Mae'r gwasanaeth cenedlaethol 111, pwyso 2, sydd wedi trawsnewid mynediad at gymorth ar gyfer problemau iechyd meddwl brys, wedi derbyn mwy na 200,000 o alwadau ers ei lansio.
Cyflwynwyd y gwasanaeth ledled y wlad ym mis Rhagfyr 2022, ac mae'n darparu cymorth ar unwaith i bobl sy'n profi anawsterau iechyd meddwl.
Mae wedi ymdrin â 200,900 o alwadau hyd yn hyn. Dyma'r rhagflaenydd ar gyfer cenhedlaeth newydd o wasanaethau iechyd meddwl mynediad agored, a fydd yn cael eu datblygu ledled Cymru, gan ddarparu mynediad i bobl at gymorth pryd a lle mae ei angen arnynt.
Mae heddiw (10 Hydref 2025) yn nodi Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, ac mae'r thema eleni yn rhoi sylw i fynediad at wasanaethau yn ystod trychinebau ac argyfyngau.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy:
Mae'r lefelau uchel o alw am y gwasanaeth 111, pwyso 2 yn dangos pa mor bwysig yw sicrhau bod cymorth ar gael pan fydd pobl ei angen fwyaf.
Mae cael y gwasanaeth hwn ar gael ddydd a nos, bob dydd o'r flwyddyn, yn dangos pa mor bwysig yw cymorth iechyd meddwl ar unwaith i'n cymunedau.
Mae angen i wasanaethau fel y rhain fod ar gael cyn gynted â phosibl, gan eu bod yn gallu helpu i atal problemau iechyd meddwl rhag dirywio a gwaethygu.
Mae'n rhan o'n huchelgais i Gymru fod y genedl gyntaf i ddatblygu cymorth iechyd meddwl yr un diwrnod, yn seiliedig ar ddull gweithredu fesul cam.
Mae'r gwasanaeth 111, pwyso 2 am ddim, sydd ar gael 24 awr y dydd yn cysylltu galwyr yn uniongyrchol â gweithwyr iechyd meddwl yn eu hardal ac yn cynnig cymorth yr un diwrnod heb atgyfeiriad.
Pobl rhwng 25 a 34 oed yw'r grwpiau oedran mwyaf cyffredin i ddefnyddio'r gwasanaeth, ac yna pobl 35 i 44 oed a 45 i 54 oed.
Dywedodd Ciara Rogers, cyfarwyddwr y rhaglen genedlaethol ar gyfer iechyd meddwl yng Nghymru:
Mae'r gwasanaeth 111, pwyso 2 yn chwarae rhan allweddol o ran ymyrryd yn gynnar ac atal. Mae'n rhan hanfodol o wella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru.
Rydyn ni eisiau i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru gael eu harwain at y cymorth cywir, y tro cyntaf, heb oedi. Mae'r gwasanaeth 111, pwyso 2 yn enghraifft wych o'r hyn rydyn ni'n awyddus i'w gyflawni wrth ganolbwyntio ar gymorth mynediad agored, yr un diwrnod.
