Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau i'w nodi

Os ydych chi’n defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymhorthdal, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau – e-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru

1. Rhanbarth

Cymru gyfan

2. Teitl y cynllun cymhorthdal

Grant Cyfalaf Ynni Cymru 2025-2026

3. Sail gyfreithiol

'Adran 60(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006' neu 'Adran 1(2), 1(3)d ac 1(7)f o Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975'.

4. Amcanion polisi penodol y cynllun

Mae Blwyddyn 2 rhaglen grant cyfalaf Ynni Cymru yn canolbwyntio ar y gweithgareddau craidd canlynol:

  • Gwneud y mwyaf o brosiectau defnyddio a chynhyrchu ynni adnewyddadwy sydd o dan berchnogaeth leol sy'n bodoli eisoes.
  • Hybu twf prosiectau defnyddio a chynhyrchu ynni adnewyddadwy sydd o dan berchnogaeth leol.
  • Cynyddu perchnogaeth leol mewn prosiectau ynni adnewyddadwy.
  • Cydgasglu prosiectau ynni adnewyddadwy sydd o dan berchnogaeth leol i alluogi mynediad i farchnadoedd ynni ehangach.
  • Datblygu marchnadoedd ynni lleol lle gellir cydbwyso cyflenwad a galw ac i alluogi budd i ddefnyddwyr a chynhyrchwyr fel ei gilydd.
  • Darparu Systemau Ynni Lleol Clyfar (SLES) ledled Cymru, lle mae'r cyflenwad ynni adnewyddadwy yn cael ei ehangu i ateb y galw cynyddol ac mae mwy o gydbwysedd yn cael ei daro rhwng y cyflenwad a'r galw.

5. Diben y cynllun

Yn unol ag egwyddorion SLES, bydd y technolegau sy'n gymwys i gael cyllid yn cynnwys cyfuniad o'r canlynol:

  • Systemau clyfar fel systemau rheoli adeiladau, goleuo clyfar, systemau clyfar ar gyfer monitro'r grid a mesuryddion clyfar.
  • Technolegau cynhyrchu ynni adnewyddadwy fel:
    • Treulio anaerobig
    • Hydro
    • Paneli Solar (PV) a solar thermol
    • Gwynt
  • Technoleg gwresogi, oeri a dŵr twym carbon isel, fel pympiau gwres (unrhyw fath), solar thermol a rhwydweithiau gwres.
  • Seilwaith cludiant allyriadau isel iawn, fel Seilwaith Gwefru Cerbydau Trydan (EVCI).
  • Technolegau storio ynni fel storio mewn batri, storio ynni thermol a storio gwres.

6. Awdurdodau cyhoeddus sydd wedi’u hawdurdodi i weithredu’r cynllun

Llywodraeth Cymru.

7. Categori neu gategorïau o fentrau cymwys

  • Busnesau bach a chanolig (BBaCh)
  • Y Sector Cyhoeddus
  • Sefydliadau Cymunedol a Mentrau Cymdeithasol

8. Sectorau i’w cefnogi

Cyflenwi trydan, nwy, ager ac aerdymheru

9. Hyd y cynllun

O 8 Medi 2025 tan 31 Mawrth 2026.

10. Y gyllideb cymorth o dan y ynllun

£12,906,707

11. Ffurf y cymorth

Grant uniongyrchol

12. Telerau ac amodau cymhwysedd

Pan fo prosiect wedi cyflawni sgôr pasio ac wedi sgorio mwy na'r marc trothwy pasio lleiaf o 60%, a'i fod wedi'i leoli yn yr 20% o ardaloedd mwyaf amddifad (yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru), cynyddwyd y sgôr 5% i gefnogi amcanion Llywodraeth Cymru ac Ynni Cymru ynghylch pontio teg.

13. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau

Llwybr 1 ar gyfer ceisiadau gwerth hyd at £150mil ac wedi'i gynllunio i fod yn fwy addas ar gyfer prosiectau ar raddfa lai gyda llai o ofynion ymgeisio.

Llwybr 2 ar gyfer ceisiadau rhwng £150mil a £1m mewn gwerth ac wedi'i gynllunio ar gyfer prosiectau mwy cymhleth gyda rhai gofynion a thystiolaeth ychwanegol y mae'n rhaid i ymgeiswyr eu darparu.

14. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun

£999,999

15. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun hwn, cysylltwch â'r Tîm Polisi Ynni: energypolicymailbox@llyw.cymru

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae'r cynllun hwn yn cydymffurfio â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022, cysylltwch â:

Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig

Rhif ffôn:

+ 44 (0)3000 604 400

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image