Canllawiau cynnal asesiadau llety Sipsiwn a Theithwyr - Pennod 3: asesu anghenion llety
Canllaw i helpu awdurdodau lleol i ddilyn y gyfraith ar asesu anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Bydd y bennod hon yn amlinellu’r broses o ddefnyddio’r data a gasglwyd drwy adolygu ffynonellau data a’r arolwg arbenigol. Mae’n helpu i asesu anghenion a dewisiadau, y galw am lety yn yr awdurdod lleol penodol ac mewn ardaloedd eraill, sut mae rhagweld natur yr aelwyd net, a sut mae gwneud y cyfrifiad terfynol o’r angen am leiniau.
Ar ôl cynnal y cyfweliadau a gorffen adolygu’r data, rhaid i awdurdodau lleol asesu a oes angen darparu lleiniau ychwanegol ar gyfer eu hardal.
Dylai canlyniadau’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr nodi nifer yr aelwydydd Sipsiwn a Theithwyr mae angen lleiniau ychwanegol arnynt ar unwaith, o fewn y cyfnod adolygu a dros gyfnod y Cynllun Datblygu Lleol.
Ar ôl casglu’r data a’i roi yn Atodiad 5, bydd y blychau melyn yn llenwi’n awtomatig i nodi’r angen heb ei fodloni.
Rhaid i’r canlyniadau gynnwys:
- y mathau o lety sydd eu hangen i fodloni’r anghenion a nodwyd (hy safleoedd preswyl neu safleoedd tramwy, safleoedd penodol ar gyfer Siewmyn Teithiol neu Sipsiwn Romani/Teithwyr Gwyddelig ac ati)
- nifer yr aelwydydd sy’n byw mewn llety anaddas yn yr ardal awdurdod lleol (hy gorlawn, yn byw mewn tai brics a mortar sy’n anaddas oherwydd gwrthwynebiad diwylliannol ac ati)
- cyfradd debygol natur yr aelwyd net (hy oedolion ifanc sydd angen eu lleiniau eu hunain, mudo a diddymu aelwydydd ac ati)
- nifer yr aelwydydd sydd â chyfle realistig i symud i fath gwahanol o lety, a allai ryddhau lleiniau sbâr neu gartrefi brics a mortar
- nifer yr aelwydydd ar wersylloedd diawdurdod
- nifer y safleoedd preifat heb ganiatâd cynllunio
- unrhyw fannau aros dros dro/a negodwyd y gwyddys eu bod yn cael eu defnyddio mewn ardal awdurdod lleol, rhaid ystyried y rhain wrth asesu anghenion llety, hyd yn oed os nad oes teuluoedd yn aros yn y man hwnnw adeg yr arolwg ei hun
Mae dyletswyddau awdurdodau lleol o dan Ran 3 o Ddeddf 2014 yn canolbwyntio ar y gofyniad i ddarparu lleiniau cartrefi symudol yn hytrach na mathau eraill o lety.
Fodd bynnag, dylid hefyd ystyried unrhyw angen sy’n codi am gartrefi brics a morter fel rhan o’r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol a’i gynnwys yn y strategaeth dai leol.
Cyflenwad presennol o leiniau preswyl (wedi'u meddiannu)
Cyn i awdurdodau lleol allu ystyried y galw am leiniau ychwanegol yn eu hardal, mae’n bwysig asesu’r cyflenwad presennol o leiniau preswyl sydd ar gael. Mae hyn yn cynnwys lleiniau ar safleoedd awdurdod lleol, safleoedd preifat, mannau aros tramwy neu dros dro/a negodwyd, a gwersylloedd diawdurdod. Dylai’r rhan fwyaf o’r data hwn fod ar gael yn barod gan adrannau tai a chynllunio awdurdodau lleol.
Rhesi A a B: yn dangos sut dylid cyflwyno nifer y lleiniau awdurdod lleol a lleiniau preifat (gyda chaniatâd cynllunio) sydd wedi’u meddiannu.
Rhes A: lleiniau awdurdod lleol wedi'u meddiannu (mae’r data hwn ar gael o’r system Cyfrif Carafannau a chofnodion tai awdurdodau lleol).
Rhes B: lleiniau preifat wedi’u meddiannu (gyda chaniatâd cynllunio).
Cyflenwad arfaethedig o leiniau preswyl
Rhes C: lleiniau awdurdod lleol a phreifat gwag (gyda chaniatâd cynllunio). Bydd y data hwn ar gael drwy gynnal arolygon safle â phreswylwyr. Efallai na fydd rhai perchnogion safle ar safleoedd preifat yn dymuno lesio eu lleiniau gwag i unigolion nad ydynt yn aelodau o’r teulu. Felly, dim ond nifer y lleiniau gwag ar safleoedd preifat sydd ar gael ar sail agored dylid ei gofnodi yn Rhes C.
Rhes D: lleiniau awdurdod lleol a phreifat sydd ar fin dod yn wag yn y dyfodol agos. Er mwyn nodi nifer y lleiniau newydd y disgwylir iddynt ddod yn wag yn ystod y cyfnod adolygu, gall awdurdodau lleol adolygu eu cofnodion rheoli safle i asesu trosiant blynyddol y lleiniau dros y cyfnod blaenorol o bum mlynedd. Efallai na fydd rhai perchnogion safle ar safleoedd preifat yn dymuno lesio eu lleiniau gwag i unigolion nad ydynt yn aelodau o’r teulu. Felly, dim ond nifer y lleiniau gwag ar safleoedd preifat sydd ar gael ar sail agored dylid ei gofnodi yn Rhes D.
Dylai awdurdodau lleol adolygu atebion yr arolwg o gwestiynau A6 i A7 ac Adran C. Gallai’r atebion i’r cwestiynau hyn roi manylion dyheadau aelwydydd sy’n dymuno symud. Gall awdurdodau lleol nodi pa atebion sy’n dod o aelwydydd sydd ar hyn o bryd yn meddiannu lleiniau awdurdodau lleol drwy gyfeirio at yr atebion i gwestiwn A1. Gall awdurdodau lleol archwilio’r wybodaeth hon i ganfod a oes modd cyflawni unrhyw un o’r dyheadau hyn.
Wrth ystyried y rhai sy’n debygol o adael lleiniau ar safleoedd awdurdodau lleol yn y dyfodol agos, efallai bydd atebion i’r arolwg yn nodi aelwydydd sydd wedi mynegi eu bod yn dymuno symud i dai brics a mortar. Gall awdurdodau lleol gynnwys y lleiniau hyn fel rhai sydd ar gael i’w cyflenwi, ar yr amod eu bod yn gallu dangos y bydd yr aelwyd yn sicr yn cael gafael ar lety amgen. Os gellir dangos hyn, gellir cynnwys y lleiniau hyn yn rhes D.
Rhes E: lleiniau newydd awdurdod lleol gyda chaniatâd cynllunio. Dim ond lleiniau awdurdod lleol newydd gyda chaniatâd cynllunio dylid eu cynnwys ar hyn o bryd. Ni ddylid ystyried safleoedd sydd yn y system gynllunio ar hyn o bryd ond heb ganiatâd cynllunio. Y rheswm am hyn yw nad oes sicrwydd y bydd modd cyflawni’r safle cyn cael caniatâd cynllunio, a byddai cynnwys ceisiadau am safleoedd a allai fod yn aflwyddiannus yn y pen draw yn tanamcangyfrif yr angen heb ei fodloni yn yr ardal. Serch hynny, os caiff caniatâd cynllunio ei gymeradwyo ar gyfer safle ar ôl cyhoeddi’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr, bydd nifer y lleiniau a gymeradwyir yn gwrthbwyso’r angen heb ei fodloni a nodwyd.
Bydd y lefelau bodlonrwydd presennol â’r llety presennol yn rhoi rhyw syniad a yw aelwydydd yn debygol o aros yn eu llety presennol. Efallai y bydd rhai unigolion yn dymuno gadael llety cartref symudol a symud i dai brics a mortar, tra bydd eraill yn mynegi dewis neu angen diwylliannol i adael tŷ brics a mortar am lety cartref symudol.
Wrth holi am lefelau bodlonrwydd presennol ar y llety presennol (cwestiynau A2 ac A7), mae’n bosib y bydd yn well gan yr unigolion dan sylw wella neu addasu’r llety presennol yn hytrach na symud. Pan fo’n briodol, gellir helpu unigolion i aros yn eu llety presennol drwy ddefnyddio’r Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl neu’r Grant Cefnogi Pobl i wneud y llety hwnnw’n addas at eu dibenion.
Mae’n bosib bod amwynder cyffredinol safle a/neu faterion iechyd a diogelwch yn rhesymau sy’n golygu bod aelwydydd eisiau symud. Efallai fod awdurdodau lleol yn gymwys i ddefnyddio Grant Cyfalaf Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr Llywodraeth Cymru i adnewyddu eu safleoedd.
Yn ogystal â’r asesiad o leiniau presennol awdurdodau lleol, dylai awdurdodau lleol ystyried faint o leiniau ychwanegol sydd â chaniatâd cynllunio sydd ar fin dod ar gael. Bydd hyn yn cynnwys lleiniau safleoedd preifat a fydd ar gael i’w rhentu yn agored, y dylid eu cynnwys fel rhan o’r cyflenwad arfaethedig o leiniau preswyl yn rhes F. Dim ond safleoedd sydd â chaniatâd cynllunio y dylid eu cynnwys ar hyn o bryd. Ni ddylid ystyried safleoedd sydd yn y system gynllunio ar hyn o bryd ond heb ganiatâd cynllunio. Y rheswm am hyn yw nad oes sicrwydd y bydd y safle ar gael cyn cael caniatâd cynllunio, felly byddai cynnwys ceisiadau am safleoedd a allai fod yn aflwyddiannus yn y pen draw yn tanamcangyfrif yr angen heb ei fodloni yn yr ardal. Serch hynny, os caiff caniatâd cynllunio ei gymeradwyo ar gyfer safle ar ôl cymeradwyo a chyhoeddi’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr, bydd nifer ychwanegol y lleiniau awdurdodedig yn gwrthbwyso’r angen heb ei fodloni a nodwyd.
Rhes F: lleiniau preifat newydd gyda chaniatâd cynllunio. Dim ond lleiniau preifat newydd gyda chaniatâd cynllunio dylid eu cynnwys ar hyn o bryd. Fodd bynnag, efallai na fydd rhai perchnogion safle ar safleoedd preifat yn dymuno lesio eu lleiniau gwag i unigolion nad ydynt yn aelodau o’r teulu. Felly, dim ond nifer y lleiniau newydd ar safleoedd preifat sydd ar gael ar sail agored dylid ei gofnodi yn y rhes hon.
Y galw presennol am leiniau preswyl
I sefydlu’r galw presennol am leiniau preswyl, bydd angen i awdurdodau lleol ddadansoddi’r data a gesglir drwy’r arolwg arbenigol a llenwi’r rhesi canlynol:
- (rhes G) ar wersylloedd diawdurdod awdurdod lleol sydd ag angen llety safle
- (rhes H) ar safleoedd preifat heb ganiatâd cynllunio (nes bod caniatâd cynllunio yn cael ei roi a bod yr holl amodau wedi’u bodloni, bydd y safle’n parhau i gynrychioli angen preswyl heb ei fodloni).
- (rhes I) ar safleoedd presennol awdurdod lleol ond mewn amodau gorlawn
- (rhes J) mewn tai brics a mortar ond gyda gwrthwynebiad diwylliannol at dai o’r fath neu dai gorlawn
- (rhes K) aelwydydd newydd y disgwylir iddynt gyrraedd neu y mae angen llety arnynt yn yr ardal
Dylai’r data a gesglir drwy Adrannau A, C a D yr holiadur helpu awdurdodau lleol i asesu cyfanswm y galw yn eu hardaloedd yn briodol.
Deall ‘anghenion’ a ‘dewisiadau’
Yn aml, nid yw Sipsiwn a Theithwyr wedi gallu cael mynediad at safleoedd sy’n ddiwylliannol briodol yn yr ardaloedd lle maen nhw’n dymuno byw. Mae dulliau gwahanol awdurdodau lleol o ddarparu safleoedd a chamau gorfodi weithiau wedi gwneud i gymunedau ymgartrefu mewn lleoliadau amhriodol neu anaddas, er enghraifft, mewn ardal awdurdod lleol i ffwrdd oddi wrth eu teuluoedd estynedig. Os felly, dylai’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am yr ardal lle mae’r angen am lety wedi codi weithio’n agos gydag awdurdodau lleol eraill yn y rhanbarth i ddod o hyd i ateb a rennir ac ystyried mabwysiadu’r angen heb ei fodloni lle bo hynny’n ymarferol.
Mae dosbarthiad safleoedd awdurdodau lleol wedi’i wasgaru’n anwastad ledled Cymru. Bydd rhywfaint o hyn yn deillio o ddewisiadau personol aelodau’r gymuned sydd wedi dewis byw mewn ardaloedd penodol am resymau teuluol, economaidd neu ddiwylliannol.
Fodd bynnag, gall safleoedd mewn rhai ardaloedd gynnwys rhai sydd â chysylltiadau hirdymor mewn awdurdodau cyfagos lle byddai’n well ganddynt fyw. Efallai nad oes gan ardaloedd eraill safleoedd ond bod poblogaethau sylweddol o Sipsiwn a Theithwyr yn byw mewn tai brics a mortar yno ac y byddai’n well ganddynt fyw mewn cartref symudol.
O ganlyniad, gall awdurdodau tai lleol ddod ar draws sefyllfaoedd amrywiol wrth gynnal eu harolygon, lle gall fod yn anodd datgysylltu anghenion a dewisiadau meddianwyr.
Mae ystyried anghenion yn erbyn dewisiadau yn debygol o fod yn seiliedig ar 3 prif thema:
- Aelodau o’r gymuned mewn tai brics a mortar sydd angen lleiniau cartref symudol oherwydd gwrthwynebiad diwylliannol.
- Aelodau o’r gymuned sydd â llain awdurdodedig mewn un ardal awdurdod lleol ond a fyddai’n hoffi symud i ardal yr awdurdod sy’n cynnal yr asesiad.
- Y rhai sydd ar wersylloedd diawdurdod oherwydd prinder lleiniau awdurdod lleol y mae angen llain cartref symudol arnynt yn yr un ardal.
Deall gwrthwynebiad diwylliannol
I lawer o Sipsiwn a Theithwyr, mae byw mewn cartrefi symudol yn agwedd allweddol ar eu hunaniaeth ddiwylliannol. Fodd bynnag, roedd Cyfrifiad 2021 yn awgrymu mai dim ond 22% o gymunedau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru a Lloegr sy’n byw mewn carafannau neu strwythurau dros dro eraill. Roedd Cyfrifiad 2021 yn dangos bod 78% o’r cymunedau hyn yn byw mewn tai, fflatiau, fflatiau deulawr neu randai yng Nghymru a Lloegr ar hyn o bryd.
Efallai fod llawer o’r rhai sy’n byw mewn tai, fflatiau, fflatiau deulawr neu randai yn gwneud hynny o ddewis am amrywiaeth o resymau. Fodd bynnag, efallai fod rhywfaint o’r boblogaeth hon fod wedi symud i dai brics a mortar oherwydd diffyg dewisiadau cyfreithlon ar gyfer lleiniau i gartrefi symudol. Gweler Shelter, ‘Good Practice Guide: Working with housed Gypsies and Travellers’ (2007)
Mae’n debygol y bydd gan rai aelodau o’r gymuned sy’n byw mewn tai brics a mortar yr hyn a elwir yn ‘wrthwynebiad diwylliannol’ i’r math hwn o lety. Mae hyn wedi cael ei sefydlu mewn cyfraith achosion, yn wreiddiol yn Clarke v. Yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a’r Rhanbarthau (2001).
Hynny yw, aelodau o’r gymuned sydd â thraddodiad o fyw mewn cartref symudol neu ar safleoedd ac sy’n ei chael hi’n anodd addasu i fyw mewn llety brics a mortar ond sy’n gwneud hynny oherwydd rheidrwydd nid oherwydd dewis.
Gallai gwrthwynebiad diwylliannol fod yn seiliedig ar y math o lety neu ffordd o fyw mwy llonydd sy’n gysylltiedig â thai brics a mortar neu ynysu oddi wrth aelodau o’r gymuned a’r teulu a allai fod yn byw mewn cartrefi symudol.
Bydd angen i awdurdodau tai lleol ystyried yn ofalus a ellid dweud bod gan y rhai sy’n byw mewn tai brics a mortar ac sy’n ffafrio byw ar safleoedd cartrefi symudol hefyd wrthwynebiad diwylliannol at eu llety presennol.
Dylai awdurdodau lleol ystyried y rheswm dros symud i gartref confensiynol a’r effaith andwyol bosib ar yr unigolion os ydynt yn aros mewn tai confensiynol.
Rhaid i awdurdodau lleol hefyd ystyried rôl ansawdd safle mewn penderfyniadau ynghylch llety a sicrhau nad yw teuluoedd dan bwysau i dderbyn opsiynau tai sy’n gwrthdaro â’u dewisiadau diwylliannol. Yn unol ag Erthygl 30 CCUHP, mae gan blant a phobl ifanc hawl i berthyn i’w grŵp ethnig lleiafrifol ac arfer eu hunaniaeth ddiwylliannol. Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am ddarparu lleiniau addas sy’n addas i’r diben. Ni ddylai teuluoedd deimlo bod yn rhaid iddynt symud i lety brics a mortar o ganlyniad i amodau byw gwael mewn safleoedd cartrefi symudol awdurdod lleol.
Yn ystod yr asesiad llety, ni fyddai’n briodol i awdurdodau lleol fynnu bod y rhai sy’n cael eu cyfweld yn dangos eu gwrthwynebiad drwy unrhyw fath o asesiad. Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi y gall y ffordd nomadaidd draddodiadol o fyw fod yn anodd i Sipsiwn a Theithwyr ei chyflawni. Mae Sipsiwn Romani a Theithwyr Gwyddelig yn lleiafrifoedd ethnig cydnabyddedig ac nid oes angen y ffordd draddodiadol o deithio na nomadiaeth er mwyn cynnal eu hunaniaeth hiliol. Felly, mae’r diffiniad ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr a ddefnyddir at ddibenion y canllawiau hyn yn cydnabod y gallai aelodau o’r gymuned hon, er eu bod yn bobl o arferiad nomadaidd o fyw, fod wedi rhoi’r gorau i deithio dros dro neu’n barhaol oherwydd anghenion addysgol, iechyd neu henaint.
Dylai gwybodaeth a gofnodir yn holiadur yr arolwg (yn enwedig cwestiynau A2, A3, A7 ac Adran B) helpu awdurdodau lleol i ganfod a oes gan unigolion wrthwynebiad diwylliannol at dai confensiynol.
Dylai amcangyfrifon o nifer yr aelodau o’r gymuned sydd â gwrthwynebiad diwylliannol at dai confensiynol adlewyrchu’r atebion a roddir yn yr holiadur a’r pwyntiau a amlinellir uchod. Cydnabyddir mai amcangyfrifon yw’r rhain ond gallent serch hynny fod yn ffordd bragmataidd o fesur nifer yr aelwydydd sy’n byw mewn tai brics a mortar sydd angen lleiniau cartrefi symudol.
Lle nodir bod gan unigolion wrthwynebiad diwylliannol at dai brics a mortar, dylai awdurdodau tai lleol gynnwys yr angen am leiniau cartrefi symudol gan yr aelwydydd hyn fel rhan o’r galw presennol. Dylid cynnwys hyn yn Rhes K Atodiad 5.
Y galw am lety mewn ardal leol arall
Wrth gynnal arolygon, efallai bydd rhai aelodau o’r gymuned yn nodi bod yn well ganddynt neu fod arnynt angen cael llety ar safle cartrefi symudol mewn ardal awdurdod lleol arall.
Dylai Adrannau C a D yr holiadur gasglu data i helpu awdurdodau lleol i ddeall lle mae’r galw am lety o’r fath yn debygol o godi. Mae Adran E hefyd yn debygol o ddarparu data defnyddiol i awdurdodau cyfagos i’w helpu i ragweld anghenion llety tramwy yn y dyfodol. Dylai awdurdodau lleol geisio ymgysylltu’n rhagweithiol ag ardaloedd eraill gan ragweld y tebygolrwydd hwn. Bydd hyn yn haws ei gyflawni os oes partneriaeth ranbarthol eisoes wedi’i sefydlu i gynnal asesiadau llety neu os yw’r awdurdodau lleol eraill yn cynnal eu hasesiadau ar yr un pryd.
Mae’n bwysig bod yr anghenion mae aelodau’r gymuned yn eu datgan yn cael eu hystyried yn briodol a bod yr awdurdodau lleol perthnasol yn gweithio gyda’i gilydd i benderfynu lle dylid nodi’r galw am lety yn briodol. Pan fo galw wedi’i nodi am lety mewn awdurdod arall, rhaid ei gofnodi, a rhaid rhoi’r manylion i’r awdurdod perthnasol (cyhyd â bod unrhyw ddata personol yn cael ei ddiogelu’n briodol).
Mae hyn yn debyg o fod yn broses ddwyffordd gyda’r naill awdurdod a’r llall angen cyfathrebu’n effeithiol â’i gilydd. Dylid cytuno sut yr ymdrinnir ag amgylchiadau o’r fath cyn ymgymryd â’r arolwg.
Gallai’r broses hon olygu bod yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr yn cael gwybod gan awdurdodau lleol eraill am aelwydydd newydd y disgwylir iddynt gyrraedd eu hardal, ac i’r gwrthwyneb. Bydd atebion i gwestiwn D5 hefyd yn rhoi rhywfaint o wybodaeth am y pwynt hwn. Yn olaf, gall rhestr aros yr awdurdodau lleol am leiniau hefyd gynnwys gwybodaeth a fydd yn ychwanegu at y ffigur hwn. Bydd nifer yr aelwydydd a nodir yn llenwi rhes L Atodiad 5.
Y galw am lety o wersylloedd diawdurdod
Pan fydd arolygon o’r rhai sy’n defnyddio gwersylloedd diawdurdod neu safleoedd preifat heb ganiatâd cynllunio yn dangos y galw am leiniau cartrefi symudol mewn awdurdod lleol lle maen nhw’n byw ar hyn o bryd, bydd angen i awdurdodau lleol wneud yn siŵr nad oes gan aelodau’r gymuned lety arall yn rhywle arall.
Os oes gan yr aelwydydd hyn lety arall yn rhywle arall, ni fyddai eu dewis i gael lleiniau mewn ardal wahanol fel arfer yn cael ei ystyried yn angen, gan na fyddent yn ddigartref nac mewn perygl o fod yn ddigartref – gweler cylchlythyr cynllunio Llywodraeth Cymru 005/2018, “Cynllunio ar gyfer Safleoedd Sipsiwn, Teithwyr a Siewmyn”.
Dylid cofnodi’r galw sy’n deillio o wersylloedd diawdurdod a safleoedd preifat heb ganiatâd cynllunio yn ardal yr awdurdod lleol yn rhesi G a H Atodiad 5.
Mae hyn yn cynnwys safleoedd heb unrhyw sicrwydd o amddiffyniad yn erbyn gorfodaeth cynllunio neu’r rhai ar safleoedd sydd â chaniatâd cynllunio yn dod i ben o fewn pum mlynedd.
Gorlenwi
Mae galw am leiniau preswyl hefyd yn debygol o ddeillio o orlenwi, naill ai mewn safleoedd presennol neu dai brics a mortar. Oherwydd yr etifeddiaeth o ddiffyg safleoedd, mae llain llawer sydd ar safleoedd ar hyd a lled Cymru yn orlawn. Mae’r sefyllfa hon yn gallu arwain at oblygiadau iechyd a diogelwch difrifol, gan gynnwys y risg o dân os rhoddir gormod o garafannau ar lain.
Nid oes diffiniad cyfreithiol o orlenwi yng nghyd-destun cartref symudol. Fodd bynnag, gellir defnyddio’r canlynol fel canllaw.
At ddibenion y canllawiau hyn, gellir ystyried bod angen ardal cysgu ar wahân ar gyfer pob un o’r canlynol:
- Pob cwpl sy’n oedolion (priod neu’n cyd-fyw).
- Unrhyw un arall 16 oed neu hŷn.
- Pob pâr o blant dan 16 oed o’r un rhyw.
- Pob pâr o blant dan 10 oed beth bynnag fo’u rhyw.
- Unrhyw blentyn arall.
Mewn cartrefi symudol, gall fod yn fwy cywir ystyried gwahanu ardaloedd cysgu, yn hytrach nag ystafelloedd gwely.
Gellir ystyried lliniaru unrhyw orlenwi a nodwyd drwy ychwanegu cartref symudol arall ar y llain, dim ond os yw’r llain yn addas ar gyfer cynnydd o’r fath mewn meddiannaeth.
Caiff awdurdodau lleol ganiatáu gosod cartref symudol arall ar lain dim ond os yw gwneud hynny’n cydymffurfio â’r canllawiau Diogelwch Tân fel y cyfeirir atynt yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru ‘Cynllunio Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr’. Rhaid i awdurdodau lleol ymgynghori â’r awdurdod tân ac achub lleol os nad ydynt yn siŵr a fyddai’n ddiogel gosod cartrefi symudol ychwanegol ar y llain. Os nad yw aelwydydd yn gallu gosod cartref symudol ychwanegol yn ddiogel ar eu llain neu mewn man arall ar y safle a bod eu llety presennol yn orlawn, bydd hyn yn arwydd o alw ychwanegol am leiniau preswyl.
Dylai fod yn symlach asesu gorlenwi mewn tai brics a mortar a bydd awdurdodau tai lleol wedi arfer cynnal asesiadau o’r fath drwy eu swyddogaethau tai presennol.
Pan fydd gorlenwi’n digwydd mewn tai brics a mortar neu fod natur aelwyd newydd yn dod i’r amlwg, bydd angen i awdurdodau lleol fod yn ymwybodol y gallai hyn fod yn alw ychwanegol am leiniau preswyl. Os yw’r gorlenwi yn ganlyniad i blant dibynnol yn dod yn oedolion, efallai bydd yr aelwydydd newydd hyn yn mynegi dymuniad i fyw mewn llety cartref symudol. Bydd Adran B yr holiadur yn rhoi gwybodaeth i awdurdodau lleol am farn cyfranogwyr am orlenwi.
Y galw am leiniau preswyl yn y dyfodol
Dylai’r atebion gan gyfranogwyr o dan Adran D yr holiadur ddangos y twf disgwyliedig yn y dyfodol. Bydd hyn yn rhoi amcangyfrif o’r aelwydydd ychwanegol dros y cyfnod pum mlynedd nesaf.
Mae cyfradd twf net aelwydydd cenedlaethol o 2.25% wedi cael ei defnyddio at ddibenion enghreifftiol yn Atodiad 5 ar y sail y gallai hyn fod yn waelodlin resymol ar gyfer twf blynyddol mewn cymunedau Sipsiwn a Theithwyr. Mae tystiolaeth i gefnogi’r ffaith bod y gyfradd twf aelwydydd net genedlaethol ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yn gallu amrywio o 1.5% i 2.5%, gyda phoblogaethau iau yn dangos cyfraddau twf aelwydydd blynyddol uwch. Fodd bynnag, dylai awdurdodau lleol ddadansoddi’r data demograffig a roddir gan aelodau’r gymuned i asesu eu cyfradd twf tebygol yn lleol dros y cyfnod adolygu.
Rhes M: gellir cyfrifo’r angen ychwanegol am leiniau aelwydydd drwy dynnu’r nifer presennol o aelwydydd yng ngholofn gyntaf rhes L o’r amcangyfrif o nifer yr aelwydydd yn y dyfodol yn ail a thrydedd golofn y rhes. Bydd y gwerthoedd hyn yn llenwi rhesi O a P yn Atodiad 5.
Rhes N: bydd cyfanswm y galw am leiniau preswyl yn llenwi’r rhes hon yn Atodiad 5.
Rhes O: y galw am leiniau preswyl yn y dyfodol dros gyfnod yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr a nodwyd yn rhes M.
Rhes P: y galw am leiniau preswyl yn y dyfodol dros gyfnod y Cynllun Datblygu Lleol a nodwyd yn rhes M.
Gan fod yr amcangyfrif o dwf aelwydydd yn seiliedig ar ddymuniadau a chynlluniau aelodau’r gymuned, mae’n anodd rhagweld twf yn gywir dros 5 mlynedd.
Fodd bynnag, mae’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr yn ddarn pwysig o dystiolaeth sy’n sail i Gynlluniau Datblygu Lleol, sy’n gweithredu o fewn amserlen hirach. Efallai y bydd awdurdodau lleol yn dymuno defnyddio’r un cyfraddau twf amcangyfrifedig yn yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr a’r Cynllun Datblygu Lleol perthnasol, os ydynt yn credu bod hyn yn briodol.
Mae’r angen cyffredinol heb ei fodloni yn yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr (pum mlynedd) (rhes R) yn cael ei gyfrifo drwy ychwanegu’r galw presennol am leiniau preswyl a’r galw am leiniau preswyl yn y dyfodol (pum mlynedd) (rhes O), yna tynnu’r cyflenwad arfaethedig o leiniau preswyl (rhes Q).
Mae’r angen cyffredinol heb ei fodloni yn y Cynllun Datblygu Lleol (rhes S) yn cael ei gyfrifo drwy ychwanegu’r galw presennol am leiniau preswyl (rhes N) a’r galw am leiniau preswyl yn y dyfodol (Cynllun Datblygu Lleol) (rhes P), yna tynnu’r cyflenwad arfaethedig o leiniau preswyl (rhes Q).
Rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau’r angen heb ei fodloni a nodwyd ar gyfer cyfnod adolygu’r asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr cyn gynted ag y bo’n ymarferol. Dylid darparu unrhyw angen tymor hirach yn ystod oes y Cynllun Datblygu Lleol.
Cyfrifo’r angen tramwy
Bydd yr asesiad o’r angen am lety yn nodi a oes angen mwy o leiniau o fewn ardal awdurdod lleol, yr angen am leiniau tramwy, neu ddim angen am y naill na’r llall.
Gall rhai gwersylloedd godi dros dro mewn ardal awdurdod lleol heb nodi o reidrwydd bod angen unrhyw ddarpariaeth dramwy barhaol yn yr ardal, er enghraifft, lle mae’r meddianwyr yn “pasio drwodd.”
Bydd dal angen i awdurdodau lleol ystyried a ddylid darparu mannau aros dros dro/a negodwyd lle mae gwersylloedd o’r fath yn codi, neu a fyddai safle tramwy yn fwy cynaliadwy yn achos arosiadau amlach. Mae rhagor o wybodaeth am ymateb i achosion o wersylla diawdurdod ar gael yng nghanllawiau Rheoli Gwersylloedd Diawdurdod Llywodraeth Cymru.
Mae mannau aros dros dro/a negodwyd yn gyfleusterau tymor byr y gellir eu defnyddio i roi llety i’r rhai sy’n pasio drwodd neu i adleoli gwersyll sydd wedi codi mewn lleoliad amhriodol neu anniogel. Dylai awdurdodau lleol fynd ati’n rhagweithiol i adnabod y mannau aros dros dro/a negodwyd hyn ymlaen llaw i sicrhau bod modd anfon gwersylloedd diawdurdod yno cyn gynted ag y bo angen.
Os bydd awdurdod lleol yn cael llawer o wersylloedd diawdurdod tymor hirach, gallai hyn ddangos bod angen safleoedd tramwy. Er enghraifft, byddai angen am safleoedd tramwy yn cael ei nodi os oes llawer o wersylloedd yn codi mewn ardal awdurdod lleol, yn enwedig rhwng mis Mawrth a mis Hydref, ac yn arbennig os ydynt yn para mwy nag ychydig ddyddiau.
Yn wahanol i fannau aros dros dro/a negodwyd, mae safleoedd tramwy yn gyfleusterau parhaol sy’n caniatáu i aelwydydd fyw ynddynt am hyd at dri mis ar y tro. Gall safleoedd tramwy fod yn gymwys i gael cyllid Grant Cyfalaf Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr Llywodraeth Cymru a byddai awdurdodau lleol yn gallu codi rhent a thaliadau gwasanaeth wythnosol ar breswylwyr.
Efallai fod gan rai sy’n defnyddio gwersylloedd diawdurdod mewn ardal awdurdod lleol ganolfannau awdurdodedig parhaol mewn llefydd eraill ac felly ni fyddent yn cael eu hystyried yn rhai y mae angen lleiniau preswyl arnynt yn ardal yr arolwg. Fodd bynnag, mae’n bosib bod y grŵp hwn yn dangos yn glir bod angen lleiniau tramwy yn yr ardal.
Mae Llywodraeth Cymru yn argymell bod awdurdodau lleol yn gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu rhwydwaith o safleoedd tramwy yn y lleoliadau mwyaf priodol o amgylch Cymru.
Mae’n debyg y bydd angen cydweithio ag awdurdodau lleol eraill er mwyn gallu deall yn gywir yr angen am safleoedd tramwy. Mae Adran E yr holiadur yn ceisio cofnodi gofynion tramwy Sipsiwn a Theithwyr ledled Cymru, a ddylai helpu i roi sylfaen dystiolaeth o anghenion tebygol mewn awdurdodau lleol eraill. Bydd angen rhannu’r data hwn yn ardal y bartneriaeth ac ag awdurdodau lleol eraill lle rhagwelir y bydd angen tramwy.
Dylai data Cyfrif Carfannau hefyd roi gwybodaeth ddefnyddiol iawn am yr anghenion tramwy tebygol yn ardal yr awdurdod lleol oherwydd bydd elfen ‘cofnod o safleoedd diawdurdod’ y system yn cofnodi lleoliadau gwersylloedd pan fydd awdurdodau lleol yn ymateb iddynt. Bydd adolygu’r data hwn yn rhoi nifer y gwersylloedd diawdurdod a gafodd awdurdodau lleol drwy gydol blwyddyn y cyfrif, y lleoliadau mwyaf poblogaidd, nifer y carafannau a oedd ym mhob gwersyll a hyd a rheswm yr arhosiad. Mae modd dadansoddi’r wybodaeth hon at ddibenion yr asesiad llety Sipsiwn a Theithwyr i helpu’r awdurdod lleol i ddeall a oes angen safle tramwy a pha faint fyddai ei angen.
Wrth gyfrifo’r angen heb ei fodloni am leiniau tramwy, rhaid i awdurdodau lleol ystyried cyfran yr angen sy’n deillio o bob cymuned Sipsiwn a Theithwyr benodol, gan fod hyn yn debygol o effeithio ar ffurfweddiad y safleoedd y bydd angen eu darparu. Er enghraifft, oherwydd gofynion dylunio a rheoli penodol Siewmyn Teithiol a safleoedd Teithwyr Newydd, maen nhw’n debygol o fod angen safleoedd sy’n bodloni eu hanghenion penodol.
