Neidio i'r prif gynnwy

Mae angen i addysg baratoi pobl ifanc ar gyfer dyfodol sy'n newid yn gyflym a byd gwaith. Mae addysg yng Nghymru yn newid wrth i gwricwlwm newydd gael ei gyflwyno yn 2022. 

Bydd llythrennedd digidol yn dod yn ofyniad trawsgwricwlaidd craidd, ynghyd â llythrennedd a rhifedd. Bydd sgiliau ehangach fel gwydnwch, cyfathrebu a datrys problemau yn helpu pobl ifanc i gymhwyso'r wybodaeth maent yn ei chaffael yn yr ysgol a'u cymhwyso i sefyllfaoedd bywyd go iawn.

Erbyn i blant adael yr ysgol bydd ganddyn nhw sgiliau datrys problemau, byddan nhw'n dda am gyfathrebu, a byddan nhw'n hyderus wrth weithio mewn timau. 

Bydd dealltwriaeth o fyd gwaith yn dechrau o oedran cynnar. Bydd yr holl blant a phobl ifanc mewn ysgolion cynradd yn ogystal ag uwchradd yn gallu dysgu am yrfaoedd.

Mae addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith yn thema drawsbynciol yn y Cwricwlwm i Gymru ar gyfer plant rhwng 3 ac 16 oed. Disgwylir i ysgolion a lleoliadau ddilyn y Canllawiau Statudol ar gyfer gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith wrth ddatblygu eu cwricwlwm.  Mae'r pecyn cymorth gyrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â gwaith yn adnodd i gefnogi ymgorffori mewn ysgolion a lleoliadau.

Bydd pynciau traddodiadol yn cael eu rhannu'n chwe maes dysgu. Bydd pynciau'n dal i gyfrif, ond heb ffiniau fel bod disgyblion yn cael cyd-destun ehangach. Er enghraifft, gallai athrawon gynnwys entrepreneuriaeth fel rhan o Wyddoniaeth a Thechnoleg neu'r Celfyddydau Mynegiannol.

“Mae dros ddwy ran o dair o gyflogwyr (70%), yn graddio sgiliau llythrennedd a rhifedd fel un o'u tair ystyriaeth bwysicaf wrth recriwtio ymadawyr ysgol a Choleg, ond bron hanner (45%) o fusnesau yn rancio dawn a pharodrwydd ar gyfer gwaith fel y sengl ffactor pwysicaf”

Educating for the Modern World, CBI/Pearson Education and Skills Annual Report, Tachwedd 2018

A fydd cymwysterau'n newid?

Bydd cymwysterau yn 16 oed yn newid, gan addasu dros amser i adlewyrchu'r cwricwlwm newydd. Gallent edrych yn dra gwahanol i gymwysterau TGAU heddiw pan fyddant yn cael eu cyflwyno o 2025.

Mae Cymwysterau Cymru wedi ymgynghori ar gymwysterau academaidd a galwedigaethol yn y dyfodol, a sut maent yn cysylltu â’r Cwricwlwm i Gymru. Cadarnhaodd eu canfyddiadau y byddai'r enw TGAU yn aros. 

I gael gwybod beth sydd wedi'i digwydd hyd yn hyn, sut y gallwch gymryd rhan a'r amserlen ar gyfer y gwaith

Sut y gallwch chi gymryd rhan fel busnes?

Pan fydd y cwricwlwm yn fyw, gobeithiwn y byddwch yn cysylltu ag ysgolion i gynnig profiadau a phrosiectau sy'n helpu pobl ifanc i ddeall byd busnes a gwaith.

Mae Gyrfa Cymru yn hwyluso'r Gyfnewidfa Addysg Busnes i roi cyfleoedd i ddatblygu rhaglenni cyffrous i wella'r cwricwlwm i ddysgwyr.