Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg
Heddiw, rwy'n cyhoeddi Cyllideb Ddrafft Amlinellol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27. Mae hon yn nodi'r cynlluniau ariannu, ein penderfyniadau o ran trethiant a benthyca, yn ogystal â'n cynlluniau gwario strategol ar gyfer adnoddau a chyfalaf ar lefel y Prif Grŵp Gwariant (MEG).
Mae Cyllideb 2026-27 yn buddsoddi dros £27bn yng Nghymru - £22.3bn o gyllid adnoddau, £3.6bn o gyllid cyfalaf a £1.2m o gyllid ardrethi annomestig i lywodraeth leol. Mae hyn yn fwy na £800m o gyllid ychwanegol i adrannau Llywodraeth Cymru nag a ddyrannwyd yng Nghyllideb Derfynol 2025-26.
Byddaf yn gwneud datganiad llafar gyda rhagor o fanylion yn y Senedd yn ddiweddarach heddiw a byddaf yn cyhoeddi'r Gyllideb Ddrafft Fanwl ar 3 Tachwedd, yn nodi ein cynlluniau gwario ar lefel Llinell Wariant yn y Gyllideb (BEL).
Mae holl ddogfennau'r Gyllideb Ddrafft Amlinellol a gyhoeddir heddiw ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
- Cynigion y Gyllideb Ddrafft
- Adroddiad y Gyllideb Ddrafft Amlinellol 2026-27
- Tablau sy'n ategu'r cynlluniau gwario (fformat ODS)
- Canllaw i Gyllideb Ddrafft 2026-27
Mae'r dogfennau ategol canlynol hefyd yn cael eu cyhoeddi heddiw:
- Adroddiad Economaidd a Chyllidol Cymru 2025
- Adroddiad Economaidd a Chyllidol Cymru 2025 – Pum Cipolwg Pwysig
- Cynllun Gwella'r Gyllideb 2025
- Adroddiad ar Bolisi Trethi: Hydref 2025
- Cynllun Gwella’r Gyllideb
- Rhagolwg Trethi Cymreig y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol.
