Bwyta'n iach mewn ysgolion
Rydym eisiau eich barn ar gynigion sy'n ymwneud â bwyd a diod mewn ysgolion cynradd a gynhelir yng Nghymru. Rydym hefyd yn galw am dystiolaeth ar y bwyd a ddarperir mewn ysgolion uwchradd.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhagair gan y Gweinidog: rhoi'r dechrau gorau i bob plentyn drwy fwyd iach mewn ysgolion
Pam mae bwyd iach mewn ysgolion yn bwysig
Mae plant sy'n bwyta'n dda yn dysgu'n well, yn teimlo'n well, ac yn tyfu'n gryfach. Mae ein hysgolion yn fannau pwysig lle mae plant yn treulio tua 40% o'u horiau effro, sy'n helpu i lunio arferion bwyta gydol oes a lleihau anghydraddoldebau iechyd.
Mae hyn yn arbennig o bwysig heddiw am y rhesymau canlynol:
- Mae bwyd sy'n llai iach yn aml yn rhatach ac yn haws ei ganfod nag opsiynau iachach
- Mae un o bob pedwar o blant oedran derbyn yn dechrau'r ysgol yn byw gyda gordewdra neu bwysau gormodol
- Nid yw llawer yn cael y maeth cytbwys sydd ei angen arnynt i ffynnu
Cydweithio dros fwyd gwell mewn ysgolion
Rydym yn diweddaru ein rheoliadau a'n canllawiau ar fwyd a maeth ar sail yr argymhellion deietegol diweddaraf. Rydym yn cydweithio â phartneriaid, arlwywyr, athrawon, cyflenwyr, cynhyrchwyr lleol a phobl ifanc i sicrhau bod bwyd iachach ar gael yn yr ysgol i bob plentyn yng Nghymru.
Nod ein dull diwygiedig yw:
- Helpu pob plentyn i gael gafael ar y bwyd sydd ei angen arno i ddilyn deiet iach, gan gynnwys plant ag anghenion deietegol arbennig neu feddygol
- Darparu dognau sy'n briodol i oedran
- Helpu ysgolion, arlwywyr a phartneriaid i roi'r rheoliadau newydd hyn ar waith
- Cydbwyso bwydydd iachach â chadw hoff fwydydd yn yr ysgol
- Nodi'n glir pwy sy'n gyfrifol am hyrwyddo bwyta'n iach mewn ysgolion a'u helpu i gyflawni'r ddyletswydd hon
Mae eich llais yn bwysig
Gwyddom fod arlwywyr yn gweithio'n galed iawn i ddarparu bwyd da. Gwyddom hefyd fod bwyd yn yr ysgol yn bwysig iawn i blant a rhieni a bod y rhan fwyaf ohonynt yn cefnogi'r newid i opsiynau iachach.
Dyna pam mae angen i ni glywed gennych, p'un a ydych yn berson ifanc, yn rhiant neu'n warcheidwad, yn arlwywr neu'n gogydd, yn athro, yn gyflenwr bwyd neu'n ffermwr lleol. Bydd eich safbwyntiau yn helpu i lywio'r rheoliadau a'r canllawiau hyn.
Diolch i bawb sydd wedi helpu i ddatblygu'r cynigion hyn hyd yma. Drwy weithio gyda'n gilydd, gallwn greu safonau bwyd ysgol sy'n cefnogi iechyd, llesiant, presenoldeb a chyflawniad plant – yn awr ac yn y dyfodol.
Lynne Neagle
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Trosolwg
Bwyd a Diod mewn Ysgolion yng Nghymru: Dweud eich Dweud
Pam rydym yn gwneud newidiadau
Mae Cymru yn arwain y ffordd yn y DU o ran darparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd. Mae'r cam pwysig hwn yn helpu i fynd i'r afael â thlodi plant ac achosion o blant yn mynd heb fwyd, yn helpu dysgwyr i gyflawni, ac yn cyfrannu at iechyd gwell, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn ysgolion a chymunedau ledled Cymru.
Ar hyn o bryd, rydym yn cynnig:
- prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd
- llaeth am ddim ac am bris gostyngol mewn ysgolion
- brecwast am ddim i ddisgyblion cynradd
- prydau ysgol am ddim i'r disgyblion uwchradd sydd eu hangen fwyaf
Er ein bod yn falch o gynnig y rhaglen bwyd ysgol fwyaf hael yn y DU, rydym am sicrhau bod y bwyd o'r ansawdd gorau hefyd.
Yr hyn rydym am ei newid
Rydym yn awyddus i ddiweddaru'r canlynol:
- pa fwydydd a diodydd y gellir eu darparu mewn ysgolion
- canllawiau i arlwywyr ar y rheoliadau, gan gynnwys gofynion dietegol a ragnodir yn feddygol (Dietau arbennig)
- canllawiau ar gyfrifoldebau am hyrwyddo bwyta ac yfed yn iach
Bydd y newidiadau hyn yn helpu plant i wneud y canlynol:
- datblygu arferion bwyta'n iach
- cael gafael ar fwyd iachach yn ystod oriau ysgol
- gwneud dewisiadau bwyd iach
Mae maeth da yn helpu plant i berfformio'n well a gwireddu eu potensial yn llawn.
Yr hyn y mae'r ymgynghoriad hwn yn ei gwmpasu
Rydym yn casglu eich barn mewn tair rhan.
Ysgolion cynradd: Cynigion newydd ar gyfer bwyd a diod
Bydd y rhain yn:
- cynnig mwy o ffrwythau a llysiau er mwyn helpu plant yng Nghymru i fwyta pump y dydd
- cynnwys carbohydradau startshlyd (fel grawn cyflawn) am fod tystiolaeth yn awgrymu nad yw plant yng Nghymru yn bwyta digon o ffeibr
- cyfyngu ar fwydydd crwst, pwdinau a nwyddau pob wedi'u melysu, a bwydydd wedi'u ffrio yn seiliedig ar y cyngor deietegol diweddaraf
- teilwra meintiau dognau yn ôl grŵp oedran, a allai leihau gwastraff bwyd
- darparu llai o gig wedi'i brosesu a chyfyngu ar ddewisiadau wedi'u prosesu yn lle pysgod a chig a all gynnwys llawer o halen a braster dirlawn
- diogelu cig coch yn gymedrol er mwyn sicrhau bod plant yn cael budd o'r maethynnau y mae'n eu cynnig
- gwahardd diodydd llawn siwgr, sy'n gysylltiedig â gordewdra a phydredd dannedd
Hyrwyddo bwyta'n iach: Canllawiau cliriach ar gyfrifoldebau
Bydd hyn yn:
- diffinio dyletswyddau awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion o ran hyrwyddo bwyta'n iach yn glir
- rhoi enghreifftiau ymarferol o'r ffyrdd y gall ysgolion hyrwyddo arferion bwyta'n iach yn effeithiol
- cadarnhau pwy sy'n gyfrifol am ddyletswyddau penodol mewn lleoliadau ysgol gwahanol
- esbonio sut y gall ysgolion ddangos eu bod yn bodloni eu gofynion cyfreithiol
- cefnogi dull ysgol gyfan o greu amgylcheddau bwyd iachach
Ysgolion uwchradd: Galwad am dystiolaeth am y sefyllfa bresennol o ran bwyd a diod
Gwyddom fod y ffordd y mae dysgwyr mewn ysgolion uwchradd yn dewis cael bwyd yn yr ysgol wedi newid. Mae'n wahanol i'r sefyllfa mewn ysgolion cynradd, lle mae'r rhan fwyaf o'r plant yn eistedd gyda'i gilydd i gael cinio dau gwrs traddodiadol ar blât.
Mae mwy o ddewis, mwy o ymreolaeth, a mwy o fwydydd cyflym ar gael i ddysgwyr mewn ysgolion uwchradd, ochr yn ochr â phryd o fwyd ar blât.
Rydym yn casglu mwy o ddata ar fwyd mewn ysgolion uwchradd. Rydym hefyd yn ceisio tystiolaeth i'n helpu i ddeall y ffordd orau o sicrhau darpariaeth bwyd apelgar a chytbwys o ran maeth mewn ysgolion uwchradd.
Sut y caiff eich adborth ei ddefnyddio
Bydd eich ymatebion yn ein helpu i greu:
- rheoliadau newydd ar gyfer bwyd a diod mewn ysgolion cynradd (a fydd yn dechrau yn 2026 i 2027)
- canllawiau newydd ar hyrwyddo bwyta'n iach mewn ysgolion (a gyhoeddir ym mis Rhagfyr 2025)
- cynlluniau i wella rheoliadau bwyd ar gyfer ysgolion uwchradd yn y dyfodol
Ein dull gweithredu
Y ddarpariaeth bwyd bresennol mewn ysgolion
Mae Cymru yn cynnig cymorth bwyd a diod helaeth i ddysgwyr:
- Tua 20 miliwn o ddognau o laeth am ddim neu am bris gostyngol bob blwyddyn.
- Tua 10 miliwn o frecwastau am ddim mewn ysgolion cynradd bob blwyddyn.
- Prydau ysgol am ddim i fwy na 120,000 o ddysgwyr o deuluoedd sy'n cael budd-daliadau penodol neu drwy fesurau diogelu trosiannol.
- Prydau am ddim i bob disgybl ysgol gynradd, sydd o fudd i 175,000 o ddysgwyr ychwanegol.
Gyda'i gilydd, gall tua dwy ran o dair o ddysgwyr yng Nghymru gael cinio am ddim bob dydd, ac mae llawer mwy yn defnyddio'r gwasanaeth prydau ysgol am dâl.
Mae ymchwil yn dangos y gall prydau ysgol wneud y canlynol:
- Codi cyflawniad addysgol.
- Helpu i ddatblygu arferion bwyta'n iach a lleihau anghydraddoldebau iechyd.
- Mynd i'r afael ag achosion o blant yn mynd heb fwyd a thlodi plant.
- Gwella sefyllfa ariannol teuluoedd.
Mae'r manteision hyn yn fwy pan fydd prydau yn dilyn safonau maeth da.
Polisïau sy'n cefnogi iechyd drwy fwyd mewn ysgolion
Mae ein dull o ymdrin â bwyd mewn ysgolion yn seiliedig ar y canlynol:
- Mesur Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009.
- Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013.
- Bwyta'n iach mewn ysgolion a gynhelir: canllawiau statudol.
- Y Cwricwlwm i Gymru.
- Rhwydwaith Ysgolion Cymru sy'n Hybu Iechyd a Lles.
Pam mae hyn yn bwysig i addysg
Mae iechyd a llesiant da yn bwysig i alluogi dysgu llwyddiannus. Rydym am i bob dysgwr ddeall pwysigrwydd deiet maethlon ac effaith ei ddewisiadau ar ei iechyd a'i lesiant corfforol, a datblygu ymddygiadau cadarnhaol ar sail gwybodaeth. Gall bwyta pryd maethlon yn yr ysgol wella hwyliau cyffredinol a lefelau egni dysgwyr, gan gynyddu eu brwdfrydedd a'u presenoldeb a'u cyflawniad. Gall dod â dysgwyr at ei gilydd i fwyta wella eu sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu yn ogystal â'u helpu i wneud ffrindiau drwy rannu bwyd.
Pam mae hyn yn bwysig i iechyd
Rydym yn ymrwymedig i wella canlyniadau iechyd a lleihau anghydraddoldebau. Ar hyn o bryd:
- nid yw deietau y rhan fwyaf o blant yn dilyn yr argymhellion cenedlaethol.[troednodyn 1]
- mae un o bob pedwar plentyn (tua 9,000) dros bwysau neu'n ordew pan fyddant yn dechrau yn yr ysgol [troednodyn 2]
- mae plant sy'n byw mewn ardaloedd o anfantais economaidd-gymdeithasol yn fwy tebygol o fod dros bwysau neu'n ordew.
Gall prydau ysgol gyfrif am draean neu fwy o'r bwyd y mae plentyn yn ei fwyta bob dydd yn ystod yr wythnos. Maent yn gyfle pwysig i sicrhau bod mwy o fwydydd iachach ar gael, cefnogi arferion bwyta'n iach, a gwneud dewisiadau bwyd iach yn haws.
Mae'r gwaith hwn yn cefnogi ein nod o greu "Cymru Iachach" – cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl yn ffynnu a lle mae'n dod yn haws gwneud dewisiadau iachach.
Y manteision ehangach
Mae bwyd mewn ysgolion hefyd yn cefnogi'r canlynol:
- hawliau plant: Bodloni Erthygl 24 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn – hawl pob plentyn i iechyd da, dŵr glân, bwyd maethlon ac addysg ar iechyd
- economïau lleol: Mae ein rhaglen Prydau Ysgol am ddim i bob plentyn Ysgol Gynradd yn cynyddu faint o fwyd sy'n cael ei gynhyrchu a'i ddosbarthu'n lleol drwy brosesau caffael cyhoeddus cynaliadwy
- nodau amgylcheddol: Cefnogi ein strategaeth Sero Net drwy hyrwyddo deietau iachach, lleihau gwastraff bwyd, lleihau taith bwyd a mynd i'r afael â digoedwigo
- strategaeth fwyd gymunedol: Gweithio o fewn ein fframwaith i fanteisio i'r eithaf ar fwyd lleol iach a chynaliadwy, gan fynd i'r afael â thlodi bwyd a chreu cyfleoedd ar gyfer twf economaidd lleol ar yr un pryd.
- partneriaethau lleol: Mae partneriaethau bwyd ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru yn cysylltu ffermwyr â'r gadwyn cyflenwi bwyd ehangach, gan ategu amcanion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy
Cynnydd hyd yma
Ers i'r rheoliadau cyfredol gael eu cyflwyno yn 2013, rydym wedi gweld gwelliannau sylweddol i fwyd mewn ysgolion. Mae arlwywyr wedi gostwng lefelau siwgr mewn pwdinau, wedi hyrwyddo mwy o lysiau, ac wedi cyflwyno mwy o rawn cyflawn.
Mae llawer o ysgolion ac arlwywyr wedi croesawu cynaliadwyedd a chynnyrch lleol. Drwy weithgarwch peilot wedi'i ariannu, rydym yn gweld mwy o fwyd lleol ar fwydlenni ysgolion. Mae'r Cwricwlwm i Gymru, yn enwedig drwy Faes Dysgu Iechyd a Lles, yn cynnig dull cyfannol o ddeall iechyd.
Cyd-destun ehangach
Mae'r rheoliadau a'r canllawiau drafft rydym yn eu rhannu yn cynrychioli ein cam nesaf ymlaen. Fodd bynnag, mae bwyd da mewn ysgolion yn ymwneud â mwy na'r hyn sydd ar y plât – mae angen dull ysgol gyfan sy'n cynnwys y canlynol:
- Addysg bwyd yn y Cwricwlwm.
- Amgylcheddau bwyta cefnogol.
- Egwyliau cinio o hyd priodol.
- Partneriaethau cryf.
Nid yw'r ymgynghoriad hwn yn ymdrin yn uniongyrchol â'r ffactorau ehangach hyn, ond maent yn rhan o'r darlun ehangach. Rydym hefyd yn cydnabod bod y cynhwysion sydd ar gael ar y farchnad, cadwyni cyflenwi, prosesau caffael a gwaith rheoli costau yn effeithio ar fwyd mewn ysgolion.
Sut y gwnaethom ddatblygu'r cynigion hyn
Gwnaethom sefydlu grwpiau arbenigol yn cynnwys: dysgwyr, ysgolion a chyrff llywodraethu, arlwywyr awdurdodau lleol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, deietegwyr, arbenigwyr ym maes iechyd y cyhoedd, arolygwyr Estyn ac ymchwilwyr academaidd.
Ystyriodd y grwpiau hyn y canlynol:
- sut y gellid diweddaru'r rheoliadau cyfredol i'w cysoni ag argymhellion deietegol diweddaraf y DU
- beth y gellid ei ddarparu yn ymarferol
- effaith newidiadau ar wasanaethau bwyd ysgolion
- sut y gellid bodloni anghenion deietegol arbennig a deietau sydd wedi'u rhagnodi'n feddygol
- arferion gorau ar gyfer hyrwyddo bwyta'n iach
O ran ysgolion cynradd, rydym wedi datblygu cynigion sy'n cyd-fynd ag argymhellion deietegol ac yr ymddengys y gallai ein partneriaid eu cyflawni. Rydym yn croesawu eich safbwyntiau ar y rheoliadau a'r canllawiau drafft hyn.
O ran ysgolion uwchradd, mae angen rhagor o wybodaeth arnom. Mae'r patrymau bwyta mewn ysgolion uwchradd yn fwy cymhleth oherwydd poblogrwydd opsiynau cyflym, a'r amrywiaeth eang o fwydydd sydd ar gael yn ystod yr egwyl bore ac amser cinio.
Rydym yn casglu data ar arferion bwyta ac yn cyhoeddi galwad am dystiolaeth fel rhan o'r ymgynghoriad hwn er mwyn deall y lleoliadau hyn yn well.
Y dystiolaeth ar gyfer newid
Er bod llawer o ffactorau yn dylanwadu ar ganlyniadau iechyd plant, mae tystiolaeth yn dangos bod gofynion bwyd a safonau maeth cadarn, a roddir ar waith fel rhan o ddull ysgol gyfan, yn gallu gwella arferion deietegol yn sylweddol. Mae atgyfnerthu'r safonau hyn yn gam hollbwysig i sicrhau bod bwyd mewn ysgolion yn llywio ymddygiadau bwyta'n iach gydol oes ac yn gwella canlyniadau iechyd a deilliannau addysg.
Rhan 1: y rheoliadau a'r canllawiau i ddarparwyr arlwyo
Y Rheoliadau Cyfredol
Mae'r Rheoliadau Cyfredol yn nodi'r hyn y dylai brecwast a chinio ysgol ei gynnwys ar gyfer dysgwyr meithrin, cynradd ac uwchradd yng Nghymru [troednodyn 3] . Maent yn cynnwys gofynion bwyd a diod sy'n disgrifio'r canlynol:
- Bwyd a diod y mae'n rhaid eu darparu mewn ysgolion.
- Bwyd a diod y mae'n rhaid cyfyngu arnynt mewn ysgolion.
- Bwyd a diod na chaniateir eu darparu mewn ysgolion.
Maent hefyd yn cynnwys safonau maeth sy'n nodi faint o egni a maethynnau y mae'n rhaid i ginio ysgol arferol eu cynnwys.
Y Canllawiau Cyfredol
Ochr yn ochr â'r rheoliadau, mae'r canllawiau statudol wedi'u rhannu'n ddwy bennod:
Pennod 1
yn esbonio'r dyletswyddau y mae'n rhaid i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir eu cyflawni o dan y Mesur Bwyta'n Iach mewn Ysgolion, gan gynnwys eu cyfrifoldeb i hyrwyddo bwyta ac yfed yn iach.
Pennod 2
yn rhoi canllawiau ymarferol i arlwywyr ysgolion ar roi'r safonau bwyd a maeth ar waith
Gyda'i gilydd, mae'r dogfennau hyn yn helpu i sicrhau bod prydau blasus a chytbwys o ran maeth ar gael i ddysgwyr, a'u bod yn dysgu am fanteision bwyta ac yfed yn iach ar yr un pryd.
Pam rydym yn diweddaru'r rheoliadau bwyd ar gyfer ysgolion cynradd
Ers i'r rheoliadau cyfredol gael eu cyflwyno, rydym wedi gweld nifer o ddatblygiadau:
- Mae canllawiau deietegol y DU wedi'u diweddaru ar sail argymhellion gan y Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faeth (SACN)[troednodyn 4] .
- Mae'r rhaglen prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd wedi creu cyfle o'r newydd i barhau i wella bwyd mewn ysgolion ac arferion bwyta'n iach
- Mae'r galw am ddeietau arbennig wedi cynyddu mewn ysgolion cynradd
Rydym wedi cydnabod nad yw'r canllawiau cyfredol yn mynd i'r afael â'r canlynol ddigonol:
- Pryd i ddarparu bwyd ar gyfer 'anghenion deietegol sydd wedi'u rhagnodi'n feddygol'
- Ystyriaethau deietegol pwysig eraill
Mae'r meysydd hyn wedi'u hadolygu fel rhan o'n gwaith i ddiweddaru'r rheoliadau a'r canllawiau.
Newidiadau arfaethedig i Ginio mewn Ysgolion Meithrin a Chynradd
Rhoddir trosolwg o'r newidiadau arfaethedig canlynol yn 'Atodiad A: newidiadau arfaethedig’ ar brif dudalen yr ymgynghoriad.
Cynigir y bydd y rheoliadau hyn yn gymwys i blant meithrin sy'n cael cinio ysgol yn ogystal â phlant oed ysgol gynradd mewn addysg a gynhelir lawnamser.
Ffrwythau a Llysiau
Yr hyn rydym yn ei gynnig a pham
Mae'r rheoliadau cyfredol yn ei gwneud yn ofynnol i blant gael un dogn o ffrwythau ac un dogn o lysiau bob dydd.
Dylai ffrwythau a llysiau gyfrif am fwy na thraean o ddeiet iach gan eu bod yn cynnig fitaminau, mwynau a ffeibr. Nid yw'r rhan fwyaf o blant yng Nghymru yn bwyta'r pum dogn y dydd a argymhellir, a phlant o aelwydydd tlotach sy'n bwyta'r nifer lleiaf o ddognau.[troednodyn 5] Mae ymchwil[troednodyn 6] yn dangos bod disgyblion cynradd yn bwyta llai o lysiau na ffrwythau.
Y newidiadau rydym yn eu cynnig
- Rhaid darparu o leiaf ddau ddogn o lysiau bob dydd.
- Rhaid darparu o leiaf bedwar math gwahanol o ffrwythau yr wythnos.
- Mae'r gofyniad o ran dognau dyddiol o ffrwythau yn parhau, gydag o leiaf bedwar math gwahanol yn cael eu darparu bob wythnos.
Carbohydradau startshlyd
Yr hyn rydym yn ei gynnig a pham
Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw safonau ar gyfer carbohydradau startshlyd.
Yn ôl y Canllaw Bwyta'n Iach, sef model bwyta'n iach swyddogol y DU, dylai prydau fod wedi'u seilio ar fwydydd startshlyd, ac yn ddelfrydol, dylent gynnwys lefelau uwch o ffeibr neu fathau o rawn cyflawn. Mae'r rhain yn rhoi egni a maetholion pwysig, gan gynnwys ffeibr. Argymhelliad deietegol y DU i blant 5 i 11 oed yw 20 gram o ffeibr bob dydd[troednodyn 7] , ond ychydig iawn o blant sy'n cyflawni'r targed hwn.
Y newidiadau rydym yn eu cynnig
- Rhaid darparu dogn o garbohydradau startshlyd o leiaf deirgwaith bob wythnos.
- Rhaid darparu o leiaf un dogn o basta, nwdls neu reis bob wythnos a rhaid iddynt gynnwys o leiaf 50% o rawn cyflawn. Rhaid i fara gynnwys o leiaf 50% o rawn cyflawn.
Ffa, Codlysiau, Pysgod, Wyau, Cig a Ffynonellau Eraill o Brotein
Yr hyn rydym yn ei gynnig a pham
Mae'r rheoliadau cyfredol yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparu toriadau cig o leiaf ddwywaith yr wythnos (nid ydynt yn nodi p'un ai toriadau cig coch neu gig gwyn y dylai'r rhain fod), cyfyngu cig wedi'i brosesu i ddwywaith yr wythnos ar y mwyaf, a darparu pysgod unwaith yr wythnos a physgod olewog bob pythefnos. Nid oes unrhyw ofynion ar gyfer ffynonellau eraill o brotein.
Mae protein yn hanfodol ac yn darparu fitaminau a mwynau pwysig. Mae angen darpariaeth gytbwys sy'n cynnig ffynonellau amrywiol o brotein drwy'r wythnos, gan gynnwys pysgod, cig gwyn a choch braster isel, codlysiau a ffa.
Mae argymhellion deietegol y DU yn cynghori y dylid cyfyngu ar faint o gig coch a chig wedi'i brosesu a fwyteir, gan fod cysylltiad rhwng bwyta gormod o'r rhain â risg gynyddol o ganser. Fodd bynnag, mae cig coch, os caiff ei fwyta'n gymedrol, yn ffynhonnell dda o faethynnau buddiol fel haearn, sinc a fitaminau B i ni.
Rydym yn cynnig y dylid ailddosbarthu ham, gamwn a bacwn o doriadau cig i gigoedd wedi'u prosesu, gan eu bod wedi'u hailddosbarthu'n gigoedd wedi'u prosesu yng nghyngor deietegol y DU.
Er ei bod yn ofynnol darparu pysgod olewog (sy'n cynnwys lefel uchel o asidau brasterog omega 3 buddiol) bob pythefnos ar hyn o bryd, mae tystiolaeth yn dangos lefelau uchel o wastraff bwyd pan fyddant yn cael eu gweini a bod llai o blant yn dewis cael cinio ysgol ar y diwrnodau hyn. Bydd lleihau pa mor aml y caiff pysgod olewog eu gweini gan barhau i gynnig amlygiad i bysgod olewog helpu i leihau problemau gwastraff.
Mae tystiolaeth hefyd mai bwydydd wedi'u seilio ar gaws yw'r dewisiadau amgen yn lle cig a ddarperir yn ddyddiol yn aml. Hefyd, bu cynnydd o ran argaeledd dewisiadau amgen wedi'u prosesu yn lle cig neu bysgod a'r amrywiaeth sydd ar gael. Gall y rhain gynnwys lefelau uchel o halen ac(neu) braster a lefelau isel o ffeibr ac nid ydynt yn ofynnol fel rhan o ddeiet cytbwys iach. Yn ôl y Canllaw Bwyta'n Iach, mae bwydydd protein amgen yn lle cig sy'n cynnwys lefelau uchel o ffeibr a lefelau isel o fraster fel ffa, codlysiau ac wyau, yn ddewisiadau iachach. Rydym am sicrhau bod bwyd mewn ysgolion yn cefnogi prydau iach cytbwys i lysieuwyr a'r rhai sy'n dewis opsiynau nad ydynt yn gig.
Y newidiadau rydym yn eu cynnig
- Rhaid darparu o leiaf un dogn o gig coch (ond dim mwy na dau) bob wythnos.
- Caiff cig wedi'i brosesu neu gynhyrchion sy'n cynnwys cig eu cyfyngu i unwaith yr wythnos.
- Nid oes terfynau ar doriadau cig gwyn.
- Rhaid darparu pysgod olewog o leiaf unwaith bob pedair wythnos.
- Caiff dewisiadau amgen wedi'u prosesu yn lle cig a physgod eu cyfyngu i ddwywaith yr wythnos.
- Rhaid cyfyngu cinio sy'n cynnwys caws fel y brif ffynhonnell o brotein i ddwywaith yr wythnos.
Tatws wedi'u coginio mewn olew a bwydydd wedi'u ffrio
Yr hyn rydym yn ei gynnig a pham
Ar hyn o bryd, caiff tatws neu gynhyrchion tatws wedi'u coginio mewn olew a chynhyrchion wedi'u ffrio'n ddwfn neu eu ffrio'n gyflym eu cyfyngu i ddwywaith yr wythnos yr un.
Mae'r bwydydd hyn yn cynnwys llawer o galorïau, braster a brasterau dirlawn. Mae canllawiau'r DU yn cynghori y dylid lleihau pob math o fraster. Dylai plant gael y rhan fwyaf o'u calorïau o ffrwythau, llysiau a bwydydd startshlyd grawn cyflawn.
Y newidiadau rydym yn eu cynnig
- Caiff tatws neu gynhyrchion tatws wedi'u coginio mewn braster ac(neu) olew eu cyfyngu i ddwywaith yr wythnos, ac ni ddylai mwy nag un o'r dognau hynny gael eu ffrio'n ddwfn.
- Caiff bwydydd wedi'u ffrio'n ddwfn neu eu ffrio'n gyflym eu cyfyngu i unwaith yr wythnos (gan gynnwys cynhyrchion wedi'u gweithgynhyrchu neu'r rheini a gaiff eu paratoi ar safle'r ysgol gyda chytew neu friwsion bara sy'n cynnwys olew).
Crwst a chynhyrchion crwst
Yr hyn rydym yn ei gynnig a pham
Ar hyn o bryd, Nid oes unrhyw ofynion ar gyfer cynhyrchion crwst.
Mae crwst yn cynnwys llawer o fraster dirlawn fel arfer, a gall gyfrannu at faint o halen a siwgr rydym yn eu bwyta. Mae gormod o fraster dirlawn yn wael i iechyd plant.
Y newid rydym yn ei gynnig
- Caiff crwst neu gynhyrchion crwst (melys neu sawrus) eu cyfyngu i unwaith bob wythnos.
Pwdinau
Yr hyn rydym yn ei gynnig a pham
Ar hyn o bryd, nid oes terfyn ar bwdinau a nwyddau pob wedi'u melysu, ond rhaid darparu pwdinau sydd wedi'u seilio ar ffrwythau ddwywaith yr wythnos.
Yn draddodiadol, mae prydau ysgol yn cynnwys prif gwrs a phwdin. Er bod pwdinau yn gallu darparu maethynnau ac yn aml, dyma hoff ran plant o'r pryd, gallant gynnwys llawer o siwgr, braster a braster dirlawn. Gallant hefyd greu'r arfer o ddisgwyl danteithion melys gyda phob pryd. Mae tystiolaeth yn dangos bod cymeriant siwgrau rhydd a braster dirlawn plant yng Nghymru yn fwy na'r hyn a argymhellir.
Mae'r Canllaw Bwyta'n Iach yn dangos mai danteithion achlysurol mewn dognau llai y dylai bwydydd sy'n cynnwys llawer o fraster a siwgr fod, ac na ddylent fod yn rhan reolaidd o'r deiet.
Y newidiadau rydym yn eu cynnig
- Caiff pwdinau a nwyddau pob wedi'u melysu eu cyfyngu i dair gwaith yr wythnos (heb gynnwys pwdinau sydd wedi'u seilio ar laeth fel iogwrt, cwstard a phwdin reis).
- Rhaid i bob pwdin gynnwys neu gael ei weini gyda dogn pwdin o ffrwythau neu lysiau.
- Gellir parhau i gynnig opsiynau pwdin eraill fel ffrwythau, iogwrt, a chaws a chracers fel dewisiadau amgen iachach.
Diodydd
Rhoddir trosolwg o'r newidiadau arfaethedig canlynol yn 'Atodiad A: newidiadau arfaethedig’ ar brif dudalen yr ymgynghoriad.
Yr hyn rydym yn ei gynnig a pham
Ar hyn o bryd, caniateir amrywiaeth o ddiodydd, gan gynnwys dŵr, llaeth, sudd ffrwythau ac(neu) llysiau, a diodydd cymysg.
Y diodydd mwyaf priodol i blant yw dŵr a llaeth. Dylai plant osgoi diodydd llawn siwgr yn gyfan gwbl. Daw chwarter y siwgr y mae plant yn ei fwyta bob dydd o ddiodydd llawn siwgr, sy'n gysylltiedig â gordewdra a phydredd dannedd.
Y newid rydym yn ei gynnig
- Dim ond dŵr plaen, llaeth plaen a diodydd plaen sydd wedi'u seilio ar blanhigion y bydd modd eu darparu.
- Ni fydd modd darparu sudd ffrwythau mwyach am ei fod yn cynnwys siwgr.
Maint dognau (Safonau maeth)
Rhoddir trosolwg o'r newidiadau arfaethedig canlynol yn 'Atodiad A: newidiadau arfaethedig’ ar brif dudalen yr ymgynghoriad.
Yr hyn rydym yn ei gynnig a pham
Ar hyn o bryd, darperir maint dogn cyffredinol i bob dysgwr.
Mae'r safonau maethynnau yn seiliedig ar ginio yn darparu 30% o'r macrofaethynnau sy'n ofynnol bob dydd a chanran uwch ar gyfer microfaethynnau, gan adlewyrchu pwysigrwydd cinio ysgol i faeth plant.
Cyfrifwyd y safonau cyfredol ar y sail bod 60% o'r disgyblion yn 4 i 6 oed a'r 40% arall yn 7 i 10 oed.
Nid ydym yn bwriadu newid cyfraniad maethol ciniawau ysgol, ond rydym am adlewyrchu anghenion deietegol gwahanol plant yn ôl oedran yn well. Mae plant bach yn aml yn cael gormod o fwyd, gan arwain at orfwyta neu wastraff, ond dywed rhai plant hŷn eu bod yn teimlo'n llwglyd ar ôl prydau.
Y newidiadau rydym yn eu cynnig
- Dau faint dogn gwahanol – un i fabanod (Dosbarth Meithrin hyd at Flwyddyn 2) ac un i ddisgyblion iau (Blwyddyn 3 hyd at Flwyddyn 6).
- Meintiau dognau mwyaf ar gyfer bwydydd y dylid cyfyngu arnynt, a meintiau dognau lleiaf ar gyfer bwydydd y dylid eu hyrwyddo.
- Mae'n rhaid bod bara atodol (50% gwenith cyflawn) ar gael i bob dysgwr (ni chaiff ei gynnwys mewn dadansoddiad maethol).
- Cyfrifiad cinio ysgol arferol yn seiliedig ar gylch bwydlenni 1 i 4 wythnos yn hytrach na bwydlen wythnosol.
- Goddefiant dyddiol o 15% ar gyfer darparu egni.
Er mwyn cefnogi dysgwyr â mwy o awydd bwyd ymhellach, bydd y Canllawiau yn cynnig meintiau dognau lleiaf a mwyaf yn hytrach na chynnwys ystodau a awgrymir ar gyfer meintiau dognau. Bydd hyn yn annog prydau sydd wedi'u seilio ar garbohydradau startshlyd gyda digon o ffrwythau a llysiau, fel yr awgrymir gan y Canllaw Bwyta'n Iach.
Newidiadau arfaethedig i Frecwast mewn Ysgolion Cynradd
Rhoddir trosolwg o'r newidiadau arfaethedig canlynol yn 'Atodiad A: newidiadau arfaethedig’ ar brif dudalen yr ymgynghoriad.
Yr hyn rydym yn ei gynnig a pham
Ar hyn o bryd, rhaid darparu pedwar categori o fwyd i frecwast:
- Iogyrtiau a diodydd wedi'u seilio ar laeth.
- Grawnfwydydd (heb eu caenu â siwgr/siocled/powdr coco).
- Ffrwythau a llysiau.
- Bara a haenau ar ben y bara.
Mae argymhellion deietegol y DU yn nodi na ddylai siwgrau rhydd gyfrif am fwy na 5% o gymeriant egni, ac mae sudd ffrwythau yn cyfrannu'n sylweddol at gymeriant siwgrau rhydd. At hynny, ychydig iawn o blant sy'n bodloni'r argymhelliad o 20g o ffeibr bob dydd ar gyfer plant 5 i 11 oed.
Y newidiadau rydym yn eu cynnig
- Ni chaiff sudd ffrwythau ei gynnwys yn y diffiniad o ffrwythau mwyach am ei fod yn cynnwys siwgrau rhydd.
- Rhaid i unrhyw fara a ddarperir gynnwys 50% o wenith cyflawn o leiaf.
- Darperir meintiau dognau ar wahân ar gyfer babanod a disgyblion iau yn y canllawiau statudol.
Deall y Rheoliadau a'r Canllawiau
Gwybodaeth glir i arlwywr
Rydym wedi symleiddio'r canllawiau drwy gynnwys diffiniadau clir a therminoleg syml.
Ar gyfer pob gofyniad, rydym yn darparu:
- Meintiau dognau penodol ar gyfer babanod a disgyblion iau.
- Un maint dogn ar gyfer y ddau grŵp oedran lle na ellir rhannu cynhyrchion wedi'u rhagbaratoi.
- Argymhellion ar gyfer rhagori ar y safonau.
- Anogaeth i fod yn uchelgeisiol a gwella'n barhaus.
Mae'r canllawiau hefyd yn cynnwys:
- Gwybodaeth am anghenion deietegol sydd wedi'u rhagnodi'n feddygol.
- Eglurder ynghylch anghenion deietegol eraill.
- Pa fwydydd a weinir yn ystod y diwrnod ysgol y mae'n rhaid iddynt ddilyn rheoliadau.
- Manylion am eithriadau ar gyfer deietau meddygol a theithiau ysgol.
Deietau arbennig
Rydym wedi mynd i'r afael â dau fater allweddol:
1. Arferion anghyson ar gyfer Anghenion Deietegol sydd wedi'u Rhagnodi'n Feddygol
2. Dryswch am gefnogi plant ag anghenion deietegol nad ydynt wedi'u rhagnodi'n feddygol
Mae'r canllawiau diwygiedig yn egluro'r canlynol:
- Heb ddeiet sydd wedi'i ragnodi'n feddygol, rhaid i unrhyw fwyd wedi'i addasu gydymffurfio â'r Rheoliadau Bwyta'n Iach.
- Dylai arlwywyr ysgolion asesu unrhyw risgiau wrth addasu prydau.
- Dylid ceisio cyngor proffesiynol pan fo hynny'n briodol.
Ar gyfer deietau sydd wedi'u rhagnodi'n feddygol:
- Nid yw'r Rheoliadau Bwyta'n Iach drafft yn gymwys i fwyd a diod a ddarperir fel rhan o Anghenion Deietegol sydd wedi'u Rhagnodi'n Feddygol.
- Gall ymarferwyr meddygol neu ddeietegwyr ragnodi bwydydd penodol neu gynghori y dylid osgoi bwydydd penodol.
- Dylai darparwyr prydau ysgol barhau i annog opsiynau iachach sy'n cyd-fynd â'r rheoliadau a'r canllawiau lle bo modd.
Gall darparwyr prydau barhau i osod cyfyngiadau rhesymol yn ôl eu disgresiwn.
Rhan 2: hyrwyddo bwyta ac yfed yn iach mewn ysgolion a gynhelir
Canllawiau newydd i ysgolion ac awdurdodau lleol
Mae'r canllawiau cyfredol (Pennod 1) yn amlinellu cyfrifoldebau awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion o dan y Mesur Bwyta'n Iach mewn Ysgolion. Mae'r dyletswyddau hyn yn cynnwys:
- Cymryd camau i hyrwyddo bwyta ac yfed yn iach mewn ysgolion
- Cynnwys gwybodaeth am hyrwyddo bwyta ac yfed yn iach yn adroddiadau blynyddol cyrff llywodraethu
- Sicrhau bod dŵr yfed am ddim ar gael ar safle'r ysgol
- Annog disgyblion i fanteisio ar brydau ysgol a llaeth
- Gwneud yn siŵr bod disgyblion cymwys yn cael prydau ysgol a llaeth am ddim
- Diogelu manylion adnabod disgyblion sy'n cael cinio ysgol a llaeth am ddim
Mae dyletswydd ar Estyn hefyd i roi gwybod i Weinidogion Cymru am y camau a gymerir mewn ysgolion a gynhelir i hyrwyddo bwyta ac yfed yn iach.
Pam rydym yn gwneud newidiadau
Drwy drafodaethau â'n partneriaid, rydym wedi dysgu nad yw'r canllawiau cyfredol:
- Yn rhoi cyngor digon clir ar sut i gyflawni'r dyletswyddau hyn
- Yn esbonio'n glir pwy sy' gyfrifol am gyfrifoldebau penodol mewn sefyllfaoedd gwahanol
Y dull gweithredu newydd
Rydym wedi creu dogfen ganllaw annibynnol newydd sydd:
- Yn nodi dyletswyddau awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ac Estyn yn glir
- Yn gymwys i bob ysgol a gynhelir yng Nghymru
- Yn esbonio pa gamau y mae'n rhaid eu cymryd i fodloni'r gofynion hyn
- Yn rhoi enghreifftiau ymarferol o ran sut i ddangos cydymffurfiaeth
Bydd y canllawiau cliriach hyn yn helpu i sicrhau bod bwyta ac yfed yn iach yn cael ei hyrwyddo'n effeithiol ym mhob ysgol yng Nghymru.
Rhan 3: bwyd mewn ysgolion uwchradd: galwad am dystiolaeth
Deall amgylchedd ysgolion uwchradd heddiw
Ers i'r Rheoliadau a'r Canllawiau cyfredol gael eu cyflwyno yn 2013, mae patrymau bwyta mewn ysgolion uwchradd wedi newid yn sylweddol. Mae angen rhagor o wybodaeth arnom er mwyn deall y dirwedd gymhleth hon.
Erbyn hyn, mae ysgolion uwchradd yn cynnwys:
- Diwylliant bwyd cyflym
- Cyfyngiadau amser a lle
- Egwyliau cinio byrrach ac wedi'u hamrywio (o ganlyniad i fesurau a strategaethau rheoli ymddygiad a roddwyd ar waith yn ystod pandemig COVID-19)
- Ffreuturiau a ddyluniwyd ar gyfer gwasanaeth cyflym
- Systemau talu nad ydynt yn derbyn arian parod sy'n golygu bod modd defnyddio lwfansau prydau ysgol am ddim yn hyblyg
- Dewisiadau bwyd ehangach
- Mwy o ymreolaeth i fyfyrwyr dros yr hyn y maent yn ei fwyta a phryd (e.e. yn ystod yr egwyl bore neu amser cinio)
Mae hyn yn wahanol iawn i'r sefyllfa mewn ysgolion cynradd, lle mae'r rhan fwyaf o'r plant yn eistedd gyda'i gilydd i gael cinio dau gwrs traddodiadol ar blât.
Casglu'r dystiolaeth sydd ei hangen arnom
Er mwyn creu diweddariadau ystyrlon i'r rheoliadau ar gyfer ysgolion uwchradd, mae angen rhagor o wybodaeth arnom am yr hyn sy'n digwydd yn y lleoliadau hyn mewn gwirionedd a sut mae pobl ifanc yn dewis bwyta mewn ysgolion.
Rydym eisoes wedi dechrau casglu data ar batrymau bwyta er mwyn deall ble y gallai'r rheoliadau newydd gael yr effaith fwyaf.
Mae eich barn yn bwysig
Fel rhan o'r ymgynghoriad hwn, rydym yn gofyn am eich tystiolaeth a'ch barn am fwyd mewn ysgolion uwchradd. Yn benodol, rydym am ddeall:
Sut y gallwn sicrhau darpariaeth bwyd apelgar a chytbwys o ran maeth mewn ysgolion uwchradd?
Rydym yn croesawu pob math o dystiolaeth a gwybodaeth am y pwnc hwn. Nid oes angen ichi ddarparu tystiolaeth ymchwil ffurfiol, mae eich gwybodaeth a'ch barn berthnasol yn werthfawr hefyd. Yn benodol, rydym am glywed yn uniongyrchol gan bobl ifanc, gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd eu hymreolaeth, eu dewis a'u dewisiadau bwyd.
Cwestiynau’r ymgynghoriad
Pethau i'w hystyried wrth gwblhau eich ymateb
Mae'r ddogfen hon yn ceisio rhoi crynodeb digonol o wybodaeth i helpu i lywio ymatebion i'r newidiadau arfaethedig. Fodd bynnag, yn dibynnu ar lefel eich diddordeb a'ch rôl yn y system bwyd ysgol, hoffem dynnu eich sylw at y dogfennau canlynol hefyd er mwyn llywio eich dealltwriaeth a'ch ymateb.
Hoffem glywed eich barn am y cynigion drafft a ddatblygwyd. Wrth ymateb, hoffem ichi ystyried y canlynol:
- P'un a ydych yn cytuno neu'n anghytuno â'r newid a gynigir, a pham.
- A oes goblygiadau i'r cynigion y mae angen eu hystyried (er enghraifft, eu heffaith bosibl ar nifer y plant sy'n dewis cael prydau, gwastraff bwyd, cost, y gallu i'w cyflawni, amgylchedd a chynaliadwyedd, yr amser sydd ei angen i baratoi i'w rhoi ar waith, cydymffurfiaeth).
- A oes gennych unrhyw dystiolaeth benodol i'w rhannu â ni a fyddai'n cefnogi eich adborth neu farn.
- Unrhyw adborth arall yr hoffech ei roi.
Cinio mewn ysgolion cynradd
1. I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno â'r cynigion sy'n ymwneud â darparu mwy o ffrwythau, llysiau a charbohydradau startshlyd?
2. I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno â'r cynigion sy'n ymwneud â chig, cig coch a physgod?
3. I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno â'r cynigion sy'n ymwneud â chig wedi'i brosesu?
4. I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno â'r cynigion sy'n ymwneud ag opsiynau nad ydynt yn gig (yn benodol, cyfyngu ar brydau sydd wedi'u seilio ar gaws a chig wedi'i brosesu a dewisiadau amgen yn lle pysgod)?
5. I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno â'r cynigion sy'n ymwneud â thatws wedi'u coginio mewn olew, bwydydd wedi'u ffrio, pwdinau a nwyddau pob wedi'u melysu, a chrwst?
Diodydd mewn ysgolion cynradd
6. I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno â'r cynigion sy'n ymwneud â darparu dim ond dŵr plaen, llaeth plaen a diodydd plaen sydd wedi'u seilio ar blanhigion mewn ysgolion cynradd?
Meintiau dognau mewn ysgolion cynradd
7. I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno â'r cynigion sydd â'r nod o ddarparu meintiau dognau mwy priodol mewn ysgolion cynradd i'r rhai yn y dosbarth Meithrin hyd at Flwyddyn 2 a'r rhai ym Mlwyddyn 3 hyd at Flwyddyn 6?
Brecwast mewn ysgolion cynradd
8. I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno â'r cynigion sy'n ymwneud â darparu brecwast?
Y canllawiau ar gyfer rheoliadau ysgolion cynradd
9. A yw'r canllawiau statudol drafft sy'n helpu arlwywyr bwyd ysgolion cynradd i roi'r rheoliadau drafft ar waith yn ddigon clir?
Deietau arbennig
- A yw'r canllawiau statudol drafft ar ddiwallu anghenion deietegol sydd wedi'u rhagnodi'n feddygol ac anghenion deietegol eraill yn ddigon clir?
Yr asesiad effaith rheoleiddiol a'r asesiadau effaith eraill
11. Pa heriau, os oes rhai, y dylid eu cydnabod ymhellach yn yr asesiad effaith rheoleiddiol drafft, yn eich barn chi?
12. Pa effeithiau cadarnhaol, os oes rhai, y dylid eu cydnabod ymhellach yn yr asesiad effaith rheoleiddiol drafft, yn eich barn chi?
13. Pa sylwadau sydd gennych, os oes rhai gennych, ar yr asesiadau effaith drafft, yn benodol ar effaith y rheoliadau drafft ar blant, teuluoedd sy'n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol a phobl â nodweddion gwarchodedig (gan gynnwys tystiolaeth y dylid ei chynnwys yn eich barn chi)?
14. Pa sylwadau sydd gennych, os oes rhai gennych, ar yr effaith ar gostau (gan gynnwys tystiolaeth y dylid ei hystyried, yn eich barn chi)?
Hyrwyddo bwyta'n iach: canllawiau statudol – ysgolion cynradd ac uwchradd
- A yw'r canllawiau statudol drafft, sydd â'r nod o helpu awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu i gyflawni eu dyletswyddau i hyrwyddo bwyta ac yfed yn iach yn ddigon clir? (Mae croeso ichi roi enghreifftiau o unrhyw beth sydd ar goll, yn eich barn chi.)
Galwad am dystiolaeth: ysgolion uwchradd
16. Sut y gallwn sicrhau darpariaeth bwyd apelgar a chytbwys o ran maeth mewn ysgolion uwchradd? (Mae croeso ichi roi enghreifftiau o arferion da neu dystiolaeth sy'n ategu eich ymateb).
Cwestiynau gorfodol
17. Beth yn eich barn chi fyddai effeithiau tebygol y ddeddfwriaeth ar y Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb penodol mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
- Ydych chi'n meddwl bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
- Ydych chi'n meddwl bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau andwyol?
18. Yn eich barn chi, a fyddai modd ffurfio neu addasu’r ddeddfwriaeth er mwyn:
- sicrhau effeithiau cadarnhaol neu fwy cadarnhaol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg; neu
- lliniaru unrhyw effeithiau andwyol ar y defnydd o'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i wybod am y data personol a ddelir amdanoch chi a'u gweld
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- i wrthwynebu prosesu data neu gyfyngu ar brosesu data (o dan amgylchiadau penodol)
- i ofyn am i'ch data gael eu 'dileu' (o dan amgylchiadau penodol)
- i gludadwyedd data (o dan amgylchiadau penodol)
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'r defnydd a wneir ohoni, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:
Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
e-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Mae manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: ico gwefan
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)
Llywodraeth Cymru fydd rheolydd data ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddata personol y byddwch yn eu darparu fel rhan o'ch ymateb i'r ymgynghoriad.
Bydd Gweinidogion Cymru yn dibynnu ar y pwerau statudol sydd ganddynt i brosesu'r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau hyddysg am y ffordd y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Mae'r sail gyfreithiol dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yn rhan o'n tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e))
Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol, Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Os bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, gellir comisiynu'r gwaith hwn i'w gwblhau gan drydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori). Dim ond o dan gontract y caiff unrhyw waith o'r fath ei wneud. Mae amodau a thelerau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a'u cadw'n ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda'r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, nodwch hynny wrth ichi ddychwelyd eich ymateb. Byddwn wedyn yn eu dileu cyn cyhoeddi.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gall fod rhwymedigaeth gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu gwybodaeth.
Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, yna caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Fel arall, bydd unrhyw ddata a ddelir gan Lywodraeth Cymru amdanoch yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol.
Troednodyn
[1]Arolwg Deiet a Maeth Cenedlaethol
[2] Rhaglen Mesur Plant – Iechyd Cyhoeddus Cymru
[3] ysgolion a gynhelir
[4]4] Mae SACN yn darparu asesiadau risg gwyddonol annibynnol ar faeth a phroblemau iechyd cysylltiedig i bedair llywodraeth y DU yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael.
[5] Yr Arolwg Deiet a Maeth Cenedlaethol
[6] Data Cenedlaethol – Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion
[7] Tudalen 198 – Carbohydrates and Health
