Neidio i'r prif gynnwy

Rhagarweiniad

Mae’n bleser mawr gennyf gyhoeddi’r Fframwaith Cenedlaethol newydd hwn ar gyfer Gwasanaethau Tân ac Achub, sy’n nodi’r blaenoriaethau a’r amcanion ar gyfer y Gwasanaeth dros y blynyddoedd sydd i ddod. 

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld lleihad cyson yn nifer y tanau a’u difrifoldeb. Mae tanau mewn anheddau, sef y math mwyaf peryglus o dân o bell ffordd, ar eu lefel isaf erioed, neu’n agos at hynny; a bu lleihad sydyn yn nifer y tanau sy’n cael eu cynnau’n fwriadol, sy’n gymaint o fygythiad mewn llawer o’n cymunedau. Mae hynny er clod mawr i’r Gwasanaeth Tân ac Achub a’r pwyslais y mae’n ei roi ar ddiogelwch tân ac atal tanau, fel yr argymhellodd y Fframwaith blaenorol. 

Fodd bynnag, mae’r byd wedi newid gryn dipyn ers hynny, ac mewn ffyrdd sydd, o bosibl, yn tueddu i gynyddu’r risg o danau a digwyddiadau eraill. Daw newid yn yr hinsawdd, datblygiadau technolegol, heneiddio a diogelwch byd-eang ynghyd i greu cyd-destun lle y bydd angen ein gwasanaethau tân ac achub yn fwy nag erioed. Ac yn gysgod dros hyn i gyd mae trychineb ofnadwy Tŵr Grenfell, sydd wedi creu heriau dwys i’r Gwasanaeth ac i eraill sy’n ymwneud â’r amgylchedd adeiledig. 

Mae angen i’r Gwasanaeth Tân ac Achub ymaddasu i’r cyd-destun hwnnw, er mwyn creu’r adnoddau, y gallu a’r diwylliant i ymateb i fyd ansicr, a llawer mwy peryglus mewn sawl ffordd. Mae’r Fframwaith hwn yn nodi sut y dylai wneud hynny, mewn ffordd onest, ddi-ofn a gwrthrychol. Bydd hefyd yn hanfodol gwneud hyn mewn partneriaeth lawn â chyflogeion ac â rhanddeiliaid eraill: ni all newid ar y raddfa hon fyth lwyddo os caiff ei wneud dan orfod neu ar wahân. Rydym yn falch o’n diffoddwyr tân, a hynny’n gwbl haeddiannol; bellach, mae angen inni eu cynorthwyo i wynebu’r heriau sydd o’u blaenau.

Jayne Bryant AS

Yr Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cyflwyniad

Mae adran 21 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (Deddf 2004) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi Fframwaith Tân ac Achub Cenedlaethol i Gymru. Ei brif ddibenion yw nodi amcanion a blaenoriaethau i Awdurdodau Tân ac Achub, a rhoi arweiniad arnynt.

Dyma’r fersiwn ddiweddaraf o’r Fframwaith ac mae’n disodli’r un a gyhoeddwyd yn 2016. Er bod llawer o gynnwys Fframwaith 2016 yn dal yn ddilys, ers hynny bu sawl newid sylweddol iawn yn y cyd-destun strategol y mae’r Gwasanaeth yn gweithredu ynddo. Mae’r rhain yn cynnwys tân Tŵr Grenfell a’r hyn a ddigwyddodd yn ei sgil, yr argyfwng hinsawdd a datblygiadau mewn technoleg a all newid y risg o dân yn sylweddol. Thema gyffredinol y Fframwaith newydd hwn yw’r angen i ddeall y newidiadau hynny a’u heffeithiau, ac ymaddasu yn unol â hynny. Busnes craidd y Gwasanaeth o hyd yw cynnal diogelwch y cyhoedd drwy atal ac ymateb i danau a digwyddiadau eraill; ond mae angen i hynny gael ei ystyried a’i reoli o safbwynt yr heriau presennol a’r heriau strategol tebygol yn y dyfodol.

Mae adran 21(7) o Ddeddf 2004 yn nodi bod yn rhaid i Awdurdodau Tân ac Achub roi sylw i’r Fframwaith; a byddai methu, neu fod yn debygol o fethu, â gweithredu yn unol ag ef yn caniatáu i Weinidogion Cymru arfer eu pwerau i ymyrryd yn adran 22. Yn ymarferol, rydym yn disgwyl i Awdurdodau Tân ac Achub geisio cyflawni’r amcanion yn y Fframwaith hwn cyn belled ag sy’n rhesymol bosibl, oni bai bod rhesymau da â thystiolaeth dros beidio â gwneud hynny (er enghraifft, os oes gwell ffyrdd o gyflawni’r un diben).

Bydd Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi adroddiad i Senedd Cymru ar y graddau y mae Awdurdodau Tân ac Achub yn cydymffurfio â’r Fframwaith hwn o leiaf bob dwy flynedd, yn dechrau ar y dyddiad y gwnaed yr adroddiad diwethaf, yn unol ag adran 25 o Ddeddf 2004.

Roedd y bwlch o tua deng mlynedd rhwng y Fframwaith blaenorol a’r Fframwaith hwn yn eithriadol. Ein bwriad cyffredinol yw y dylai’r Fframwaith hwn bara am bedair neu bum mlynedd ar y mwyaf, ond mater i Lywodraeth Cymru fydd hynny yn dilyn etholiad 2026 i Senedd Cymru. 

Y cyd-destun strategol

Cyhoeddwyd Fframwaith 2016 yng nghyd-destun lleihad sylweddol ac estynedig yn nifer y tanau ac anafusion tân. Y tebyg yw bod nifer o resymau gwahanol dros hyn, lleihad hirdymor yn nifer y bobl sy’n smygu a’r defnydd o danau agored ar gyfer gwresogi, gwelliannau o ran diogelwch cynhyrchion a cherbydau, ac, yn bwysig ddigon, ymdrechion y Gwasanaeth i atal tân drwy gyngor, cymorth a chamau gorfodi. Felly, roedd y Fframwaith yn annog y Gwasanaeth i barhau i flaenoriaethu gwaith ataliol ochr yn ochr â rhoi ymateb brys effeithiol.

Mae’r cydbwysedd hwnnw yn ddilys o hyd: y peth gorau bob amser, mae’n rhaid, yw atal tanau ac achosion brys rhag digwydd yn hytrach nag ymdrin â nhw pan fyddant yn codi. Fodd bynnag, er bod y rhan fwyaf o fathau o danau ar eu lefel isaf erioed, neu’n agos at hynny, ymddengys fod y lleihad a welwyd yn ystod y degawd diwethaf wedi ysigo. Ceir hefyd newidiadau ar hyn o bryd, a newidiadau tebygol yn y dyfodol, i’r cyd-destun strategol y mae’r Gwasanaeth yn gweithredu ynddo, y mae llawer ohonynt yn debygol o gynyddu’r risg o danau ac achosion brys eraill.

Mae rhoi disgrifiad cynhwysfawr a manwl o’r newidiadau hyn a’u heffaith debygol y tu hwnt i gwmpas y Fframwaith hwn. Fodd bynnag, mae’r dylanwadau mwyaf amlwg a sylweddol yn debygol o gynnwys y canlynol:

  • Newid demograffig: mae nifer y tanau mewn anheddau, ac achosion brys eraill a achosir gan ffactorau dynol, o anghenraid, yn gymesur â maint a dosbarthiad y boblogaeth. Yn gyffredinol, amcanestynnir y bydd poblogaeth Cymru ond yn tyfu’n araf yn y tymor canolig i’r hirdymor, gyda thwf o ddim ond tua 3.5% yn unig yn y 15 mlynedd nesaf. Fodd bynnag, mae hyn yn celu cryn dipyn o amrywiad yn rhanbarthol: amcanestynnir y bydd coridor yr M4 yn gweld twf mewn poblogaeth ddwywaith neu deirgwaith y gyfradd hon ond, mewn ardaloedd eraill, mae’n debygol y bydd twf llawer llai, neu hyd yn oed gostyngiad. Mae llawer o’r twf cyffredinol yn y boblogaeth yn deillio o gynnydd mewn disgwyliad oes yn hytrach na’r gyfradd geni neu niferoedd net yn mudo i mewn. Mae heneiddio o’r fath ymhlith y boblogaeth wedi bodoli ers blynyddoedd lawer ac mae’n debygol o barhau. Rhwng 2025 a 2040, amcanestynnir y bydd nifer y bobl yng Nghymru sy’n 65 oed neu’n hŷn yn cynyddu dros 23%, ond amcanestynnir y bydd y boblogaeth 18 i 64 yn cynyddu o dan 4%. Unwaith eto, mae’n debygol y bydd amrywiadau rhanbarthol a lleol o ran hyn, ond mae’n fwy anodd amcangyfrif y rhain yn gywir. Mae’n bosibl, wrth gwrs, y bydd pobl hŷn yn fwy tebygol o gael profiad o dân yn y cartref, ac yn llai tebygol o allu dianc rhagddo’n ddiogel a heb gymorth.
  • Mae newid yn yr hinsawdd yn debygol o arwain at gynnydd yn nifer y digwyddiadau sy’n ymwneud â’r tywydd a’u difrifoldeb, hyd yn oed yn ôl y rhagamcanion mwyaf cymedrol yn y tymor canolig. Mae hyn yn arbennig o berthnasol o ran tanau gwyllt: mae’n bosibl y bydd gaeafau mwynach a gwlypach yn estyn hyd y tymor tyfu ac felly’r llwyth tân mewn ardaloedd heb eu trin, ac y bydd hafau poethach ac amodau poeth amlach yn debygol o gynyddu’r duedd o danio yn yr haf. Byddai hynny’n golygu newid o gymharu â’r patrymau presennol: mae’r llystyfiant a welir fel arfer yn ucheldir Cymru (glaswelltir a rhedyn) yn llai tebygol o danio mewn tywydd hafaidd arferol, ac mae ganddo lwyth tân is, na’r grug a’r eithin a geir yn fwy cyffredinol mewn rhannau eraill o’r DU. Felly, ar ddechrau’r gwanwyn, cyn i dwf y tymor newydd ymddangos y ceir y brif risg ar gyfer tanau gwyllt fel arfer. Mae’n ddigon posibl y bydd hynny’n newid neu yn estyn i fisoedd yr haf wrth i gynhesu byd-eang barhau i gael effaith. Er bod tuedd i’r rhan fwyaf o danau gwyllt gael eu cynnau’n fwriadol, gallai newid o’r fath hefyd gynyddu’r risgiau o danio damweiniol am ei bod yn cyd-fynd â’r tymor twristiaeth. Mae newid yn yr hinsawdd hefyd yn debygol o gynyddu nifer y stormydd ac achosion o lifogydd, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf ond nid yn ystod y tymor hwnnw’n unig. Cymru yw’r unig ran o’r DU ar hyn o bryd lle mae dyletswydd ar y Gwasanaeth Tân ac Achub i ymateb i bob achos o lifogydd a phob digwyddiad dŵr mewndirol.
  • Ers amser maith mae newidiadau technolegol wedi llwyddo i leihau’r risg o dân, er enghraifft drwy ddyfeisio dodrefn diogel rhag tân a deunyddiau adeiladu sy’n atal tân, a lleihau’r ddibyniaeth ar badellau sglodion a thanau agored. Mae’n ddigon posibl y bydd hynny’n parhau yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd rhai newidiadau technolegol yn cael effaith i’r gwrthwyneb. Er enghraifft, mae’r twf cyflym yn y defnydd o fatris ïonau lithiwm, enwedig y rhai mawr a ddefnyddir i bweru e-feiciau, e-sgwteri a cherbydau ffyrdd, yn creu risg sylweddol o dân, yn ogystal â her fawr i ddiffoddwyr tân os bydd adwaith thermol ffrwydrol yn y batri. Gall systemau storio ynni batris, boed hynny ar raddfa ddomestig neu ddiwydiannol, weithredu yn yr un modd, a hefyd argaeledd cyffredinol dyfeisiau electronig heb eu brandio megis gwefrwyr a’r defnydd ohonynt. Wrth gwrs, caiff y newidiadau hyn a newidiadau eraill eu sbarduno’n rhannol gan yr angen i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd a symud oddi wrth ddibyniaeth ar danwyddau hydrocarbon – felly maent yn debygol o barhau yn y tymor hwy.
  • Mae’r amgylchedd adeiledig yn parhau i ddatblygu. Fel gyda newidiadau technolegol yn fwy cyffredinol, mae llawer o newidiadau o’r fath yn cael effaith gadarnhaol ar y risg o dân, ond nid bob tro o bell ffordd. Mae tân Tŵr Grenfell yn drychineb eithriadol o ddifrifol, ond roedd hefyd yn dangos goblygiadau posibl ehangach defnyddiau newydd o ddeunyddiau adeiladu, a’r potensial o ganlyniad i hynny i dân weithredu mewn ffyrdd nad oedd yn ddisgwyliedig ac nad oedd hyfforddiant wedi’i roi ar eu cyfer. Er bod llawer o’r gwersi penodol a ddeilliodd o’r tân, er enghraifft o ran y defnydd o gladin llosgadwy, wedi cael eu dysgu, gwelir tueddiadau ehangach hefyd. Mae datblygwyr a pherchnogion adeiladau bob amser yn debygol o geisio gwneud cymaint o elw â phosibl o’u buddsoddiad, boed hynny drwy’r defnydd arloesol o ddeunyddiau a thechnegau a all greu risgiau tân nad ydynt wedi’u deall yn llawn; neu drwy godi adeiladau defnydd cymysg cymhleth sydd, unwaith eto, yn achosi heriau anarferol a sylweddol o ran diogelwch tân a diffodd tân. Mae safleoedd gwag hefyd yn achosi risgiau sylweddol o dân yn enwedig o ganlyniad i ddefnydd anawdurdodedig, twyll yswiriant neu losgi bwriadol. Cafodd pandemig COVID-19 effaith ddifrifol ar lawer o fusnesau manwerthu a lletygarwch, gan gynyddu nifer y safleoedd masnachol gwag yn sylweddol. Er bod y sefyllfa wedi ymsefydlogi ers hynny, mae’n bosibl y bydd tueddiadau yn y tymor hwy, er enghraifft gweithio gartref neu fwy o ddibyniaeth ar fasnachu ar-lein, yn creu niferoedd mawr o safleoedd gwag yn gyson.
  • Diogelwch byd-eang: ers i’r Fframwaith diwethaf gael ei gyhoeddi, cafwyd ymosodiad terfysgol mawr yn Arena Manceinion a’r achos o wenwyn Novichok yng Nghaersallog, yn ogystal â digwyddiadau difrifol eraill. Mae’r sefyllfa o ran diogelwch byd-eang ar ôl i Rwsia oresgyn Wcráin a’r gwrthdaro o hyd yn y Dwyrain Canol yn benodol, yn llawn cynnwrf ac ansefydlogrwydd; mae’r risgiau o ymosodiad gan derfysgwyr neu’r rhai sy’n gweithredu ar ran gwladwriaethau gelyniaethus yn fawr ac maent yn debygol o barhau felly. Bydd llawer o ddigwyddiadau o’r fath, wrth reswm, yn gofyn am ymateb cyflym a medrus gan y Gwasanaeth Tân ac Achub, ochr yn ochr ag ymatebion asiantaethau eraill. 

At hynny, mae’r newidiadau hyn yn eu cyd-destun yn ddynamig, a gallai ffactorau risg nad ydynt yn hysbys eto ddod i’r amlwg ac, yn fwy na thebyg, y bydd hynny’n digwydd. Gallai newidiadau technolegol a phroblemau diogelwch pellach fod yn arbennig o anodd i’w rhagweld. Pan gyhoeddwyd y Fframwaith diwethaf, er enghraifft, roedd y risgiau o dân o ganlyniad i fatris ionau lithiwm yn gymharol fach, ac mae’n bosibl yr ystyrid bod bygythiadau i ddiogelwch yn deillio o weithredoedd terfysgwyr unigol yn hytrach na gwladwriaethau gelyniaethus. Ac ni ragwelwyd effeithiau dwys pandemig COVID-19 o gwbl.

Dyma’r cyd-destun, sy’n newid o hyd, y mae’n rhaid i’r Gwasanaeth Tân ac Achub weithredu ynddo, ac ymaddasu iddo. Mae angen i’r Gwasanaeth Tân ac Achub ddeall sut mae risg yn amrywio o le i le dros amser. Mae angen iddo ddatblygu a chynnal galluoedd i adlewyrchu amgylchedd sy’n newid a hefyd gynnal gwasanaethau atal ac ymateb craidd o safon uchel. Drwy wneud hynny, sicrheir y bydd y Gwasanaeth Tân ac Achub yn parhau i chwarae rôl hollbwysig i sicrhau diogelwch y cyhoedd a diogelwch cymunedol a chynnal gwydnwch cenedlaethol. Mae gweddill y Fframwaith hwn yn ymhelaethu ar yr heriau hyn. 

Pennu adnoddau yn ôl risg

Wrth reswm, nid yw’r risgiau o dân na digwyddiadau eraill y mae’r Gwasanaeth yn ymateb iddynt yn rhai statig nac unffurf. Gwyddys llawer eisoes, er enghraifft, am ffactorau risg demograffig ac ymddygiadol o ran tanau mewn anheddau, y ffyrdd y mae’r tywydd, llystyfiant a defnydd tir yn dylanwadu ar y risg o danau gwyllt, a chrynodiad topograffig perygl llifogydd. Mae’r effeithiau hyn i gyd, o anghenraid, yn amrywio’n sylweddol o le i le a thros amser.

Nododd y bennod flaenorol rai ffyrdd pellach lle y gall y risgiau o dân a digwyddiadau eraill newid yn y tymor canolig. Problemau byd-eang yw llawer o’r rhain, ond bydd eu heffeithiau, unwaith eto, yn amrywio. Er enghraifft, dim ond 6.7% o boblogaeth Caerdydd sydd dros 75 oed, llai na hanner y ganran yng Nghonwy a Phowys, ac mae’n bosibl y bydd y tueddiadau demograffig a ddisgrifir yn y bennod flaenorol yn gwneud y gwahaniaethau hyn yn fwy. Ceir crynodiadau mawr o adeiladau uchel iawn yn ein prif ddinasoedd, ond gallai’r newidiadau i’r amgylchedd adeiledig a ddisgrifir yn y bennod flaenorol ddigwydd yn rhesymol mewn unrhyw ardal drefol.

Mae hyn yn achosi dwy her gyffredinol i’r Gwasanaeth: 

  1. Ymdrin â newidiadau o ran risg sydd eisoes yn digwydd a/neu sy’n debygol iawn o ddigwydd. Mae hyn yn awgrymu bod angen deall yr heriau hynny’n llawn ac ailwerthuso adnoddau a gallu’r Gwasanaeth, a dosbarthiad gofodol ei adnoddau, yn unol â hynny.
  2. Bod yn barod ar gyfer newidiadau eraill o ran risg sy’n dod i’r amlwg nad ydynt yn hysbys eto neu sy’n llai tebygol o ddigwydd yn y byrdymor i’r tymor canolig. Mae hyn yn awgrymu bod angen gwyliadwriaeth strategol a sganio’r gorwel, a chreu hyblygrwydd o ran adnoddau, a diwylliant arloesol, sy’n galluogi’r Gwasanaeth i ymateb i risgiau o’r fath os a phryd y byddant yn codi.

Mae angen gwneud hyn a darparu’r gwasanaethau craidd presennol i safon uchel o hyd. Pa newidiadau bynnag sy’n codi o ran risg strategol, mae rhan sylweddol o genhadaeth y Gwasanaeth yn debygol o barhau fel y mae ar hyn o bryd, ymateb i danau pob dydd ac achosion brys eraill ac ymgymryd â gwaith atal tân a diogelwch tân arferol. Ni ddylai ffocws ar ddeall newid strategol fod ar draul hyn.

Nodi a gwerthuso risgiau

Y cam cyntaf i fynd i’r afael â’r cyd-destun strategol a’r newidiadau ynddo yw datblygu dealltwriaeth drylwyr sy’n seiliedig ar dystiolaeth, o lefelau risg ym mhob un o ardaloedd y Gwasanaeth Tân ac Achub a chynnal hynny, a datblygiadau sy’n debygol o newid hynny. Dylai hyn fod yn seiliedig ar ffynonellau dibynadwy o ddata a mathau eraill o wybodaeth, a dylai’r data gael eu dadansoddi ar lefel ardal gorsaf i’r graddau y mae’r wybodaeth sydd ar gael yn cefnogi hynny’n ddibynadwy. Mae risgiau sy’n gysylltiedig â llifogydd, tanau gwyllt neu adeiladau uchel iawn a/neu gymhleth, er enghraifft, yn debygol o gronni mewn ardaloedd adnabyddadwy, ond bydd y rhai sy’n ymwneud â heneiddio, diogelwch byd-eang neu newidiadau technolegol yn llai tebygol o wneud hynny.

Ar y lefel fwyaf lleol, gall y gwaith o gasglu gwybodaeth am risgiau ar gyfer safleoedd penodol o dan adran 7(2)(d) o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 esgor ar wybodaeth gynhwysfawr a dibynadwy am risgiau ar safleoedd unigol a dylai wneud hynny. Mae hyn yn wir hefyd am archwiliadau diogelwch tân o safleoedd, ac ymweliadau diogelwch yn y cartref, yn enwedig ymweliadau ag aelwydydd sy’n agored i niwed. Dylai ymarferion casglu gwybodaeth o’r fath gael eu cynnal mewn ffordd drylwyr a chynhwysfawr, a dylent gyfrannu’n llawn at y prosesau cynllunio a dyrannu adnoddau a ddisgrifir gan y bennod hon.

Dylai’r wybodaeth hon gael ei choladu a’i dadansoddi er mwyn cael darlun manwl a dibynadwy o’r galw presennol am wasanaethau tân ac achub, a sut mae hynny’n debygol o newid yn y dyfodol rhagweladwy. 

Dylai hefyd gael ei hadolygu’n rheolaidd, a dylid ymgorffori gwybodaeth newydd a gwybodaeth sy’n dod i’r amlwg wrth iddi godi. Gallai hyn gynnwys data newydd ynglŷn â risgiau sydd eisoes yn hysbys, neu wybodaeth am risgiau sy’n dod i’r amlwg o ganlyniad i sganio’r gorwel. 

Dylai Awdurdodau Tân ac Achub:

  • Nodi a gwerthuso effaith newidiadau strategol ar eu hamgylchedd gweithredol, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhai yn y bennod flaenorol.
  • Nodi sut mae effeithiau’r newidiadau hynny yn debygol o amrywio yn ôl eu hardaloedd a thros amser.
  • Mynd ati i sganio’r gorwel yn barhaus er mwyn nodi newidiadau i risgiau sy’n dod i’r amlwg a newidiadau posibl yn y dyfodol.
  • Defnyddio gwybodaeth a data o bob ffynhonnell briodol i wneud yr asesiadau hyn a pharhau i’w hadolygu.
  • Gwneud defnydd llawn a phriodol o wybodaeth am risgiau sy’n benodol i safleoedd a chanfyddiadau archwiliadau o ddiogelwch adeiladau, arolygiadau a chamau gorfodi i feithrin dealltwriaeth lawn o risg ar lefel ardal gorsaf.

Dim ond os caiff y gweithgarwch uchod ei adlewyrchu mewn cynlluniau gweithredu sydd â’r nod o ymdrin â phatrymau risg a nodwyd a dim ond os bydd yn gweithio’n effeithiol i liniaru’r risgiau a nodwyd y bydd unrhyw werth iddo. Mae’n bosibl y bydd angen ailwerthuso a diweddaru cynlluniau gweithredol er mwyn lliniaru risgiau’n effeithiol. Mae’n ddigon posibl y bydd modd cynnwys risgiau sy’n dod i’r amlwg yn y cynlluniau presennol.

Dylai Awdurdodau Tân ac Achub ystyried yn benodol yr agweddau canlynol ar ddarparu gwasanaethau yng nghyd-destun y patrymau risg a nodwyd. 

Adnoddau

Wrth reswm, bydd angen i’r Gwasanaeth gael adnoddau cyffredinol digonol i ymateb i lefelau tebygol o wahanol fathau o ddigwyddiadau, ac ymgymryd â lefel briodol o waith atal. Mae’n bosibl y bydd hynny’n ymddangos yn nod cymharol syml i’w gyflawni, a hynny yng ngoleuni’r lleihad diweddar yn nifer y digwyddiadau, lle na fu lleihad cyfatebol yn adnoddau’r Gwasanaeth ar y cyfan. Fodd bynnag, mae angen i’r mater hwn gael ei ystyried yng nghyd-destun newidiadau yn y cyd-destun strategol yr ymddengys eu bod yn debygol o gynyddu risg, ac yng nghyd-destun amrywiadau tymhorol mewn digwyddiadau megis llifogydd a thanau gwyllt (a newidiadau tebygol mewn amrywiaethau o’r fath). Yn erbyn y cefndir hwnnw, mae’n bosibl na ddylid lleihau, na chynyddu, adnoddau ymhellach, ond dylai unrhyw benderfyniadau o’r fath gael eu hystyried yn ofalus a dylid cyflwyno tystiolaeth lawn yn eu cylch. Bydd angen o hyd i’r Gwasanaeth allu ymateb yn llawn ac yn fedrus i unrhyw ddigwyddiad ar unrhyw adeg.

Mae’r rheidrwydd hwn yn gymwys i waith atal yn ogystal ag ymatebion brys. Fel y nododd y fframwaith blaenorol, mae rhaglenni atal tân a diogelwch tân effeithiol yn arwain at y canlyniadau gorau posibl, sef nad oes achos o dân, neu os bydd yn digwydd, mae’n achosi llai o ddifrod. Felly, dylai adnoddau’r Gwasanaeth yn y maes hwn gael eu gwerthuso hefyd yng nghyd-destun newidiadau tebygol o ran risg. Er enghraifft, i ba raddau y bydd poblogaeth sy’n heneiddio yn creu mwy o alw am ymweliadau diogelwch yn y cartref, ac i ba raddau y bydd newidiadau yn yr amgylchedd adeiledig yn arwain at fwy o angen am arolygiadau diogelwch tân cadarn ac effeithiol? Dylai manteision cymdeithasol ehangach posibl gwaith o’r fath hefyd gael eu hystyried, gall ymweliadau diogelwch yn y cartref nodi anghenion cymorth y gall asiantaethau eraill eu diwallu; a gall ymyriadau â phlant a phobl ifanc sicrhau canlyniadau cadarnhaol yn y tymor hwy o ran addysg a chyflogaeth.

Mae sicrhau adnoddau digonol hefyd yn golygu gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael, a’u targedu fel y byddant yn cael yr effaith fwyaf posibl. I’r perwyl hwnnw, roedd y Fframwaith blaenorol yn galw am gamau gweithredu cadarn i leihau’r rheidrwydd i ymateb i gamrybuddion. Mae hynny wedi digwydd erbyn hyn, ond mae’n rhy fuan i weld y manteision yn y rhan fwyaf o Gymru. Dylai’r polisïau presennol gael eu cynnal a, lle y gellir cyfiawnhau hyn, eu gwella fel na fydd adnoddau yn cael eu gwastraffu wrth ymateb i danau nad ydynt yn bodoli. Hefyd, dylai arferion gwaith bob amser sicrhau y gwneir y defnydd gorau o amser diffoddwyr tân pan fyddant ar ddyletswydd, yn amodol bob amser ar sicrhau eu llesiant a’u diogelwch, fel y disgrifia’r bennod nesaf.

Mae gan y Gwasanaeth fwy o ddisgresiwn o ran targedau mesurau atal a diogelu. Dylai’r rhain barhau i ganolbwyntio ar y risgiau mwyaf, lle maent yn debygol o ddwyn y gwerth mwyaf Dylai ymweliadau diogelwch yn y cartref, er enghraifft, ganolbwyntio ar y rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf o dân yn y cartref, megis pobl hŷn, pobl ag anableddau, smygwyr a rhieni sengl; a dylai diogelwch tân rheoliadol fod yn seiliedig ar asesiad sy’n cael ei ysgogi gan dystiolaeth o risg gymharol ar gyfer safleoedd yn ardal y Gwasanaeth. Dylai hyn fod yn destun ailafarnu o hyd yng ngoleuni newidiadau i risg strategol. Mae’r risgiau a achosir gan newid yn yr hinsawdd, er enghraifft, yn debygol o ofyn am ymdrech o’r newydd i leihau’r risg o danau gwyllt drwy addysg, dargyfeirio ac atal.

Dylai Awdurdodau Tân ac Achub: 

  • Gynnal digon o allu i ymateb ac atal er mwyn ateb y galw tebygol, ar ôl rhoi sylw i amrywiadau tymhorol a newidiadau o ran risg sy’n dod i’r amlwg.
  • Parhau i gymryd camau i leihau’r rheidrwydd i ymateb i ddigwyddiadau o ganlyniad i larymau tân awtomatig yn unig, oni bai bod rhesymau eithriadol dros ymateb.
  • Sicrhau y gwneir y defnydd gorau o amser staff pan fyddant ar ddyletswydd, yn amodol bob amser ar ystyriaethau iechyd, diogelwch a lles.
  • Canolbwyntio rhaglenni atal tân a diogelwch tân ar ardaloedd, safleoedd ac unigolion lle y ceir y risg fwyaf, gan gofio sut y bydd risg yn debygol o ddatblygu.

Gallu

Dim ond os gall adnoddau gyflawni’r diben y cânt eu defnyddio yn ei gylch, a’r graddau y gallant wneud hynny, y maent yn ddefnyddiol. Yn y Gwasanaeth Tân ac Achub, mae hynny o reidrrwydd yn gofyn am gyfuniad o sgiliau, gwybodaeth, arweinyddiaeth, cyfarpar a gweithdrefnau priodol i’w cymhwyso a’u defnyddio.

Mae’r prosesau ar gyfer datblygu gallu o’r fath a’i gynnal wedi’u hymgorffori’n dda yn y Gwasanaeth Tân ac Achub, ond mae’r Prif Gynghorydd ac Arolygydd Tân ac Achub wedi gwneud argymhellion pwysig o ran faint o hyfforddiant sydd ei angen a’i ansawdd, ac o ran y tactegau a ddefnyddir fel arfer i ddiffodd tanau mewn anheddau.

Ond mae anghenion o ran gallu yn cael eu hysgogi’n benodol gan newidiadau yn y cyd-destun strategol. Er mwyn eu diwallu, mae hynny’n golygu sicrhau bod y Gwasanaeth yn ymaddasu i risgiau newydd wrth iddynt godi, ac y gall wneud hynny, a hefyd ei fod yn manteisio ar welliannau ym maes technegol diffodd tân a deall ymddygiad tân. Bydd hynny fwy na thebyg yn golygu newidiadau i athrawiaeth, hyfforddiant, polisïau, gweithdrefnau a chyfarpar yr holl staff, a all, yn eu tro, olygu mynd ati’n ymwybodol i gael gwared ar hen wybodaeth neu arferion er mwyn rhoi lle i rai newydd a mwy effeithiol. Gall hynny fod yn heriol, a bydd yn gofyn am ymrwymiad a chefnogaeth ar bob lefel o’r Gwasanaeth.

Yn gysylltiedig â hynny mae’r angen am hyblygrwydd ac arloesedd. Ni ellir ymdrin â’r ansicrwydd ynglŷn â’r ffordd y bydd risg strategol yn datblygu ac yn amlygu ei hun ar lawr gwlad yn ystod digwyddiad drwy gadw at ymarfer sefydledig yn unig. Mae tân Tŵr Grenfell ac ymateb Brigâd Dân Llundain iddo wedi dangos, mewn ffordd drasig, ganlyniadau hynny, canlyniadau peidio â deall y risgiau sy’n gysylltiedig â thân sy’n lledaenu’n allanol a pheidio ag ymateb mewn ffordd a allai fod wedi lleihau nifer yr unigolion a fu farw. Er y bydd gweithdrefnau gweithredu safonol yn y rhan fwyaf o achosion yn sicrhau bod ymateb brys mor effeithiol â phosibl a bod cyn lleied o risgiau â phosibl i’r diffoddwyr tân a diogelwch y cyhoedd, efallai y bydd angen cynyddol i ddibynnu ar feddwl yn greadigol ac arfer doethineb, o fewn terfynau penodedig.

Mae gallu Gwydnwch Cenedlaethol y Gwasanaeth Tân ac Achub yn elfen hollbwysig o’r ymateb i drychinebau mawr. Mae’n ddigon posibl y bydd ei angen yn fwyfwy yng ngoleuni rhai o’r newidiadau tebygol i risg strategol, er enghraifft o ran newid yn yr hinsawdd a gweithredoedd gan wladwriaethau gelyniaethus. Er mai Llywodraeth Cymru sy’n ei oruchwylio ac yn ei gyllido’n uniongyrchol, mae’n dibynnu ar ymrwymiad staff o bob un o’r tri Gwasanaeth Tân ac Achub, ac ar integreiddio’n effeithiol â’r galluoedd ymateb ar y rheng flaen. Bydd angen i’r tri Gwasanaeth Tân ac Achub barhau i gydweithredu’n dda â’i gilydd.

Yn y gorffennol, roedd gallu o dan y rhaglen Gwydnwch Cenedlaethol yn cynnwys criwiau arbenigol a oedd wedi’u hyfforddi i ymateb i ymosodiadau difaol gan derfysgwyr. Roedd ganddynt gyfarpar diogelwch balistig ac roeddent yn gallu tynnu anafusion ymaith a rhoi gofal trawma cychwynnol. Fodd bynnag, bwriwyd amheuon mawr ar y dull gweithredu hwn ar ôl profiad bomio Arena Manceinion. Byddai diogelwch balistig criwiau ymateb i ymosodiadau difaol gan derfysgwyr yn annigonol yn erbyn llawer o’r arfau a ddefnyddir gan derfysgwyr, ac, oherwydd mai dim ond ychydig o griwiau o’r fath sydd, byddai’n annhebygol y gallent gyrraedd y lleoliad mewn pryd i fod yn ddefnyddiol. Mae’n amlwg mai’r dull gweithredu gorau yw trin ymosodiadau diafol gan derfysgwyr yn yr un modd ag unrhyw ddigwyddiad arall lle mae nifer mawr o anafusion. Gallai diffoddwyr tân rheng flaen gael eu defnyddio i helpu i dynnu anafusion ymaith a’u trin, ond dim ond ar ôl i’r lleoliad gael ei ddiogelu ac ar ôl i’r ymosodwyr gael eu dirymu gan yr heddlu neu’r lluoedd arbennig, sy’n golygu na fyddai angen diogelwch balistig. Dylai criwiau chwilio ac achub trefol, wrth reswm barhau i gymryd rhan yn yr ymateb i achosion o fomio a digwyddiadau tebyg lle mae strwythurau wedi dymchwel neu mae perygl y byddent yn dymchwel.

Mae gallu’r Gwasanaeth Tân ac Achub wedi bod yn destun nifer o argymhellion gan y Prif Gynghorydd ac Arolygydd Tân ac Achub yn ogystal â’r ymchwiliadau cyhoeddus i dân Tŵr Grenfell a bomio Arena Manceinion. Mae hynny’n debygol o barhau: mae argymhellion o’r fath yn rhan annatod o rôl y Prif Gynghorydd ac Arolygydd Tân ac Achub, ac mae gallu ymatebwyr brys yn ffocws cyffredin mewn ymchwiliadau cyhoeddus a chwestau, a hynny’n gwbl briodol. Mae argymhellion o’r fath, yn anochel, yn ffrwyth ystyriaeth ofalus a gwrthrychol o dystiolaeth o nifer o ffynonellau. Mae gweithredu arnynt yn rhan bwysig o ymaddasu i risgiau sy’n dod i’r amlwg a dysgu gwersi o’r risgiau hynny sy’n cael eu gwireddu. Felly, dylai Awdurdodau Tân ac Achub wneud hynny oni bai ei bod yn amlwg nad ydynt yn gymwys mewn achos penodol, neu ei bod yn amlwg bod ffyrdd gwell o gyflawni’r un diben (a ddylai eu mabwysiadu yn lle hynny).

Nid yw’r gyfraith ynglŷn â swyddogaethau gwasanaethau tân ac achub wedi newid ar y cyfan ers Deddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 a Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005. Fodd bynnag, bydd hynny’n newid pan fydd y Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) yn cael ei ddeddfu, a oedd gerbron Senedd Cymru ar adeg drafftio’r Fframwaith hwn. Os caiff ei basio, bydd yn disodli Gorchymyn 2005 i raddau helaeth â chyfundrefn debyg a fydd wedi’i theilwra at risgiau tân a geir fel arfer mewn adeiladau preswyl amlfeddiannaeth. Os caiff ei basio, bydd y Bil yn rhoi pwerau arolygu a gorfodi i Awdurdodau Tân ac Achub, a fydd yn atgynhyrchu’r rhai yng Ngorchymyn 2005 i raddau helaeth, felly ni ddylai newid eu llwyth gwaith yn sylweddol. Fodd bynnag, byddai’r Bil yn rhoi swyddogaethau newydd sylweddol i awdurdodau lleol ac er mwyn ei roi ar waith bydd angen iddynt hwy a’r Awdurdodau Tân ac Achub gydweithio’n agos â’i gilydd i sicrhau bod adeiladau amlfeddiannaeth mor ddiogel â phosibl, a dwyn landlordiaid a pherchnogion adeiladau i gyfrif.

Yn olaf, mae ehangu rôl diffoddwyr tân, yn enwedig i gynorthwyo’r GIG, wedi bod yn destun llawer o drafod a chynllunio ers i’r Fframwaith diwethaf gael ei gyhoeddi. Mae rôl ataliol ehangach a fyddai’n cwmpasu diogelwch dŵr a diogelwch ar y ffyrdd hefyd wedi cael ei thrafod. Barn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yw nad yw ehangu o’r fath yn flaenoriaeth bolisi genedlaethol yng ngoleuni’r angen i ymdrin â phryderon ynglŷn â diwylliant a llywodraethu’r Gwasanaeth Tân ac Achub. Fodd bynnag, gallai’r farn honno newid, ac nid yw’n atal Gwasanaethau Tân ac Achub unigol rhag edrych ar gyfleoedd o’r fath os bydd ganddynt yr adnoddau a’r gallu i wneud hynny, ac y gellir ei defnyddio heb beryglu rôl graidd y Gwasanaeth. 

Dylai Awdurdodau Tân ac Achub:

  • Sicrhau bod hyfforddiant cynhwysfawr a phriodol ar gael i ddiffoddwyr tân ac aelodau eraill o’r staff sy’n seiliedig ar risgiau a nodwyd a risgiau sy’n dod i’r amlwg, gan gynnwys hyfforddiant gloywi rheolaidd ym mhob maes gwaith.
  • Datblygu a chynnal cyfarpar, rhaglenni hyfforddiant ac athrawiaeth, arferion a gweithdrefnau gweithredol i ymdrin â risgiau sy’n debygol o ddod i’r amlwg, gyda digon o hyblygrwydd i ymaddasu i risgiau a bygythiadau newydd, boed hynny’n strategol neu ar lawr gwlad yn ystod digwyddiad.
  • Manteisio i’r eithaf ar ddatblygiadau perthnasol ym maes technoleg a dealltwriaeth wyddonol
  • Cyfrannu’n llawn at y gwaith o gynnal gallu effeithiol a chynhwysfawr Gwydnwch Cenedlaethol i Gymru gyfan.
  • Prif ffrydio ymatebion i ymosodiadau difaol gan derfysgwyr, ar y sail na fydd diffoddwyr tân yn cael eu defnyddio nes i’r lleoliad gael ei ddirymu a’i ddiogelu.
  • Mabwysiadu’r holl argymhellion perthnasol gan ymchwiliadau cyhoeddus, cwestau a’r Prif Gynghorydd ac Arolygydd Tân ac Achub a’u rhoi ar waith, neu gymryd camau gweithredu cyfatebol neu rai sy’n cael mwy o effaith.
  • Gweithio gydag awdurdodau lleol ac eraill i roi’r Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) ar waith unwaith y caiff ei ddeddfu.
  • Parhau i ystyried cyfleoedd i ehangu rôl diffoddwyr tân a manteisio arnynt, ar ôl rhoi sylw i adnoddau’r gwasanaeth a’r angen i gyflawni ei rôl graidd yn llawn ac yn ddiogel.

Dosbarthu

Mae angen i adnoddau a gallu gael eu dosbarthu’n briodol rhwng holl ardaloedd y Gwasanaeth Tân ac Achub a ledled Cymru. Er nad amseroedd aros yw’r unig fesur defnyddiol o effeithiolrwydd gwasanaethau tân ac achub o bell ffordd, yn amlwg, mae’n bwysig bod ymateb brys priodol yn cyrraedd y lleoliad yn gyflym.

Ar lefel weithredol, mae hyn yn golygu adlewyrchu’r hyn sy’n hysbys am y ffordd y dosberthir risg o fewn ardal Gwasanaeth Tân ac Achub o ran adnoddau a gallu pob gorsaf dân, gan ystyried dibyniaeth resymol ar gydgymorth trawsffiniol. Bydd poblogaeth rhai ardaloedd yn fwy oedrannus, a bydd ardaloedd eraill yn fwy tueddol o weld llifogydd neu fwy o wrthdrawiadau traffig ffyrdd. Er bod pob diffoddwr tân rheng flaen wedi cael ei hyfforddi i’r un safonau i ymdrin â’r un ystod o ddigwyddiadau wrth gwrs, gall diffoddwyr tân ddisgwyl wynebu cymysgedd gwahanol o ddigwyddiadau, yn dibynnu ar ble maent wedi’u lleoli, ac maent yn debygol o fod wedi meithrin arbenigedd penodol ar ymateb i’r rhai hynny a wynebant amlaf. Mae pwynt tebyg yn berthnasol i gyfarpar arbenigol megis ysgolion awyrol, badau achub ac asedau Gwydnwch Cenedlaethol, sydd wedi’i leoli’n agos i ardaloedd lle mae’n fwyaf tebygol o gael ei ddefnyddio, fel y dylai ddigwydd.

Mae hyn oll wedi bod yn rhan o fusnes arferol rheoli’r Gwasanaeth ers blynyddoedd lawer, a dylai barhau. Ond dylid hefyd ymgymryd â hyn yng nghyd-destun newidiadau tebygol i risg strategol, a sut y caiff asedau eu dosbarthu i ymateb i’r bygythiadau presennol a’r rhai a ddaw i’r amlwg. Yr amcan yw y dylai pob criw fod yn ymwybodol yn briodol o’r mathau o ddigwyddiadau sy’n gyffredin iawn (neu sy’n debygol o ddod yn gyffredin iawn) yn eu hardal leol, ac y dylent gael hyfforddiant a chyfarpar i ymdrin â nhw.

Ar lefel fwy strategol, mae newidiadau hirdymor i risg yn arwain yn y pen draw at yr angen am adolygiad mwy sylfaenol o ddarpariaeth ar y rheng flaen, ac am ailddosbarthu adnoddau o fewn ardal y Gwasanaeth Tân ac Achub. Mae’r broses hon yn aml wedi cael ei llywio’n fawr gan newidiadau gwahaniaethol yn y boblogaeth, gan arwain at fwy o ddarpariaeth mewn ardaloedd lle ceir twf mewn poblogaeth. Ond nid newid demograffig yw’r unig ffactor sy’n ysgogi newidiadau o ran lefelau risg, neu hyd yn oed y prif ffactor, fel y’i disgrifiwyd yn y bennod gyntaf; a dylai adolygiadau o’r fath ystyried pob ffactor risg o bwys a sut y gellid yn rhesymol ddisgwyl iddynt newid.

Mae adolygiadau o ddarpariaeth ar y rheng flaen yn gymhleth, yn cymryd amser ac yn gostus i’w rhoi ar waith, sy’n golygu mai dim ond yn anaml y gellir eu cynnal. Fodd bynnag, mae’r ffaith bod nifer o ffactorau yn bodoli ar hyn o bryd a fydd yn dueddol o gynyddu risg strategol a newid y ffordd y caiff ei dosbarthu yn golygu y dylai pob Awdurdod Tân ac Achub anelu at gynnal adolygiad o’r fath o fewn y cyfnod y disgwylir i’r Fframwaith hwn fod yn weithredol, h.y. yn y 4 i 5 mlynedd nesaf. Dylai hyn ailddosbarthu adnoddau a gallu’r Gwasanaeth (gan gynnwys adnoddau arbenigol) yn gyson â dosbarthiad hysbys risgiau o fewn ardal y Gwasanaeth a’r newidiadau tebygol ynddo.

Mae’n ddigon posibl mai proses ddadleuol fydd hon. Gall cynigion sy’n golygu cau gorsafoedd tân neu newid y ffordd y cânt eu staffio, yn ddealladwy, achosi pryder yn lleol. Felly, dylai Awdurdodau Tân ac Achub ymgysylltu’n llawn â chymunedau lleol ynglŷn â chynigion o’r fath, a’u hesbonio o ran yr angen i ailddosbarthu adnoddau yn gyson â risg. Ond, yn y pen draw, nid cyfleusterau cymunedol yw gorsafoedd tân fel arfer, o’u cymharu, dyweder, ag ysbytai neu lyfrgelloedd. Ni chaiff eu lleoliad na’u hadnoddau eu hysgogi gan yr angen am fynediad gan y cyhoedd; dylai fod yn seiliedig ar ddadansoddiad trylwyr a phroffesiynol o’r risg yn lleol ac yn yr ardal gyfan yn unig. Dylai Awdurdodau Tân ac Achub fynd ati i wneud penderfyniadau ynglŷn â newidiadau i ddarpariaeth ar y rheng flaen o’r safbwynt hwnnw.

Ni ddylai’r broses hon ddiystyru’r angen i roi ymateb cyflym ac effeithiol mewn ardaloedd gwledig. Gallai ffocws rhy gul ar newidiadau i risg arwain at symud adnoddau i ardaloedd trefol yn amhriodol, lle mae twf poblogaeth yn tueddu i fod yn uchel, a lle mae cymhlethdod yr amgylchedd adeiledig ar ei fwyaf fel arfer. Wrth gwrs, gall tanau, llifogydd, gwrthdrawiadau traffig ffyrdd a digwyddiadau eraill gymryd lle yn aml mewn ardaloedd gwledig hefyd, ac mae angen ymateb iddynt o hyd.

Yn wir, mae’n bosibl y bydd diwallu’r angen hwn yn arbennig o heriol oherwydd problemau hirsefydlog i recriwtio a chadw diffoddwyr tân yn ôl y galw. Nid yng Nghymru yn unig y mae’r problemau hyn yn codi ac mae’n bosibl eu bod yn ymwneud â newidiadau yn yr economi wledig sydd y tu hwnt i reolaeth Awdurdodau Tân ac Achub neu Lywodraeth Cymru. Nid yw’r heriau hyn yn gwbl amhosibl i’w hateb a dylai Awdurdodau Tân ac Achub barhau i gymryd rhan mewn trafodaethau a gynullir gan Gyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân a’r Fforwm Partneriaeth Gymdeithasol sydd â’r nod o fynd i’r afael â’r heriau hyn. Serch hynny, mewn rhai achosion, gallai adolygiad o’r rheng flaen ddod i’r casgliad bod angen uwchraddio gorsafoedd sydd wedi’u lleoli’n strategol o dan system ar ddyletswydd yn ôl galw i griwiau amser cyfan drwy gydol y diwrnod neu am rannau o’r diwrnod er mwyn sicrhau ymateb; mae’n ddigon posibl y byddai ymateb sicr ond pellach o orsaf o’r fath yn well na gobeithio am ymateb agosach gan orsafoedd sy’n rhan o’r system ar ddyletswydd yn ôl y galw nad ydynt ar gael i’w defnyddio’n aml.

Dylai Awdurdodau Tân ac Achub: 

  • Sicrhau bod asedau’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn cael eu dosbarthu’n briodol i ateb y galw gweithredol.
  • Sicrhau bod diffoddwyr tân yn hollol ymwybodol o’r digwyddiadau sydd neu a all fod yn gyffredin iawn yn ardaloedd eu gorsaf a’u bod yn cael hyfforddiant a chyfarpar i ymateb iddynt
  • Anelu at gynnal adolygiad o’r ddarpariaeth ar y rheng flaen yn ystod cyfnod gweithredol y Fframwaith hwn, er mwyn dosbarthu adnoddau a gallu’r Gwasanaeth yn gyson â dosbarthiad hysbys risgiau a’u dosbarthiad tebygol yn y dyfodol.
  • Ystyried, fel rhan o hynny, yr angen i gadw darpariaeth ddibynadwy ac effeithiol mewn ardaloedd gwledig yn ogystal ag ardaloedd trefol.
  • Parhau i gymryd rhan mewn trafodaethau sydd â’r nod o oresgyn heriau sy’n ymwneud â chynaliadwyedd y system ar ddyletswydd yn ôl y galw.

Cynllunio a chyflawni

Mae’r bennod hon yn disgrifio prosesau ar gyfer nodi a gwerthuso lefelau risg, a datblygu, cynnal a dyrannu’r adnoddau a’r gallu angenrheidiol i fynd i’r afael â nhw.

Mae’r prosesau hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y Gwasanaeth yn gallu bodloni’r gofynion sy’n debygol o gael eu gosod arno. Felly, mae’n bwysig eu bod yn cael eu cynllunio a’u dogfennu’n llawn, a bod bwriadau a chynnydd pob Awdurdod Tân ac Achub o ran eu cyflawni yn cael eu mynegi’n glir ac yn agored.

Er mwyn gwneud hyn, dylai Awdurdodau Tân ac Achub lunio a chyhoeddi cynllun rheoli risg cymunedol, sy’n: 

  • ymestyn dros gyfnod o bum mlynedd o leiaf
  • disgrifio’n fanwl ganlyniadau’r gwerthusiad o’r risgiau presennol a’r risgiau tebygol yn y dyfodol, sut maent yn amrywio yn ôl ardal y Gwasanaeth a sut y disgwylir iddynt newid dros amser
  • nodi mesurau i gysoni adnoddau a gallu â’r gwerthusiad o risg
  • amlinellu cynigion ar gyfer cynnal adolygiad o’r ddarpariaeth rheng flaen, os nad oes un eisoes yn mynd rhagddo, ynghyd â mesurau arfaethedig eraill i ddosbarthu adnoddau’n gyson â’r dosbarthiad risg
  • cynnwys amcanion a mesurau clir y gellir eu defnyddio i fonitro cynnydd o ran rhoi’r cynllun ar waith, ac sy’n gyson â’r nodau llesiant statudol

Dylai’r cynllun gael ei ddatblygu yn ysbryd lawn partneriaeth gymdeithasol, a dylai fod yn destun ymgysylltu ac ymgynghori helaeth â’r cyhoedd. Yna, dylid ei gyhoeddi, ynghyd â diweddariadau blynyddol ar gynnydd o ran cyflawni. Os bydd y profiad o gyflawni’r cynllun yn awgrymu, dylai’r cynllun newid, neu os oes newidiadau annisgwyl sylweddol yng nghyd-destun risgiau, yna byddai’n briodol diwygio a diweddaru’r cynllun yn unol â hynny.

Ar hyn o bryd, mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (Mesur 2009) hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Tân ac Achub gyhoeddi cynlluniau gwella blynyddol ac adroddiadau perfformiad. Nid yw Mesur 2009 yn gymwys mwyach i’r awdurdodau lleol y’i lluniwyd ar eu cyfer yn bennaf, a mater i Lywodraeth nesaf Cymru fydd penderfynu a ddylai fod yn gymwys i Awdurdodau Tân ac Achub yn y dyfodol. Mae’n bosibl y gellid gwneud rheoliadau o dan a21A o Ddeddf 2004 a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i gynllun gael ei lunio mewn perthynas ag arfer swyddogaethau Awdurdodau Tân ac Achub ynghyd â gofynion i asesu perfformiad Awdurdodau Tân ac Achub. Am y tro, ac er mwyn osgoi baich gweinyddol gormodol, byddai’n briodol cynnwys cynllunio ac adrodd o dan Fesur 2009 yn y trefniadau a ddisgrifir uchod, cyhyd â bod gofynion y Mesur yn cael eu bodloni o hyd. 

Dylai Awdurdodau Tân ac Achub: 

  • Baratoi a chyhoeddi cynllun rheoli risg cymunedol fel y’i disgrifir uchod.
  • Paratoi a chyhoeddi adroddiadau blynyddol ar gyflawni’r cynllun hwnnw.
  • Cynnwys gofynion cynllunio ac adrodd Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 yn y trefniadau hyn, os dymunant.

Pobl, arweinyddiaeth a diwylliant

Mae gwaith diffoddwyr tân, yn anochel, yn llawn straen a pheryglon ac mae’n ymestynnol yn gorfforol ac yn feddyliol, yn fwy na llawer o broffesiynau eraill. Mae darparu gwasanaethau tân ac achub effeithiol yn dibynnu’n fawr ar gynnal gweithlu sy’n cael hyfforddiant a chyfarpar priodol, ac sy’n cael cymhelliant ac arweinyddiaeth i ateb yr heriau hyn.

Mae sicrhau’r gallu hwn yn mynd yn fwyfwy heriol yng nghyd-destun y newidiadau mewn risg strategol a ddisgrifir yn y penodau blaenorol. Mae’n bosibl y bydd diffoddwyr tân ac aelodau eraill o’r staff bellach yn gorfod wynebu peryglon newydd neu beryglon dipyn yn fwy difrifol, neu sefyllfaoedd nad ydynt yn datblygu yn ôl y disgwyl a lle mae angen gweithredu mewn ffordd hyblyg a phenderfynol i gadw pobl yn ddiogel. Roedd tân Tŵr Grenfell yn enghraifft eithafol ond nid unigryw o bell ffordd ac er na welwn dân arall ar y raddfa honno am beth amser o bosibl, mae’n debygol o hyd y bydd newidiadau o ran risg yn achosi heriau sydyn ac annisgwyl i’r Gwasanaeth a’i gyflogeion.

Er mwyn ymdrin â hynny mae’n golygu mwy na datblygu a defnyddio adnoddau a gallu cyffredinol, fel y disgrifia’r bennod ddiwethaf. Mae hefyd yn golygu helpu cyflogeion i ateb yr heriau hyn a chyflwyno newidiadau cynaliadwy i arferion, gweithdrefnau a diwylliannau. 

Iechyd, diogelwch a llesiant 

Mae natur cenhadaeth sylfaenol y Gwasanaeth yn golygu na all llawer o’r tasgau a gyflawnir gan ei gyflogeion fyth fod yn gwbl ddiogel. Mae amlygiad i ryw fath o risg o niwed corfforol yn ystod digwyddiad yn anochel fwy na thebyg a gall yr heriau meddyliol sy’n gysylltiedig ag ymdrin â phobl sydd mewn perygl a thrallod mawr fod yn rhai difrifol i ddiffoddwyr tân a staff rheoli fel ei gilydd.

Mae hyfforddiant, cyfarpar ac arferion gwaith wedi’u cynllunio er mwyn lleihau’r risgiau hyn i lefel mor isel ag sy’n ymarferol bosibl, a rhaid iddynt anelu at hynny, a rhoi cymorth iechyd galwedigaethol a lles effeithiol i’r rhai sydd wedi cael eu hamlygu iddynt. Mae’n rhaid i ddiogelwch a llesiant diffoddwyr tân ac aelodau eraill o’r staff fod yn flaenoriaeth sylfaenol bob amser, boed hynny fel rhan o ddyletswydd gofal cyflogwr, ac, oherwydd, os nad yw diffoddwyr tân yn ddiogel, yna nid yw’r rhai y maent yn gyfrifol am eu diogelu yn ddiogel ychwaith.

Mae hyn yn golygu mwy na datblygu a chymhwyso’r un mesurau diogelu safonol yn unig dros amser. Gall newidiadau o ran risg a’i deall greu peryglon newydd, ac maent yn gwneud hynny a bydd angen mynd i’r afael â’r peryglon hynny cyn gynted ag y daw tystiolaeth glir yn eu cylch i’r amlwg. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, er enghraifft, codwyd pryderon mawr, wedi’u cadarnhau yn y meysydd canlynol: 

  • Halogion: Mae ymchwil wedi nodi lefel uwch o fathau o ganser ymhlith diffoddwyr tân a allai fod yn gysylltiedig â chael eu hamlygu i gynhyrchion llosgi carsinogenaidd, ac, yn eu tro, i ymarfer gwael o ran cynnal a chadw cyfarpar anadlu a’i lanhau. Mae newidiadau i’r arferion hynny wedi cael eu nodi a’u rhoi ar waith, ond mae’n bosibl y bydd angen cymryd camau gweithredu pellach yn y maes wrth i ddealltwriaeth feddygol ddatblygu. Mae’n bosibl hefyd fod achos dros leihau’r defnydd o gyfarpar anadlu drwy fabwysiadu tactegau diffodd tân gwahanol (gweler isod).
  • Diffodd tân drwy adrannu: Mae’r Prif Gynghorydd ac Arolygydd Tân ac Achub wedi nodi diffygion mawr yn y dull safonol o ddiffodd tanau drwy adrannu ledled y DU. Mae’r rhain yn achosi’r risg o ailawyru tân ac amlygu diffoddwyr tân ac eraill i’r risgiau sylweddol iawn sy’n gysylltiedig â datblygiad cyflym tân ac maent wedi cael eu cysylltu â bron bob achos lle mae diffoddwr tân wedi marw ar ddyletswydd yn y DU yn ystod yr 21ain ganrif. Ymddengys fod newidiadau i dactegau sy’n ymwneud â rheoli awyru ynghyd ag ymosodiad trymach, yn aml o’r tu allan i’r adran, yn fwy diogel ac yn fwy effeithiol.
  • Lludded: Bydd cynnal y gallu i ymateb 24/7 yn anochel yn codi materion ynglŷn â lludded dynol a/neu weithgarwch yn ystod lefel isaf y cylch circadaidd. Mae lludded yn arwain at amseroedd adweithio arafach a phenderfyniadau gwael ac yn amharu ar sgiliau echddygol, sydd oll yn beryglon amlwg yn ystod digwyddiad. Mae digon o ymchwil yn y maes hwn a sawl ffordd o liniaru’r risgiau, ond ni ellir eu hanwybyddu.

Er bod y risgiau hyn yn ddifrifol, a rhaid mynd i’r afael â nhw, mae risgiau eraill yn debygol o ddod i’r amlwg hefyd. Felly, dylai arferion gwaith a mesurau diogelu gael eu hadolygu a’u haddasu drwy’r amser er mwyn cynnal y system waith ddiogel sydd ei hangen ar bob aelod o staff. Os bydd hynny’n golygu newid arferion sydd wedi eu hen sefydlu (fel yn achos diffodd tân drwy adrannu, uchod), efallai y bydd angen cefnogi ailhyfforddiant ac ymaddasu i weithdrefnau newydd: gall dad-ddysgu unrhyw hen beth fod mor feichus â dysgu rhywbeth newydd.

Nododd y Fframwaith blaenorol y gallai’r cynnydd yn oedran pensiwn arferol diffoddwyr tân o 50-55 i 60 oed (fel sy’n ofynnol o dan Ddeddf Pensiynau’r Sector Cyhoeddus 2013) ei gwneud yn anodd i ddiffoddwyr tân hŷn gynnal lefel ffitrwydd gweithredol cyn y gallent ymddeol ar bensiwn llawn. Roedd yn annog Awdurdodau Tân ac Achub i roi cefnogaeth lawn i unigolion o’r fath, ac ystyried pob opsiwn arall cyn bod unrhyw bosibilrwydd o derfynu cyflogaeth yn codi.

Nid yw’r sefyllfa honno wedi cael ei gwireddu’n llawn eto, am fod her gyfreithiol, i bob diben, wedi estyn yr hawl i ymddeol yn 50 i 55 oed i lawer o ddiffoddwyr tân, drwy ddychwelyd pob un ohonynt a ymunodd cyn mis Ebrill 2012 at eu cynlluniau blaenorol. Ond mae’n ddigon posibl y bydd yn codi yn y dyfodol, ac felly mae angen o hyd i gefnogi diffoddwyr tân hŷn a all ei chael hi’n anodd cynnal lefel ffitrwydd gweithredol.

Dylai Awdurdodau Tân ac Achub: 

  • Sicrhau y bydd gan ddiffoddwyr tân ac aelodau eraill o staff y systemau gwaith mwyaf diogel posibl ar gyfer pob tasg, gan gynnwys diogelwch rhag risgiau fflachiadau, lludded ac amlygiad i garsinogenau.
  • Datblygu arferion, gweithdrefnau a mesurau diogelu a’u rhoi ar waith er mwyn ymdrin â risgiau i iechyd, diogelwch a llesiant sy’n dod i’r amlwg, a helpu staff i’w mabwysiadu.
  • Darparu gwasanaethau iechyd galwedigaethol a lles effeithiol ar gyfer pob aelod o staff
  • Helpu diffoddwyr tân hŷn i gynnal lefel ffitrwydd gweithredol lle bynnag y bo modd.

Arweinyddiaeth a diwylliant

Mae diwylliant gwaith y Gwasanaeth ledled y DU wrth gwrs wedi cael ei feirniadu’n llym mewn adroddiadau diweddar yn y cyfryngau ac wedyn mewn ymchwiliadau a gomisiynwyd gan Wasanaethau Tân ac Achub. Mae achosion o aflonyddu a bwlio wedi bod yn gyffredin, ochr yn ochr â honiadau o ffafriaeth a chamreoli.

Bu hyn yn hynod niweidiol i’r Gwasanaeth, ac nid yn unig o ran ei enw da. Gall diwylliannau camweithredol fel y rhain lesteirio’r gallu i recriwtio, yn enwedig o blith grwpiau nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol yn y gweithlu ar hyn o bryd. Gallant hefyd adlewyrchu llesgedd ehangach a dyfnach. Os caiff achosion o gamymddwyn eu goddef gall hyn fod yn arwydd o ymdeimlad ehangach o hunanfodlonrwydd a pharodrwydd i dderbyn arferion gwael.

Mae rhaglenni gwella diwylliant helaeth i fynd i’r afael â’r diffygion hyn eisoes yn mynd rhagddynt ymhob un o’r tri Awdurdod Tân ac Achub, ac mae angen iddynt barhau nes dod i ben mewn ffordd lwyddiannus a chynaliadwy. Ni fydd hyn yn ateb cyflym na hawdd: mae newid diwylliannol yn broses araf, a heriol yn aml, a gall fod yn anodd mesur y canlyniadau. Felly, nid yw’r Fframwaith hwn yn pennu unrhyw derfyn amser cyffredinol ar gyfer y gwaith hwn.

Ni ddylai newid diwylliannol ymwneud â chywiro gwendidau a nodwyd nac ymdrin yn gadarn â chamymddwyn yn unig. Mae’r heriau strategol y mae gweddill y Fframwaith hwn yn eu disgrifio hefyd yr alwad am newidiadau yn y maes hwn. Er mwyn ymdrin â risgiau sy’n dod i’r amlwg, bydd angen i’r Gwasanaeth a’i weithlu fod yn ystwyth ac yn arloesol, a bydd angen i aelodau o staff ar bob lefel gael eu grymuso i feddwl a gweithredu’n greadigol fel y bo’n briodol. Mae angen i hynny gael ei gydbwyso â’r angen o hyd i ddatblygu arferion a gweithdrefnau gweithredol safonol a chadw atynt fel rhan o’r rôl graidd; ond ni ellir dibynnu ar hynny i wrthsefyll yr heriau sydd o’n blaenau.

Bydd ymgysylltu parhaus ac effeithiol â’r gweithlu hefyd yn hanfodol er mwyn sicrhau newid diwylliannol llwyddiannus. Nid dim ond dyletswydd gyfreithiol ar y Gwasanaethau Tân ac Achub yw partneriaeth gymdeithasol; hon yw’r unig ffordd o gyflawni’r newid diwylliannol angenrheidiol yn gynaliadwy. Felly, dylai cyflogwyr a chyrff cynrychioliadol barhau i weithio gyda’i gilydd yn ysbryd llawn partneriaeth gymdeithasol i gyflawni’r amcanion a bennir yn y Fframwaith hwn, gan gynnwys yn benodol brosesau cynllunio risg cymunedol a’r adolygiad o’r ddarpariaeth ar y rheng flaen a ddisgrifir yn y bennod flaenorol.

Er gwaethaf rhywfaint o welliant ers i’r Fframwaith diwethaf gael ei gyhoeddi, mae diffyg amrywiaeth ymhlith y gweithlu diffodd tân o hyd. Dynion yw’r mwyafrif llethol o gyflogeion o hyd ac er bod y data ar nodweddion gwarchodedig eraill yn llai cywir, mae’n ymddangos yn debygol bod y gweithlu hefyd yn anghymesur o wyn a heterorywiol. Mae’n bosibl mai mater o stereoteipio cymdeithasol ydyw’n rhannol, mai gwaith i ddynion yn unig yw diffodd tân, ond mae angen herio a goresgyn hyn o hyd. Byddai gweithlu mwy amrywiol nid yn unig yn cynrychioli’r cymunedau a wasanaethir ganddo’n well, gall hefyd liniaru rhai o’r ymddygiadau a’r diwylliannau camweithredol a nodwyd.

Dylai Awdurdodau Tân ac Achub: 

  • Ddatblygu a chynnal arweinyddiaeth effeithiol ar bob lefel a diwylliant o broffesiynoldeb, bod yn agored, cynnwys pawb ac arloesedd.
  • Ymgysylltu’n agored ac yn llawn â staff a’u cynrychiolwyr, yn ysbryd partneriaeth gymdeithasol.
  • Cymryd pob cam ymarferol i amrywiaethu cyfansoddiad y gweithlu, gyda’r nod o’i wneud yn fwy cynrychioliadol o’r cymunedau a wasanaethir ganddo.

Materion corfforaethol

Mae’r penodau blaenorol wedi canolbwyntio ar y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau tân ac achub mewn cyd-destun strategol sy’n newid. Mae llawer o’r gwaith sy’n gysylltiedig â hynny yn debygol o gael ei wneud gan ddiffoddwyr tân ac aelodau eraill o staff. Ond, mae hyn hefyd yn galw am arweinyddiaeth effeithiol, atebolrwydd a threfniadau llywodraethu da ar y lefel gorfforaethol.

Arweinyddiaeth strategol a chyllid

Mae Awdurdodau Tân ac Achub yn gyfrifol yn gyfreithiol am ymgymryd â’r holl bwerau a dyletswyddau sy’n ymwneud â gwasanaethau tân ac achub yn eu hardaloedd, ac am neilltuo adnoddau ar gyfer y gwasanaethau hynny’n briodol. Yn ymarferol, wrth gwrs, dirprwyir cyfrifoldeb gweithredol i’r Prif Swyddog Tân ac aelodau eraill o staff. Fodd bynnag, yr Awdurdod Tân ac Achub sydd â rheolaeth gyffredinol o hyd ac mae angen iddo roi cyfarwyddyd a chefnogaeth briodol i’r Gwasanaeth.

Mae dwy elfen sylfaenol i hyn. Yn gyntaf, mae angen i Awdurdodau Tân ac Achub roi arweinyddiaeth strategol glir ac effeithiol i’r Gwasanaeth, gan gynnwys pennu blaenoriaethau priodol a darparu’r adnoddau i geisio eu cyflawni. Dylai’r broses o bennu amcanion, wrth reswm, gael ei llywio’n fanwl gan amcanion Cymru gyfan yn y Fframwaith hwn, ond mae angen i’r rhai gael eu teilwra ar gyfer ardal a chyd-destun gweithredu pob Awdurdod Tân ac Achub. Wrth fynd ati i gyflawni’r dasg hon, bydd angen i aelodau’r Awdurdod Tân ac Achub weithredu er budd yr ardal gyfan, yn hytrach na buddiannau croes eu hardal awdurdod lleol neu eu ward weithiau. Gall materion fel adolygiadau o ddarpariaeth ar y rheng flaen achosi cryn bryder yn lleol ond yr amcan cyffredinol o hyd, mae’n rhaid, yw’r angen i bennu adnoddau yn ôl risg drwy ardal gyfan y Gwasanaeth.

Yn ail, mae angen i Awdurdodau Tân ac Achub ddwyn y Gwasanaeth a’i swyddogion i gyfrif am gyflawni’r amcanion a’r blaenoriaethau hynny. Mae angen i’r Awdurdod Tân ac Achub gael sicrwydd bod y cynnydd gorau posibl yn cael ei wneud, bod y Gwasanaeth yn ymaddasu i amgylchiadau newidiol (gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r mathau o newidiadau a ddisgrifir yn y Fframwaith hwn), a bod adnoddau yn cael eu defnyddio’n effeithlon ac yn effeithiol. Ni ddylai hyn gynnwys amau barn broffesiynol na phenderfyniadau swyddogion ar faterion gweithredol fel mater o drefn.

Yn amodol ar ymgynghoriad a oedd yn mynd rhagddo ar adeg drafftio’r Fframwaith hwn, mae model cyllido’r Awdurdodau Tân ac Achub yn caniatáu i bob Awdurdod Tân ac Achub benderfynu ar ei gyllideb ei hun a’i chyllido o gyfraniadau a godir ar awdurdodau lleol, heb unrhyw fath o gymeradwyaeth na rheolaeth allanol. Mae hynny’n rhoi rhywfaint o ryddid a hyblygrwydd sy’n beth prin yn y sector cyhoeddus. Dylai Awdurdodau Tân ac Achub barhau i arfer y rhyddid hwnnw’n gyfrifol, gan ystyried y pwysau difrifol yn aml ar gyllidebau awdurdodau lleol. Dylent sicrhau bod cyllidebau yn cael eu pennu i ddiwallu anghenion disgwyliedig y Gwasanaeth yn deg, ond hefyd ystyried y potensial i wneud arbedion.

Gyda’i gilydd, gall y tasgau hyn wneud rôl aelod o Awdurdod Tân ac Achub yn un heriol. Gall natur broffesiynol a thechnegol llawer o’r hyn y mae’r Gwasanaeth yn ei wneud fod yn anodd i berson lleyg ei ddeall, heb sôn am ei oruchwylio neu graffu arno ac mae’r newidiadau o ran risg strategol y mae’n eu hwynebu yn ychwanegu rhagor o gymhlethdod. Fodd bynnag, maent hefyd yn golygu bod arweinyddiaeth strategol yn bwysicach nag erioed, ac mae’n hanfodol bod aelodau yn cael eu cynorthwyo’n briodol i gyflawni’r rôl hon yn effeithiol.

Dylai Awdurdodau Tân ac Achub: 

  • Roi arweinyddiaeth strategol glir wrth lunio a chyflawni amcanion a blaenoriaethau ar gyfer y Gwasanaeth.
  • Gweithredu er budd yr ardal gyfan.
  • Ddwyn y Gwasanaeth a’i uwch-swyddogion i gyfrif mewn ffordd glir a theg, gan barchu eu barn broffesiynol mewn materion gweithredol.
  • Pennu cyllidebau sy’n realistig yng ngoleuni’r heriau a wynebir gan y Gwasanaeth a’r awdurdodau lleol sy’n ei gyllido.
  • Rhoi hyfforddiant a chymorth priodol i aelodau Awdurdodau Tân ac Achub i’w galluogi i gyflawni eu rolau yn effeithiol.

Cydweithio ac atebolrwydd

Mae llywodraethu da yn golygu mwy na phrosesau gwneud penderfyniadau mewnol a threfniadau craffu priodol. Mae’n rhaid iddo weithredu’n effeithiol yn y cyd-destun ehangach.

Roedd cydweithio rhwng cyrff cyhoeddus yn un o themâu allweddol y Fframwaith blaenorol, ac mae wedi bod yn elfen gref o bolisi cyhoeddus yn fwy cyffredinol ers amser maith, a hynny gyda’r nod fel arfer o ddarparu gwasanaethau mwy cydlynol, a/neu wneud arbedion effeithlonrwydd, ac mae’r rheidrwydd hwnnw yn ddilys o hyd. Fodd bynnag, mae cyd-destun risg strategol sy’n newid, a ddisgrifiwyd yn y Fframwaith hwn, yn gwneud ffyrdd o weithio o’r fath hyd yn oed yn bwysicach. Mae’n ddigon posibl na fydd risgiau sy’n dod i’r amlwg na mathau o ddigwyddiadau yn cydweddu’n dda â chylch gorchwyl presennol ymatebydd neu ddarparwr gwasanaeth unigol. Bydd cydweithio agos yn hollbwysig er mwyn deall a chynllunio ar gyfer posibiliadau o’r fath, a hefyd ar gyfer rheoli ymatebion ar y lefelau strategol, tactegol a gweithredol.

Felly, dylai Awdurdodau Tân ac Achub barhau i ddatblygu a chynnal cydberthnasau gwaith agos â phob partner perthnasol. Dylai hyn olygu gweithio drwy’r systemau presennol megis byrddau gwasanaethau cyhoeddus a fforymau gwydnwch lleol, a thrwy greu systemau newydd i fynd i’r afael â risgiau sy’n dod i’r amlwg (fel sydd wedi digwydd yn achos Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru Gyfan, er enghraifft).

Mae atebolrwydd i randdeiliaid a’r cyhoedd yn gyffredinol yn sbardun hollbwysig i wella mewn unrhyw wasanaeth cyhoeddus. Mae nid yn unig yn golygu rhoi cyfrif am yr hyn sydd wedi cael ei gyflawni, ond ystyried ymatebion, awgrymiadau a heriau yn seiliedig ar hynny. Yn y gorffennol, bu modd dibynnu o bosibl ar statws uchel y Gwasanaeth ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol a/neu nodi’r lleihad yn nifer yr achosion o dân. Wedi’r cyfan, ni fydd angen i’r rhan fwyaf o bobl fyth gysylltu â’r Gwasanaeth Tân ac Achub, ac mae’n bosibl eu bod, yn syml, yn ddiolchgar ei fod yn bodoli.

Mae hynny’n annhebygol o fod yn ddigon yng nghyd-destun y risgiau presennol a’r rhai a all ddod i’r amlwg. Mae pryder ymhlith y cyhoedd ynglŷn â diogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn ar ôl Grenfell, neu ynglŷn â thanau gwyllt yng nghyd-destun newid yn yr hinsawdd, wedi dangos bod angen rhoi sicrwydd y gall y Gwasanaeth ymaddasu i heriau newydd, ac y bydd yn gwneud hynny, a hefyd ei fod yn darparu gwasanaethau craidd o safon uchel. Felly, dylai Awdurdodau Tân ac Achub roi cyfrif am gynnydd a pherfformiad yn rheolaidd, ac mewn ffordd agored a gonest.

Gall atebolrwydd arwain at feirniadaeth a her; yn wir, nid oes fawr ddim gwerth iddo os nad yw’n gwneud hynny. Hyd yn oed os nad oes sail iddi neu ei bod yn arwynebol, mae her o’r fath yn fodd i gadarnhau bod y trefniadau a’r lefelau perfformiad presennol yn ddigonol. Dylai heriau mwy sylweddol, gan gynnwys y rhai gan reoleiddwyr, arolygwyr a sefydliadau partner, gael eu croesawu bob amser yn hytrach na’u gwrthwynebu. Ni fu lle erioed i fod yn hunanfodlon nac yn amddiffynnol wrth reoli gwasanaethau tân ac achub; ac nid oes lle o gwbl o ystyried y newidiadau o ran risg strategol sydd o’n blaenau.

Dylai Awdurdodau Tân ac Achub: 

  • Fod yn atebol am berfformiad a gwerth am arian mewn ffordd agored, lawn a gonest.
  • Datblygu a chynnal partneriaethau strategol a gweithredol effeithiol ag awdurdodau lleol, y GIG, yr heddlu ac eraill, yn enwedig i ymdrin â risgiau a rennir sy’n dod i’r amlwg.
  • Ystyried argymhellion ynglŷn â gwelliant corfforaethol a gwelliannau i wasanaethau ac ymateb yn gadarnhaol iddynt.

Cynaliadwyedd a sero net

Nododd y bennod gyntaf o’r Fframwaith hwn fod newid yn yr hinsawdd yn un o’r prif elfennau o’r darlun o ran risg strategol a oedd yn newid, a bod hynny’n debygol iawn o barhau felly. Mae angen i’r Gwasanaeth addasu ei adnoddau a’i allu at hynny; ond mae angen hefyd iddo chwarae ei ran i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Gall tân ei hun fod yn elfen fawr o newid yn yr hinsawdd. Gall tân cyffredin mewn annedd allyrru sawl can cilogram o garbon deuocsid, ond gall lefel allyriadau tanau gwyllt mawr fod dipyn yn fwy na hynny. Felly, mae mesurau atal tân a diffodd tân effeithiol yn elfennau pwysig o unrhyw ymgais i liniaru newid yn yr hinsawdd; gellir cyfrif amdanynt fel y cyfryw, ac y dylid gwneud hynny.

Fodd bynnag, dylai’r Gwasanaeth ddal i fynd ati i leihau ei ôl troed carbon ei hun. Nod Llywodraeth Cymru yw y dylai’r holl sector cyhoeddus datganoledig fod yn garbon niwtral erbyn 2030, a dylai’r Gwasanaeth anelu at gyflawni hynny hyd y gellir drwy wyrddu ei ystad, ei fflyd a’i weithrediadau. Wrth wneud hynny, mae’n debygol o wynebu cyfyngiadau, yn enwedig o ran materion sy’n ymwneud â’r fflyd: dim ond un math o gyfarpar pwmpio cwbl drydanol sydd ar y farchnad ar hyn o bryd. Ond nid yw hynny’n atal y Gwasanaeth rhag parhau â’i ymdrechion mewn meysydd eraill o waith y Gwasanaeth.

Dylai Awdurdodau Tân ac Achub: 

  • Ddeall mesurau atal tân a diffodd tân fel modd lliniaru newid yn yr hinsawdd, ymgymryd â nhw a chyfrif amdanynt.
  • Ceisio dod yn garbon niwtral yn eu gweithrediadau erbyn 2030, yn amodol ar gyfyngiadau technolegol o ran materion sy’n ymwneud â’r fflyd.

Diwygio llywodraethu

Ar adeg llunio’r Fframwaith hwn, roedd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar gynigion i ddiwygio trefniadau llywodraethu Awdurdodau Tân ac Achub, o fewn y pwerau presennol. Heb achub y blaen ar ganlyniadau’r ymgynghoriad hwnnw, bydd trefniadau llywodraethu effeithiol ac atebolrwydd clir yn hollbwysig o ran cyflawni’r amcanion yn y Fframwaith hwn. Bydd unrhyw ddiwygiadau eraill yn gofyn am ddeddfwriaeth sylfaenol, a mater i Lywodraeth newydd Cymru a Senedd Cymru ar ôl etholiad mis Mai 2026 fydd hynny.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Y cyd-destun strategol

Cwestiwn 1

Ydych chi'n cytuno bod yr heriau strategol sy'n wynebu'r Gwasanaeth wedi'u nodi mewn ffordd deg a chynhwysfawr?

Cwestiwn 2

A oes materion eraill y dylem eu cynnwys yn y bennod hon?

Pennu adnoddau yn ôl risg

Cwestiwn 3

Ydych chi'n meddwl bod y naratif a'r amcanion yn y bennod Pennu Adnoddau yn ôl Risg yn briodol ac yn bwysig?

Cwestiwn 4

A oes unrhyw faterion neu amcanion eraill y dylem eu cynnwys yn y bennod hon?

Pobl, arweinyddiaeth a diwylliant

Cwestiwn 5

Ydych chi'n meddwl bod y naratif a'r amcanion yn y bennod Pobl, Arweinyddiaeth a Diwylliant yn briodol ac yn bwysig?

Cwestiwn 6

A oes unrhyw faterion neu amcanion eraill y dylem eu cynnwys yn y bennod hon?

Materion corfforaethol

Cwestiwn 7

Ydych chi'n meddwl bod y naratif a'r amcanion yn y bennod materion corfforaethol yn briodol ac yn bwysig?

Cwestiwn 8

A oes unrhyw faterion neu amcanion eraill y dylem eu cynnwys yn y bennod hon?

Cyffredinol

Cwestiwn 9

Hoffem glywed eich barn am yr effeithiau y byddai’r cynigion polisi yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac o ran peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Beth fyddai'r effeithiau, yn eich barn chi? Sut y gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol? 

Cwestiwn 10

Esboniwch hefyd sut rydych chi'n credu y gellid geirio neu newid y cynigion polisi er mwyn cael effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac o ran peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, heb unrhyw effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac o ran peidio â thrin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Cwestiwn 11

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol am y Fframwaith newydd arfaethedig. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau perthnasol nad ydyn ni wedi mynd i'r afael â nhw'n benodol, mae croeso ichi eu nodi isod:

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 17 Rhagfyr 2025, drwy unrhyw un o'r ffyrdd a ganlyn:

Y Gangen Gwasanaethau Tân
Llywodraeth Cymru
Rhyd-y-car
Merthyr Tudful
CF48 1UZ 

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i’r ymgynghoriad. 

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e)) 

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o’r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o’r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gall fod rhwymedigaeth gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu rhai mathau o wybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau cyhoeddedig hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG53350

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.