Neidio i'r prif gynnwy
Gregynog

Yng nghanol Cymru, mae Gregynog yn safle llawn hanes a diwylliant.

Mae ei neuadd hanesyddol yn dyddio o'r 12fed ganrif, ac mae'r ystad yn glytwaith o gynefinoedd o wahanol goetiroedd a gwarchodfa natur. Dyfarnwyd statws Coedwig Genedlaethol Cymru i 94 hectar o'r safle.

Yng nghanol Cymru, mae Gregynog yn safle llawn hanes a diwylliant. Mae ei neuadd hanesyddol yn dyddio o'r 12fed ganrif, ac mae'r ystad yn glytwaith o gynefinoedd o wahanol goetiroedd a gwarchodfa natur. Dyfarnwyd statws Coedwig Genedlaethol Cymru i 94 hectar o'r safle.

Mae'r ystad nid yn unig yn cynnwys neuadd ac ardal goedwigaeth sylweddol, ond mae hefyd yn gartref i rai rhywogaethau unigryw a diwylliant hanesyddol. Mae'r coetir yn ardal o ddiddordeb gwyddonol arwyddocaol yn fyd-eang gyda chennau prin, tingochion, gwybedog brith a thair rhywogaeth o gnocell y coed.  Credir bod Derwen odidog Gregynog yn bum canrif oed a chafodd ei henwebu i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Coeden y Flwyddyn yn 2024.

Yn sgil hynny, yn ogystal â'i gysylltedd â choetiroedd eraill a'i hygyrchedd ar draws y safle, mae'n bodloni pob un o Ganlyniadau Coedwig Genedlaethol Cymru. Mae'r coetiroedd helaeth yn cynnal digwyddiadau fel llwybrau tylwyth teg, cystadlaethau ffotograffiaeth a gweithgareddau chwaraeon yn rheolaidd. 

Mae ei dir agored yn parhau i fod yn lle i ddysgu, addysgu ac ymgolli ym myd natur. Rydym yn falch ei fod yn cyfrannu at Goedwig Genedlaethol Cymru, rhaglen hirdymor uchelgeisiol sy'n ymrwymo i gynnal coetiroedd cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Coedwig Genedlaethol i Gymru

Dysgwch fwy am Goedwig Genedlaethol Cymru a sut y gallwch chi gymryd rhan.