Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Heddiw, mae'n bleser gennyf lansio ymgynghoriad ar y newidiadau arfaethedig i ddata anghenion dysgu ychwanegol y mae awdurdodau lleol, ysgolion a lleoliadau nad ydynt yn ysgolion yn eu cofnodi ac y mae Llywodraeth Cymru yn eu casglu, gan gynnwys:
- plant a phobl ifanc unigol ag ADY sy'n mynychu lleoliadau addysg a gynhelir yng Nghymru neu sy'n cael eu haddysgu heblaw yn yr ysgol (AHY)
- darpariaeth ADY a'r gwaith o gyflwyno'r system ADY o fewn lleoliadau addysg a gynhelir
- data ar lefel unigol ar y gweithlu addysg mewn lleoliadau a gynhelir
Rydym am ddeall a yw ysgolion, lleoliadau nad ydynt yn ysgolion ac awdurdodau lleol yn credu y bydd y wybodaeth arfaethedig yn eu cefnogi yn eu gwaith. Rydym yn croesawu barn yr holl randdeiliaid sy'n defnyddio'r wybodaeth ADY y mae Llywodraeth Cymru yn ei chyhoeddi, neu sydd â diddordeb ynddi, yn ogystal â phlant, pobl ifanc a'u rhieni neu ofalwyr, yr ydym yn trafod eu data.
Mae angen i ni sicrhau bod y data y mae ysgolion ac awdurdodau lleol yn eu cofnodi a'u rhannu â Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd â pholisi a deddfwriaeth ADY. Bydd y data hyn yn helpu ysgolion a lleoliadau i ddeall anghenion plant yn eu hysgolion a chefnogi darpariaeth effeithiol a chynnydd dysgwyr. Bydd hyn hefyd yn sicrhau bod gwybodaeth gadarn ac amserol gan awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru er mwyn caniatáu cynllunio strategol, goruchwyliaeth o'r system a sicrhau atebolrwydd.
Rwy'n benderfynol o gyflawni ar gyfer dysgwyr, gan gynnwys y rhai sydd ag ADY. Mae llwyddiant a gwelliant parhaus y system ADY yn flaenoriaeth bwysig i ni. Mae cael y data cywir i gefnogi hyn yn hanfodol ac rwy'n eich annog i roi eich adborth ar ein cynigion drwy'r ymgynghoriad.
