Neidio i'r prif gynnwys

Mae’r gwasanaeth hwn ar gael yn Saesneg (English) hefyd.

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i gofrestru eich llety ymwelwyr. 

Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, byddwch yn gallu gwneud y canlynol hefyd: 

  • diweddaru manylion eich cofrestriad 
  • dileu eich llety oddi ar y gofrestr 
  • ychwanegu pobl i’ch helpu i reoli eich cofrestriad 

Gallwch gofrestru i gael diweddariadau am y gwasanaeth. 

Cyn i chi ddechrau 

Os nad ydych chi’n siŵr a oes angen i chi gofrestru, darllenwch ein canllawiau ar gofrestru llety ymwelwyr. 

Mewngofnodi 

Bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio One Login GOV.UK. Os nad oes gennych gyfrif One Login yn barod, bydd yn rhaid i chi greu un.  

Os byddwch yn cael unrhyw broblemau gyda'ch cyfrif One Login, cysylltwch ag One Login. 

Er mwyn cofrestru  

Bydd angen i chi ddarparu:

  • manylion cyswllt, er enghraifft:
    • enw
    • cyfeiriad
    • rhif ffôn
    • dyddiad geni
    • e-bost
  • rhif cwmni neu rhif elusen (os yn berthnasol)
  • enw masnachu (os yn berthnasol)
  • cyfeiriad y llety
  • enw'r llety (os yn berthnasol)

  • y mathau o lety rydych yn eu cynnig

  • pa bryd mae eich llety ar agor ar gyfer archebion fel arfer

  • nifer yr ystafelloedd neu unedau y gellir eu harchebu

  • faint o bobl sy’n gallu aros yno

Ar ôl i chi gofrestru

Bydd rhai o'r manylion yn gyhoeddus ar y gofrestr llety ymwelwyr. Gallwch edrych i weld pa fanylion sy'n gyhoeddus ar y gofrestr fel sydd wedi'i nodi yn yr polisi preifatrwydd.

Newid eich manylion

Mae ein gwasanaeth ar agor ar gyfer cofrestru yn unig ar hyn o bryd. Os bydd eich manylion yn newid, bydd angen i chi eu diweddaru erbyn 31 Mawrth 2027. Byddwn yn caniatáu diweddariadau cofrestru yn gynnar y flwyddyn nesaf.

ar Awdurdod Cyllid Cymru

Os ydych chi eisoes wedi dechrau cofrestru, mewngofnodwch i barhau.

Ffyrdd eraill o gofrestru

Os na allwch ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein, ffoniwch 03000 254 000 i siarad â’n desg gymorth, mae’r llinell ar agor rhwng 10am a 3pm o ddydd Llun tan ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg. 

Sut allwch chi gael cymorth

Os byddwch eisiau cymorth wrth gofrestru llety ymwelwyr, gallwch: