Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut y byddwn yn prosesu'r data personol a gesglir gan Arolwg Cenedlaethol Cymru 2026.
Cynnwys
Ynglŷn ag Arolwg Cenedlaethol Cymru 2026
Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn ffordd bwysig i Lywodraeth Cymru a'i phartneriaid gasglu'r wybodaeth angenrheidiol am amrywiaeth o bynciau sy'n helpu i wneud penderfyniadau polisi. Mae'r arolwg yn cwmpasu pynciau fel iechyd, llesiant, cyllid, chwaraeon, gweithgareddau celfyddydol, a lefelau'r boddhad â gwasanaethau cyhoeddus.
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Gymdeithasol (NatCen) i gynnal Arolwg Cenedlaethol Cymru o 2026-27 ymlaen. Mae'r arolwg yn casglu gwybodaeth am safbwyntiau a bywydau pobl er mwyn helpu i ddatblygu polisïau, a phenderfynu sut y dylid darparu gwasanaethau yng Nghymru. Mae'n darparu ffynhonnell o wybodaeth allweddol i Lywodraeth Cymru, GIG Cymru, cynghorau lleol a sefydliadau cyhoeddus eraill ledled Cymru.
Yn y gorffennol, cafodd yr arolwg ei gynnal dros y ffôn neu wyneb yn wyneb. O 2026-27 ymlaen, bydd yr arolwg yn cael ei gynnal ar-lein yn bennaf. Byddwn hefyd yn darparu opsiwn i gwblhau'r arolwg ar bapur neu dros y ffôn er mwyn sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn gallu cymryd rhan.
Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer yr astudiaeth, a NatCen yw'r prosesydd data wrth iddi gynnal yr arolwg ar ran Llywodraeth Cymru. Bydd unrhyw ddata personol sy'n darparu manylion y gellir eu defnyddio i'ch adnabod yn uniongyrchol yn cael eu storio ar wahân i brif set ddata'r arolwg.
Bydd yr wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiadau ymchwil a bwletinau ystadegol a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac mewn cyhoeddiadau eraill gan Lywodraeth Cymru a chyd-gyllidwyr yr arolwg, sef Chwaraeon Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Bydd data dienw hefyd ar gael i ymchwilwyr achrededig, at ddibenion ymchwil anfasnachol yn unig, drwy Wasanaeth Data'r DU a thrwy'r Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) sy'n cael ei gynnal gan Brifysgol Abertawe.Bydd yr holl ganfyddiadau a gyhoeddir yn ddienw, ac ni fydd unrhyw un sy'n edrych ar y canfyddiadau hynny'n gallu eich adnabod mewn unrhyw ffordd.
Mae eich cyfranogiad yn y gwaith ymchwil hwn yn fater cwbl wirfoddol. Er hynny, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig. Bydd Llywodraeth Cymru, cynghorau lleol a GIG Cymru yn defnyddio canlyniadau'r ymchwil i weithredu ar faterion sy'n effeithio arnoch chi a phobl yn eich ardal leol.
Y manylion cyswllt ar gyfer y gwaith ymchwil hwn yn NatCen yw:
Cyfeiriad e-bost: NationalSurveyWales@natcen.ac.uk
Rhif ffôn: 020 7549 7052
Y data personol sydd gennym a'i darddiad
Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y gellid ei defnyddio i adnabod yr unigolyn hwnnw, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ffactor adnabod.
Mae cyfeiriadau cyfranogwyr yn cael eu dewis ar hap o restr gyhoeddus y Post Brenhinol o'r holl gyfeiriadau yng Nghymru, ac anfonir llythyr at aelwydydd yn eu gwahodd i gymryd rhan. Er mwyn sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn gallu cymryd rhan, byddwn hefyd yn anfon llythyrau atgoffa ac, os na allwch gwblhau'r arolwg ar-lein, gopi papur o'r arolwg.
Os byddwch yn cysylltu â NatCen i gymryd rhan dros y ffôn, efallai y gofynnir ichi roi eich enw, eich rhif ffôn, neu eich cyfeiriad e-bost er mwyn i gyfwelydd allu cysylltu â chi. Os bydd yn well gennych wneud eich apwyntiad yn Gymraeg, byddwch yn cael eich trosglwyddo i Drafnidiaeth Cymru Cyf, sy'n ymdrin â galwadau yn Gymraeg ar ran NatCen. Bydd Trafnidiaeth Cymru Cyf yn gofyn am eich enw a'ch rhif ffôn, a bydd yn rhannu'r rhain yn ddiogel â NatCen er mwyn i gyfwelydd Cymraeg allu eich ffonio'n ôl.
Os byddwch yn cysylltu â NatCen i ofyn am gopi papur o'r arolwg, gofynnir ichi roi eich enw a'ch cyfeiriad. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei rhannu â chwmni Adetiq Ltd, sy'n gyfrifol am brosesu'r holiadur papur, er mwyn iddo allu anfon copi atoch.
Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn casglu data personol, os ydych chi'n dewis eu darparu. Ni fyddwn ond yn gofyn am y data personol sy'n angenrheidiol ar gyfer cynnal yr arolwg a deall y canlyniadau. Bydd y data'n cael eu cadw'n gyfrinachol, ac yn cael eu defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig. Bydd yr holl ganfyddiadau a gyhoeddir gennym yn ddienw, ac ni fydd unrhyw un sy'n edrych ar y canfyddiadau hynny'n gallu eich adnabod mewn unrhyw ffordd.
Y data personol rydym yn gofyn amdanynt at ddibenion cysylltu yw:
- Enw
- Cyfeiriad post llawn
- Cyfeiriad e-bost
Rydym hefyd yn gofyn am y data personol canlynol sy'n cael eu storio ar wahân i'ch manylion cyswllt gyda'ch ymateb i'r arolwg:
- Dyddiad geni
A data categori arbennig:
- Cyfeiriadedd rhywiol
- Grŵp ethnig
- Crefydd
- Iechyd a salwch, gan gynnwys taldra a phwysau, ac a ydych yn feichiog
Mae eich cyfranogiad yn yr astudiaeth yn fater cwbl wirfoddol. Os nad ydych am gymryd rhan na chael negeseuon atgoffa gennym, rhowch wybod i NatCen drwy alw'r rhif ffôn sydd yn y llythyr, a bydd eich manylion yn cael eu dileu. Dim ond at ddibenion cynnal yr astudiaeth hon y bydd NatCen yn defnyddio'ch cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn.
Os byddwch yn cwblhau'r astudiaeth ar-lein, bydd eich atebion yn cael eu cadw bob tro y byddwch yn symud i'r dudalen nesaf. Er mwyn cadw'ch data yn ddiogel, bydd adrannau o'r arolwg yn cloi'n awtomatig wrth ichi symud ymlaen. Mae hyn yn golygu, ar ôl ichi symud ymlaen i adran newydd, na fyddwch yn gallu adolygu na newid yr atebion yn yr adran flaenorol. Gallwch ddychwelyd i gwblhau'r astudiaeth drwy ddefnyddio'r un cod mewngofnodi i barhau â'r arolwg, er efallai y bydd angen ichi fynd drwy nifer bach o gwestiynau eto. Os byddwch yn gadael yr arolwg ran o'r ffordd drwyddo, bydd NatCen yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost i anfon negeseuon e-bost atoch sy'n cynnwys dolen ichi allu ailddechrau'r astudiaeth.
Cynigir taleb i ymatebwyr i'r arolwg i ddiolch iddynt am gymryd rhan. Os byddwch yn dewis cael y daleb drwy e-bost, bydd NatCen yn ei hanfon atoch gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost a ddarparwyd gennych. Os hoffech daleb drwy'r post, yna bydd NatCen yn defnyddio'ch enw a'ch cyfeiriad post i anfon y daleb atoch. Ni fydd NatCen ond yn defnyddio eich manylion i anfon y daleb atoch, ac ni fydd yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall. Bydd yn dileu'ch enw a'ch cyfeiriad e-bost yn ddiogel (os gwnaethoch eu darparu) o fewn mis i anfon y daleb. Bydd NatCen yn dileu manylion eich cyfeiriad o fewn 9 mis ichi gael taleb drwy'r post, os byddwch yn gofyn am un.
Os byddwch yn cwblhau'r arolwg ar bapur, bydd yn cael ei brosesu gan Adetiq Ltd, a fydd yn trosglwyddo eich ymatebion i'r arolwg yn ddiogel i NatCen. Ni fydd Adetiq Ltd ond yn defnyddio eich data personol i drosglwyddo eich ymatebion i NatCen. Bydd Adetiq Ltd yn dinistrio'r arolwg papur a gafodd ei ddychwelwyd gennych mewn modd diogel o fewn mis i'w gael.
Fodd bynnag, os byddwch yn dewis darparu data personol ychwanegol fel rhan o'r ymchwil, ni fyddwn yn ceisio'ch adnabod o'ch ymatebion, na'ch cysylltu â'r ymatebion hynny.
Mae arolygon a gynhelir dros y ffôn yn cael eu recordio a gellir eu harsylwi at ddibenion hyfforddi a monitro gan aelodau tîm ymchwil NatCen yn unig. Bydd y cyfwelydd yn gwneud hyn yn glir ichi cyn i'r arolwg ddechrau, a bydd gennych y cyfle i ddweud os yw'n well gennych beidio â bwrw ymlaen â'r arolwg dros y ffôn. Bydd unrhyw recordiad rydych yn cytuno iddo yn cael ei ddileu 6 mis ar ôl ichi gymryd rhan dros y ffôn.
Os byddwch yn codi ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol wrth ofyn am ymateb, bydd y cyfwelydd yn anfon y manylion hynny at y swyddog perthnasol yn unig.
Fel rhan o'r arolwg, gofynnir i ymatebwyr a fyddent yn fodlon cymryd rhan mewn ymchwil bellach gan Lywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru neu Gyngor Celfyddydau Cymru. Os byddwch yn cytuno inni ailgysylltu â chi ar gyfer cymryd rhan mewn ymchwil bellach, bydd eich manylion yn cael eu cadw am dair blynedd. Bydd eich manylion yn cael eu cadw gan Lywodraeth Cymru ac ni fyddant ond yn cael eu pasio i naill ai Chwaraeon Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru neu Gyngor Celfyddydau Cymru pan fônt yn cynnal unrhyw ymchwil bellach.
Hefyd, fel rhan o'r arolwg, gofynnir i ymatebwyr a hoffent gael copi o ganlyniadau'r arolwg. Os hoffech gael canlyniadau'r arolwg, darperir y rhain unwaith y bydd blwyddyn yr arolwg wedi dod i ben ac y bydd y canlyniadau wedi'u cyhoeddi (fel arfer ym mis Gorffennaf yn dilyn pob cyfnod gwaith maes rhwng mis Ebrill a mis Mawrth). Bydd eich manylion yn cael eu dileu o fewn mis i gyhoeddi'r canlyniadau.
Ni fydd unrhyw ymholiadau neu gwynion yn rhan o'r data ymchwil ar unrhyw adeg. Os byddwch yn codi ymholiad yn uniongyrchol gyda Llywodraeth Cymru, bydd unrhyw wybodaeth bersonol a roddwch mewn perthynas â'r gŵyn yn cael ei thrin fel y disgrifir yn hysbysiad preifatrwydd Llywodraeth Cymru.
Cysylltir eich atebion i'r arolwg yn ddienw â ffynonellau data eraill fel rhan o'r banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) at ddibenion ymchwil anfasnachol yn unig (oni bai eich bod yn dweud nad ydych am i hynny ddigwydd).
Casgliad o ddata dienw am boblogaeth Cymru yw banc data SAIL, sy'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol am storio'n ddiogel a defnyddio data dienw sy'n seiliedig ar unigolion ar gyfer ymchwil i wella iechyd, llesiant a gwasanaethau. Gall ymatebwyr ddewis peidio â chysylltu eu hatebion. I gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud hynny, neu am y broses cysylltu data, ewch i Arolwg Cenedlaethol Cymru – Cysylltu data.
Mae data dienw'r arolwg hefyd ar gael drwy Wasanaeth Data'r DU ar gyfer prosiectau ymchwil sy'n cael eu cyflawni gan ymchwilwyr achrededig, fel academyddion ac ymchwilwyr y GIG. Caiff data dienw'r arolwg eu cadw'n ddiogel ac at ddibenion ymchwil anfasnachol yn unig y cânt eu defnyddio. Ni fyddwn yn rhannu nac yn defnyddio eich gwybodaeth at unrhyw ddibenion masnachol na marchnata.
Mae data dienw'r arolwg hefyd yn cael eu rhannu ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer prosiectau ymchwil anfasnachol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cadw'r data yn ddiogel ac nid yw'n rhannu nac yn defnyddio eich gwybodaeth at ddibenion eraill.
Y sail gyfreithiol dros ddefnyddio eich data
Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. Gelwir rhywfaint o'r data a gasglwn fel rhan o'r arolwg yn ‘ddata categori arbennig’ (er enghraifft gwybodaeth am ethnigrwydd, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol ac iechyd) a'r sail gyfreithlon dros brosesu'r wybodaeth hon yw ei bod at ddibenion ystadegol neu ymchwil.
Mae cymryd rhan yn fater cwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn inni allu gwneud penderfyniadau sy'n adlewyrchu barn a phrofiadau pobl ledled Cymru.
Mae'n bosibl y bydd yr wybodaeth a gesglir yn yr arolwg yn cael ei defnyddio ar gyfer pethau fel:
- darganfod pa mor fodlon yw pobl â'u hardal leol, ac am faterion yn eu hardal leol;
- edrych ar sut y gallwn helpu pobl nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd i gael mynediad ato, ac i deimlo'n hyderus wrth ei ddefnyddio; a
- deall a yw pobl yn ei chael hi'n hawdd gwneud apwyntiadau yn y feddygfa, ac os nad ydynt, pa rwystrau y mae angen inni fynd i'r afael â hwy.
Sut rydym yn cadw eich data yn ddiogel
Mae'r wybodaeth bersonol a roddir i NatCen yn cael ei storio bob amser ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn fydd yn cael gweld y data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd NatCen yn defnyddio'r wybodaeth. Mae gan NatCen nod ardystio Cyber Essentials Plus. Wrth gynnal arolygon, mae NatCen yn defnyddio rhaglen feddalwedd arolygon o'r enw Unicom Intelligence i gasglu data os ydych chi'n ymateb ar-lein neu dros y ffôn. Rydym wedi sicrhau bod Unicom Intelligence yn cydymffurfio â GDPR y DU, ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch yr holl ddata a gesglir drwy'r feddalwedd.
Mae gwybodaeth bersonol a roddir i Drafnidiaeth Cymru Cyf bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel mewn modd sy'n cydymffurfio â GDPR y DU. Dim ond at ddibenion trefnu cyfweliadau Cymraeg, neu gynorthwyo gydag ymholiadau eraill am yr arolwg, y bydd y data'n cael eu defnyddio. Er mwyn ymdrin â'r ymholiadau hyn, mae'n bosibl y bydd Trafnidiaeth Cymru Cyf yn trosglwyddo data personol i NatCen drwy weinydd diogel.
Bydd ymatebion papur i'r arolwg a roddir i Adetiq Ltd yn cael eu cadw dan glo yn swyddfeydd Adetiq Ltd cyn ac ar ôl cael eu prosesu, hyd nes eu bod yn cael eu dinistrio mewn modd diogel. Mae gan Adetiq Ltd ardystiad Cyber Essentials. Mae Adetiq Ltd yn defnyddio rhaglen o'r enw OCR Plus Sight Verification i gasglu data os ydych chi'n ymateb ar bapur. Rydym wedi sicrhau bod OCR Plus Sight Verification yn cydymffurfio â GDPR y DU, ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch yr holl ddata a brosesir drwy ddefnyddio'r feddalwedd.
Er mwyn prosesu ymatebion papur, bydd Adetiq Ltd yn trosglwyddo'r holl ddata o'r ymatebion, gan gynnwys data personol a data categori arbennig, i NatCen drwy weinydd diogel.
Mae gan NatCen, Adetiq Ltd a Thrafnidiaeth Cymru Cyf weithdrefnau i ddelio ag unrhyw doriadau diogelwch data a amheuir. Os ceir amheuaeth bod rheolau diogelu data wedi cael eu torri mewn modd sy'n effeithio ar eich gwybodaeth, bydd NatCen / Adetiq Ltd / Trafnidiaeth Cymru Cyf yn rhoi gwybod am hyn i Lywodraeth Cymru, a fydd yn rhoi gwybod ichi ac i unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae'n ofynnol inni wneud hynny yn ôl y gyfraith.
Bydd unrhyw ddata personol a ddarperir i Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw ar weinyddion diogel. Mae ffolder wedi'i chreu ar gyfer y prosiect hwn a dim ond tîm ymchwil Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru sydd â mynediad ati. Bydd eich manylion cyswllt ac unrhyw ddata y gellir eu defnyddio i'ch adnabod a ddarperir gennych yn cael eu storio yn y ffolder hon sydd â mynediad cyfyngedig, ar wahân i setiau data'r arolwg. Bydd yr wybodaeth a gesglir yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig ac i ddod i gasgliadau am y boblogaeth gyffredinol, yn hytrach na chanolbwyntio ar bobl unigol.
Bydd NatCen yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i lunio adroddiad technegol a gaiff ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwnnw'n cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod yr unigolion a gymerodd ran. Cyhoeddir adroddiadau yn https://www.llyw.cymru/arolwg-cenedlaethol-cymru.
Bydd data dienw'r arolwg ar gael i ymchwilwyr drwy Wasanaeth Data'r DU. Gall ymchwilwyr a gaiff eu cydnabod yn swyddogol, fel academyddion ac ymchwilwyr y GIG a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ofyn am gael gweld data nad ydynt ar gael drwy Wasanaeth Data'r DU. Bydd Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol Llywodraeth Cymru yn craffu ar y ceisiadau hyn ac – os byddant yn cael eu cymeradwyo – byddant yn dod o dan Gytundebau Gweld Data a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru. Mae'r trefniadau ffurfiol hyn yn gosod gofynion caeth ar gyfer prosesu a diogelu data personol.
Pan fydd Llywodraeth Cymru neu ei phartneriaid yn yr arolwg, Chwaraeon Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn cynnal ymchwil ddilynol i gefnogi'r dibenion a amlinellir uchod, gall trydydd parti achrededig wneud y gwaith hwn (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori), a fyddai'n cael y manylion cyswllt ar gyfer unrhyw un a ddewisir ar gyfer yr ymchwil sydd wedi cytuno inni ailgysylltu â hwy ynghylch ymchwil bellach. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a'u cadw'n ddiogel.
Am ba hyd rydym yn cadw eich data
Cynhelir prif waith maes yr arolwg rhwng mis Ebrill bob blwyddyn a mis Mawrth y flwyddyn ganlynol. Bydd NatCen yn cadw data personol (gan gynnwys data categori arbennig) yn ystod cyfnod y contract, a bydd yn dileu'r holl ddata personol o fewn chwe mis i'r set ddata gael ei chwblhau'n derfynol. Mae hynny'n cynnwys eich manylion cyswllt. Mae'n cael ei chwblhau'n derfynol tua thri mis ar ôl diwedd y cyfnod gwaith maes rhwng mis Ebrill a mis Mawrth.
Bydd copïau digidol o'r data o'r ymatebion (gan gynnwys data personol a data categori arbennig), a gedwir gan Adetiq Ltd, yn cael eu cadw ganddo nes bod y set ddata derfynol wedi'i chytuno gan Lywodraeth Cymru. Yna, bydd y data digidol yn cael eu dileu'n ddiogel gan Adetiq Ltd o fewn mis.
Os byddwch yn siarad â Thrafnidiaeth Cymru Cyf, sy'n ymdrin â galwadau Cymraeg ar ran NatCen, bydd Trafnidiaeth Cymru Cyf yn dileu unrhyw ddata personol o fewn mis ar ôl i'r ymholiad gael ei ddatrys.
Os byddwch yn gofyn am gopi papur o'r arolwg neu daleb drwy'r post, bydd NatCen yn defnyddio manylion eich cyfeiriad i anfon yr arolwg atoch, ac yn dileu'r rhain gyda'r holl ddata personol o fewn chwe mis ar ôl cwblhau'r set ddata derfynol. Os byddwch yn dewis cael taleb drwy e-bost, bydd NatCen yn cadw eich enw a'ch cyfeiriad e-bost (os gwnaethoch eu darparu) ar ôl ichi gwblhau'r arolwg, a'u dileu o fewn mis i'ch taleb ddod i ben.
Bydd NatCen yn darparu'r set ddata lawn i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys y data a restrir uchod, yn ogystal â manylion cyswllt ar gyfer yr ymatebwyr hynny sydd wedi cytuno inni ailgysylltu â hwy/neu sy'n dymuno cael copi o ganlyniadau'r arolwg. Mae canlyniadau'r arolwg yn cael eu cadw ar wahân i'r rhestr o bobl sydd wedi cytuno inni ailgysylltu â hwy neu sydd wedi gofyn am gopi o'r canlyniadau (ac mae'r rhain yn ddwy restr ar wahân hyd yn oed os byddwch wedi cytuno i'r ddau). Bydd Llywodraeth Cymru yn dileu unrhyw wybodaeth a fydd yn golygu bod modd adnabod person yn y ffyrdd canlynol:
- Ar gyfer canlyniadau'r arolwg, bydd Llywodraeth Cymru yn dileu eich enw a'ch dyddiad geni o fewn blwyddyn i gymeradwyo'r set ddata. Bydd y set ddata ddienw sy'n deillio o hynny sy'n cynnwys peth o'r wybodaeth a restrir uchod, ond nid unrhyw wybodaeth y gellir eich adnabod drwyddi, yn cael ei chadw yng nghanlyniadau'r arolwg ar ôl y dyddiad hwn.
- Pan fyddwch wedi cytuno inni ailgysylltu â chi, bydd Llywodraeth Cymru yn dileu eich enw, eich rhif ffôn, eich cyfeiriad post, eich cyfeiriad e-bost a'ch dyddiad geni o'r rhestr ailgysylltu ar wahân o fewn tair blynedd i gymeradwyo'r set ddata.
- Pan fyddwch wedi gofyn am gopi o ganlyniadau'r arolwg, bydd Llywodraeth Cymru yn dileu eich manylion cyswllt o'r rhestr ar wahân o'r rheini sy'n dymuno cael copi o fewn mis i gyhoeddi'r canlyniadau.
Bydd gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â chŵyn i Lywodraeth Cymru yn cael ei thrin fel y disgrifir yn hysbysiad preifatrwydd Llywodraeth Cymru.
Er mwyn caniatáu cysylltu data â'r banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) ym Mhrifysgol Abertawe, mae gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru hefyd fynediad at rywfaint o'r data personol, gan gynnwys enw, cyfeiriad post, rhyw a dyddiad geni, am gyfnod o dri mis.
Eich hawliau mewn perthynas â'ch data
O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau a ganlyn mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a rennir gennych fel rhan o'r astudiaeth hon:
- Gweld copi o'ch data eich hun;
- Gofyn inni gywiro gwallau yn y data hynny;
- Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu'r data (o dan amgylchiadau penodol);
- Gofyn bod eich data yn cael eu 'dileu' (o dan amgylchiadau penodol);
- Cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Dyma fanylion cyswllt yr ICO: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.org.uk
Rhagor o wybodaeth
Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r data a gesglir fel rhan o'r astudiaeth hon, neu os ydych am arfer eich hawliau drwy ddefnyddio GDPR y DU, cysylltwch â'r isod:
Tîm yr Arolwg Cenedlaethol
Cyfeiriad e-bost: arolygon@llyw.cymru
Rhif ffôn: 0300 025 2021
Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru
Cyfeiriad: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru.
