Gall cam-drin ddigwydd ar unrhyw oedran
Mae pobl hŷn yn profi trais rhywiol hefyd, ond yn aml caiff yr arwyddion eu methu.
Nid yw trais rhywiol yn cael ei gyfyngu gan oedran. Gall pobl hŷn gadw’n dawel oherwydd cywilydd, dibyniaeth, ofn na fydd neb yn eu credu, neu gan nad ydyn nhw’n gwybod ble i gael cymorth.
Anaml y caiff trais rhywiol yn erbyn pobl hŷn ei drafod. Yn aml caiff ei anwybyddu, sy'n golygu bod arwyddion yn cael eu methu a dioddefwyr yn cadw’n dawel.
Os ydych chi'n ansicr ynghylch rhywbeth a ddigwyddodd i chi, neu os ydych chi'n ansicr os mai cam-drin yw yr hyn i chi ei brofi, mae cefnogaeth ar gael drwy Llinell Gymorth Byw Heb Ofn. Mae teimlo'n ansicr, yn anesmwyth neu'n ddryslyd yn ymateb hollol gyffredin.
Adnabod trais rhywiol mewn oedolion hŷn
Gall trais rhywiol ddigwydd o fewn perthnasoedd, mewn lleoliadau gofal, neu o fewn teuluoedd. Gall gael ei guddio gan gywilydd, stigma neu dybiaethau am heneiddio.
Efallai y byddwch yn sylwi ar:
- Newidiadau sydyn mewn ymddygiad pan yng nghwmni partner neu ofalwr
- Ofn neu densiwn pan fydd rhywun yn dod i mewn i'r ystafell, neu nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain yn aml
- Dillad sy'n ymddangos yn amhriodol ar gyfer y tywydd neu sy’n cuddio anafiadau
- Rhywun yn siarad ar eu rhan, yn eu cyfarwyddo, neu yn eu rheoli
- Sylwadau sy'n awgrymu ofn, gorfodaeth neu gyswllt rhywiol digroeso
- Teimlo’n anghysurus, mewn poen neu’n meddu ar symptomau corfforol na ellir eu hesbonio
- Osgoi cyswllt corfforol neu archwiliadau
Os yw rhywbeth yn teimlo'n anghywir, dilynnwch eich greddf.
Os ydych chi'n poeni am rywun ac yn amau eu bod yn profi cam-driniaeth, cysylltwch â Llinell Gymorth Byw Heb Ofn. Mae gweithwyr proffesiynol hyfforddedig yn barod i wrando, cynnig arweiniad a help i'w cadw'n ddiogel.
Sut allwch chi helpu
Sylwch
Cadwch lygad am newidiadau sy’ ddim yn cyd-fynd ag ymddygiad neu iechyd arferol rhywun.
Gwrandewch
Os yw rhywun yn awgrymu eu bod yn teimlo'n anniogel, wedi'u diystyru neu dan reolaeth, gwrandewch heb farnu.
Gofynnwch
Gall cwestiynau ysgafn, agored, fel “Sut mae pethau gartref?”, greu cyfle ar gyfer datgelu gwybodaeth.
Gweithredwch
Os ydych chi'n poeni am drais rhywiol, cam-drin, neu ddiogelwch rhywun, ffoniwch Byw Heb Ofn am arweiniad ynghylch beth i'w wneud nesaf.
