Grantiau a thaliadau gwledig: Deddf Diogelu Data hysbysiad preifatrwydd
Mae'r hysbysiad hwn yn esbonio sut y bydd Llywodraeth Cymru’n defnyddio'r wybodaeth y byddwch yn ei mewn cysylltiad â’ch cais am gymorth.
Hysbysiad preifatrwydd: grantiau Haen Opsiynol SFS
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â'ch cais am grant. Bydd y wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n gorchwyl cyhoeddus (h.y. arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) ac yn ein helpu i asesu a ydych yn gymwys i gael cyllid.
Cyn rhoi grant i chi, byddwn yn cynnal archwiliadau er mwyn atal twyll ac atal gwyngalchu arian, ac i gadarnhau pwy ydych chi. Fel rhan o’r archwiliadau hyn, mae'n ofynnol inni rannu data personol amdanoch chi ag asiantaethau atal twyll eraill.
Os byddwn ni, neu asiantaethau atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o ran twyll neu wyngalchu arian, efallai y gwnawn ni wrthod darparu'r cyllid grant rydych wedi gwneud cais amdano, neu roi'r gorau i ddarparu'r cyllid grant presennol i chi.
Bydd yr asiantaethau atal twyll yn cadw cofnod o unrhyw risg o dwyll neu wyngalchu arian, a gall hyn arwain at eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu waith ichi.
Er mwyn asesu’ch cymhwysedd, efallai y bydd angen inni hefyd rannu gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â'ch cais â’r canlynol:
- Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
- Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA)
- Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol
- awdurdodau lleol Cymru
- Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
- Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA)
- swyddfeydd amaethyddiaeth eraill Llywodraeth y DU
- awdurdodau rheoleiddio, megis Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, awdurdodau lleol, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r Heddlu
Hefyd, mae’n bosibl y gwnawn ni rannu’ch gwybodaeth gyda sefydliadau sy’n darparu hyfforddiant, yn trosglwyddo gwybodaeth ac yn rhoi cyngor a chymorth arloesi ar ran Llywodraeth Cymru at ddibenion targedu cymorth yn briodol.
Gall aelod arall o'r cyhoedd wneud cais i weld eich gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol. Wrth ymateb i geisiadau o’r fath, efallai y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, er mwyn cyflawni ei rhwymedigaethau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, Deddf Diogelu Data 2018 neu Reoliadau Cynlluniau Cymorth Amaethyddol (Cymhwysedd, Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2025.
Byddwn yn cyhoeddi manylion y symiau a dalwyd i ddeiliaid cytundeb sydd wedi derbyn cymorth o dan Reoliadau'r Cynllun Cymorth Amaethyddol (Cymhwysedd, Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2025. Bydd data yn cael ei gyhoeddi ar gyfer yr holl fuddiolwyr a bydd yn cynnwys yr enw llawn, y dref bost ac ardal y cod post a'r ardal lle mae deiliad y cytundeb yn preswylio. Bydd yn cynnwys manylion y symiau a'r cynlluniau y cafodd taliad ei wneud ar eu cyfer. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn gymwys i'r deiliaid cytundeb hynny sy'n derbyn llai na £1,250.00 o gymorth perthnasol yn y flwyddyn ariannol.
Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol yn unol â'n polisi cadw. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadw’ch data personol am saith mlynedd ar ôl y dyddiad pan fyddwch chi, fel derbynnydd y grant, yn rhydd rhag holl amodau'r grant, a phan fydd pob taliad wedi'i wneud. Os na fyddwch yn llwyddiannus, bydd eich manylion yn cael eu cadw am flwyddyn ar ôl y dyddiad y gwnaethoch eu darparu.
O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol:
- gweld y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch
- gofyn i ni gywiro unrhyw wallau yn y data hynny
- (o dan amgylchiadau penodol) gwrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
- (o dan rai amgylchiadau) gofyn i'ch data gael eu ‘dileu’
- cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddwr annibynnol ar gyfer diogelu data
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: dataprotectionofficer@gov.wales
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Dyma’r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Yr Ail Lawr
Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
0330 414 6421
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Gwefan: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y datganiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.
