Neidio i'r prif gynnwy

Cryfhau'r gweithlu gofal plant cyfrwng Cymraeg drwy ddarparu cymwysterau gofal plant cyfrwng Cymraeg

Mae rhoi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant wedi bod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru bob amser. Mae hynny’n golygu sicrhau bod ein gwasanaethau yn cael eu cynllunio gyda phobl ifanc a theuluoedd yn ganolog iddynt. 

Er mwyn cefnogi a datblygu cymunedau Cymraeg eu hiaith, rydym yn cydnabod y rôl hanfodol y mae ein gweithlu gofal plant yn ei chwarae. Mae sicrhau bod cymwysterau gofal plant cyfrwng Cymraeg ar gael yn allweddol i gefnogi'r gweithlu cyfrwng Cymraeg. Mae’r Gymraeg yn perthyn i bob un ohonom, ac mae’n ganolog i’n hunaniaeth genedlaethol, ein diwylliant a’n dyfodol.

Bydd y grant hwn yn cefnogi Llywodraeth Cymru i gyflawni ei hymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu er mwyn:

  • Mynd ati’n raddol i ehangu’r ddarpariaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar er mwyn cynnwys pob plentyn dwyflwydd oed, gan roi pwyslais penodol ar gryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg;
  • Cyrraedd miliwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Ynglŷn â'r cynllun grant

1.1 Yr Amcan

Amcan cyffredinol y cynllun grant hwn yw cryfhau'r gweithlu gofal plant cyfrwng Cymraeg drwy ddarparu cyrsiau gofal plant cyfrwng Cymraeg o ansawdd uchel mewn cymwysterau achrededig. Mae hyn yn rhoi i'r gweithlu sgiliau lefel uchel ac yn helpu i ehangu'r ddarpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg o ansawdd uchel ledled Cymru.

1.2 Cymhwystra

Rydym yn chwilio am geisiadau gan sefydliadau/colegau/elusennau neu gwmnïau sy'n gallu darparu cymwysterau gofal plant cyfrwng Cymraeg achrededig a gydnabyddir yn Fframwaith Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru Fframwaith Cymwysterau ar gyfer gofal cymdeithasol, yn gynnar... | Gofal Cymdeithasol Cymru. Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus allu darparu'r cymwysterau canlynol o leiaf:

  • City and Guilds Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer
  • City and Guilds Lefel 5 Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer

Mae targed o 300 o ddysgwyr wedi'i osod ar gyfer y rhaglen dair blynedd ar gyfer dysgwyr Lefel 3 a Lefel 5 sy'n cyflawni eu cymwysterau (225 Lefel 3 a 75 Lefel 5). 

Mae Cymwysterau yng Nghymru yn rhoi manylion y cymwysterau/cyrff dyfarnu perthnasol. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y dyfarniad grant hwn, rhaid i sefydliadau fod yn ganolfan achrededig gydag un o'r cyrff dyfarnu sy'n cynnig y cymhwyster hwn yng Nghymru. Chwilio cymwysterau - Canlyniadau 

Gofynnir i sefydliadau roi cadarnhad o nifer yr aseswyr a'r hyfforddwyr profiadol ac achrededig sydd ar gael i ddarparu'r rhaglen, a'r systemau cymorth sydd ar waith i gyflwyno'r ddarpariaeth ledled Cymru.

1.3 Galwadau am gynigion: 14 Hydref 2025

Wrth ystyried datblygu cynnig i gyflawni amcanion y cynllun grant, nodwch y canlynol.

  • Bydd cynigion nad ydynt yn mynd i'r afael yn uniongyrchol â'r Meini Prawf â Blaenoriaeth a nodir yn Adran B yn cael eu gwrthod.
  • Rhaid i'r cynigion gynnwys cynlluniau i ddechrau'r cymorth a'r targedau i'w cyflawni o fis Ebrill 2026 a pharhau hyd at fis Mawrth 2029.
  • Rhaid i'r cynigion ystyried y terfynau cyllido dangosol canlynol:

2026 i 2027: £1,108,800.00

2027 i 2028: £1,108,800.00

2028 i 2029: £1,108,800.00

Rhan 1: Y Cam Ymgeisio

Rhaid darllen y canllawiau hyn cyn llenwi'r ffurflen gais. Rydym yn gwahodd ceisiadau a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae gan y ffurflen gais yr adrannau canlynol y mae'n rhaid eu llenwi’n llawn. Cyfrifir nifer y geiriau yn y ffurflen gais. Ni fydd geiriau sy'n fwy na'r terfyn a roddir yn cael eu hasesu. 

2.1 Adran A - Crynodeb o'r cynnig

Nodwch yn gryno ac yn glir:

  • beth yw amcan y cynnig?
  • sut mae'n bodloni amcanion cyffredinol y cynllun grant?
  • beth yw'r cynlluniau yn y cynnig a sut byddant yn cael eu cyflawni?
  • unrhyw grwpiau penodol (ymarferwyr, dysgwyr, eraill) a fyddai'n elwa'n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, a sut?
  • data ac ymchwil i gefnogi eich cynnig
  • sut mae eich cynnig yn cefnogi cyflawni amcanion ehangach Llywodraeth Cymru megis Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), Cymraeg 2050 a'r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol? 

Dylid cynnwys tystiolaeth yn erbyn pob un o'r 7 nod sy'n ymwneud â'r cynnig ac yn erbyn pob un o'r 5 ffordd o weithio.

2.2 Adran B - Meini Prawf â Blaenoriaeth 

Yn yr adran hon, bydd angen i'r ymgeisydd ddangos tystiolaeth yn erbyn y meini prawf â blaenoriaeth gofynnol: 

Meini Prawf â Blaenoriaeth

  1. Darparu cymwysterau a hyfforddiant gofal plant cyfrwng Cymraeg o ansawdd uchel, gan sicrhau bod dysgwyr yn barod ar gyfer y gweithlu. Rhaid i'r ddarpariaeth hyfforddi gynnwys, o leiaf, gymhwyster Lefel 3 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant, a chymhwyster Lefel 5 mewn Arwain a Rheoli Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant.

Rhowch dystiolaeth yma o faint o gymwysterau gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant Lefel 3 a Lefel 5 City and Guilds y byddwch yn gallu eu darparu o fewn y rhaglen a ariennir, a'r ystod o gymwysterau y byddwch yn gallu eu darparu o fewn y cynllun grant. Mae targed o 300 o ddysgwyr wedi'i osod ar gyfer y rhaglen dair blynedd ar gyfer dysgwyr Lefel 3 a Lefel 5 sy'n cyflawni eu cymwysterau (275 Lefel 3 a 75 Lefel 5). Os ydych yn gosod targed mwy uchelgeisiol, nodwch yma. 

Mae'n hanfodol bod y cynnig yn dangos sut y bydd cymwysterau cyfrwng Cymraeg o ansawdd uchel yn cael eu darparu ledled Cymru. Rhowch dystiolaeth o'ch profiad o ddarparu cymwysterau gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant achrededig City and Guilds Lefel 3 a Lefel 5. Amlinellwch unrhyw risgiau posibl i'ch gallu i'w darparu a rhowch fanylion y camau lliniaru y byddwch yn eu gweithredu, pan fo'n berthnasol, i sicrhau y caiff yr hyfforddiant arfaethedig ei ddarparu'n llwyddiannus.

  1. Darparu addysgu, mentora a chymorth, gan gynnwys defnyddio dull seiliedig ar waith, a chymorth llwybr gyrfa.

Rhowch dystiolaeth o'ch arbenigedd a'ch profiad o ddarparu addysgu, dysgu a mentora ledled Cymru drwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant. Dangoswch eich capasiti i gefnogi dysgu seiliedig ar waith a datblygiad llwybr gyrfa. Rhowch fanylion eich dulliau darparu. Sut y byddwch yn addasu eich dull gweithredu i ddiwallu anghenion ac amgylchiadau amrywiol dysgwyr, gan sicrhau'r hygyrchedd a'r cynhwysiant mwyaf posibl? Sut y byddwch yn cefnogi ac yn monitro dysgwyr i sicrhau bod y cyfraddau uchaf posibl yn cwblhau cyrsiau ac yn graddio?

Amlinellwch sut y byddwch yn darparu'r cymorth hwn i ddysgwyr, gan gynnwys dulliau, adnoddau a strategaethau ymgysylltu. Rhowch dystiolaeth yma o gapasiti, profiad ac arbenigedd wrth ddarparu cymorth i ddysgwyr sy'n ymgymryd â chymwysterau gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg. Amlinellwch yma y cyfleoedd datblygu y byddwch yn gallu eu darparu.

Os ydych yn bwriadu cynnig cymorth ôl-gymhwyso, rhowch amlinelliad yma.

  1. Cydweithio â rhwydweithiau a phartneriaid perthnasol eraill fel rhan o strategaeth glir ar gyfer recriwtio dysgwyr newydd i gynyddu'r gweithlu gofal plant cyfrwng Cymraeg ac i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r rhaglen. 

Rhowch dystiolaeth yma o sut y byddwch yn cydweithio ac yn meithrin cysylltiadau o fewn ac ar draws y sector, a chyda phwy y byddwch yn gwneud hynny, er mwyn cyflawni amcanion cyffredinol y rhaglen.

Os ydych ar hyn o bryd yn ymwneud ag unrhyw rwydweithiau sefydledig sy'n gysylltiedig â'ch cynnig, nodwch yma.

  1. Darparu cymorth pontio i ddysgwyr sydd wedi dechrau ond heb eto gwblhau cymwysterau gofal plant cyfrwng Cymraeg Lefel 3 a Lefel 5 cyn fis Ebrill 2026. Sut y byddwch yn ystyried cynnydd dysgwyr ac yn sicrhau parhad dysgu i gwblhau cymwysterau?

Rhowch dystiolaeth o gapasiti a dull gweithredu ar gyfer cefnogi trefniadau pontio a chynefino dysgwyr sydd wedi dechrau ond heb gwblhau cymwysterau gofal plant cyfrwng Cymraeg Lefel 3 a Lefel 5. 

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â chynefino 47 o ddysgwyr Lefel 3 a 8 o ddysgwyr Lefel 5 a'u cefnogi i gwblhau eu haddysg a chyflawni'r cymwysterau gofynnol. Bydd y dysgwyr yn y rhanbarthau canlynol yng Nghymru: y Gogledd-orllewin, y Gogledd-ddwyrain, y De-orllewin a'r De-ddwyrain.

  1. Nodwch y deilliannau disgwyliedig a'r ffordd y byddwch yn casglu a chyflwyno data monitro yn ystod y rhaglen, gan gwmpasu, o leiaf, ddata ar gymwysterau Lefel 3 a Lefel 5.

Beth yw deilliannau disgwyliedig eich cynnig?

Nodwch yma yr holl fesurau, targedau neu ddangosyddion a fyddai'n cael eu defnyddio i fesur effaith a pherfformiad ar ffurf adroddiad monitro chwarterol ac adroddiad cynnydd blynyddol i fesur y deilliannau disgwyliedig. 

Nodwch eich dull gweithredu wrth fonitro data i asesu cynnydd y rhaglen mewn perthynas â nifer y dysgwyr sydd wedi'u recriwtio i gyrsiau cymhwyster gofal plant cyfrwng Cymraeg Lefel 3 a Lefel 5, cyfraddau cwblhau, nifer y dysgwyr sy'n gadael cwrs yn gynnar, a nifer y dysgwyr sy'n sicrhau cyflogaeth yn y sector gofal plant ar ôl cymhwyso, ymysg pethau eraill. Mae hefyd angen monitro darpariaeth dysgu a datblygiad ynghyd â sesiynau mentora. Dylid cynnig amlder addas o gyfarfodydd ac mae hynny i'w ddisgwyl er mwyn olrhain cynnydd yn effeithiol, sicrhau ansawdd, a gwneud yn siŵr bod y dysgwyr yn cyrraedd eu cerrig milltir yn llwyddiannus. 

  1. Nodwch sut y byddwch yn cynllunio ar gyfer dod â'r rhaglen i ben.

Gan mai rhaglen ariannu dair blynedd yw hon, nodwch sut y byddwch yn rheoli'r gwaith o ddod â'r rhaglen i ben ochr yn ochr â chefnogi dysgwyr i gwblhau cymwysterau.

2.3 Adran C - Sut ydych yn cynnig darparu'r cymorth a nodir uchod?

Mae'r adran hon yn gyfle i'r ymgeisydd adeiladu ar yr hyn a nodwyd yn yr adrannau blaenorol a rhoi gwybodaeth am sut y mae'n bwriadu darparu'r cymwysterau gofal plant a'r cymorth i ddysgwyr, gan ystyried gwybodaeth berthnasol yn y canllawiau hyn.

Yn yr adran hon mae gofyn ichi ymhelaethu ar adrannau blaenorol drwy ddarparu rhagor o fanylion am sut y byddwch yn darparu eich cynnig gan ystyried y cwestiynau canlynol:

  1. Sut y byddwch yn sicrhau bod eich cynnig yn cael ei gyflawni'n llwyddiannus? 

Dylai hyn gynnwys naratif cyffredinol am y trefniadau cyflawni, y fethodoleg i'w defnyddio, gan gynnwys yr opsiynau rydych wedi'u hystyried a'r rhesymeg dros eich dull gweithredu arfaethedig. 

Rhowch ddisgrifiad o'r hyn rydych yn disgwyl ei gyflawni ym mhob blwyddyn ariannol, gan amlinellu'n glir beth yw amserlen a hyd a lled y gweithgareddau. Dylai'r rhain fod yn gysylltiedig yn benodol â'ch trefniadau monitro arfaethedig yn Adran B a'r dadansoddiad o'r costau yn Adran E, gan sicrhau tryloywder a chysondeb ar draws pob cydran. Rhowch hefyd wybodaeth neu dystiolaeth sy'n dangos pa mor gyflym y gellir bwrw ymlaen â'ch cynllun, gan gynnwys manylion ynghylch amser a goblygiadau o ran costau ar gyfer y cam sefydlu cychwynnol.

  1. Sut y byddwch yn sicrhau bod eich cynnig yn cael ei gyflawni drwy gyfrwng y Gymraeg?

Dylech egluro beth yw eich capasiti mewnol, ynghyd ag unrhyw drefniadau is-gontractio y byddwch yn eu rhoi ar waith.

Bydd angen ichi gynnwys datganiad yma yn cadarnhau'r capasiti i ddarparu eich cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg.

  1. Pa risgiau i gyflawni rydych wedi'u nodi wrth ddatblygu'r cynnig hwn a sut rydych yn bwriadu eu lliniaru?

Dylai'r wybodaeth ymwneud ag ystod eang o ffactorau a chynnwys, ymhlith pethau eraill, cyllid, recriwtio a chadw staff, ymgysylltiad, capasiti, yr arbenigedd sydd ar gael, cyflenwyr trydydd parti, trefniadau cydweithredu, cyfathrebu, ystwythder y trefniadau cymorth i ymateb i anghenion wrth iddynt ddatblygu ac ati.

  1. Sut y byddwch yn cyfathrebu ac yn ymgysylltu ag ysgolion, colegau, lleoliadau, dysgwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill sy'n hanfodol i ddarparu eich cynnig? 

Er y bydd sianeli cyfathrebu Llywodraeth Cymru ar gael i unrhyw dderbynwyr grant llwyddiannus, dylai'r adran hon nodi sut y byddech yn defnyddio'r rhain ochr yn ochr ag unrhyw gamau uniongyrchol y byddech yn eu cymryd i sicrhau ymgysylltu o'r fath. 

  1. Sut y byddwch yn sicrhau mynediad teg at gymorth ledled Cymru?

Nodwch sut y byddwch yn sicrhau mynediad teg i ddysgwyr ledled Cymru beth bynnag fo'u lleoliad, cefndir ac ati.

2.4 Adran D - Eich sefydliad 

Pwrpas yr adran hon yw rhoi gwybodaeth benodol a manylach am eich sefydliad. Dylai adeiladu ar yr wybodaeth a nodwyd uchod am sut y caiff eich cynnig ei gyflawni.

Llenwch y tabl yn y ffurflen gais yn llawn gyda manylion eich sefydliad. Rhaid i'r swyddog arweiniol o'ch sefydliad lenwi'r adran hon. 

Yn yr adran hon, bydd y cwestiwn canlynol hefyd yn cael ei ofyn ichi: 

  1. Rhowch wybodaeth am hanes eich tîm a'ch sefydliad o ddarparu'r cymorth a nodir yn eich cynnig. 

Rhowch wybodaeth a thystiolaeth mewn perthynas ag arbenigedd a phrofiad proffesiynol perthnasol arweinydd/arweinwyr y cwrs a phob aelod o staff addysgu. 

Rhowch wybodaeth am eich capasiti gan nodi sut mae eich sefydliad (neu gonsortia) wedi darparu cymwysterau gofal plant cyfrwng Cymraeg yn flaenorol. Gall hyn gynnwys tystiolaeth werthuso ac adborth gan rhanddeiliaid.

2.5 Adran E - Rheoli a chynllunio ariannol

Dylech ddefnyddio'r adran hon i roi gwybodaeth benodol a manylach am yr agweddau ariannol ar eich cynnig. Dylai adeiladu ar yr wybodaeth a nodwyd uchod am sut y caiff eich cynnig ei gyflawni, gan gynnwys dadansoddiad manwl o'r costau ar gyfer y gweithgareddau arfaethedig yn erbyn eich mesurau, eich targedau neu'ch dangosyddion. 

Yn yr adran hon gofynnir cwestiynau ichi sy'n ymwneud â'r ffordd y byddwch yn cyflawni i sicrhau gwerth am arian a defnydd effeithiol o'r cyllid. Rhowch wybodaeth am unrhyw adnoddau ychwanegol, gan gynnwys cyllid, neu gymorth ychwanegol a fydd yn cyfrannu at gyflawni eich cynnig.

  1. Rhowch ddadansoddiad byr o'r costau yn y dyraniadau blynyddol ar gyfer pob blwyddyn ariannol, wedi'u mapio yn erbyn meini prawf â blaenoriaeth y rhaglen ac allbynnau allweddol eich cynnig. 

Dylai hyn gynnwys, o leiaf, y prif dargedau i'w cyflawni bob blwyddyn ynghyd â chostau cysylltiedig.

  1. Sut mae'r cynnig hwn yn rhoi gwerth am arian?

Gan adeiladu ar yr wybodaeth a roddwyd, dylai hyn esbonio'n gryno y prosesau y byddwch yn eu defnyddio i sicrhau gwerth am arian wrth ddefnyddio arian cyhoeddus. Ymysg pethau eraill, gallwch drafod materion fel y ffordd y byddwch yn ymwneud â chaffael, costau staff, teithio a chynhaliaeth ac ati. Rhowch dystiolaeth yma o sut y byddwch yn darparu modd cynaliadwy ar gyfer cymorth parhaus, gan ddatblygu capasiti'r system, a sut mae'n helpu i ehangu'r ddarpariaeth a'r gweithlu gofal plant cyfrwng Cymraeg drwy ddarparu cymwysterau gofal plant cyfrwng Cymraeg.

  1. Rhowch wybodaeth am unrhyw gyllid neu gymorth ychwanegol a fydd yn cyfrannu at gyflawni eich cynnig. 

Gall hyn gynnwys cyllid cyfatebol neu gymorth mewn nwyddau. Dylech nodi lefel y cyllid, y flwyddyn/blynyddoedd ariannol y mae'n gysylltiedig â hi/nhw, pwy sy'n ei ddarparu (gan gynnwys unrhyw ofynion penodol a osodir ganddynt mewn perthynas â defnyddio'r cyllid hwnnw). 

2.6 Adran F – Sicrhau ansawdd a llywodraethu 

Mae cyfle yn yr adran hon i ddarparu unrhyw wybodaeth bellach sydd ei hangen er mwyn helpu ag arfarnu eich cynnig, gan gyfeirio at fesurau ar gyfer recriwtio dysgwyr yn ddiogel, sicrhau bod gan staff y sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i sicrhau addysgu a chymorth o ansawdd uchel, a diogelwch a llesiant pob dysgwr a phob aelod o staff.

Yn yr adran hon, bydd y cwestiynau canlynol yn cael eu gofyn ichi:

  • Esboniwch unrhyw wiriadau diwydrwydd dyladwy rydych wedi'u cynnal wrth ddatblygu'r cynnig hwn.
  • Sut y bydd eich sefydliad yn rheoli data personol sy'n deillio o'r cynnig?
  • Nodwch sut y byddwch yn sicrhau ac yn cynnal ansawdd hyfforddwyr/athrawon, gan gynnwys unrhyw fuddsoddiad o ran datblygiad, hyfforddiant a chefnogaeth y staff.

2.7 Sut i ymgeisio

Argymhellwn eich bod yn dilyn y canllawiau hyn yn ofalus er mwyn sicrhau eich bod yn darparu’r holl wybodaeth ofynnol yn y ffurflen gais. 

Mae tri cham i'r broses ymgeisio ar gyfer cynllun grant y Rhaglen Cymwysterau Gofal Plant Cyfrwng Cymraeg.

  1. Dylai’r sawl sy’n gwneud cais am grant ddarllen meini prawf a gofynion y rhaglen, fel y’u nodir yn y canllawiau hyn, yn ofalus.
  2. Dylid cyflwyno ceisiadau cyflawn i gofalplantachwarae@llyw.cymruerbyn canol nos ar 6 Ionawr 2026 fan hwyraf. Rhaid gwneud ceisiadau drwy'r ffurflen gais a rhaid iddynt fod ar fformat Word. (Anfonir negeseuon e-bost i gadarnhau bod ceisiadau a gyflwynwyd yn gywir wedi dod i law).
  3. Ar ôl i’r cyfnod gwneud cais ddod i ben, bydd arfarniad o'ch cais llawn yn dechrau. Bydd pob ymgeisydd yn cael ei hysbysu o ganlyniad yr arfarniad cyn pen 90 diwrnod ar ôl i'r cyfnod ymgeisio ddod i ben.

Rhan 2: Y Broses Arfarnu a Grantiau

3.1 Y Broses Arfarnu

Caiff y cais llawn ei arfarnu yn unol â chanllawiau’r rhaglen a’r meini prawf â blaenoriaeth. Pan fo'r geiriau'n cael eu cyfrif, ni fydd geiriau sy'n fwy na'r terfyn yn cael eu hasesu yn rhan o'r broses arfarnu. Caiff yr arfarniadau eu cynnal gan swyddogion polisi blynyddoedd cynnar a gofal plant Llywodraeth Cymru, gyda chyngor gan gydweithwyr llywodraethant corfforaethol.

Caiff yr wybodaeth a ddarperir yn y cais ei hasesu a bydd yn derbyn gradd yn erbyn y meini prawf canlynol.

  • Uchel: mae’r ymgeisydd wedi darparu ymatebion cadarn a manwl mewn perthynas â’r holl ofynion tystiolaeth, gyda chynigion sy’n canolbwyntio’n gryf ar gyflawni blaenoriaethau cymorth.
  • Canolig: mae’r ymgeisydd wedi darparu ymatebion boddhaol a manwl mewn perthynas â’r rhan fwyaf o’r gofynion tystiolaeth, gyda chynigion sy’n canolbwyntio’n ddigonol ar flaenoriaethau cymorth.
  • Isel: mae’r ymgeisydd wedi darparu ymatebion anghyflawn neu annigonol o bosibl mewn perthynas ag 1 neu fwy o’r gofynion tystiolaeth, gyda chynigion nad ydynt yn canolbwyntio digon ar flaenoriaethau cymorth. 

Y trothwy isafswm ansawdd i ddyfarnu grant yw gradd ‘Canolig’ ym mhob categori. 

 Er mwyn gwneud argymhelliad gwybodus ynghylch a ddylid dyfarnu grant, bydd y meini prawf arfarnu yn ystyried y ffactorau canlynol:

  • cymhwysedd a chydymffurfiaeth â meini prawf â blaenoriaeth y rhaglen a nodir yn y canllawiau hyn
  • nodau ac amcanion y cynnig, a sut mae'n cyd-fynd ag ymrwymiadau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru
  • tystiolaeth o fesurau, targedau a deilliannau perfformiad clir a realistig
  • gweithredu’r cynnig, gan gynnwys trefniadau rheoli a sut rydych yn bwriadu gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol eraill
  • yr agweddau technegol ar y cynnig, gan gynnwys tystiolaeth o’r arbenigedd a’r capasiti i ddarparu’r cynnig
  • tystiolaeth o werth ychwanegol y cynnig, y tu hwnt i'r cymorth a gaiff a fydd ar gael
  • asesiad o’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r cynnig o safbwynt hyfywedd ariannol, diogelu a stiwardiaeth arian cyhoeddus
  • asesiadau o werth am arian ac ansawdd
  • cyfraniad at ein nodau o safbwynt datblygu cynaliadwy, y Gymraeg a Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Cynhelir gwiriadau diwydrwydd dyladwy (lle bo angen) a gwiriadau cymhwysedd llawn mewn perthynas â’r cais cyn y gwneir unrhyw benderfyniadau terfynol i gynnig grant neu wrthod cais.

3.2 Canlyniad yr arfarniad a chynnig grant

Ni ellir gwarantu y caiff cynnig ei gymeradwyo i gael grant. Ein nod yw arfarnu’r cais o fewn 90 diwrnod i’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau. 

Mae 2 ganlyniad posibl i’r broses arfarnu ceisiadau.

  1. Nid yw eich cynnig wedi'i gymeradwyo ar gyfer dyfarniad. Byddwch yn cael eich hysbysu drwy e-bost. Gallwch ailymgeisio pe bai cyfle ymgeisio arall ar gael yn y dyfodol. Mae adborth ar eich cais ar gael ar gais
  2. Mae eich cynnig yn gymwys a chaiff ei gymeradwyo. Caiff cynnig grant ei anfon atoch drwy e-bost yn amlinellu telerau ac amodau’r grant. Bydd angen ichi dderbyn neu wrthod y cynnig grant o fewn 21 diwrnod busnes. Os na fyddwch yn gwneud hynny, caiff y cynnig ei dynnu’n ôl. Dim ond cynnig grant ffurfiol y cytunwyd arno, a lofnodwyd ac a ddychwelyd gennych chi, sy'n rhoi'r awdurdod ichi ddechrau ar eich gwaith.

Caiff manylion llawn am dderbyn cynnig grant, pryd y gellir dechrau gweithgarwch a hawlio arian amdano eu nodi yn y cynnig grant. 

Bydd swyddogion polisi Llywodraeth Cymru hefyd yn ceisio trefnu cyfarfod â chi i ddechrau trefniadau rheoli grant parhaus. 

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael ffurflen fonitro pro-fforma i’w llenwi a’i hadolygu bob chwarter fel rhan o’r broses monitro grantiau. 

Rhaid darparu ffurflen fonitro pro-fforma derfynol wedi’i chwblhau ac adroddiad trosolwg ar y cais llwyddiannus i Lywodraeth Cymru ar ddiwedd cyfnod y grant.

Bydd angen i bob cais ddarparu tystiolaeth o sut y bydd eu proses yn cael ei gwerthuso wrth fodloni amcanion meini prawf y grant.

3.3 Amodau’r grant

Caiff y grant ei ddyfarnu ar sail datganiadau a wnaed gennych chi neu’ch cynrychiolwyr ar y ffurflen gais ac, yn dilyn hynny, y ffurflen hawlio ac unrhyw ohebiaeth gysylltiedig. Mae’n drosedd gwneud datganiadau anwir neu gamarweiniol.

Rhaid ichi ddarllen a deall rheolau perthnasol y rhaglen a’r canllawiau.

Ni ddylech ddechrau unrhyw waith ar y prosiect heb gael awdurdod ysgrifenedig i wneud hynny yn gyntaf gan Lywodraeth Cymru drwy gynnig grant sydd wedi cael ei dderbyn yn ffurfiol gennych. 

Ni ellir gwneud unrhyw newidiadau i’r prosiect heb gymeradwyaeth ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru.

Efallai y bydd angen i Lywodraeth Cymru ddiweddaru rheolau ac amodau i gyd-fynd â newidiadau i ofynion deddfwriaethol y DU. 

Rhaid ichi fodloni unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol a gyflwynir a chyfraith y DU.

Rydych yn cytuno i gadw at unrhyw newidiadau a wneir yn dilyn hysbysiad gan Weinidogion Cymru.

Rydych wedi cynnwys manylion sy’n wir, yn gywir ac yn gyflawn hyd eithaf eich gwybodaeth a’ch cred yn y ceisiadau ac unrhyw ddogfennau ategol.

Rydych yn cydnabod na fydd Llywodraeth Cymru nac unrhyw gynghorydd a benodir gan Lywodraeth Cymru yn gyfrifol am unrhyw gyngor a roddir, gan gynnwys yn ddigyfyngiad unrhyw gyngor a roddir mewn perthynas â’r ceisiadau, ac mai chi sy’n llwyr gyfrifol am yr holl benderfyniadau busnes a wneir.

Mae'n ofynnol ichi gydymffurfio â'r rheolau ynghylch costau cymwys a nodir yng nghanllawiau'r rhaglen ac yn nhelerau ac amodau'r grant.

Dylai prosiectau gael eu cwblhau o fewn yr amserlen y cytunwyd arni â Llywodraeth Cymru. Ni ddylech wyro oddi wrth yr amserlen hon heb gael cytundeb ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.

Dim ond am daliadau sydd wedi clirio o gyfrif banc y gellir talu grant. Ni fyddwn yn cymeradwyo hawliadau am weithgarwch cyn gwariant. Bydd angen cyflwyno adroddiad monitro ochr yn ochr â ffurflenni hawlio chwarterol sy'n amlinellu data ynghylch cynnydd dysgwyr a gweithgareddau a wneir i gefnogi dysgwyr fel y nodir ym Maen Prawf â Blaenoriaeth 5. O fewn cylch gwaith y cyllid mae nifer targed o 300 o ddysgwyr o fewn y 3 blynedd wedi'i osod yn unol â Maen Prawf â Blaenoriaeth 1. 

Rhaid ichi gadarnhau nad oes unrhyw gyllid cyhoeddus arall wedi'i geisio mewn perthynas â'r gweithgareddau sydd wedi'u cynnwys yn y cynnig. Os canfyddir eich bod wedi cael arian cyhoeddus o ffynhonnell arall ar gyfer y cynnig, gall eich hawliad gael ei wrthod, gall taliadau gael eu hadennill, a gall cosbau gael eu rhoi.

Rhaid ichi ymrwymo i fodloni unrhyw rwymedigaethau statudol fel iechyd a diogelwch, cyflogaeth, hylendid, rheolaeth amgylcheddol a diogelu’r amgylchedd, iechyd a lles anifeiliaid neu gnydau sy’n gymwys yn ystod cyfnod y prosiect hwn.

Rhaid ichi sicrhau bod unrhyw staff sy’n ymgysylltu’n uniongyrchol â dysgwyr yn cael unrhyw wiriadau gofynnol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a bod pob lleoliad cysylltiedig yn cael eu hysbysu ymlaen llaw am statws eich staff yn hyn o beth. 

Rhaid ichi roi hawl mynediad ac arolygu i gynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru neu’u cynrychiolwyr. Ar gais, rhaid ichi roi gwybodaeth iddynt a/neu fynediad at ddogfennau gwreiddiol sy’n ymwneud â’r prosiect.

Mae’r wybodaeth a ddarperir yn y cais ac unrhyw ddogfennau ategol yn ddarostyngedig i ofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i’r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.

Dylech wybod, os byddwch yn llwyddiannus, y bydd Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i gyhoeddi enw eich busnes, cwmni neu sefydliad, swm y grant a ddyfarnwyd ichi a chrynodeb o’ch prosiect. Rydym hefyd yn cadw’r hawl i gyhoeddi adroddiadau gwerthuso ar effeithiolrwydd y gweithgarwch a ariennir drwy’r grant.

Ymdrinnir â'r wybodaeth a gyflwynir yn y cais yn unol â'r Hysbysiad preifatrwyddgrantiau Llywodraeth Cymru. Mae’r hysbysiad preifatrwydd yn egluro sut y bydd Llywodraeth Cymru yn prosesu ac yn defnyddio eich data personol a’ch hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

3.4 Taliadau 

Rhaid cyflwyno pob hawliad am daliad gan ddefnyddio ffurflen hawlio’r rhaglen a’i hanfon i flwch e-bost gofalplantachwarae@llyw.cymru

Caiff templed o’r ffurflen hawlio ei anfon atoch os byddwch yn cael cynnig grant ac yn ei dderbyn. Bydd angen i ffurflen hawlio gynnwys gwybodaeth fonitro am weithgarwch yn ystod y cyfnod hwnnw, fel y cytunwyd â rheolwr grant Llywodraeth Cymru. 

Rhaid cyflwyno hawliadau bob chwarter a byddant yn amodol ar gael eu dilysu. Dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn fodlon bod yr adroddiad monitro a gyflwynwyd mewn perthynas â chyflawni cymwysterau gofal plant cyfrwng Cymraeg Lefel 3 a Lefel 5 a'r cymorth a ddarperir i ddysgwyr yn unol â'r cynnig grant y bydd hawliadau'n cael eu talu. Caiff taliadau eu gwneud drwy drosglwyddiad electronig i’ch cyfrif banc.

Nid ystyrir bod hawliad yn ddilys oni bai ei fod wedi cael ei gyflwyno i gofalplantachwarae@llyw.cymrugyda’r holl ddogfennau ategol.

Mae’n ofynnol bod pob grant a ddyfernir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei fonitro a bod effaith y grant yn cael ei gwerthuso. 

3.5 Amserlen 

  • 14 Hydref 2025: y cyfnod ymgeisio am grant yn agor.
  • canol nos 6 Ionawr 2026: y cyfnod ymgeisio am grant yn cau.
  • Wythnos yn dechrau ar 12 Ionawr 2026: y ceisiadau'n cael eu hystyried.
  • Wythnos yn dechrau ar 19 Ionawr 2026: bydd yr ymgeiswyr yn cael gwybod am y penderfyniad ynghylch cyllid.
  • Wythnos yn dechrau ar 19 Ionawr 2026: y ceisiadau grant llwyddiannus yn cael eu cyhoeddi gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Ni chaniateir estyniad i’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau, sef 6 Ionawr 2025, ac ni fydd ceisiadau hwyr yn cael eu hystyried.