Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Llunio dyfodol cynllun bwrsariaeth GIG Cymru

Ers ei lansio yn 2017, mae Cynllun Bwrsariaeth presennol GIG Cymru, sydd wedi’i reoli gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ers 2018, wedi cynorthwyo dros 15,500 o fyfyrwyr gofal iechyd i gwblhau eu hastudiaethau ac ymuno â gweithlu'r GIG yng Nghymru. Rydym yn hynod falch o'r llwyddiant hwn.

Ond mae amseroedd wedi newid.

Er bod y fwrsariaeth yn parhau i gynnig cymorth ariannol hanfodol, nid yw wedi cael ei hadolygu ers cryn amser. Fe wnaeth diweddariad allweddol ym mlwyddyn academaidd 2024i 2025 ganiatáu i fyfyrwyr amser llawn, cymwys sydd â'u domisil yng Nghymru dderbyn swm llawn y benthyciad cynhaliaeth, cam pwysig ymlaen. Fodd bynnag, rydyn ni'n gwybod bod angen i ni fynd ymhellach.

Rydym ni nawr yn edrych i'r dyfodol. Pa fath o Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru sydd ei angen arnom yn y dyfodol?

Rydym ni eisiau cynllun sy'n gwneud y canlynol:

  • diwallu anghenion amrywiol myfyrwyr, waeth a ydynt yn gadael yr ysgol neu'n ddysgwyr hŷn
  • darparu cymorth ariannol ystyrlon
  • annog graddedigion i aros a gweithio yn GIG Cymru

Er mwyn sicrhau llwyddiant, mae angen eich mewnbwn arnom.

Rydym ni’n galw ar fyfyrwyr, graddedigion diweddar, addysgwyr, undebau llafur, cyrff proffesiynol, ac eraill i helpu i lunio bwrsariaeth sydd wir yn cefnogi gweithlu GIG Cymru yn y dyfodol.

Noder: Mae myfyrwyr yn gwneud cais am gyllid myfyrwyr statudol trwy eu gwledydd cartref. Er bod modd i ni ddylanwadu ar y cymorth hwn ar gyfer myfyrwyr sydd â'u domisil yng Nghymru, ni allwn newid yr hyn sy'n cael ei gynnig gan wledydd eraill y DU. Mae Bwrsariaeth GIG Cymru yn parhau i fod ar gael i'r rhai sy'n astudio yng Nghymru ac yn ymrwymo i weithio yng Nghymru am hyd at ddwy flynedd ar ôl graddio.

Noder: Lle mae'r ddogfen hon yn cyfeirio at 'Fyfyrwyr Gofal Iechyd' mae'n cyfeirio at fyfyrwyr cyn cofrestru ym meysydd Nyrsio, Bydwreigiaeth, Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd, Gwyddonwyr Gofal Iechyd, Cydymaith Meddyg neu Hylendid a Therapi Deintyddol.

Cefnogi dyfodol GIG Cymru: Neges gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Gweithlu'r GIG yw asgwrn cefn gofal iechyd yng Nghymru, ac rwy'n hynod falch o ymroddiad, tosturi ac arloesedd aelodau'r gweithlu yn eu gwaith bob dydd. Man cychwyn dyfodol y gweithlu hwn yw addysg a hyfforddiant ein myfyrwyr, nyrsys, bydwragedd, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, deintyddion a meddygon y dyfodol.

Yn gynharach eleni, cyhoeddais fuddsoddiad gwerth £294 miliwn mewn hyfforddiant ac addysg y GIG. Mae'r cyllid sylweddol hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad cadarn i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol y GIG a sicrhau eu bod wedi'u paratoi i ddarparu'r gofal gorau posibl i bobl Cymru.

Er mwyn denu, cefnogi a chadw unigolion talentog yng ngyrfaoedd y GIG, rydym yn gwybod bod yn rhaid i ni gynnig mwy na hyfforddiant yn unig, rhaid i ni gynnig cyfleoedd a chynnydd, a dangos yn glir ein bod yn gwerthfawrogi eu cyfraniad. Dyna pam mae Bwrsariaeth GIG Cymru yn parhau i fod yn gonglfaen ein cymorth i fyfyrwyr.

Ein nod yw sicrhau bod y fwrsariaeth yn parhau i ddarparu cymorth ariannol ystyrlon, yn gweithredu fel cymhelliant cryf i astudio a gweithio yng Nghymru, ac yn adlewyrchu ein hymrwymiad i fuddsoddi yng ngweithlu’r dyfodol.

Er mwyn sicrhau llwyddiant, mae angen eich llais arnom.

Waeth a ydych chi'n fyfyriwr ar hyn o bryd, yn addysgwr, yn gorff proffesiynol, yn gyflogwr y GIG, neu'n unigolyn sydd wedi graddio o gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru, mae eich safbwyntiau a'ch profiadau yn hanfodol. Rwy'n eich annog i rannu eich safbwyntiau a helpu i lunio dyfodol y fwrsariaeth, fel bod modd i ni gydweithio i wneud Cymru yn gyrchfan o ddewis ar gyfer addysg a gyrfaoedd y GIG.

Diolch.

Jeremy Miles, AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Crynodeb o'r Ymgynghoriad: Pam rydym ni'n ymgynghori

Bob blwyddyn, rydym yn gwneud buddsoddiad sylweddol er mwyn cefnogi myfyrwyr gofal iechyd, meddygol a deintyddol trwy Fwrsariaeth GIG Cymru. Rydym eisiau sicrhau mai Cymru yw'r cyrchfan o ddewis ar gyfer myfyrwyr sy'n dilyn gyrfaoedd yn y GIG, ac mae'r fwrsariaeth yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni hyn.

Nod yr ymgynghoriad hwn yw deall sut mae'r fwrsariaeth yn dylanwadu ar benderfyniadau myfyrwyr i hyfforddi a gweithio yng Nghymru, a sut y gallwn eu cefnogi'n well drwy gydol eu haddysg ac wrth iddynt bontio i yrfaoedd yn y GIG. Mae eich safbwyntiau yn hanfodol er mwyn ein helpu i nodi blaenoriaethau, mynd i'r afael â phryderon, a llunio cynllun bwrsariaeth sy'n parhau i fod yn berthnasol ac yn effeithiol.

Er ein bod yn gobeithio datrys rhai materion yn y tymor byr, mae'n bosibl y bydd angen mwy o amser i ddatrys materion eraill. Rhaid i ni fod yn realistig hefyd, mae’r pwysau ariannol sy’n wynebu Llywodraeth Cymru yn golygu bod angen ystyried unrhyw newidiadau o fewn cyllidebau presennol. Bydd yr ymgynghoriad yn archwilio sut y gallem ddefnyddio cyllid a ddyrennir yn fwy effeithiol er mwyn ysgogi, cefnogi a chadw myfyrwyr Bwrsariaeth GIG Cymru.

Yr angen am newid

Cyflwynwyd cynllun Bwrsariaeth presennol GIG Cymru yn 2017. Ers hynny, mae'r sefyllfa addysgol a chostau byw wedi newid yn sylweddol. Mae adborth gan fyfyrwyr ac addysgwyr a gohebiaeth â Gweinidogion Cymru wedi amlygu pwysau ariannol cynyddol a'r angen i ailasesu effeithiolrwydd y cynllun.

Rydym yn cydnabod bod anghenion ariannol myfyrwyr yn amrywio, mae'n bosibl y bydd blaenoriaethau pobl ifanc sy'n gadael yr ysgol yn wahanol i flaenoriaethau myfyrwyr hŷn. Rydym eisiau archwilio a oes modd cynnwys mwy o hyblygrwydd yn y fwrsariaeth i adlewyrchu'r gwahaniaethau hyn, ac a fyddai modd i ni ddefnyddio'r cyllid hwn mewn ffordd wahanol er mwyn cefnogi myfyrwyr y dyfodol mewn ffordd arall.

Yn ogystal, hoffem glywed eich safbwyntiau ar y canlynol:

  • cymhwystra ar draws holl gyrsiau gofal iechyd, meddygaeth a deintyddiaeth y GIG
  • lwfansau a chymorth ychwanegol i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion presennol
  • telerau ac amodau, gan gynnwys trothwyon incwm aelwydydd
  • hygyrchedd gwybodaeth a chanllawiau

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle i chi rannu eich profiadau, eich syniadau a'ch safbwyntiau er mwyn helpu i lunio cynllun bwrsariaeth i’r dyfodol sy'n deg, yn hyblyg ac yn addas i'r diben.

Dangosir trefniadau presennol Bwrsariaeth GIG Cymru yn y ddogfen a'r atodiadau er gwybodaeth.

Camau nesaf

Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 23rd Ionawr 2026, ac ar ôl hynny bydd y canlyniadau'n cael eu dadansoddi'n llawn er mwyn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i ddatblygu argymhellion polisi yn y dyfodol ar sail yr ymatebion.

Bydd crynodeb lefel uchel cychwynnol ar gael ym mis Chwefror 2026, ac ar ôl hynny bydd adroddiad llawnach yn cael ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2026.

Y trefniadau presennol

Cyllid Myfyrwyr

Mae myfyrwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru yn cael cymorth ariannol gan Cyllid Myfyrwyr Cymru, tra bod myfyrwyr o Loegr yn derbyn cymorth gan Cyllid Myfyrwyr Lloegr. Mae'r ddau yn cael eu rheoli gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr. Er bod hawl i gymorth yn gallu amrywio rhwng gwledydd, mae myfyrwyr gofal iechyd sy'n astudio cwrs Bwrsariaeth GIG Cymru cymwys mewn sefydliad yng Nghymru yn gallu gwneud cais am gyllid Bwrsariaeth GIG Cymru drwy Cydwasanaethau GIG Cymru.

Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru

Mae Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru yn cynnig cymorth ar gyfer dau gynllun ar wahân sydd â'r un Telerau ac Amodau a thaliadau ar y cyfan ond sy'n amrywio o ran hyd y fwrsariaeth a'r meini prawf cymhwystra.

  • myfyrwyr meddygaeth a deintyddiaeth
  • myfyrwyr gofal iechyd 

Myfyrwyr meddygaeth a deintyddiaeth

Mae myfyrwyr sy'n gwneud gradd mewn Meddygaeth neu Ddeintyddiaeth yn gallu cael Bwrsariaeth GIG Cymru mewn blynyddoedd astudio penodol yn unig. Mae'r drefn hon yn cyd-fynd â'r sefyllfa yn Lloegr. Yn ystod eu hastudiaethau, bydd y myfyrwyr yn derbyn cymorth statudol i fyfyrwyr, a bydd cyllid ychwanegol gan Fwrsariaeth y GIG ar gael mewn blynyddoedd penodol. 

Ar hyn o bryd, nid yw'n ofynnol i fyfyrwyr Meddygaeth a Deintyddiaeth ymrwymo i weithio yng Nghymru ar ôl graddio. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn archwilio'r potensial i gyflwyno'r ymrwymiad hwn, er gwaethaf cymhlethdod ei weithredu, mewn perthynas â Hyfforddiant Sylfaenol a chynllunio'r gweithlu yn ehangach. Weithiau, mae cyfnod clymu neu ymrwymiad yn cael ei ddisgrifio fel amodoldeb, ac mae Llywodraeth Cymru yn trefnu adolygiad annibynnol i asesu hyn, yn ogystal â chasglu safbwyntiau drwy'r ymgynghoriad hwn.

Nodwch nad yw myfyrwyr sy'n derbyn Bwrsariaeth GIG Cymru yn ad-dalu'r cyllid. Mewn cyferbyniad, mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn darparu rhywfaint o arian ar ffurf benthyciad, a bydd myfyrwyr yn ad-dalu'r arian hwn dros amser ar ôl graddio (yn amodol ar lefelau enillion, gweler y ddolen yn Atodiad 3 am ragor o wybodaeth, ad-dalu eich benthyciad myfyriwr).

Cyllid ar gyfer gradd israddedig 5 mlynedd safonol

Mae myfyrwyr Meddygaeth a Deintyddiaeth yn gallu gwneud cais am gymorth statudol i fyfyrwyr yn ystod eu pedair blynedd gyntaf o astudio.

Mae Bwrsariaeth GIG Cymru ar gael i fyfyrwyr yn ystod eu blwyddyn olaf o astudio yn unig.

Cyllid Myfyrwyr Cymru

Mae arian Cyllid Myfyrwyr Cymru (y mae angen ad-dalu rhywfaint ohono) yn cynnwys:

  • benthyciad i dalu ffioedd dysgu
  • benthyciad cynhaliaeth

Bwrsariaeth GIG Cymru

Mae Bwrsariaeth GIG Cymru yn cynnwys:

  • talu ffioedd dysgu yn llawn
  • grant nad yw'n dibynnu ar brawf modd
  • bwrsariaeth sy'n dibynnu ar brawf modd

Nid yw myfyrwyr sy'n derbyn Bwrsariaeth GIG Cymru yn ad-dalu'r cyllid.

Bydd myfyrwyr sy'n cymryd Bwrsariaeth GIG Cymru yn gallu cael y benthyciad cynhaliaeth hefyd.

Noder: at ddibenion yr wybodaeth uchod, rydym wedi tybio bod y myfyriwr â'i ddomisil yng Nghymru, h.y. ei fod yn preswylio fel arfer yng Nghymru, ac y bydd yn gwneud cais i Cyllid Myfyrwyr Cymru am gymorth statudol i fyfyrwyr. 

Noder: Ar gyfer cyllid sy'n dibynnu ar brawf modd, mae'n rhaid asesu incwm yr aelwyd, tra bod cyllid nad yw'n dibynnu ar brawf modd yn cael ei roi waeth beth yw incwm yr aelwyd (gweler Atodiad 3, cyfraddau bwrsariaeth ar gyfer Bwrsariaethau'r GIG sy'n Dibynnu ar Brawf Modd).

Cyllid ar gyfer gradd garlam israddedig 4 blynedd mewn Meddygaeth neu Ddeintyddiaeth

Mae myfyrwyr sy'n ymgymryd â rhaglen 4 blynedd mewn Meddygaeth neu Ddeintyddiaeth i raddedigion yn gallu derbyn cyllid o'r un ffynonellau, ond mae'r sefyllfa ychydig yn fwy cymhleth.

Cyllid ym mlwyddyn 1

Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn gallu darparu:

  • benthyciad i dalu ffioedd dysgu yn rhannol (gyda'r gweddill yn cael ei ariannu gan y myfyrwyr)
  • benthyciad cynhaliaeth

Nid yw Bwrsariaeth GIG Cymru ar gael yn ystod blwyddyn gyntaf y rhaglen hon.

Cyllid ym mlynyddoedd 2 i 4

Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn gallu darparu:

  • benthyciad i dalu ffioedd dysgu myfyrwyr yn rhannol (gyda'r gweddill yn cael ei ariannu gan Fwrsariaeth GIG Cymru)
  • benthyciad cynhaliaeth

Mae Bwrsariaeth GIG Cymru yn gallu darparu'r grantiau canlynol nad oes angen eu had-dalu:

  • gweddill y ffioedd dysgu nad ydynt wedi'u talu gan Cyllid Myfyrwyr Cymru
  • grant nad yw'n dibynnu ar brawf modd
  • bwrsariaeth sy'n dibynnu ar brawf modd

Bydd myfyrwyr sy'n cymryd Bwrsariaeth GIG Cymru yn gallu cael y benthyciad cynhaliaeth hefyd.

Noder: at ddibenion yr wybodaeth uchod, rydym wedi tybio bod y myfyriwr â'i ddomisil yng Nghymru, fod yn preswylio fel arfer yng Nghymru, ac y bydd yn gwneud cais i Cyllid Myfyrwyr Cymru am gymorth statudol i fyfyrwyr.

Noder: Ar gyfer cyllid sy'n dibynnu ar brawf modd, mae'n rhaid asesu incwm yr aelwyd, tra bod cyllid nad yw'n dibynnu ar brawf modd yn cael ei roi waeth beth yw incwm yr aelwyd (gweler Atodiad 3, cyfraddau bwrsariaeth ar gyfer Bwrsariaethau'r GIG sy'n Dibynnu ar Brawf Modd).

Myfyrwyr gofal iechyd

Mae myfyrwyr gofal iechyd yn gallu derbyn Bwrsariaeth GIG Cymru os ydynt yn ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio. Fel arall, gallant wneud cais am gyllid cymorth statudol i fyfyrwyr, neu hunan-ariannu.

Nid oes angen ad-dalu'r cyllid a dderbynnir drwy Fwrsariaeth GIG Cymru, ar yr amod bod y myfyriwr yn ymrwymo i weithio yng Nghymru am hyd at ddwy flynedd ar ôl graddio. Mewn cyferbyniad, mae rhywfaint o'r cyllid sy'n cael ei ddarparu gan gymorth statudol i fyfyrwyr yn fenthyciad, a bydd myfyrwyr yn ad-dalu'r arian dros amser ar ôl graddio yn amodol ar lefelau enillion (gweler y ddolen yn Atodiad 3 am ragor o wybodaeth – ad-dalu eich benthyciad i fyfyrwyr).

Os yw myfyrwyr yn penderfynu peidio â pharhau i weithio yng Nghymru ar ôl graddio a’u bod wedi derbyn Bwrsariaeth GIG Cymru, bydd angen iddynt ad-dalu eu ffioedd dysgu. Mae rhagor o fanylion ar gael yn Atodiad 3, Cwestiynau Cyffredin am Fwrsariaeth Gyffredinol y GIG ar gyfer Myfyrwyr Gofal Iechyd.

Cyllid Myfyrwyr Cymru

Mae arian Cyllid Myfyrwyr Cymru yn cynnwys:

  • benthyciad i dalu ffioedd dysgu
  • benthyciad cynhaliaeth

Bwrsariaeth GIG Cymru

Nid oes angen ad-dalu cyllid Bwrsariaeth GIG Cymru, ar yr amod bod y myfyriwr yn ymrwymo i weithio yng Nghymru am hyd at ddwy flynedd ar ôl graddio.

Mae Bwrsariaeth GIG Cymru yn cynnwys:

  • talu ffioedd dysgu yn llawn
  • grant nad yw'n dibynnu ar brawf modd
  • bwrsariaeth sy'n dibynnu ar brawf modd

Bydd myfyrwyr sy'n cymryd Bwrsariaeth GIG Cymru yn gallu cael y benthyciad cynhaliaeth hefyd.

Noder: Mae myfyrwyr llawn amser, cymwys sydd â'u domisil yng Nghymru yn gallu derbyn swm llawn y benthyciad cynhaliaeth gan Cyllid Myfyrwyr Cymru (gan ad-dalu rhywfaint ohono), waeth a ydynt yn derbyn unrhyw arian bwrsariaeth.

Noder: Ar gyfer cyllid sy'n dibynnu ar brawf modd, mae'n rhaid asesu incwm yr aelwyd, tra bod cyllid nad yw'n dibynnu ar brawf modd yn cael ei roi waeth beth yw incwm yr aelwyd (gweler Atodiad 3, cyfraddau bwrsariaeth ar gyfer Bwrsariaethau'r GIG sy'n Dibynnu ar Brawf Modd).

Noder: at ddibenion yr wybodaeth uchod, rydym wedi tybio bod y myfyriwr â'i ddomisil yng Nghymru, fod yn preswylio fel arfer yng Nghymru, ac y bydd yn gwneud cais i Cyllid Myfyrwyr Cymru am gymorth statudol i fyfyrwyr.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1

Ydych chi'n ymateb fel unigolyn, neu ar ran un neu fwy o sefydliadau neu gyrff proffesiynol?

Cwestiwn 2

Faint yw eich oedran? (dewisol)

Cwestiwn 3

Sut byddech chi'n disgrifio eich hunaniaeth o ran rhywedd? (dewisol)

Cwestiwn 4

A yw eich hunaniaeth o ran rhywedd yr un fath â'ch rhyw a gofrestrwyd adeg eich geni? (dewisol)

Cwestiwn 5

Beth yw eich grŵp ethnig? (dewisol)

Cwestiwn 6

Ym mha rinwedd ydych chi'n ymateb i'r arolwg hwn? 

Cwestiwn 6a

Ydych chi'n fyfyriwr sy'n astudio yn y brifysgol ar hyn o bryd?

Cwestiwn 6b

Ydych chi'n fyfyriwr sydd â'i ddomisil yng Nghymru fel y'i diffinnir uchod (eich bod yn preswylio fel arfer yng Nghymru)? 

Cwestiwn 6c

Ydych chi'n astudio yng Nghymru?

Cwestiwn 6d

Beth ydych chi'n ei astudio?

Cwestiwn 6e

Os nad ydych chi'n fyfyriwr sy'n astudio yn y brifysgol ar hyn o bryd, ticiwch un o'r blychau isod sy'n cynnwys y disgrifiad gorau o'ch diddordeb yn yr ymgynghoriad.

Cwestiwn 7a

Os gwnaethoch chi ateb 'ymateb ar ran unigolyn arall' i Gwestiwn 6e, ysgrifennwch isod ar ran pwy rydych chi'n ymateb.

Cwestiwn 7b

Os atebwch iechyd, gofal meddygol neu ofal deintyddol i Gwestiwn 6e, beth yw eich proffesiwn chi?

Cwestiwn 7c

Os gwnaethoch chi ateb 'ar ran sefydliad' yn Adran Un, ar ran pwy ydych chi'n ateb yr arolwg?

Cwestiwn 8

Ydych chi'n cytuno â'r gofyniad hwn i weithio yng Nghymru ar ôl graddio?

Cwestiwn 9

Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno y dylai myfyrwyr meddygol a deintyddol barhau i gael eu heithrio o'r gofyniad hwn i weithio yng Nghymru?

Cwestiwn 10

Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno bod y broses gomisiynu bresennol yn ffordd effeithiol o gynllunio ac ariannu hyfforddiant gofal iechyd yng Nghymru?

Cwestiwn 11

Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno y gallai cynnig rhywbeth gwahanol i Fwrsariaeth GIG Cymru fod yn opsiwn gwell ar gyfer denu myfyrwyr gofal iechyd proffesiynol i Gymru a'u cadw yma?

Cwestiwn 12

Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno y dylai'r holl gyrsiau gofal iechyd a restrir yn Atodiad 1 barhau i gynnig Bwrsariaeth GIG Cymru?

Cwestiwn 13

Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno y dylai Bwrsariaeth GIG Cymru gynnig cymorth ariannol mwy hyblyg i fyfyrwyr er mwyn adlewyrchu'r amgylchiadau gwahanol hyn? Er enghraifft, rhoi dewis i fyfyrwyr rhwng cyllid nad oes angen ei ad-dalu tra byddant yn astudio, neu daliad untro (yn debyg i daliad cymhelliant dechrau gyrfa) os ydynt yn ymrwymo i weithio yn GIG Cymru ar ôl graddio?

Cwestiwn 14

Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno ei bod hi'n hawdd dod o hyd i wybodaeth a chyngor am y fwrsariaeth ar hyn o bryd?

Cwestiwn 15

Oes unrhyw beth arall yr hoffech ei ddweud wrthym am Fwrsariaeth GIG Cymru, gan gynnwys eich profiadau lle bo hynny'n briodol?

Atodiad 1: cyrsiau gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru sy'n gymwys am gyllid bwrsariaeth GIG Cymru

Cyrsiau gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd

Dieteteg

Math o gwrs: BSc – llawn amser

Darparwyr presennol:

  • Prifysgol Metropolitan Caerdydd
  • Prifysgol Wrecsam

Math o gwrs: *Diploma Ôl-radd – llawn amser

Darparwr presennol:

  • Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Therapi Galwedigaethol

Math o gwrs: BSc – llawn amser

Darparwyr presennol:

  • Prifysgol Caerdydd
  • Prifysgol Wrecsam
  • Prifysgol Abertawe

Math o gwrs: BSc – rhan-amser

Darparwyr presennol:

  • Prifysgol Wrecsam
  • Prifysgol Abertawe
  • Prifysgol De Cymru

Math o gwrs: *Diploma Ôl-radd/MSc – llawn amser

Darparwr presennol: Prifysgol Caerdydd

Gwyddor Barafeddygol

Math o gwrs: BSc – llawn amser

Darparwyr presennol:

  • Prifysgol Wrecsam
  • Prifysgol Abertawe

Ffisiotherapi

Math o gwrs: BSc – llawn amser

Darparwyr presennol:

  • Prifysgol Caerdydd
  • Prifysgol Wrecsam

Math o gwrs: BSc – rhan-amser

Darparwr presennol:

  • Prifysgol De Cymru

Math o gwrs: *Diploma Ôl-radd/MSc – llawn amser

Darparwyr presennol:

  • Prifysgol Bangor
  • Prifysgol Caerdydd

Podiatreg

Math o gwrs: BSc – llawn amser

Darparwr presennol:

  • Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Therapi Iaith a Lleferydd

Math o gwrs: BSc – llawn amser

Darparwyr presennol:

  • Prifysgol Metropolitan Caerdydd
  • Prifysgol Wrecsam

Cyrsiau Gwyddor Iechyd

Awdioleg

Math o gwrs: BSc – llawn amser

Darparwr presennol:

  • Prifysgol Abertawe

Ffisioleg Gardiaidd

Math o gwrs: BSc – llawn amser

Darparwr presennol:

  • Prifysgol Abertawe

Peirianneg Glinigol (Peirianneg Adsefydlu a Meddygol)

Math o gwrs: BSc – llawn amser

Darparwr presennol:

  • Prifysgol Abertawe

Radiograffeg Diagnostig

Math o gwrs: BSc – llawn amser

Darparwyr presennol:

  • Prifysgol Bangor
  • Prifysgol Caerdydd

Gwyddor Bywyd: Gwaed, Haint, Celloedd a Geneteg

Math o gwrs: BSc – llawn amser

Darparwr presennol:

  • Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Niwroffisioleg

Math o gwrs: BSc – llawn amser

Darparwr presennol:

  • Prifysgol Abertawe

Meddygaeth Niwclear

Math o gwrs: BSc – llawn amser

Darparwr presennol:

  • Prifysgol Abertawe

Ffiseg Radiotherapi

Math o gwrs: BSc – llawn amser

Darparwr presennol:

  • Prifysgol Abertawe

Ymarfer yr Adran Lawdriniaethau

Math o gwrs: BSc – llawn amser

Darparwyr presennol:

  • Prifysgol Wrecsam
  • Prifysgol Abertawe
  • Prifysgol De Cymru

Radiotherapi ac Oncoleg

Math o gwrs: BSc – llawn amser

Darparwr presennol:

  • Prifysgol Caerdydd

Gwyddor Anadlu a Chysgu

Math o gwrs: BSc – llawn amser

Darparwr presennol:

  • Prifysgol Abertawe

Cyrsiau Nyrsio a Bydwreigiaeth

Oedolion

Math o gwrs: BSc/BN - llawn amser

Darparwyr presennol:

  • Prifysgol Aberystwyth
  • Prifysgol Bangor
  • Prifysgol Caerdydd
  • Prifysgol Wrecsam
  • Prifysgol Abertawe
  • Prifysgol De Cymru

Math o gwrs: BSc/BN – rhan amser (mae bwrsariaeth ran-amser ar gael, ond mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn cael eu cyflogi gan y GIG ac yn derbyn cyllid ôl-lenwi cyflog)

Darparwr presennol:

  • Prifysgol Abertawe

Math o gwrs: *MSc/Diploma Ôl-radd – llawn amser

Darparwyr presennol:

  • Prifysgol Bangor
  • Prifysgol Caerdydd
  • Prifysgol Wrecsam
  • Prifysgol Abertawe
  • Prifysgol De Cymru

Plant

Math o gwrs: BSc/BN - llawn amser

Darparwyr presennol:

  • Prifysgol Bangor
  • Prifysgol Caerdydd
  • Prifysgol Wrecsam
  • Prifysgol Abertawe
  • Prifysgol De Cymru

Math o gwrs: *MSc/Diploma Ôl-radd – llawn amser

Darparwyr presennol:

  • Prifysgol Bangor
  • Prifysgol Caerdydd
  • Prifysgol Wrecsam
  • Prifysgol Abertawe
  • Prifysgol De Cymru

Iechyd Meddwl

Math o gwrs: BSc/BN - llawn amser

Darparwyr presennol:

  • Prifysgol Aberystwyth
  • Prifysgol Bangor
  • Prifysgol Caerdydd
  • Prifysgol Wrecsam
  • Prifysgol Abertawe
  • Prifysgol De Cymru

Math o gwrs: BSc/BN – rhan-amser (mae bwrsariaeth ran-amser ar gael, ond mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn cael eu cyflogi gan y GIG a byddant ar secondiad)

Darparwr presennol:

  • Prifysgol Abertawe

Math o gwrs: *MSc/Diploma Ôl-radd – llawn amser

Darparwyr presennol:

  • Prifysgol Bangor
  • Prifysgol Caerdydd
  • Prifysgol Wrecsam
  • Prifysgol Abertawe
  • Prifysgol De Cymru

Bydwreigiaeth

Math o gwrs: BSc/BN - llawn amser

Darparwyr presennol:

  • Prifysgol Bangor
  • Prifysgol Caerdydd
  • Prifysgol Abertawe
  • Prifysgol De Cymru

Anabledd Dysgu

Math o gwrs: BSc/BN - llawn amser

Darparwyr presennol:

  • Prifysgol Bangor
  • Prifysgol Abertawe
  • Prifysgol De Cymru

Nyrsio o Bell

Math o gwrs: BSc – llawn amser

Darparwr presennol:

  • Prifysgol Bangor

Cyrsiau eraill

Hylendid a Therapi Deintyddol 

Math o gwrs: BSc – llawn amser

Darparwr presennol:

  • Prifysgol Caerdydd

Therapi Deintyddol

Math o gwrs: BSc – llawn amser

Darparwr presennol

  • Prifysgol Bangor

Hylendid Deintyddol

Math o gwrs: Tystysgrif Addysg Uwch – Llawn amser

Darparwyr presennol:

  • Prifysgol Bangor
  • Prifysgol Caerdydd

Cydymaith Meddyg

Math o gwrs: *MSc/MPAS – llawn amser

Darparwyr presennol:

  • Prifysgol Abertawe
  • Prifysgol Bangor

Noder: Bydd unigolion sy'n ymgymryd â chwrs lefel MSc/Diploma Ôl-radd neu gwrs rhan-amser (a nodir isod â'r symbol*) yn gallu cael pecyn bwrsariaeth y GIG, ond nid y benthyciad cynhaliaeth i israddedigion na'r benthyciad ôl-raddedig ar gyfer graddau Meistr gan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Atodiad 2: Y Cynllun Comisiynu Addysg a Hyfforddiant Blynyddol

Mae'r canlynol yn darparu fersiwn symlach o sut mae'r Cynllun Comisiynu Addysg a Hyfforddiant Blynyddol yn cael ei ddatblygu. 

Fel comisiynydd addysg gweithlu anfeddygol GIG Cymru, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn hysbysu Llywodraeth Cymru bob blwyddyn am nifer y lleoedd hyfforddiant gofal iechyd sydd eu hangen i ddiwallu anghenion gweithlu GIG Cymru nawr ac yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys addysg broffesiynol israddedig ac ôl-raddedig. 

Mae Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau yn cyflwyno eu cynlluniau; mae'r cynlluniau hyn yn amlinellu eu hanghenion o ran gweithlu a hyfforddiant am y blynyddoedd nesaf:

  • Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu'r cynlluniau i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â blaenoriaethau cenedlaethol ac anghenion y gweithlu.
  • Mae AaGIC yn defnyddio cynlluniau'r gweithlu i nodi faint o leoedd hyfforddi sydd eu hangen bob blwyddyn i ddiwallu anghenion y gweithlu proffesiynol gofal iechyd anfeddygol. Ar ôl cwblhau dadansoddiad ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, mae'n creu cynllun drafft.
    Mae'r cynllun hwn yn seiliedig ar yr anghenion a nodwyd yng nghyflwyniadau'r Byrddau Iechyd.
  • Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu'r cynllun drafft.
    Rydym yn gwirio am unrhyw broblemau, yn gofyn cwestiynau, ac yn casglu adborth gan arweinwyr proffesiynol ym maes iechyd.
  • Mae'r cynllun yn cael ei ddiwygio.
    Mae'n bosibl y bydd y cynllun yn cael ei newid sawl gwaith ar sail adborth a faint o gyllid sydd ar gael.
  • Gwiriadau terfynol a chymeradwyo'r gyllideb.
    Rydym yn cymharu'r cynllun â blynyddoedd blaenorol ac yn cadarnhau'r gyllideb gyda chydweithwyr cyllid.
  • Cymeradwyaeth y Gweinidog
    Unwaith y cytunir ar bopeth, mae'r cynllun yn cael ei anfon at Ysgrifennydd y Cabinet i'w gymeradwyo.
  • Cyhoeddi
    Ar ôl ei gymeradwyo, mae AaGIC yn cyhoeddi'r cynllun terfynol, ac mae datganiad cyhoeddus yn cael ei gyhoeddi.
  • Y Camau Nesaf 

Yna mae AaGIC yn creu contract gyda'r sector addysg i ddarparu'r hyfforddiant ar sail y niferoedd a'r gyllideb y cytunwyd arnynt.

Atodiad 3: gwybodaeth ychwanegol

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 23 Ionawr 2026, drwy unrhyw un o'r ffyrdd a ganlyn:

Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru 
Is-adran Arloesi'r Gweithlu, Cymorth y Gweithlu a Chymorth Corfforaethol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ni fydd unrhyw waith o'r fath yn cael ei wneud oni bai ei fod yn cael ei wneud o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel. Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal mewn modd priodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion.

Dylech hefyd wybod am ein dyletswyddau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG52091

Mae'r ddogfen hon ar gael yn y Saesneg hefyd

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.