Cofnodion cyfarfod Fforwm Cynghori’r Gweinidog ar Heneiddio: 2 Rhagfyr 2024
Cofnodion cyfarfod Fforwm Cynghori’r Gweinidog ar Heneiddio 2 Rhagfyr 2024
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Yr Athro John Williams, Academia, Prifysgol Aberystwyth
- Yr Athro Charles Musselwhite, Academia, Prifysgol Aberystwyth
- Yr Athro Paul Willis, Academia, Prifysgol Caerdydd
- Vicki Lloyd (VL), Age Cymru, Cadeirydd
- Nicola Pitman, Rhwydwaith Oed-gyfeillgar yr Awdurdod Lleol, Cyngor Caerdydd
- Y Cyng. Hayley Gwilliam, Rhwydwaith Oed-gyfeillgar yr Awdurdod Lleol, Cyngor Abertawe
- Dereck Roberts, Confensiwn Cenedlaethol y Pensiynwyr
- Rachel Bowen, Swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn
- Dilys Jouvenat, Cynrychiolydd Pobl Hŷn
- Rachel Luxton, Cynrychiolydd Pobl Hŷn
- Lyn Cadwallader, Un Llais Cymru (Cynghorau Cymuned a Thref)
- Tania Harrington, Stonewall Cymru
- Peter Walters, Fforwm Pobl Hŷn Cymru
- Sarah Capstick, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
- Amal Beyrouty, Women Connect First
- Rhiannon Ivens (RI), Llywodraeth Cymru
- Rachel Lewis (RL), Llywodraeth Cymru
- Gethin Edwards, Llywodraeth Cymru
- Emma Harney, Llywodraeth Cymru
- Nik Cilia, Llywodraeth Cymru
Ymddiheuriadau ffurfiol
- Y Cyng. Leo Thomson, Rhwydwaith Oed-gyfeillgar yr Awdurdod Lleol, Cyngor Caerdydd
- Mirain Llwyd Roberts., Rhwydwaith Oed-gyfeillgar yr Awdurdod Lleol, Cyngor Gwynedd
- Brian Godsell, Confensiwn Cenedlaethol y Pensiynwyr
- Jim McManus, Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Dawn Jeffery, Cymorth i Ferched Cymru
Croeso, cyflwyniadau a chamau gweithredu o'r cyfarfod diwethaf
Nododd Vicki Lloyd fod y camau gweithredu o'r cyfarfod diwethaf (18 Medi 2024) naill ai wedi'u cwblhau neu'n parhau. Cadarnhaodd aelodau a oedd yn bresennol yn y cyfarfod y byddent yn hoffi ymwneud mwy â'r Cynllun Iechyd Meddwl.
Cam gweithredu
- swyddogion i gadarnhau gyda chydweithwyr polisi sy'n gweithio ar y Cynllun Iechyd Meddwl y byddai aelodau MAFA yn hoffi ymwneud mwy â'r cynllun
2. Adolygiad o’r ddarpariaeth canolfannau dydd ar ôl COVID-19
Mae Rachel Lewis yn rhan o weithgor i fwrw ymlaen ag argymhellion a wnaed yn Adolygiad ADSSC o effeithiau'r pandemig ar gyfleoedd dydd ledled Cymru:
Cyhoeddwyd datganiad ysgrifenedig yn amlinellu'r gwaith hwn yn gynharach eleni:
Mae'r grŵp wedi drafftio holiadur i gasglu gwybodaeth gan ddefnyddwyr gwasanaeth am eu profiadau presennol o gyfleoedd dydd, ac mae'n gofyn a yw'r cyfleoedd hynny'n diwallu eu hanghenion personol. Rhan allweddol o'r gwaith hwn fydd rhannu a hyrwyddo arferion da.
Cam gweithredu
- aelodau i gylchredeg holiadur ymysg rhwydweithiau ar ran Llywodraeth Cymru, gan anfon unrhyw enghreifftiau o arferion da ymlaen at y Tîm Hawliau Pobl Hŷn
Cymunedau Digidol Cymru (DCW): cysylltiadau newydd â phobl hŷn
Rhoddodd Stephanie Davies a Deian ap Rhisiart o Gwmpas gyflwyniad i'r grŵp am eu gwaith i gynnwys mwy o bobl hŷn yn ddigidol. Mae eu cyflwyniad i'w weld yn yr e-bost, ochr yn ochr â'r nodyn o'r cyfarfod hwn.
Nodwyd y prif bwyntiau canlynol:
- mae diffyg cymorth cyson ledled Cymru
- Gofynnodd DCW i'r holl aelodau eu helpu i godi ymwybyddiaeth o'u cynnig ymhlith eu grwpiau a'u sefydliadau
- mae mater fforddiadwyedd yn dal i fod yn broblem fawr, yn enwedig yn sgil yr argyfwng costau byw
- nid yw'n ymddangos bod tariffau cymdeithasol wedi gweithio, ac mae'n anodd iawn cael unigolion i fanteisio ar dariff cymdeithasol
- bydd cyfran o bobl bob amser angen help a chefnogaeth wrth i dechnoleg barhau i esblygu
- trafodwyd diogelwch ar-lein gan ei fod yn rhywbeth y mae pobl hŷn yn pryderu’n fawr amdano
- mae Partneriaeth Cymru yn Erbyn Sgamiau (WASP) yn gysylltiedig â DCW
- dylai unrhyw grwpiau neu sefydliadau a hoffai gysylltu â DCW, gysylltu â swyddogion a byddwn yn gwneud y cysylltiadau
Cam gweithredu
- swyddogion i gylchredeg cyflwyniad Cwmpas gyda'r nodyn o'r cyfarfod hwn
- unrhyw aelodau o MAFA a hoffai gysylltu â DCW i roi gwybod i swyddogion, a byddwn yn gwneud y cysylltiadau
4. Cynllun Cyflawni'r Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio: diweddariad, yn cael ei ddilyn gan drafodaeth
Nodwyd y prif bwyntiau canlynol:
- bu oedi wrth gyhoeddi'r diweddariad ar y cynllun cyflawni oherwydd ffactorau llywodraethu mewnol y tu hwnt i reolaeth swyddogion, fodd bynnag cyhoeddwyd adroddiad naratif heddiw (2 Rhagfyr 2024), sy’n amlygu'r materion allweddol sy'n effeithio ar bobl hŷn
- cytunwyd ar y meysydd hyn gyda MAFA yn gynharach eleni
- os bydd aelodau'r cyhoedd eisiau gweld yr adroddiad hirach, sy'n fwy manwl, bydd ar gael ar gais
- hefyd, cafodd yr adroddiad llawn ei rannu â MAFA cyn y cyfarfod, a gellir ei raeadru trwy rwydweithiau
- roedd swyddogion yn cydnabod y cwestiynau manwl sydd wedi'u gofyn gan Dereck Roberts, NPC
- bydd y cwestiynau hyn yn cael eu hateb gan y swyddogion perthnasol, a darperir diweddariad ar hyn
- mae ffigurau wedi'u cyflwyno gan bob awdurdod lleol sy'n dangos bod nifer sylweddol o bobl hŷn yn elwa ar gyllid Cymunedau Oed-gyfeillgar (£1.1 miliwn ledled Cymru) ac yn cael eu cysylltu â gwasanaethau lleol
- cyfeiriwyd at daliadau tanwydd y gaeaf, mae Llywodraeth yr Alban yn mynd i'w hadfer ar gyfer pobl hŷn yn yr Alban
- gofynnwyd cwestiwn ynglŷn â beth mae Cymru yn mynd i'w wneud
- dywedodd swyddogion y byddent yn gwneud ymholiadau ac yn rhoi diweddariad i’r grŵp
- gofynnwyd a fu cais am gyllid ar gyfer Un Llais Cymru yn llwyddiannus
- Cytunodd swyddogion i roi diweddariad ar Un Llais Cymru yn dilyn cael eglurhad
Cam gweithredu
- swyddogion i ymateb yn uniongyrchol i Dereck Roberts o ran y cais am wybodaeth ynglŷn â'r diweddariad ar y cynllun cyflawni
- swyddogion i siarad â chydweithwyr sy'n arwain ar bolisi lwfans tanwydd y gaeaf er mwyn canfod a fydd Cymru yn dilyn Llywodraeth yr Alban drwy ariannu lwfans tanwydd y gaeaf
- swyddogion i egluro'r sefyllfa ariannu mewn perthynas ag Un Llais Cymru
Dawn Bowden AS, (y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol): adborth gan weithgor Ageism, ac yna golwg ar y dyfodol ar gyfer 2025
Anerchodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol y grŵp, gan ddiolch iddynt am fwydo i mewn i'r gwaith sydd wedi'i gynnwys yn y diweddariad ar y cynllun cyflawni sydd newydd ei gyhoeddi.
Nodwyd y prif bwyntiau canlynol:
- mae'r Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio yn strategaeth drawsbynciol sy'n cynnwys llawer o dimau polisi ar draws y Llywodraeth
- bydd pob strategaeth neu gynllun a gynhyrchir yn ystyried pobl hŷn mewn rhyw ffordd, er enghraifft Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru a Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ac ati
- cadarnhaodd RI fod yna lawer o haenau weithiau, ac y gall gwybodaeth am bobl hŷn, er nad yw'n amlwg yn y brif ddogfen, gael ei chynnwys mewn cynlluniau cyflawni ategol
- rhowch wybod i swyddogion am unrhyw gynlluniau penodol lle y teimlir nad yw pobl hŷn yn cael eu cynnwys, a bydd swyddogion yn ymchwilio i'r mater
- cwblheir asesiad effaith ar gyfer pob polis
- hefyd mae yna swyddogion sy'n gyfrifol am ddatblygu'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol, ac mae gennym gysylltiadau ar draws y timau polisi allweddol
- nodwyd bod nifer o feysydd yn flaenoriaethau wrth symud ymlaen yn 2025
- trafnidiaeth
- iechyd
- gofal cymdeithasol (gan gynnwys ail-alluogi a gofal cartref)
- cynhwysiant digidol
- costau byw
- tai a chynnal a chadw
- cymdeithas heb arian parod
- diogelu oedolion (gan gynnwys camdriniaeth, esgeulustod a hunan-esgeulustod)
- cydnabuwyd nad yw Llywodraeth Cymru yn meddu ar yr ysgogiadau economaidd allweddol i wneud penderfyniadau i effeithio ar gostau byw, gan mai Llywodraeth y DU sy'n arwain ar hynny
Cam gweithredu
- aelodau MAFA i roi gwybod i swyddogion am unrhyw gynlluniau lle y teimlir nad yw pobl hŷn wedi cael eu hystyried, a swyddogion i wneud ymholiadau gyda thimau polisi unigol
Unrhyw faterion eraill
Nid chodwyd unrhyw faterion eraill, a daeth y cyfarfod i ben.
