Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf gadarnhau fy mod heddiw wedi cyhoeddi'r Crynodeb o'r Ymatebion i'r ymgynghoriad ar Fwyta'n Iach mewn Ysgolion. Daeth dros 3,000 o ymatebion i law yn sgil yr ymgynghoriad 10 wythnos, a gynhaliwyd rhwng 20 Mai a 29 Gorffennaf 2025, gan ddysgwyr, rhieni, addysgwyr, gweithwyr iechyd proffesiynol, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill, yn dangos diddordeb cryf ac ymrwymiad cyffredin i wella safonau bwyd ysgolion yng Nghymru. Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i ymateb.

Ein huchelgais o hyd yw helpu plant a phobl ifanc i ddatblygu arferion bwyta iach, sicrhau bod ganddynt fynediad at fwyd iachach yn ystod oriau ysgol, a'u bod yn gwneud dewisiadau bwyd iach. Rydym yn gwybod bod maeth da yn helpu plant i berfformio'n well a chyrraedd eu potensial llawn.   

Datblygwyd ein cynigion yn ofalus ac ar y cyd, i gefnogi bwyd a diod iachach mewn ysgolion, gwella'r gallu i ganolbwyntio a lefelau lles, cefnogi gwell canlyniadau addysg, lleihau anghydraddoldebau iechyd a helpu i ddatblygu arferion bwyta iach am oes. Mae'r gefnogaeth eang i'r mwyafrif o'r cynigion a gyhoeddwyd gennym yn galondid i mi felly, gan gynnwys cefnogaeth ymhlith y plant eu hunain a'u rhieni. 

Rwy'n ymrwymedig i barhau i gydweithio ac ystyried y canfyddiadau hyn yn ofalus cyn i'r set derfynol o reoliadau ar gyfer ysgolion cynradd a gynhelir ac ysgolion meithrin a gynhelir gael eu gosod. Bydd hyn yn ein helpu i daro'r cydbwysedd cywir rhwng y canlyniadau yr ydym yn gobeithio eu cyflawni, gweithredu'n ymarferol ar lawr gwlad, a sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn parhau i fwynhau prydau ysgol. 

Y bwriad yw gosod y rheoliadau y tymor Seneddol hwn, a byddaf yn cyfathrebu ymhellach ar y mater bryd hynny. Rydym yn ddiolchgar i bawb a gyfrannodd at yr ymgynghoriad, ac edrychwn ymlaen at barhau â'r gwaith pwysig hwn mewn partneriaeth â rhanddeiliaid ledled Cymru.

Mae crynodeb o'r ymatebion ar gael yma ac ar wefan Llywodraeth Cymru. Diolch eto i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad. Mae eich lleisiau yn helpu i lywio dyfodol bwyd ysgol yng Nghymru. Gyda'n gilydd, rydym yn gosod y sylfeini ar gyfer bwyd ysgol iachach i helpu plant i ffynnu a chyrraedd eu potensial.