Neidio i'r prif gynnwys

Gwiriwch pa fanylion fydd i'w gweld ar y gofrestr gyhoeddus o lety ymwelwyr yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cofrestru llety ymwelwyr

Bydd rhaid i ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru gofrestru gydag Awdurdod Cyllid Cymru erbyn 31 Mawrth 2027.

Ar ôl i ddarparwr gofrestru, bydd rhywfaint o’u manylion yn cael eu cyhoeddi.

Chwilio’r gofrestr gyhoeddus

Manylion cyhoeddus ar y gofrestr

Bydd rhywfaint o fanylion llety ymwelwyr ar gael yn gyhoeddus ar y gofrestr. Mae hyn yn golygu y gall unrhyw un chwilio amdanyn nhw a'u gweld.

Manylion y darparwr llety

O ran darparwyr, mae'r gofrestr llety ymwelwyr yn dangos:

  • rhif cofrestru
  • rhif cwmni neu elusen
  • enw'r cwmni neu'r darparwr 
  • enw masnachu neu hysbysebu
  • cyfeiriad busnes

Manylion llety

O ran llety, mae'r gofrestr llety ymwelwyr yn dangos:

  • enw 
  • cyfeiriad
  • math (er enghraifft, gwesty neu lety hunanarlwyo)
  • pryd mae ar gael i’w archebu
  • nifer o ystafelloedd neu leoedd
  • y nifer mwyaf o westeion sy’n gallu aros yno

Manylion nad ydynt ar y gofrestr gyhoeddus

Nid yw'r gofrestr gyhoeddus yn dangos y manylion canlynol am y darparwr: 

  • dyddiad geni
  • rhif ffôn
  • cyfeiriad e-bost

Sut allwch chi gael cymorth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gofrestr gyhoeddus, cysylltwch ag Awdurdod Cyllid Cymru.