Canllawiau ar gofrestru os ydych chi'n cymryd archebion am arosiadau dros nos yng Nghymru.
Cynnwys
Beth yw cofrestru llety ymwelwyr
Os ydych chi'n cymryd archebion am arosiadau dros nos yng Nghymru bydd gofyniad cyfreithiol i chi gofrestru gydag Awdurdod Cyllid Cymru.
Rhaid i chi gofrestru erbyn 31 Mawrth 2027, hyd yn oed os nad yw'ch cyngor lleol yn dewis cyflwyno Ardoll Ymwelwyr.
Gallwch gofrestru yn rhad ac am ddim, a bydd yn:
- helpu ymwelwyr yn i ddod o hyd i lety cofrestredig
- darparu data i gefnogi twristiaeth yng Nghymru
- eich helpu i gasglu a thalu'r Ardoll Ymwelwyr (os fydd eich cyngor lleol yn ei chyflwyno)
Gallwch gofrestru i gael diweddariadau am gofrestru ac am yr Ardoll Ymwelwyr.
Pwy sy'n gorfod cofrestru
Y darparwr llety ymwelwyr sy’n gyfrifol am gofrestru.
Rhaid i chi gofrestru os yw'r canlynol yn berthnasol:
- rydych yn cymryd archebion ar gyfer llety dros nos mewn llety ymwelwyr yng Nghymru (boed hynny am un noson, yn dymhorol neu drwy gydol y flwyddyn)
- chi sy’n gyfrifol am y llety (er enghraifft, rydych chi’n berchen arno neu'n ei rentu)
- mae unrhyw archebion rydych yn eu cymryd am 31 noson neu lai
Mae mathau o lety’n cynnwys:
- llety hunanarlwyo (fel bythynnod, tai, fflatiau neu gabannau)
- eich prif gartref neu ystafelloedd sbâr
- gwestai, gwely a brecwast neu dai llety
- lleiniau ar gyfer pebyll, carafannau teithiol, cartrefi modur neu faniau gwersylla
- glampio (fel cytiau bugail, yurtiau, podiau neu debyg)
- carafannau sefydlog
- hosteli neu dai bync
Enghraifft: os ydych yn cymryd archebion ar gyfer eich carafán
Mae gan Sioned garafán statig y mae'n ei defnyddio am 10 mis o'r flwyddyn.
Yn ystod yr haf, mae hi'n cymryd archebion gan ymwelwyr i aros yn y garafán. Mae rhai o'r archebion ar gyfer 31 noson neu lai. Rhaid iddi gofrestru ei charafán statig fel llety ymwelwyr.
Enghraifft: os ydych yn cymryd archebion ar gyfer eich prif gartref
Mae Rhiannon yn hysbysebu ei phrif gartref ar Airbnb unwaith y flwyddyn ar gyfer digwyddiad yn ei hardal leol. Oherwydd bod hwn yn archeb am 31 noson neu lai, rhaid iddi gofrestru ei phrif gartref fel llety ymwelwyr.
Os ydych chi'n defnyddio asiant neu gwmni rheoli
Nid yw asiantau na chwmnïau rheoli yn gyfrifol am gofrestru, ond gallant gofrestru ar eich rhan.
Sut i gofrestru
Defnyddiwch ein gwasanaeth ar-lein i gofrestru eich llety ymwelwyr.
Os oes gennych fwy nag un lleoliad neu safle
Os yw’r un bobl neu sefydliadau yn gyfrifol am bob lleoliad neu safle, rhaid i chi gynnwys pob lleoliad neu safle mewn un cofrestriad.
Os yw gwahanol bobl neu sefydliadau yn gyfrifol am wahanol leoliadau, rhaid i chi eu cofrestru ar wahân.
Pwy sydd ddim yn gorfod cofrestru
Nid oes rhaid i chi gofrestru os:
- nad ydych yn cymryd archebion ar gyfer y llety (er enghraifft, ffrindiau neu deulu yn aros am ddim)
- nad ydych bellach yn cymryd archebion ar gyfer arosiadau dros nos
Beth sy'n digwydd ar ôl i chi gofrestru
Bydd rhai o'r manylion yn gyhoeddus ar y gofrestr llety ymwelwyr. Gallwch edrych i weld pa fanylion sy'n gyhoeddus ar y gofrestr fel sydd wedi'i nodi yn yr polisi preifatrwydd.
Pryd i ddiweddaru eich manylion
Rhaid i chi ddiweddaru eich manylion cofrestru o fewn 30 diwrnod os bydd unrhyw beth yn newid.
Mae hyn yn cynnwys:
- gwerthu’r llety
- nad ydych bellach yn cymryd archebion ar gyfer arosiadau dros nos
- newidiadau:
- i’r manylion cyswllt
- i fanylion y llety
- i bwy sy'n gyfrifol am y llety ymwelwyr
Byddwch yn gallu diweddaru'ch manylion gan ddefnyddio'r gwasanaeth cofrestru ar-lein.
Os na fyddwch yn cofrestru
Os na fyddwch yn cofrestru erbyn 31 Mawrth 2027, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb.
Ewch i'n canllawiau ar gosbau am ragor o fanylion.
Sut allwch chi gael cymorth
I gael cymorth gyda chofrestru llety ymwelwyr, cysylltwch ag Awdurdod Cyllid Cymru.
Helpwch i ddylunio'r gwasanaeth Cofrestru
Rydym yn cynnal sesiynau ymchwil defnyddwyr gyda darparwyr llety i helpu i wella'r gwasanaeth cofrestru.
