Neidio i'r prif gynnwy

Mae addysg yn newid

Mae addysg yn newid

Bydd ein diwygiadau a’n cwricwlwm newydd yn cefnogi pobl ifanc i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i wneud y gorau o fywyd. 

Beth sy’n newid?

Bydd cwricwlwm newydd, wedi’i wneud yng Nghymru gan athrawon, partneriaid, ymarferwyr a busnesau ac wedi'i lunio gan y syniadau gorau o bob cwr o'r byd. 

Bydd asesu yn rhan o ddysgu dyddiol eich plentyn a byddant yn gweithio gyda'u hathrawon i ddeall pa mor dda y maent yn gwneud.  

Bydd hefyd ffyrdd newydd o hyfforddi a chefnogi staff a chymorth i ysgolion wella.

Bydd y newidiadau hyn i gyd yn ategu'r cwricwlwm newydd.

Pam fod angen inni wneud y newidiadau hyn? 

Cyflwynwyd y cwricwlwm cenedlaethol am y tro cyntaf yn 1988; oes cyn siopa ar-lein, cyn Google a chyn y Cwmwl. Bellach, mae gwaith yn wahanol, mae technoleg yn wahanol, ac mae cymdeithas yn newid.

Rhaid i'r cwricwlwm baratoi pobl ifanc i ddatblygu safonau llythrennedd a rhifedd uwch, i ddod yn fwy cymwys yn ddigidol ac yn ddwyieithog, ac i fod ynddinasyddion hyderus, galluog a thosturiol – dinasyddion Cymru a dinasyddion y byd.

Pryd fydd hyn yn digwydd?

Dyma pryd y bydd y cwricwlwm newydd yn cael ei addysgu:

  • Medi 2022 – Hyd at flwyddyn 6 a rhai o flwyddyn 7
  • Medi 2023 – Blwyddyn 7 ac 8

Yna cyflwynir y cwricwlwm o flwyddyn i flwyddyn nes ei fod yn cynnwys blwyddyn 11 erbyn 2026.

Canllaw i Cwricwlwm i Gymru newydd

Mae'r canllawiau hyn yn esbonio'r cwricwlwm newydd mewn ffordd syml.

Bydd ysgolion yn symud ymlaen gyda chynllunio eu cwricwlwm yn seiliedig ar y gyfres o Ganllawiau Cwricwlwm

Sut gallai hyn edrych mewn ysgolion?

Duwedodd athrawon, disgyblion a rhieni Ysgol Bro Edern wrthym am eu profiadau o ddatblygu'r cwricwlwm yn eu hysgol.

Beth yw barn Llywodraethwyr Ysgol?

Y Pennaeth a rhiant-Lywodraethwr yn siarad am y newidiadau yn Ysgol Bontnewydd.

A fydd newidiadau i'r flwyddyn ysgol?

Bydd y Llywodraeth yn bwrw ymlaen â'i hymrwymiad maniffesto i adolygu rhythm y flwyddyn ysgol, drwy sgwrs genedlaethol, gyda chyfleoedd i rieni, myfyrwyr, staff addysg, gweithwyr y sector preifat a chyhoeddus a chyflogwyr roi eu barn.

A fydd y ffordd y mae plant yn dysgu yn newid?

Bydd y ffordd y mae plant yn dysgu mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn wahanol. Bydd dysgu'n cynnwys sgiliau a phrofiadau, yn ogystal â gwybodaeth. Bydd yn rhoi mwy o ryddid i athrawon addysgu mewn ffyrdd sydd, o'u safbwynt nhw, yn mynd i sicrhau'r deilliannau gorau i'w myfyrwyr.

Beth am y Cyfnodau Allweddol presennol?

Bydd Cyfnodau Allweddol 2, 3 a 4 yn diflannu. Bydd egwyddorion y Cyfnod Sylfaen yn parhau, ond bydd hynny'n rhan o un cwricwlwm di-dor i blant 3-16 oed: bydd hyn yn sicrhau dysgu mwy cydgysylltiedig. 

Bydd yna 'Gamau Cynnydd' pan fydd plant yn 5, 8, 11, 14 ac 16 oed a fydd yn cyfateb i ddisgwyliadau bras ar gyfer cynnydd plentyn ar yr oedrannau hynny.

A gaiff pynciau traddodiadol eu dysgu o hyd?

Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn grwpio pynciau yn chwe Maes Dysgu a Phrofiad. Bydd pynciau penodol yn dal i gael eu haddysgu, ond gall ysgolion benderfynu eu cyfuno fel bod dysgwyr yn deall y cysylltiadau rhyngddynt. Yn y dyniaethau er enghraifft gellir edrych ar bwnc fel newid yn yr hinsawdd yn holistaidd drwy ddaearyddiaeth, hanes ac effaith ar gymdeithas. Bydd llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn cael eu haddysgu i bawb drwy gydol eu haddysg.

Mae'r chwe Maes Dysgu a Phrofiad fel a ganlyn:

  • Y Celfyddydau Mynegiannol
  • Iechyd a Lles
  • Y Dyniaethau
  • Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
  • Mathemateg a Rhifedd 
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Am ragor o wybodaeth am bob un o’r meysydd dysgu a phrofiad.

Beth fydd yn digwydd o ran asesu?

Bydd asesiadau’n digwydd o ddydd i ddydd i asesu cynnydd pob unigolyn, i gytuno ar y camau nesaf ac i fonitro cynnydd dros amser. Ni chaiff ei ddefnyddio i lunio barn untro ar oedran penodol neu bwynt mewn amser. 

Darganfyddwch sut y bydd dysgu'n cael ei gynllunio a bydd cynnydd yn cael ei asesu (ar YouTube).

A fydd plant yn dal i wneud TGAU?

Bydd cymwysterau TGAU yn dal i fodoli ond byddant yn newid i adlewyrchu'r cwricwlwm sy'n newid, ac felly gallent edrych yn dra gwahanol i gymwysterau TGAU heddiw.

Rhoddir cyngor a chymorth i ddysgwyr sy'n dewis eu hopsiynau wrth iddynt baratoi ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Beth sy'n newid gydag Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh)?

Yn 2022 bydd cod newydd yn nodi'n glir yr hyn y dylid ei ddysgu mewn Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Bydd yn cynnwys dysgu am gydberthnasau iach, a chadw'n ddiogel, gan gynnwys ar-lein, a bod yn hyderus wrth godi materion gydag oedolion cyfrifol.  Bydd y dysgu yn briodol yn ddatblygiadol i ddysgwyr ac yn meithrin gwybodaeth, sgiliau a gwerthoedd yn raddol wrth iddynt ddatblygu.

Mae amrywiaeth o wahanol grwpiau, gan gynnwys grwpiau ffydd a grwpiau sy'n cynrychioli buddiannau pobl ifanc wedi helpu i ddatblygu’r cod.

Am rhagor o wybodaeth Hwb (LLYW.CYMRU)

Anghenion dysgu ychwanegol

Bydd gwelliannau hefyd yn cael eu gwneud i'r cymorth ar gael i blant ag anghenion dysgu ychwanegol.

Mae'r canllaw ar LLYW.CYMRU yn egluro sut y bydd rhai plant yn symud i'r system ADY rhwng mis Medi 2021 a mis Awst 2022.