Neidio i'r prif gynnwy

Hoffem gael eich barn ar ystyried opsiynau ar gyfer Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru yn y dyfodol

Sut i ymateb

Ymgynghoriad yn cau:
23 Ionawr 2026
Lansiwyd yr ymgynghoriad ar:

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Llunio dyfodol cynllun bwrsariaeth GIG Cymru

Ers ei lansio yn 2017, mae Cynllun Bwrsariaeth presennol GIG Cymru, sydd wedi’i reoli gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ers 2018, wedi cynorthwyo dros 15,500 o fyfyrwyr gofal iechyd i gwblhau eu hastudiaethau ac ymuno â gweithlu'r GIG yng Nghymru. Rydym yn hynod falch o'r llwyddiant hwn.

Ond mae amseroedd wedi newid.

Er bod y fwrsariaeth yn parhau i gynnig cymorth ariannol hanfodol, nid yw wedi cael ei hadolygu ers cryn amser. Fe wnaeth diweddariad allweddol ym mlwyddyn academaidd 2024i 2025 ganiatáu i fyfyrwyr amser llawn, cymwys sydd â'u domisil yng Nghymru dderbyn swm llawn y benthyciad cynhaliaeth cam pwysig ymlaen. Fodd bynnag, rydyn ni'n gwybod bod angen i ni fynd ymhellach.

Rydym ni nawr yn edrych i'r dyfodol. Pa fath o Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru sydd ei angen arnom yn y dyfodol?

Rydym ni eisiau cynllun sy'n gwneud y canlynol:

  • diwallu anghenion amrywiol myfyrwyr, waeth a ydynt yn gadael yr ysgol neu'n ddysgwyr hŷn
  • darparu cymorth ariannol ystyrlon
  • annog graddedigion i aros a gweithio yn GIG Cymru

Er mwyn sicrhau llwyddiant, mae angen eich mewnbwn arnom.

Rydym ni’n galw ar fyfyrwyr, graddedigion diweddar, addysgwyr, undebau llafur, cyrff proffesiynol, ac eraill i helpu i lunio bwrsariaeth sydd wir yn cefnogi gweithlu GIG Cymru yn y dyfodol.

Noder: Mae myfyrwyr yn gwneud cais am gyllid myfyrwyr statudol trwy eu gwledydd cartref. Er bod modd i ni ddylanwadu ar y cymorth hwn ar gyfer myfyrwyr sydd â'u domisil yng Nghymru, ni allwn newid yr hyn sy'n cael ei gynnig gan wledydd eraill y DU. Mae Bwrsariaeth GIG Cymru yn parhau i fod ar gael i'r rhai sy'n astudio yng Nghymru ac yn ymrwymo i weithio yng Nghymru am hyd at ddwy flynedd ar ôl graddio.

Noder: Lle mae'r ddogfen hon yn cyfeirio at 'Fyfyrwyr Gofal Iechyd' mae'n cyfeirio at fyfyrwyr cyn cofrestru ym meysydd Nyrsio, Bydwreigiaeth, Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd, Gwyddonwyr Gofal Iechyd, Cydymaith Meddyg neu Hylendid a Therapi Deintyddol.

Dogfennau ymgynghori

Myfyrwyr nad ydynt yn yr ymateb ffurflen prifysgol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 157 KB

PDF
157 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Help a chymorth

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 23 Ionawr 2026, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:

Ffurflen ar-lein

Post

Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.

Cwblhewch a dychwelyd i:

Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru 
Is-adran Arloesi'r Gweithlu, Cymorth y Gweithlu a Chymorth Corfforaethol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ