Er gwaethaf holl ymdrechion Llywodraeth Cymru i gadw Pont Menai ar agor i geir a beiciau modur, mae adborth gan UK Highways A55 ynghylch yr heriau o ran gorfodi wedi arwain at y penderfyniad anodd i gau'r bont dros dro am 14:00 ddydd Sadwrn 4 Hydref.
Mae’r penderfyniad hwn wedi'i wneud yng ngoleuni ymchwiliadau diweddar a gynhaliwyd fel rhan o waith cam dau sydd wedi gweld bod angen gosod bolltau newydd ar drawstiau o dan y bont.
Mae trefniadau ar waith ar gyfer cerbydau gwasanaethau brys rhag ofn y bydd gwyntoedd cryfion yn effeithio ar Bont Britannia.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth:
“Yn gyntaf, hoffwn ymddiheuro i bobl leol. Mae'n ddrwg iawn gennyf am y tarfu parhaus rydych chi'n ei wynebu wrth i'r gwaith o adfer y bont barhau i fynd rhagddo.
“Rydym wedi ystyried pob opsiwn i gadw’r bont ar agor yn ddiogel ond yn dilyn yr adborth diweddaraf hwn ar orfodaeth gan UK Highways A55, sy’n gyfrifol am gynnal a chadw’r bont, rydym wedi gorfod ei chau'n llwyr. Hoffwn ddiolch i'r heddlu am eu cefnogaeth dros y 24 awr ddiwethaf
“Rwy’n teimlo’n rhwystredig iawn gyda’r datblygiad diweddaraf hwn, a gallaf eich sicrhau bod fy swyddogion a minnau’n pwyso ar Briffyrdd y DU A55 i ddatrys y mater hwn ar frys.
“Fodd bynnag, er gwaethaf ein rhwystredigaeth rhaid i ni wrando ar gyngor peirianwyr er mwyn sicrhau diogelwch pawb.”
“Bydd y bont yn parhau ar gau nes bod ymchwiliadau pellach wedi’u cwblhau yn y dyddiau nesaf a bod UK Highways A55 wedi rhoi strategaeth orfodi ddiogel i ni i ailagor y bont a symud ymlaen â gwaith cam dau.”
“Yn ystod y cyfnod hwn, byddwn yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ac rwy’n diolch i chi unwaith eto am eich amynedd.”
