Mae angen inni wneud gwelliannau diogelwch i’r bont hon.
Trosolwg
Mae Pont Menai’r A5 ar gau i draffig. Mae traffig wedi’i ddargyfeirio drwy Bont Britannia yr A55.
Gallwch groesi llwybrau troed Pont Menai’r A5 o hyd fel cerddwr neu wrth gerdded gyda’ch beic (beiciwr oddi ar eich beic).
Gweld y A5 Pont Menai: cwestiynau cyffredin.
Beth ydyn ni’n ei wneud
Mae UK Highways A55 Ltd yn ailosod hongwyr ar Bont Fenai’r A5.
Pam ydyn ni’n gwneud hyn
Mae angen gwneud y bont yn fwy diogel.
Camau nesaf
Bydd UK Highways A55 Ltd yn gwneud y gwelliannau. Bydd CADW yn monitro’r gwaith i sicrhau bod y strwythur cofrestredig yn cael ei ddiogelu.
Rydym yn bwriadu ailagor y bont yn gynnar yn 2023 i draffig sy’n pwyso 7.5 tunnell neu lai.
Mae’r rhaglen ailosod hongwyr a manylion pellach yn cael eu cadarnhau.
Yn sgil cau’r bont a phroblemau cysylltiedig, rydym yn adolygu cynlluniau rhag ofn y bydd Pont Britannia ar gau yn ystod digwyddiadau eithafol.