Cyfarfod y Cabinet: 15 Medi 2025
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 15 Medi 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrhydeddus Eluned Morgan AS (Cadeirydd)
- Huw Irranca-Davies AS
- Jayne Bryant AS
- Mark Drakeford AS
- Rebecca Evans AS
- Jane Hutt AS
- Julie James AS
- Jeremy Miles AS
- Lynne Neagle AS
- Ken Skates AS
- Dawn Bowden AS
- Vikki Howells AS
- Sarah Murphy AS
- Jack Sargeant AS
Swyddogion
- Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
- Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog a Chyflawni
- Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
- Victoria Jones, Prif Ysgrifennydd Preifat y Prif Weinidog
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Sinead Gallagher, Dirprwy Gyfarwyddwr Swyddfa'r Cabinet
- Luke Young, Cynghorydd Arbennig
- Sarah Dickins, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Haf Davies, Cynghorydd Arbennig
- Victoria Evans, Cynghorydd Arbennig
- David Hooson, Cynghorydd Arbennig
- Nadila Hussein, Cynghorydd Arbennig
- Kirsty Keenan, Cynghorydd Arbennig
- Jackie Jones, Cynghorydd Arbennig
- Stephen Jones, Cynghorydd Arbennig
- Philippa Marsden, Cynghorydd Arbennig
- Martha O'Neil, Cynghorydd Arbennig
- Mary Wimbury, Cynghorydd Arbennig
- Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
- Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
- Carwyn Wycherley, Swyddfa'r Cabinet
- Kath Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Sioned Evans, Prif Swyddog Gweithredu
- Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd
- Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth
- Emma Williams, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg
- Nia James, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol
1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion y 14 Gorffennaf 2025.
Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog
2.1 Croesawodd y Prif Weinidog Ysgrifenyddion y Cabinet a'r Gweinidogion yn ôl wedi haf anodd.
Teyrnged i Hefin David AS
2.2 Dywedodd y Prif Weinidog y byddai'n arwain y teyrngedau i Hefin David yn y Cyfarfod Llawn y diwrnod canlynol. Roedd meddyliau’r Cabinet gyda Vikki Howells a’i theulu o hyd.
Toriad yr haf
2.3 Cydnabuwyd bod toriad yr haf wedi bod yn un prysur gydag ymrwymiadau Gweinidogol drwy gydol y cyfnod. Yn benodol, diolchodd y Prif Weinidog i'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, a chwaraeodd ran flaenllaw yn y Digwyddiad Mawr a ddatganwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru mewn ymateb i'r tân gwyllt mawr yng Nghlydach Dingle a Llangatwg. Roedd hefyd yn bresennol mewn nifer o sioeau amaethyddol.
Canlyniadau arholiadau
2.4 Diolchodd y Prif Weinidog hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg am ei harweinyddiaeth ar draws y portffolio, yn enwedig mewn perthynas â chanlyniadau arholiadau. O ran canlyniadau TGAU, gwelwyd gwelliannau ar draws yr holl ystod graddau allweddol, gyda'r graddau uchaf yn uwch na'r flwyddyn flaenorol ac yn sylweddol uwch na 2019. O ran canlyniadau Safon Uwch, roedd y darlun yn eithaf sefydlog o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, gydag arwyddion calonogol o welliant mewn graddau pwysig ac mewn rhai pynciau allweddol. O'u cymharu â'r canlyniadau cyn Covid, roedd y gwelliannau hyd yn oed yn fwy nodedig.
Cod y Gweinidogion
2.5 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet fod fersiwn ddiwygiedig o God y Gweinidogion wedi'i chyhoeddi yr wythnos flaenorol.
Eitem 3: Busnes y Senedd
3.1 Ystyriodd y Cabinet Grid y Cyfarfodydd Llawn a nodwyd y byddai'r sesiwn ddydd Mawrth yn dechrau gyda theyrngedau i Hefin David AS, gyda seibiant byr cyn Cwestiynau'r Prif Weinidog. Roedd yr amser pleidleisio wedi'i drefnu ar gyfer 6.45pm ddydd Mawrth a thua 6.25pm ddydd Mercher.
Eitem 4: Cydlyniant Cymunedol
4.1 Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip ddiweddariad llafar i'r Cabinet ar Gydlyniant Cymunedol.
4.2 Roedd Cymru'n wynebu ton o naratifau a chamwybodaeth feirol ynghylch gwrth-fudwyr a oedd yn arwain at brotestiadau, yn debyg i weddill y DU. Er enghraifft, cynhaliwyd protestiadau a gwrth-brotestiadau yn y Rhws, yr Wyddgrug a'r Drenewydd, digwyddiad yn ymwneud â thargedu sgowtiaid o'r Alban yn Nhrecelyn a graffiti eithafol ym Maesteg.
4.3 Roedd mwy o sylw hefyd ar weithgarwch y Llywodraeth a'r trydydd sector i hyrwyddo cydraddoldeb, cynhwysiant a hawliau dynol yng Nghymru, fel y polisi Cenedl Noddfa.
4.4 Mewn ymateb, y bwriad oedd ail-lansio'r ymgyrch Mae Casineb yn Brifo Cymru, a fyddai'n annog dioddefwyr i roi gwybod am droseddau casineb ac yn annog gwyliedyddion i weithredu. Parhaodd y Llywodraeth i ariannu Canolfan Cymorth Casineb Cymru i ddarparu cymorth wedi'i deilwra i ddioddefwyr troseddau casineb. Roedd y pecyn cymorth ar gamwybodaeth i randdeiliaid cymunedol hefyd ar gael i helpu arweinwyr cymunedol i ymdrin â gwybodaeth a allai fod yn ffug ac yn niweidiol. Ar ben hynny, roedd gwaith yn parhau i ystyried camau y gellid eu cymryd i amddiffyn y rhai sy'n sefyll dros gydraddoldeb a chynhwysiant, yn ogystal â helpu dinasyddion Cymru i wahaniaethu'n well rhwng ffeithiau a ffuglen.
4.5 Nododd y Cabinet y diweddariad.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Medi 2025
