Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r crynodeb hwn yn cyflwyno adborth a gasglwyd drwy Slido gan fynychwyr yn nigwyddiad ymgysylltu Abergele a gynhaliwyd ar 8 Mai 2025. Dyma'r ail ddigwyddiad gyda'r nod o gasglu adborth ar y Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd newydd. Mae'r gyfres hon yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru yng Nghynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau 2022, i greu system cymorth cyflogadwyedd integredig ddi-dor yng Nghymru.

Gwahoddwyd rhanddeiliaid gennym i drin a thrafod arferion da, gwersi a ddysgwyd a dulliau arloesol o helpu pobl i gyflawni eu potensial o ran cyflogaeth.

Canfyddiadau allweddol ymatebion Slido

Mae'r adran hon yn crynhoi prif ganfyddiadau Slido.

Y ffyrdd gorau i unigolion fanteisio ar y rhaglen

Roedd y cwestiwn hwn yn gofyn sut y dylai pobl allu manteisio ar y rhaglen a pha lwybrau atgyfeirio a fyddai'n helpu'r rhai sydd â’r angen mwyaf. Roedd yr adborth allweddol yn cynnwys:

  • defnyddio pwyntiau mynediad a sianeli cyfathrebu niferus i gyrraedd pobl
  • cefnogi dulliau allgymorth cymunedol fel digwyddiadau a ffeiriau swyddi
  • defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol fel offeryn cyfathrebu allweddol
  • cryfhau cysylltiadau â chanolfannau gwaith a rhwydweithiau eraill ar gyfer atgyfeiriadau
  • creu hyb canolog lle gall pobl ddod o hyd i'r holl wasanaethau sydd ar gael
  • cynnig digwyddiadau wyneb yn wyneb ac annog argymhellion ar lafar
  • gweithio gyda gwasanaethau eraill i ddarparu atgyfeiriadau
  • sicrhau llwybrau mynediad cyson ledled Cymru

Roedd y cynrychiolwyr yn gytûn na fyddai un dull yn addas i bawb. Y teimlad oedd mai cymysgedd o offer digidol, allgymorth cymunedol, a llwybrau atgyfeirio traddodiadol fyddai’r dull mwyaf effeithiol. Roedd cryn gefnogaeth i hyb gwybodaeth canolog law yn llaw â sawl ffordd o fanteisio ar gymorth.

Y ffactor pwysicaf wrth bennu lefel y cymorth

Gofynnodd y cwestiwn hwn beth ddylai lywio penderfyniadau ynghylch faint o gymorth mae rhywun yn ei dderbyn. Roedd y ffactorau allweddol yn cynnwys:

  • rhwystrau unigol (76%)
  • anghenion cymorth ychwanegol (15%)
  • grŵp oedran (5%)
  • profiad yn y diwydiant (3%)
  • rhwystrau iechyd (1%)
  • hyd y diweithdra (0% yr un)
  • cymwysterau (0%)

Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn teimlo y dylai'r cymorth fod yn seiliedig ar heriau personol yn hytrach na mesurau traddodiadol fel cymwysterau neu amser allan o waith. Mae hyn yn adlewyrchu ffafriaeth gref i ddull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Y ffactorau pwysicaf mewn asesiad effeithiol

Roedd y cwestiwn hwn yn archwilio beth sy'n gwneud asesiadau yn ddefnyddiol ac yn gefnogol i gyfranogwyr. Roedd y themâu allweddol yn cynnwys:

  • dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n caniatáu i unigolion lunio eu llwybr eu hunain
  • deall dyheadau, diddordebau a chryfderau'r cyfranogwr gan ddefnyddio dull gwrando gweithredol a sgwrs agored
  • tynnu sylw at yr hyn y gall pobl ei wneud yn ogystal â'r hyn sy'n eu dal yn ôl
  • ymddiriedaeth a meithrin perthynas i greu lle diogel a chroesawgar cyn dechrau asesu ffurfiol
  • asesiad cyfannol a pharhaus i gydnabod pa heriau a allai godi dros amser
  • aseswyr medrus sy’n llawn empathi, sydd â'r sgiliau a'r ddealltwriaeth gywir, ac sydd ag ymagwedd anfeirniadol ac empathig
  • sicrhau bod aseswyr yn gwybod am y cymorth a'r atgyfeiriadau sydd ar gael
  • cyfathrebu croyw, defnyddio iaith glir, osgoi jargon er mwyn sicrhau bod pobl yn deall y broses a bod disgwyliadau clir wedi'u gosod

Pwysleisiodd cynrychiolwyr fod ymddiriedaeth a dealltwriaeth yn hanfodol ar gyfer asesiad effeithiol. Roedd cytundeb hefyd y dylai asesiad fod yn broses parhaus a chyfannol ac na ddylai fod yn broses untro na chanolbwyntio’n unig ar gyflogaeth.

Dulliau neu arferion sydd wedi gweithio'n dda

Roedd y cwestiwn hwn yn gofyn am enghreifftiau o arferion llwyddiannus o raglenni cyfredol. Roedd y themâu allweddol yn cynnwys:

  • cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn wedi'i deilwra i gefnogi anghenion unigol
  • hyblygrwydd
  • gweithio ar gyflymder y person
  • ymgysylltu â chyflogwyr a chymorth yn y gwaith
  • meithrin perthnasoedd cryf gyda chyflogwyr i'w cefnogi nhw a'r gweithiwr
  • defnyddio anogwyr swyddi a chyflogaeth â chymorth
  • parhau i gefnogi ar ôl y lleoliad, ond lleihau dros amser
  • cydweithredu sy'n annog partneriaethau amlasiantaeth i rannu gwybodaeth
  • defnyddio cyllid a rennir ar draws rhaglenni'r llywodraeth a chysoni strategaethau
  • darpariaeth sy’n seiliedig ar y gymuned i ganolbwyntio ar gyflenwi lleol yn hytrach na rhaglenni cenedlaethol
  • meithrin perthnasoedd trwy wrando gweithredol, ymddiriedaeth a chysylltiad cyson
  • creu mannau diogel yn y gymuned gyda gweithwyr arweiniol cyson
  • cymorth cyfannol, cofleidiol sy'n mynd i'r afael â hyder, cymhelliant, iechyd a rhwystrau trafnidiaeth
  • modelau arbenigol gan gynnwys cyflogaeth â chymorth, anogwyr swyddi arbenigol a mentoriaid cymheiriaid
  • profiad ymarferol a dysgu ymarferol yn y gweithle trwy ymweliadau, interniaethau a threialon gwaith
  • darpariaeth Gymraeg, gan greu amgylchedd Cymraeg cadarnhaol

Rhannodd y cynrychiolwyr ystod eang o arferion llwyddiannus, gyda chytundeb cryf ar werth cymorth hyblyg, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a ddarperir yn lleol.

Dulliau neu arferion nad ydynt wedi gweithio cystal

Roedd y cwestiwn hwn yn gofyn i gynrychiolwyr fyfyrio ar yr hyn nad oedd wedi gweithio mewn rhaglenni blaenorol. Roedd y prif heriau yn cynnwys:

  • cyllid tymor byr sy'n arwain at ansicrwydd, staff yn mynd a dod a bylchau mewn darpariaeth
  • modelau sy'n cael eu llywio gan dargedau
  • cyllid sy’n gysylltiedig â chanlyniadau swyddi yn unig, a diffyg cydnabyddiaeth i ganlyniadau meddal
  • dyblygu a all olygu bod sefydliadau yn cynnig gwasanaethau tebyg ac yn cystadlu am ffrydiau cyllido
  • adrannau'r llywodraeth yn gweithio ar wahân
  • dull gwael o rannu gwybodaeth rhwng rhaglenni a sefydliadau, GDPR yn cael ei ddefnyddio fel rhwystr
  • cynllun y rhaglennni yn golygu eu bod yn anhyblyg, megis cyfyngiadau o ran oedran a meini prawf cymhwystra llym
  • dim cymorth ar ôl cwblhau'r rhaglen a chymorth cyfyngedig unwaith y bydd rhywun mewn gwaith
  • cyfranogwyr yn cael eu pasio rhwng rhaglenni
  • beichiau biwrocrataidd a gweinyddol, rheolau cymhleth, gwaith papur gormodol
  • oedi mewn systemau fel Mynediad at Waith (dros 10 mis ar gyfer asesiadau)
  • ddim yn mynd i'r afael â rhwystrau mewn ffordd gyfannol
  • lleoliadau gwaith heb gymorth priodol
  • dim credyd ar gyfer swyddi o dan 16 awr
  • cynlluniau cenedlaethol ddim bob amser yn addas ar gyfer ardaloedd gwledig
  • anghydraddoldebau cymdeithasol sy'n effeithio ar lwyddiant

Mynegodd y cynrychiolwyr rwystredigaeth gyda chyllid tymor byr a dulliau wedi'u llywio gan dargedau sy'n anwybyddu anghenion unigol. Roedd beirniadaeth gref o ddulliau gweithio ar wahân (mewn seilos), meini prawf cymhwystra anhyblyg, a diffyg parhad.

Un dymuniad i'r Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd newydd

Roedd y cwestiwn hwn yn gofyn i'r cynrychiolwyr rannu eu gobeithion ar gyfer y rhaglen yn y dyfodol. Dyma’r dymuniadau mwyaf cyffredin:

  • cyllid hirdymor, yn ddelfrydol dros 5 mlynedd, i gefnogi sefydlogrwydd a chynllunio
  • llai o fiwrocratiaeth a phrosesau symlach
  • cydweithredu gwell rhwng gwasanaethau
  • rhannu data
  • darpariaeth leol o fewn fframwaith cenedlaethol
  • cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, nid dim ond ar ganlyniadau
  • cymorth parhaus i gyflogaeth
  • hyblygrwydd i ddiwallu anghenion unigol
  • llwybrau clir ac arwyddion o ansawdd
  • cydnabod y Fframwaith Ansawdd Cyflogaeth â Chymorth (SEQF)
  • integreiddio â rhaglenni sgiliau a dilyniant
  • ymgysylltiad â chyflogwyr a chymhellion cryf
  • cymorth cyfartal ledled Cymru
  • canolbwyntio ar swyddi da gyda chyflog ac amodau teg

Y brif flaenoriaeth oedd cyllid hirdymor i ganiatáu cynllunio priodol, cadw staff, a darpariaeth gwasanaethau cyson. Hefyd, galwodd cynrychiolwyr am weithio cydgysylltiedig, darpariaeth leol, a dulliau sy'n rhoi anghenion pobl yn gyntaf.

Grwpiau y dylid eu blaenoriaethu

Nod y cwestiwn hwn oedd pennu pa grwpiau y dylai'r rhaglen newydd ganolbwyntio arnynt, o ystyried adnoddau cyfyngedig (roedd y cynrychiolwyr yn gallu dewis 3 grŵp). Blaenoriaethodd y cynrychiolwyr:

  • pobl ddi-waith am gyfnod hir, dros 6 mis (66%)
  • dull cynhwysol ar gyfer pawb 16 oed a hŷn (47%)
  • oedolion ifanc (16 i 25 oed) (46%)
  • y rhai sydd wedi bod yn ddi-waith ers llai na chwe mis (40%)
  • pobl sy'n wynebu cael eu diswyddo (37%)
  • oedolion 25 oed a hŷn (21%)
  • pobl ifanc 16 i 18 oed (14%)

Y prif flaenoriaethau

Roedd y cwestiwn hwn yn gofyn i gynrychiolwyr nodi'r meysydd pwysicaf ar gyfer y rhaglen newydd. Dyma’r blaenoriaethau allweddol a nodwyd yn ôl eu pwysigrwydd:

  • mynd i'r afael â rhwystrau i gyflogaeth
  • cyflogaeth â chymorth
  • targedu'r rhai sydd â'r angen mwyaf
  • ymgysylltu a mynediad hawdd
  • helpu pobl i waith
  • cydraddoldeb ac amrywiaeth
  • profiad gwaith, sgiliau meddal a chymorth cyffredinol i'r farchnad lafur

Roedd cynrychiolwyr yn cytuno y dylai'r rhaglen ganolbwyntio ar gael gwared ar rwystrau. Roedd cefnogaeth gref i dargedu'r rhai mwyaf mewn angen a'i gwneud hi'n hawdd i bobl ymgysylltu â'r rhaglen.

Arloesi a chynllunio ar gyfer llwyddiant

Roedd y cwestiwn hwn yn gwahodd cynrychiolwyr i rannu syniadau ar gyfer gwneud y Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd yn un arloesol. Roedd yn annog syniadau creadigol am yr hyn a allai fod yn "newydd sbon" a sut i "ddiogelu’r rhaglen at y dyfodol". Roedd yr awgrymiadau allweddol yn cynnwys:

  • partneriaethau cryf a chydweithredu go iawn rhwng gwasanaethau
  • Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn arwain drwy esiampl yn eu harferion cyflogaeth
  • ennyn ymrwymiad ac ymgysylltiad cyflogwyr
  • cymorth lleol wedi'i deilwra i anghenion lleol
  • cronfa ddata a rennir ar gyfer gwerthuso parhaus a rhannu data
  • dealltwriaeth well o anghenion ac amgylchiadau pobl
  • brandio a chyfathrebu clir, a mynediad hawdd at wasanaethau
  • llwybrau di-dor o ddysgu a sgiliau i gyflogaeth a chymorth mewn gwaith
  • cyllid hirdymor gyda hyblygrwydd ar lefel leol
  • buddsoddi mewn anogwyr swyddi arbenigol i leihau trosiant staff
  • paru cyflenwad sgiliau â'r galw yn y farchnad swyddi
  • gwerthuso gonest a rhannu llwyddiannau a heriau

Gwelwyd bod arloesedd wedi'i wreiddio mewn cydweithredu gwell, systemau mwy clyfar, a darpariaeth leol ymatebol. Hefyd, roedd cynrychiolwyr yn pwysleisio'r angen am bartneriaethau cryf â chyflogwyr ac arweinyddiaeth gan gyrff cyhoeddus. Roedd systemau data gwell yn allweddol i ddysgu a gwelliant parhaus.

Casgliad

Roedd yr adborth o ddigwyddiad Abergele yn tynnu sylw at nifer o flaenoriaethau craidd ar gyfer llunio dyfodol cymorth cyflogadwyedd yng Nghymru:

Cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

Unigolion, nid canlyniadau neu systemau, ddylai fod galon y cyfan. Dylid teilwra’r cymorth i rwystrau ac amgylchiadau personol, nid ar sail categorïau safonedig.

Cyllid hirdymor

Mae angen ymrwymiad ariannu pum mlynedd ar gyfer sefydlogrwydd. Galwodd cynrychiolwyr yn gyson am fuddsoddiad hirdymor i gefnogi cynllunio, cadw staff, a gwasanaethau.

Blaenoriaethu'r di-waith am gyfnod hir

Canolbwyntio ar y di-waith am gyfnod hir a sicrhau bod y rhaglen yn gynhwysol i bawb 16 oed a hŷn. Cafwyd cefnogaeth eang i ddull haenog sy'n seiliedig ar anghenion. 

Dileu'r rhwystrau yn gyntaf

Rhaid mynd i'r afael â rhwystrau a chynnig cyflogaeth â chymorth cyn mesur canlyniadau swyddi. Dyma'r sylfeini ar gyfer llwyddiant hirdymor.

Mynediad aml-sianel

Ni fydd un dull yn gweithio i bawb. Defnyddio cymysgedd o offer digidol, allgymorth cymunedol, a llwybrau atgyfeirio traddodiadol i gyrraedd pobl yn effeithiol.

Torri'r seilos

Cydweithredu'n well a rhannu data rhwng gwasanaethau. Bydd hyn yn lleihau dyblygu ac yn creu llwybrau haws i gyfranogwyr.

Darpariaeth leol o fewn fframwaith cenedlaethol

Sicrhau safonau cyson ledled Cymru ond gan ganiatáu hyblygrwydd ar gyfer anghenion rhanbarthol. Cafwyd cefnogaeth gref i ddarpariaeth leol.

Ymgysylltu â chyflogwyr

Rhaid i gyflogwyr fod yn bartneriaid gweithredol wrth ddylunio a chyflwyno rhaglenni. Dylai cyrff cyhoeddus arwain trwy esiampl.

Cymorth parhaus mewn gwaith

Ni ddylai'r cymorth ddod i ben pan fo’r person ar leoliad swydd. Mae angen cymorth parhaus i sicrhau bod pobl yn aros mewn gwaith ac yn symud ymlaen.

Lleihau biwrocratiaeth

Symleiddio prosesau a lleihau gwaith papur. Bydd hyn yn rhyddhau adnoddau i ganolbwyntio ar gymorth uniongyrchol i unigolion.