Rydym yn cyflwyno cynllun newydd ar gyfer llety ymwelwyr yng Nghymru.
Cynnwys
Cyflwyniad
Rydym yn bwriadu cyflwyno cynllun trwyddedu ar gyfer llety ymwelwyr yng Nghymru, gan ddechrau gyda llety hunanddarpar.
Bydd y cynllun yn cefnogi twristiaeth yng Nghymru drwy wneud y canlynol:
- rhoi sicrwydd i ymwelwyr bod llety yn bodloni'r safonau y byddent yn eu disgwyl
- darparu cyfundrefn glir i ddarparwyr
Deddf Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) 2026
Ar 27 Ebrill 2026 derbyniodd y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) Gydsyniad Brenhinol a daeth y Bil yn Ddeddf y Senedd bryd hynny.
Bydd y Ddeddf:
- yn creu'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer y cynllun trwyddedu
- yn adeiladu ar gynlluniau ar gyfercofrestr genedlaethol o ddarparwyr llety ymwelwyr, fel y nodir yn Neddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) etc. (Cymru) 2025
Bydd y Bil hefyd yn creu Cod o gyfreithiau Cymreig ar dwristiaeth. Bydd hwn yn:
- dod â'r cyfreithiau presennol ar dwristiaeth at ei gilydd
- gwneud y gyfraith yn fwy hygyrch a haws ei deall
Dogfennau cysylltiedig
Mae copi o'r Bil fel y'i pasiwyd gan y Senedd, ynghyd â Memorandwm Esboniadol sy'n esbonio diben ac effaith arfaethedig y ddeddfwriaeth, yma:
- Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru)
- Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) Memorandwm Esboniadol (fersiwn ddiwygiedig 04 Mawrth 2026)
Cynhaliwyd nifer o asesiadau effaith mewn perthynas â'r cynllun trwyddedu hefyd:
Y camau nesaf
Bydd y Ddeddf, ynghyd â fersiwn derfynol o'r Memorandwm Esboniadol, yn cael ei chyhoeddi ar wefan Cyfraith Cymru maes o law.
Y rhagosodiad cyfreithiol yw y bydd y cynllun trwyddedu yn dod i rym ym mis Mawrth 2030. Cyn i hyn ddigwydd, bydd ymgynghoriad ar reoliadau a wneir o dan y Bil a bydd canllawiau ar y cynllun yn cael eu cyhoeddi.
Bydd diweddariadau ar y Bil a'r cynllun trwyddedu yn parhau i gael eu rhannu â rhanddeiliaid drwy gylchlythyrau a bwletinau diwydiant Croeso Cymru.
Trwyddedu
I gael rhagor o wybodaeth anfonwch e-bost at: TrwyddeduStatudol@llyw.cymru
