Daeth yr ymgynghoriad i ben 29 Gorffennaf 2025.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym eisiau eich barn ar gynigion sy'n ymwneud â bwyd a diod mewn ysgolion cynradd a gynhelir yng Nghymru. Rydym hefyd yn galw am dystiolaeth ar y bwyd a ddarperir mewn ysgolion uwchradd.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae Cymru ar flaen y gad yn y DU o ran darparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd. Mae'r cam pwysig hwn yn helpu i fynd i'r afael â thlodi plant a newyn, yn cefnogi dysgwyr i gyflawni, ac yn cyfrannu at wella iechyd, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn ysgolion a chymunedau ledled Cymru.
Rydym yn edrych i ddiweddaru:
- pa fwyd a diodydd y gellir eu darparu mewn ysgolion
- canllawiau ar gyfrifoldebau dros hyrwyddo bwyta ac yfed yn iach
Bydd y newidiadau hyn yn helpu plant i:
- ddatblygu arferion bwyta iach
- cael mynediad at fwyd iachach yn ystod oriau ysgol
- gwneud dewisiadau bwyd iach
Mae maeth da yn helpu plant i berfformio'n well a chyrraedd eu potensial llawn.
