Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn cyflwyno cynllun newydd ar gyfer llety ymwelwyr yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Rydym yn bwriadu cyflwyno cynllun trwyddedu ar gyfer llety ymwelwyr yng Nghymru, gan ddechrau gyda llety hunanddarpar.

Bydd y cynllun yn cefnogi twristiaeth yng Nghymru drwy wneud y canlynol: 

  • rhoi sicrwydd i ymwelwyr bod llety yn bodloni'r safonau y byddent yn eu disgwyl
  • darparu cyfundrefn glir i ddarparwyr

Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru)

Pasiwyd y Bil gan Senedd Cymru ar 17 Mawrth 2026 ac mae ar gael yma:

Bydd y Bil yn gwneud y canlynol:

Bydd y Bil hefyd yn creu Cod o gyfreithiau Cymreig ar dwristiaeth. Bydd hwn yn: 

  • dod â'r cyfreithiau presennol ar dwristiaeth at ei gilydd
  • gwneud y gyfraith yn fwy hygyrch a haws ei deall

Dogfennau cysylltiedig

Cyhoeddwyd Memorandwm Esboniadol sy'n esbonio diben ac effaith fwriadedig y Bil, yn ystod proses graffu'r Senedd:

Rydym hefyd wedi cynnal nifer o asesiadau effaith mewn perthynas â'r cynllun trwyddedu a gynigir yn y Bil:

Y camau nesaf

Os bydd y Bil yn cael y Cydsyniad Brenhinol, bydd Sêl Cymru yn cael ei rhoi a bydd y Bil yn dod yn Ddeddf y Senedd.

Yn yr achos hwn, bydd y Ddeddf, a fersiwn o'r Memorandwm Esboniadol wedi'i diweddaru ymhellach, yn cael eu cyhoeddi ar wefan Cyfraith Cymru maes o law.

Y rhagdybiaeth a wnaed yn y Memorandwm Esboniadol oedd y byddai'r cynllun trwyddedu yn cael ei ddwyn i rym o 2029 ymlaen. Cyn i hyn ddigwydd, bydd ymgynghoriad pellach, reoliadau a wneir o dan y Bil, a bydd canllawiau ar y cynllun yn cael eu cyhoeddi.         

Bydd diweddariadau ar y Bil a'r cynllun trwyddedu yn parhau i gael eu rhannu â rhanddeiliaid drwy gylchlythyrau a bwletinau diwydiant Croeso Cymru.

Trwyddedu

I gael rhagor o wybodaeth anfonwch e-bost at: TrwyddeduStatudol@llyw.cymru