Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ein gweithlu'r GIG yw calon gofal iechyd yng Nghymru. Yn gynharach eleni, fe wnaethom gyhoeddi buddsoddiad o £294 miliwn mewn hyfforddiant ac addysg- i gefnogi'r genhedlaeth nesaf o nyrsys, bydwragedd, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, deintyddion, a meddygon.

Mae Bwrsariaeth GIG Cymru yn parhau'n ganolog i'r gefnogaeth honno. Rydym yn archwilio sut i wella'r gefnogaeth i fyfyrwyr, ac annog pobl i ddilyn gyrfaoedd yng Nghymru.

I wneud hyn, mae angen eich mewnbwn arnom.

P'un a ydych chi'n fyfyriwr, addysgwr, cyflogwr y GIG, corff proffesiynol, neu rywun sydd wedi elwa ar gymorth bwrsariaeth y GIG eich hun, mae eich barn yn hollbwysig inni. Mae'r ymgynghoriad 12 wythnos ar Fwrsariaeth GIG Cymru yn gyfle ichi helpu i lunio dyfodol y fwrsariaeth — a gweithlu GIG Cymru yn y dyfodol.

Mae'r ymgynghoriad yn agor ar 31 Hydref 2025, a gallwch fynd ato drwy'r ddolen hon https://www.llyw.cymru/ystyried-opsiynau-ar-gyfer-cynllun-bwrsariaeth-gig-cymru-yn-y-dyfodol