&M, H.Samuel, Habitat, HomeSense, John Lewis & Partners, JoJo Maman Bébé, Laithwaite's, Lavish Spa & Beauty, Marks and Spencer, National Book Tokens, National Trust, New Look, Nike, River Island, Sainsbury's, Sports Direct, Ted Baker, The Body Shop, The Entertainer, The White Company, TK Maxx, Waitrose
Taleb bapur
Gallwch ddefnyddio eich taleb bapur gyda’r manwerthwyr canlynol (mae’n bosibl y bydd y rhestr yn newid).
American Golf, Argos, Barclays Diamonds, Beaverbrooks, Bensons for Beds, Blackpool Pleasure Beach, Boots, Boots Opticians, Boux Avenue, British Heart Foundation, Champneys, Chisholm Hunter, Clarks, Denby, DV8, Eason, Edinburgh Woollen Mill, Ernest Jones, Euronics, F. Hinds Jewellers, , Foot Locker, FOPP, Fraser Hart, GO Outdoors, Goldsmiths, Gulliver’s Theme Parks, H. Samuel, Halfords, Hard Rock Café, Harveys, Hastings Hotels, Heron Foods, HMV, HomeSense, Iceland, iFly Indoor Skydiving, Laithwaites, Lakeland Leather, Lightwater Valley, Liverpool F.C. Official Club Stores, London Bridge Experience, London Tombs, Loofe’s Clothing, Mamas & Papas, Mappin & Webb, Matalan, New Look, Optical Express, Peacocks, Pizza Express, Ponden Home, Pontin's, River Island, Robert Dyas, Rox Jewellers, Ryman, Schuh, Semichem, Shoe HQ, Shoe Zone, Silverstone Rally School, Simon One, Slaters, Spaghetti House, Sporting Targets, Tenpin, The Food Warehouse, The Original Factory Shop, The Perfume Shop, The Works, TJ Hughes, TK Maxx, Tottenham Hotspur Football Club Shop, Unique Track Days, Virgin Experience Days, Waltons the Jewellers, Watches of Switzerland, Waterstones, West Cornwall Pasty Co., WHSmith, Wilko, Wookey Hole Caves, Wynsors World of Shoes
Cysylltu data
Cysylltu data yw’r broses o ddod â chofnodion ar lefel yr unigolyn o ffynonellau gwahanol at ei gilydd.
Beth yw buddiannau cysylltu data?
Cysylltu gwybodaeth â chofnodion eraill:
- lleihau’r angen i bobl gymryd rhan mewn arolygon megis Arolwg Cenedlaethol Cymru
- lleihau costau casglu gwybodaeth yn sylweddol
- mae’n golygu bod gwahanol fathau o wybodaeth ar gael yn rhwydd ac felly mae’n caniatáu i ymchwil gael ei gynnal yn fwy cyflym
- galluogi defnydd gwell i gael ei wneud o ddata sydd eisoes ar gael
Cysylltu data yn yr Arolwg Cenedlaethol
Mae Uned Ymchwil Gwybodaeth Iechyd (HIRU) Cymru yn uned ymchwil sydd wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Abertawe. Prif waith HIRU yw cysylltu gwybodaeth o nifer o arolygon a chronfeydd data o bob rhan o Gymru.
Mae atebion arolwg dienw ymatebwyr yr Arolwg Cenedlaethol yn cael eu cysylltu â ffynonellau data eraill gan HIRU. Ni fydd enwau, cyfeiriadau a chodau post yn cael eu cysylltu. Defnyddir y wybodaeth at ddibenion ymchwil yn unig.
Mae ymatebwyr yn gallu optio allan o gysylltu eu hatebion. Gellir gwneud hyn wrth gymryd rhan yn yr arolwg, neu wedyn drwy gysylltu â Siobhan Evans yn nhîm prosiect Arolwg Cenedlaethol Llywodraeth Cymru, ar 0300 025 6685 neu drwy arolygon@llyw.cymru.
Dogfennau

Cerdyn gwybodaeth ar gysylltu data , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 50 KB
