Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Prif Weinidog Cymru
Huw Irranca-Davies, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Deddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru), a dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol fis diwethaf, yn sicrhau rheolaeth effeithiol hirdymor o domenni nas defnyddir ac yn lleihau'r bygythiad i ddiogelwch y cyhoedd.

Un o ddarpariaethau allweddol y Ddeddf yw sefydlu corff hyd braich newydd Llywodraeth Cymru, sef Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir Cymru, (yr Awdurdod). Bydd y corff cyhoeddus newydd hwn yn gyfrifol am wirio, cofnodi, monitro a rheoli tomenni.

Mae llawer iawn o waith yn cael ei wneud i sicrhau bod popeth yn ei le mewn pryd ar gyfer sefydlu'r Awdurdod ar 1 Ebrill 2027. Mae hyn yn cynnwys lansio ymgyrch recriwtio'r Prif Swyddog Gweithredol a ddechreuodd ar 29 Hydref 2025. 

Ar ôl ei sefydlu'n llawn, bydd yr Awdurdod yn ymgymryd â rôl hynod bwysig, gan gyflogi hyd at 77 o staff gan greu tua 60 o swyddi newydd. 

Hwn fydd y sefydliad cyntaf o'i fath yn y DU, ac yn arweinydd byd-eang yn ei faes - datblygu gwybodaeth, profiad a sgiliau a fydd o fudd i bobl Cymru am genedlaethau. Ar un adeg datblygodd a darparodd Cymru arbenigedd mewn mwyngloddio a oedd yn cael ei allforio ledled y byd yn ystod y 19eg a’r 20fed ganrif – dyma gyfle i arwain y byd eto, y tro hwn drwy greu talent, creu cyfleoedd arloesol a phrofiad o ddelio â'n gwaddol mwyngloddio yn ystod cyfnod o newid sylweddol yn ein hinsawdd. Byddwn hefyd yn parhau i ganolbwyntio ar brentisiaethau ac addysg ôl-16 i nodi cyfleoedd presennol a newydd i greu talent yn y tymor canolig a'r tymor hir. 

Carreg filltir allweddol wrth greu'r Awdurdod yw penderfynu ar leoliad ei bencadlys. Felly, mae'n bleser mawr gennyf gyhoeddi y bydd pencadlys yr Awdurdod yng nghanol cymunedau meysydd glo cymoedd de Cymru, yn swyddfa Llywodraeth Cymru yn Rhyd y Car, Merthyr Tudful. Mae dros 90% o'r tomenni glo nas defnyddir sy'n gallu effeithio ar ddiogelwch y cyhoedd (categori C a D) yng nghymoedd de Cymru. Mae'n briodol bod y swyddfa ei hun wedi'i hadeiladu ar safle tomen pwll glo wedi'i hadfer.

Bydd yr Awdurdod yn canolbwyntio ar y cymunedau sydd â'r mwyaf i'w elwa o'i waith. Bydd pwysigrwydd pwrpas yr Awdurdod - sicrhau nad yw tomenni glo nas defnyddir yn bygwth lles dynol oherwydd eu hansefydlogrwydd - yn cael ei gynnwys o'r cychwyn cyntaf.

Bydd hyn yn gwneud y defnydd gorau o ystâd Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn bwysig, ochr yn ochr â'r Prif Weithredwr, y byddwn yn gwneud yn siŵr bod y sefydliad yn cael ei gynrychioli mewn rhannau eraill o Gymru.

Yn y cyfamser, mae rhaglen waith diogelwch tomenni glo Llywodraeth Cymru yn mynd rhagddi ac yn parhau i gydweithio â phartneriaid cyhoeddus i ddarparu trefn effeithiol o ran prosesau archwilio a gwaith cynnal a chadw ledled Cymru.