Atebion i gwestiynau cyffredin am Bont Menai.
Cynnwys
Ydy’r bont ar agor?
Mae’r bont ar agor ond mae terfyn pwysau o 7.5 tunnell a therfyn uchder o 3 metr yn eu lle. Dylai cerbydau sy’n fwy trwm neu’n uwch na’r terfyn ddefnyddio Pont Britannia.
Pam fod yna achosion weithiau o gau lonydd neu gau’r bont yn llwyr, a goleuadau traffig?
Mae’n bosibl y bydd angen cau lonydd (gan ddefnyddio goleuadau traffig) neu gau’r bont yn llwyr i gyflawni rhai tasgau. Mae hyn er mwyn caniatáu i'r gweithwyr gael mynediad at ardaloedd penodol a chwblhau eu gwaith yn ddiogel.
Efallai y bydd angen cau’r bont yn llwyr hefyd er mwyn diogelu pobl sy'n ei defnyddio, er enghraifft os yw llwybr troed ynghau
Rydyn ni’n sylweddoli’r effaith y gall gwaith o’r fath ei chael ar draffig lleol. Felly, rydyn ni’n ceisio lleihau’r achosion wedi’u cynllunio o gau lonydd a chau’r bont yn llwyr, pan fo hynny’n bosibl.
I gael rhagor o wybodaeth am gyfyngiadau ac am drefniadau i gau’r bont yn y dyfodol, ewch i wefan Traffig Cymru.
Pam fod yna dwmpathau cyflymder dros dro ar y bont?
Mae yna derfyn cyflymder o 20 mya ar draws y bont.
Gosodwyd twmpathau cyflymder dros dro yn dilyn gwrthdrawiad ar y bont.
Cawsant eu gosod i annog cydymffurfedd â’r terfyn cyflymder ac i wella diogelwch ar gyfer gweithwyr a phobl sy’n defnyddio’r bont.
Pa gerbydau fydd yn gallu defnyddio’r bont?
Bydd cerbydau sy’n pwyso hyd at 7.5 tunnell ac sy’n is na 3 metr yn cael croesi’r bont.
Mae mesurau gorfodi yn eu lle i wneud yn siŵr bod pobl yn cadw at y terfyn pwysau o 7.53 tunnell. Gallai peidio â chadw ato arwain at eu herlyn ac efallai cau’r bont eto.
Dylai cerbydau sy’n fwy trwm neu’n uwch na’r terfynau ddefnyddio Pont Britannia.
Pam fod yna gyfyngiad pwysau ar waith?
Fe wnaethon ni osod y system sgaffaldiau o dan y bont i’n galluogi i archwilio a pheintio ochr isaf y bont, sy’n rhan hanfodol o’r gwaith parhaus o gynnal a chadw’r bont.
I sicrhau ein bod yn cau lonydd cyn lleied â phosibl, mae’r holl gyfarpar y mae ei angen ar gyfer y gwaith yn cael ei storio ar y sgaffaldiau sy’n hongian oddi ar y bont.
Mae’r sgaffaldiau a’r cyfarpar, gyda’i gilydd, yn pwyso 42 tunnell.
O ganlyniad, fe wnaethon ni roi’r terfyn pwysau ar gerbydau yn ei le i leihau’r pwysau ar rannau penodol o’r bont.
Beth sy’n digwydd os yw cerbyd sy’n pwyso mwy na 7.5 tunnell yn croesi?
Pan fydd cerbyd sy’n drymach na’r terfyn pwysau o 7.5 tunnell yn croesi’r bont, bydd yn rhaid cau’r bont ar unwaith i gynnal archwiliad ohoni i weld os oes yna ddifrod.
Os oes difrod wedi’i achosi, bydd y bont yn aros ynghau nes iddi allu cael ei hatgyweirio. Gall hyn gymryd peth amser.
Felly, mae’n allweddol bod unrhyw gerbydau sy’n pwyso mwy na 7.5 tunnell yn defnyddio Pont Britannia.
Pam fod yna gyfyngiad uchder ar y bont?
Mae’r cyfyngiad uchder o 3 metr ar waith i atal cerbydau trwm rhag croesi’r bont grog.
Mae’r rhan fwyaf o gerbydau sy’n pwyso mwy na 7.5 tunnell dros 3 metr o uchder.
Mae’r terfyn uchder wedi’i osod ar leoliadau sy’n arwain at y bont i helpu i sicrhau’r cydymffurfedd mwyaf posibl, ond heb atal cerbydau ag ochrau uchel rhag cael mynediad at gartrefi a busnesau ar ffyrdd lleol wrth ymyl y bont, a’u gwasanaethu.
Mae’r cyfyngiad uchder a osodwyd yn cynnwys byntin gweladwy iawn yn lle rhwystr ffrâm dur. Mae wedi’i ddylunio mewn modd a fydd yn golygu y bydd yn torri os bydd rhywbeth yn taro yn ei erbyn. Gallai beri risg o ran diogelwch i ddefnyddwyr y ffordd a cherddwyr.
A fydd cerbydau argyfwng yn cael teithio dros Bont Menai?
Fel arfer, mae cerbydau argyfwng yn defnyddio Pont Britannia. Ond os bydd problemau ar Bont Britannia, caiff cerbydau argyfwng ddefnyddio Pont y Borth gan ddilyn cynlluniau teithio arbennig.
Pa atgyweiriadau sy’n digwydd ar hyn o bryd?
Bydd y gwaith diweddaraf yn cynnwys y canlynol:
- paentio'r is-ddec, y parapetau a’r mynediad berynnau
- atgyweirio’r corbelau concrit
- ailraddnodi'r cyfrwy tir
- uwchraddio’r goleuadau
Beth sy'n digwydd os bydd Pont Britannia ar gau?
Mae'n anghyffredin iawn i Bont Britannia ar yr A55 gau. Os yw'n cau, dim ond am ychydig oriau mae hynny fel rheol.
Pan fydd gwyntoedd cryfion, cynghorir rhai mathau o gerbydau i beidio â chroesi o dan rai amodau.
Yn dilyn adolygiad strategaeth, mae’r terfynau cyflymder gwynt wedi'u newid ar gyfer rhai mathau o gerbydau. Felly dylai'r bont aros ar agor i fwy o gerbydau, yn amlach a bydd unrhyw gau am gyfnod mor fyr â phosibl. Mae hyn wedi helpu Cerbydau Nwyddau Trwm (HGVs) i barhau i groesi Pont Britannia ar yr A55 yn ystod tywydd garw.
Rydym yn ymchwilio i safleoedd cadw ar y tir mawr ac Ynys Môn a ddylai leddfu'r sefyllfa yn ystod cau Pont Britannia yn llwyr i HGVs.
Os bydd Pont Britannia yn cau, bydd Heddlu Gogledd Cymru yn helpu i gydlynu’r trefniadau ar gyfer defnyddio Pont Grog Menai o ran cerbydau sy'n pwyso llai na 7.5 tunnell.
Beth ddigwyddodd yn ystod cam 1?
Dechreuodd gwaith cam 1 i osod crogwyr newydd ar y bont ar 4 Medi 2023 ac fe'i cwblhawyd ym mis Hydref 2024.
Gallwch weld mwy o wybodaeth am y cau a’r atgyweiriadau a ddigwyddodd ym mis Hydref 2022.
Pa gymorth sydd ar gael i fusnesau?
Mae busnesau’n cael eu hannog i sicrhau cymorth trwy ein gwasanaeth Busnes Cymru pwrpasol: Busnes Cymru: cefnogi busnesau yng Nghymru.
Mae llawer o fusnesau llai eisoes yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi o 100% ym Mhorthaethwy ac nid ydynt yn talu ardrethi annomestig. Yn ystod gwaith Cam 1, nododd Cyngor Sir Ynys Môn 30 o fusnesau ychwanegol ym Mhorthaethwy a oedd yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi o dan y cynllun rhyddhad ardrethi manwerthu, hamdden a lletygarwch. Gwahoddodd y Cyngor y busnesau hynny i wneud cais.
Os ydych yn credu y gallai eich busnes fod yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi cysylltwch â Chyngor Sir Ynys Môn i drafod ymhellach. Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys ffurflenni cais ar gael yn Cyngor Sir Ynys Môn: Cynllun rhyddhad ardrethi manwerthu, hamdden a lletygarwch.
Gall busnesau sy'n talu ardrethi annomestig fod yn gymwys i wneud cais i Asiantaeth y Swyddfa Brisio am ostyngiad dros dro mewn gwerth ardrethol. Am ragor o wybodaeth, ewch i GOV.UK: Dod o hyd i brisiad ardrethi busnes.
