Mae addysg yn newid: anghenion dysgu ychwanegol
Mae'r diwygiadau i'r system addysg wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion pob dysgwr.
Mae Cwricwlwm i Gymru yn cynnig mwy o hyblygrwydd i athrawon addysgu mewn ffordd sy'n diwallu anghenion unigol pob plentyn, gan chwalu'r rhwystrau i ddarparu cyfleoedd a chanlyniadau addysg rhagorol i bob dysgwr.
Efallai y bydd angen cymorth neu ddarpariaeth ychwanegol ar rai plant a phobl ifanc i'w helpu i gyflawni eu potensial llawn.
Beth sy'n newid?
Mae'r ffordd rydym yn cefnogi plant a phobl ifanc sydd angen cymorth ychwanegol i ddysgu yn newid.
Rydym yn newid y systemau gwahanol ar gyfer anghenion addysgol arbennig (AAA) mewn ysgolion a lleoliadau, ac anawsterau a/neu anableddau dysgu (AAD) mewn addysg bellach i greu un system.
Mae system unedig newydd yn cael ei chyflwyno, wedi'i chynllunio i gefnogi plant a phobl ifanc 0 i 25 oed sydd ag ADY yng Nghymru. Mae'n cyflwyno'r term newydd - Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
Darllen System anghenion dysgu ychwanegol (ADY): canllaw i rieni a theuluoedd ar LLYW.CYMRU.
Beth yw Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a darpariaeth addysg ychwanegol (DAY)?
Mae plant a phobl ifanc ag ADY angen cymorth ychwanegol i ddysgu. Gall hyn fod oherwydd eu bod yn:
- ei chael hi'n anoddach dysgu na phlant eraill o'r un oedran
- bod ag anabledd sy'n golygu na allant ddefnyddio cyfleusterau dysgu yn y feithrinfa, yr ysgol neu'r coleg lleol, neu'n ei chael hi'n anodd eu defnyddio.
Gelwir y cymorth ychwanegol a roddir i blant ag ADY i'w helpu i ddysgu yn ddarpariaeth addysg ychwanegol (DAY).
Mae'n rhaid i hyn gael ei ysgrifennu i mewn i gynllun cymorth o'r enw Cynllun Datblygu Unigol (CDU).
Mae gan bob ysgol a lleoliad addysg arall Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY), ac maent wedi derbyn hyfforddiant a chyllid ychwanegol i helpu i roi'r system newydd ar waith.
Mae barn plant a theuluoedd yn bwysig iawn
Mae hyn yn golygu eich bod chi fel y rhiant/gofalwr yn rhan o wneud penderfyniadau a bod yn rhan o addysg a chymorth eich plentyn.
Rhaid i'r hyn y mae'r plentyn neu'r person ifanc yn ei feddwl, ei deimlo a'i eisiau fod yn rhan o'i Gynllun Datblygu Unigol.
Fel hyn, bydd pawb yn deall anghenion eich plentyn er mwyn gwneud penderfyniadau ar y cymorth sydd ei angen.
Mae'n bwysig i chi, eich plentyn a'ch ysgol neu leoliad i siarad. Gall siarad helpu i sicrhau bod unrhyw bryderon neu wahaniaethau barn yn cael sylw.
Symud dysgwyr o'r system AAA i ADY
Efallai bod rhai dysgwyr wedi derbyn cefnogaeth o dan y System AAA.
Mae rhagor o wybodaeth am sut a phryd y bydd plant yn symud i'r system ADY o'r system AAA ar gael yn y System anghenion dysgu ychwanegol (ADY): canllaw i rieni a theuluoedd ar LLYW.CYMRU
Bydd gweithredu'r system ADY ar gyfer pobl ifanc yn cynnwys system ‘sianelu’ fewn i addysg bellach. Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae system ‘sianelu’ yn ei olygu ar gael yn y System anghenion dysgu ychwanegol (ADY): canllaw pobl ifanc ar LLYW.CYMRU.
Pennu a chefnogi cynnydd dysgwyr
Dylech gael gwybod yn rheolaidd am gynnydd eich plentyn ar draws y cwricwlwm.
Pan fydd lleoliadau addysg yn nodi bod dysgwyr yn gwneud llai o gynnydd na'r disgwyl, maent yn defnyddio ystod o ddulliau gwahanol neu wedi'u targedu i gefnogi dysgu.
Bydd angen help ychwanegol ar y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc i symud ymlaen mewn agwedd ar eu dysgu ar ryw adeg yn y feithrinfa, yn yr ysgol neu yn y coleg - nid yw'r cymorth ychwanegol hwnnw i symud ymlaen yn golygu bod ganddynt ADY.
Fodd bynnag, os yw eich plentyn yn parhau i wneud llai o gynnydd na'r disgwyl, efallai y bydd angen cymryd camau ychwanegol neu wahanol i'w cefnogi.
Ar yr adeg hon, gellir nodi bod gan eich plentyn ADY, sy'n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDY).
Gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth
I gael rhagor o arweiniad a gwybodaeth am sut y gellir cefnogi eich plentyn, siaradwch ag athro dosbarth eich plentyn, Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol yr ysgol (CADY) a/neu bennaeth.
Os oes angen rhagor o gyngor a chefnogaeth arnoch, yna cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol. Rhaid i bob awdurdod lleol ddarparu gwybodaeth a chyngor diduedd am ADY a'r system ADY yn rhad ac am ddim.
Mae ysgolion yn cyhoeddi gwybodaeth am ADY ar eu gwefannau ar gyfer disgyblion a rhieni.
Gall SNAP Cymru ddarparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ddiduedd i rieni, plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, neu a allai fod ag anghenion dysgu ychwanegol.
Er mwyn cefnogi rhieni a theuluoedd i ddeall eu hawliau o dan y system ADY, mae canllaw trosolwg a fersiwn hawdd ei ddarllen ar gael.
Datrys anghydfod
Mae proses i ddatrys unrhyw anghytundebau gyda'r ysgol, Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD) neu goleg i'w helpu i gael eu datrys yn gynnar.
Os ydych chi'n dal yn anhapus, yna dylech siarad â'ch awdurdod lleol i ofyn am gyngor pellach.
Mae pob awdurdod lleol yn darparu trefniadau ar gyfer osgoi a datrys anghydfodau ADY. Dysgwch fwy yn y System anghenion dysgu ychwanegol (ADY): hawliau rhieni ar LLYW.CYMRU.
Gallwch apelio i'r Tribiwnlys Addysg os ydych yn anfodlon â phenderfyniad ynghylch penderfyniadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a wneir gan Awdurdodau Lleol a Cholegau Addysg Bellach yng Nghymru.
Datrys anghytundebau ac eiriolaeth annibynnol ym maes iechyd
Mae'r Cod ADY yn annog cyfathrebu agored a chynnwys cefnogaeth gweithwyr iechyd proffesiynol pan fo angen fel bod rhieni/gofalwyr, plant a phobl ifanc yn cael datrysiad cynnar i unrhyw bryderon neu anghytundebau sydd ganddynt.
Er mwyn mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â gofal a thriniaeth a ariennir gan y GIG yn effeithiol, dylai teuluoedd ddefnyddio proses Rhoi Pethau'n Iawn GIG Cymru.
Gwasanaeth cwynion, eirioli a cymorth annibynnol am ddim yn ymwneud a iechyd a gwasanaethau cymdeithasol hefyd ar gael trwy Llais.
Bydd arwain teuluoedd at yr adnoddau hyn yn helpu byrddau iechyd i nodi lle mae angen iddynt dargedu gwelliannau i wasanaethau er budd plant a phobl ifanc ag ADY.
Pontio cadarnhaol i addysg ôl-16
Mae cymorth ar gael i helpu pobl ifanc ag ADY i bontio'n llwyddiannus o'r ysgol i addysg bellach, gwneud dewisiadau gwybodus a chynllunio eu camau nesaf.
Darganfod mwy: