Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae fersiwn ddrafft o Fil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) wedi’i gyhoeddi heddiw.

Mae'r Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) (“y Bil”) yn darparu'r sail ddeddfwriaethol ar gyfer cynllun trwyddedu llety ymwelwyr. Mae hyn yn adeiladu ar y gofrestr o lety ymwelwyr a darparwyr, fel y nodir yn Neddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) etc. (Cymru) ("Deddf VARL"). 

Mae'r Bil drafft ar gael yn y ddolen ganlynol: https://www.llyw.cymru/bil-datblygu-twristiaeth-rheoleiddio-llety-ymwelwyr-cymru-drafft

Nod cyhoeddi fersiwn ddrafft o'r Bil yw rhoi cyfle i Aelodau'r Senedd a rhanddeiliaid sydd â diddordeb weld cwmpas a chyfeiriad arfaethedig y Bil cyn iddo gael ei gyflwyno'n ffurfiol yn yr hydref. Nid yw'n cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghori pellach ar hyn o bryd. Mae'r gwaith o baratoi'r Bil yn parhau, ac mae'n debygol y bydd newidiadau cyn iddo gael ei gyflwyno i'r Senedd. Felly nid dyma'r fersiwn derfynol.

Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag Aelodau'r Senedd ar ddarpariaethau'r Bil yn ystod y broses graffu ar ôl i'r Bil gael ei gyflwyno yn yr hydref.